Adolygu

Byrdwn ysbïwr

Kai Bird

The Good Spy: The Life and Death of Robert Ames 

Crown, 448tt, 2014

Byrdwn ysbïwr
Sunandan Roy Chowdhury
13·12·2023

Mae ymosodiad Hamas ar Israel ddechrau Hydref ac ymateb militaraidd Israel wedi corddi naratifau’r anghydfod rhwng Israel a Phalesteina, ynghyd â’r naratifau ynghylch rôl yr Unol Daleithiau a’r Gorllewin, a’r grymoedd Arabaidd ac Iran.

Dri deg mlynedd yn ôl, yn 1993, ar fore ym mis Medi ar lawnt y Tŷ Gwyn, gwenodd Bill Clinton, arlywydd America ar y pryd, wrth i Brif Weinidog Israel Yitzhak Rabin a chadeirydd y PLO Yasser Arafat lofnodi yr hyn a adwaenir bellach fel Cytundebau Oslo. Roedd hon yn ymgais wirioneddol tuag at sefydlu heddwch rhwng y ddwy ochr ymladdgar. Ac eto ni ddaeth yr addewid o heddwch yn realiti hir dymor. Mae pobl yn Israel, ar y Lan Orllewinol, ac yn Gaza, wedi hen fyw â rocedi a bomiau mortar yn llenwi’r aer â drwgdybiaeth.

Methiant fu rôl yr Unol Daleithiau yn gweithio tuag at heddwch arhosol. Serch hynny, fel rhan o ymwneud hir dymor yr Unol Daleithiau â’r rhanbarth, cafwyd ymdrech fawr gan lond dwrn o swyddogion i ddod â’r Israeliaid a’r Palestiniaid at ei gilydd o gwmpas y bwrdd trafod. Chwaraeodd Robert Ames, swyddog y CIA a gafodd ei ladd pan ffrwydrodd bom yn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Beirwt yn 1983, ran dawel yn y broses a arweiniodd at Gytundebau Oslo 1993. Rhy cyfrol Kai Bird, The Good Spy: The Life and Death of Robert Ames, i ni ddarlun byw o ddyn â’i genadwri yn ceisio, drwy’r drws cefn, agor llinellau cyfathrebu rhwng yr Unol Daleithiau a’r Palestiniaid; cawn ddarlun o sut brofiad yw gweithio tuag at heddwch mewn rhan o’r byd sy’n arbennig o ymfflamychol ac yn llawn anghydfod. 

Ymunodd Robert Ames â’r CIA ddiwedd y 1960au, fel swyddog yn y rhengoedd isaf. Roedd y Rhyfel Oer rhwng yr Unol Daleithiau a’r hen Undeb Sofietaidd ar ei anterth ar y pryd. Yn 1962 cafodd ei yrru i Dhahran, Sawdi-Arabia ar gyfer ei swydd dramor gyntaf. Roedd y Sawdiaid mewn cynghrair â’r Americanwyr ac o dipyn i beth trwythodd Ames ei hun yn niwylliant y byd Arabaidd, yn y gymdeithas a’r wleidyddiaeth. Dysgodd Arabeg nes medru ei siarad bron iawn fel petai’n famiaith iddo. Yn Aden, Yemen yr oedd ei swydd nesaf, lle roedd y Prydeinwyr ar y pryd wrthi’n ymadael â’r wlad.

Yn 1967, cafodd yr Aifft ei llorio gan Israel ac fe arweiniodd y Rhyfel Chwe Niwrnod, fel y’i gelwir, at ymdeimlad mawr o gywilydd yn y byd Arabaidd. Dyfnhaodd Ames hefyd ei ymrwymiad i’w genadwri. Roedd yn gyfnod pan oedd dicter tuag at America, fel prif gyfaill Israel, yn treiddio’n ddwfn yn y byd Arabaidd. Ar y pwynt hwn, cafodd Ames ei yrru i brifddinas Lebanon, Beirwt. Dyma oedd Paris y byd Arabaidd yn nhermau ffasiwn a steil. Roedd hefyd yn ddinas cynllwynio ac ysbïwyr, ac yn fagwrfa gwleidyddiaeth Arabaidd, yn arbennig gwleidyddiaeth yr anghydfod Arabaidd-Israelaidd. Dyma hefyd lle roedd pencadlys y PLO.

Yn Beirwt, daeth Ames yn llawiach â Mustafa Zein, a fu’n byw yn yr Unol Dal-eithiau fel myfyriwr ar gyfnewid ac a dreuliodd nifer o flynyddoedd yn Efrog Newydd yn ddiweddarach, lle roedd yn weithgar yn y Gymdeithas i Fyfyrwyr Arabaidd yng Ngogledd America. Roedd Zein, a enillai ei fara menyn yn dda fel ymgynghorwr i gwmnïau Gorllewinol yn Beirwt, yn dipyn o America-garwr ac roedd am gyfrannu at y gwaith o ddod â’r Unol Daleithiau a’r byd Arabaidd yn agosach at ei gilydd. Bu Ames yn meithrin ei berthynas â Zein ac yn dylanwadu arno, ac ym meddwl Ames roedd Zein yn asiant, dim ond na fyddai Zein fyth yn gweithio er mwyn y pres yn unig.

Un diwrnod tua diwedd 1969 dywedodd Zein wrth Ames ei fod wedi dod i nabod Palestiniad ifanc a oedd â chysylltiad â Yasser Arafat. ‘Roedd ffrind Zein,’ ysgrifenna Bird, ‘Ali Hassan Salameh, saith ar hugain oed, yn aelod o Gyngor Chwyldroadol y Fatah.’ Trwy Zein, trosglwyddodd Ames y neges y byddai’n sicrhau bod Yasser Arafat yn cael clust arlywydd America. Roedd hynny’n wir mewn ysbryd, os nad yn llythrennol. Daeth Ames yn raddol yn agos at Salameh, a oedd yn rhan o gabinet yr wrthblaid dan Arafat. Rhoddodd Salameh, a oedd yn wleidydd lliwgar, wybodaeth iddo o berfeddion y PLO. Roedd Salameh hefyd wedi gofalu bod Arafat yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ei berthynas ag Ames.

Ym Medi 1970, bu farw arlywydd yr Aifft, Gamal Abdel Nasser, o drawiad ar y galon. Gwelodd Ames hanner miliwn o alarwyr ar strydoedd Beirwt; ysgrifennodd gerdd yn cyfarch Nasser fel arwr. Yn y blynyddoedd canlynol, bu nifer o ymosodiadau ar fap Israel-Palesteina. Canolbwyntiodd yr Israeliaid ar dargedau penodol; ac aeth y Palestiniaid â’r rhyfel i Ewrop gan gynnwys llofruddio athletwyr Israel yng ngemau Olympaidd Munich yn 1972. Roedd Ames wedi rhybuddio Zein fod yr Israeliaid am waed Salameh. Chwaraeodd Zein ei ran fel llwynog gan ddweud ar goedd mewn bar yn Beirwt fod fflat Salameh ag ail haen o ddiogelwch oedd yn cynnwys 17 o warchodwyr. Mae’n debygol mai newyddiadurwr Prydeinig, a oedd yn agos at Mossad, wnaeth basio’r wybodaeth ymlaen. O ganlyniad, pan gafodd tri o arweinwyr uchel yn rhengoedd y PLO eu lladd yn Beirwt, ac Arafat yn dianc o drwch blewyn, nid ymosododd y tîm Israelaidd ar fflat Salameh. Pan ddywedodd Zein hyn wrth Arafat, ei ymateb oedd, ‘Okay, whatever Bob says from now on, it is like written in the Koran.’ Roedd hi’n amlwg bod perthynas glòs rhwng Robert Ames a haenau uchaf arweinyddiaeth y Palestiniaid.

Arweiniodd ymdrechion Robert Ames at ymddangosiad dramatig y PLO yn Efrog Newydd ym Medi 1974, pan siaradodd Yasser Arafat gerbron y Cenhedloedd Unedig ac erfyn ar y gymuned ryngwladol i beidio â gadael iddo ollwng ei bren olewydd. Roedd Ames ar y pryd yn prysur ddatblygu’n ‘Mr Dwyrain Canol’ yr Unol Daleithiau. Ond ar 22 Ionawr 1979, fel ag yr oedd yn mynd i ymweld â’i fam, ffrwydrodd bom a osodwyd gan Mossad mewn car ochr yn ochr â char Salameh; cafodd Salameh ei gipio i ysbyty Prifysgol Americanaidd Beirwt a bu farw yno. Dyma’r flwyddyn hefyd pan ledodd chwyldro Islamaidd radicalaidd, dan arweiniad yr Ayatollah Khomeini, drwy Iran. Gyda gwladwriaeth Islamaidd radicalaidd newydd yn Iran, ei gelyn agored oedd yr Unol Daleithiau.

Pan fu farw Ali Hassan Salameh, cafodd Mustafa Zein ei ddynodi gan Arafat fel dyn y PLO a oedd i gadw mewn cysylltiad â’r Unol Daleithiau. Yn 1981, daeth yr Arlywydd Ronald Reagan i rym yn y Tŷ Gwyn, a daeth Ames yn brif gyswllt answyddogol i’r arlywydd ar faterion Israel-Palesteina. Roedd Ames wedi ei leoli ym mhencadlys y CIA ar y pryd a byddai’n teithio i Orllewin Asia yn ôl y galw.

Yn 1982, bu cyrch gan Lebanon ar Israel. Cafwyd llofruddiaethau di-ball gan y PLO ac Israel. Yn y theatr drasig hon, roedd Ames a’i gydweithwyr yn dawel yn gweithio ar gynllun heddwch trwy gyfrwng Zein. Rhannodd Mustafa efo Arafat bedwar pwynt yr oedd yr Americanwyr am i Arafat eu derbyn. Roedd gwaith Ames ar ran yr Unol Daleithiau yn adeiladu heddwch rhwng y Palestiniaid a’r Israeliaid yn dechrau dwyn ffrwyth.

Ar 4 Chwefror 1983 mynychodd Ames gyfarfod efo’r Arlywydd Reagan lle roedd yr arlywydd yn reit anobeithiol ynghylch heddwch yn y Dwyrain Canol. Rhoddodd Ames gyfarwyddyd eto i’r arlywydd ar 17 Mawrth. Tua’r adeg hon ystyriodd fynd ar daith i’r Dwyrain Canol lle na fu ers pum mlynedd. Cyrhaeddodd Beirwt ar 17 Ebrill. Ar 18 Ebrill cerddodd o westy’r Mayflower, lle’r oedd yn aros, i westy Mustafa Zein a chafodd y ddau gyfaill frecwast â’i gilydd. Yn nes ymlaen, aeth Ames i lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau. Y prynhawn hwnnw, ac yntau yn y llysgenhadaeth, gyrrwyd bom i mewn i’r llysgenhadaeth gan ladd chwe deg a thri o bobl gan gynnwys nifer o swyddogion y CIA, ac yn eu plith Robert Ames. Mae’n debygol mai Iran oedd y tu ôl i’r ymosodiad.

Daeth diplomatiaeth dawel Ames yn gweithredu tu ôl i’r llenni i ffrwyth ddeng mlynedd yn ddiweddarach pan deyrnasodd Bill Clinton dros lofnodi Cytundebau Oslo. Ond dri deg mlynedd yn ddiweddarach rydym unwaith eto’n dyst i drasiedi feunyddiol yng Ngorllewin Asia. Bu farw Robert Ames er budd heddwch anwadal.

Cawn ddarlun o sut brofiad yw gweithio tuag at heddwch mewn rhan o’r byd sy’n arbennig o ymfflamychol ac yn llawn anghydfod.

Pynciau:

#Rhifyn 23
#Israel
#Palesteina
#Rhyfel