Beth yw tosturi?
Adolygu Tosturi gan Menna Elfyn
Menna Elfyn
Tosturi
Barddas, 128tt, £9.95, Ebrill 2022
A thybed, o’r cymhelri, na allwn
o’r nudden, nyddu ei stori alltud?
Dyma gwestiwn y traethydd yn ‘Y Dywysoges Gwenllïan’. Mae’r gerdd yn un o gyfres o dair yng nghyfrol ddiweddaraf Menna Elfyn sy’n chwilio’r ‘nudden’ am einioes rhai o ferched hanes Cymru – Gwenllïan, Catrin Glyndŵr, a Marged Glyndŵr. Yn y cerddi agoriadol hyn, sefydlir rhai o brif themâu a chyweiriau’r casgliad: cyfiawnder, tegwch, colled, a bywydau merched.
Mewn cyfrol swmpus sy’n cynnwys dros 60 o gerddi, ynghyd â darluniau gan yr arlunydd Meinir Mathias, mae Menna Elfyn yn mynd â ni i sawl cyfeiriad, ac eto nid darnau wedi eu hel i sach a geir yma ond casgliad o gerddi sydd mewn deialog â’i gilydd. Mae’r themâu ffeminyddol sy’n nodweddu gwaith y bardd yn cael llwyfan amlwg mewn cerddi sy’n chwilio am gyfiawnder epistemaidd i’r lleisiau benywaidd hyn yn hanes Cymru a thu hwnt – lleisiau a gofir ar y cyfan fel troednodiadau i fywydau Dynion Mawr. Ond mae yma hefyd gerddi sy’n ymdrin â materion cyfoes, er enghraifft trais yn erbyn menywod. Mae’r gerdd ‘God o ddyn, Gododdin’ yn ymdrin ag achos o fenywladdiad (femicide) ac esgusodion y llofrudd sy’n ceisio defnyddio gor-gariad fel rheswm dros ladd. Mae’n chwarae ar yr enw Gododdin yn y teitl gan gwestiynu’r modd rydym yn mawrygu neu ramanteiddio trais. Mae’r gerdd sy’n dwyn enw’r gyfrol, ‘Tosturi’, yn portreadu profiadau’r traethydd benywaidd yn dod i brifiant o dan drem wrywaidd. Mewn caniad sy’n dod o dan yr epigraff ‘wrth feddwl am Sarah Everard’, cyfeirir at yr aelod seneddol Jess Phillips a restrodd enwau merched a laddwyd gan ddynion yn y flwyddyn flaenorol yn siambr y Senedd yn San Steffan yn dilyn llofruddiaeth Everard:
Jess AS yn y Tŷ Mawr yn mynnu
llefaru yn lle mudandod;rhaffu enwau fel pe baent
yn filwyr unwaith mewn
brwydr. Ond, o, mor ddiarfau.
Yma mae Jess AS, fel Aneirin cyfoes, yn galarnadu’r colledig. Darllenodd enwau 110 o ferched gan ddilyn yr un patrwm o alaru â’r Gododdin, yn ei hanfod, sef cadw’r enwau coll ar glyw. Mae’r Gododdin yn ailymddangos â gwedd wahanol, felly, gan dynnu ar rym y gwaith hwnnw fel gweithred o goffáu.
Yn ogystal â’r bywydau benywaidd hyn a gollwyd, trafodir colledion mwy personol. Yn ‘Amen ac Amin’ mae’r bardd yn sôn am ‘ysgyfeintio anadl estynedig’, sydd ei angen er mwyn ynganu’r gair hwnnw sydd â’i sain yn uno sawl un o brif grefyddau’r byd, boed yn amen neu om. Ond mae arwyddocâd yr anadl neu’r ochenaid yn dwysáu yn y dilyniant ‘Anadl einioes’ sy’n agor y gyfres o gerddi i goffáu chwaer y bardd, Siân Elfyn Jones, fu farw yn ystod y cyfnod clo. Mae ‘dal anadl’ trwy ‘hirlwm’ y cyfnod clo yn troi’n atgof o anadlu gwynt y môr yn blentyn gyda’i chwaer a’i mam ar glogwyn y Mwmbwls:
‘Anadlwch nawr’
oedd ei mantra,
a chwarddem ar sylw
hanner call a dwl cyn
tynnu atom yr anal hir:
halen y môr yn ein hiacháu,
Mae’r ddelwedd yn troi’n frawychus pan ddaw’r anadl yn anadl fecanig trwy bibellau yn uned gofal dwys ysbyty Glangwili. Anadl i mewn yw’r cerddi dilynol hefyd, yr englyn ‘I gofio Siân Elfyn Jones’, ‘Buchedd Siân’ a ‘Wedi’r glaw’, cerdd sy’n dwyn ei theitl o hoff bersawr Siân, sef ‘After the rain’:
Nodau arogl y rhosod,
leim a sandalwydd,aer y môr – Ynys Arran,
ein hynys Afallonmor bêr ei sawr,
chwa ei hanadl:pêr-yw-sôn
am y person
Ond os anadlu mewn, rhaid anadlu allan, ac mae’r ddwy gerdd nesaf fel petaen nhw’n gwagio’r ysgyfaint. Mae ‘H’m – hymian’ yn fyfyrdod ar brofiad plant yn ystod y cyfnod clo, oedd yn gorfod hymian yn lle canu yn yr ysgol. A’r gerdd nesaf, ‘Hymian gyda fy mam’, yn edrych yn ôl ar fam Menna, Rachel Maria, gan gloi gyda’r ddelwedd hon:
a’r côr-feistr yn mynnu ein bod ni’n
suo’r capel i’r nefolion.
heb eiriau, namyn
alaw
a murmur
mwyn
a’u hidlo i’w hoedl olaf.
Dyna ddau giplun ar sawl un o edefynnau’r gyfrol hon. Mae yna hefyd fyfyrdodau ar ffydd ac etifeddiaeth y capel; cerddi mawl i bobl yn y presennol (merched yn bennaf). Mae yna gerddi am yr argyfwng hinsawdd, cerddi ysgafnach, cerddi heddwch a cherddi coffa. Dyma gyfrol sy’n gwrthod ymwrthod â’r sinigiaeth sy’n gweld anghyfiawnder fel rhywbeth normal. O’r ‘nudden’, dyma gasgliad sy’n nyddu rhyw obaith cynhaliol.
Mae Grug Muse yn fyfyrwraig ddoethuriaethol ym Mhrifysgol Abertawe.