Coflenni llysieuol
Ar y bwrdd bach
Geoffrey Grigson
The Englishman's Flora
Phoenix House, 478tt, ail-law, 1955
Amcan y gyfrol hon yw archwilio’r ‘human dossiers’, fel mae’r awdur yn eu galw, sydd wedi crynhoi o amgylch planhigion, ac yn benodol, ac er gwaethaf y teitl, y planhigion hynny sydd i’w cael yn Ynysoedd Prydain. Er bod adlais o ‘For Wales, see England’ yn y teitl anffodus braidd hwn, mae’r awdur yn cydnabod yn llawen Gymru a’r iaith Gymraeg, gan fwrw cyfeiriad at Feddygon Myddfai yn ei ragair, a chan restru degau o enwau Cymraeg ar blanhigion amrywiol trwy gydol y gyfrol (a hefyd enwau Gwyddeleg, Cernyweg, a Gaeleg). Yn wir, mae’n ymserchu’n arben-nig mewn enwau, ac yn aml yn cynnwys tudalen gyfan ohonynt, yn bennaf enwau tafodieithol Saesneg.
Ond nid llyfr naturiaethwr na botanegydd yw hwn – fel y cyfryw. Mae’n tynnu ynghyd ffynonellau hanesyddol amrywiol, yn bennaf llysieulyfrau o ddechrau’r cyfnod modern cynnar, gan gynnwys rhai hudolus a gwrachaidd eu bwriad, ond hefyd dalpau o ddysg yr awduron clasurol, megis Dioscorides a Pliny. Ar ben hynny, mae’n ychwanegu haenau o lên gwerin a llenyddiaethau hynafol Ynysoedd Prydain, rhai’r Celtiaid a’r Eingl-Sacsoniaid fel ei gilydd. I gyfannu’r wledd, mae’n dyfynnu’n hael o lenyddiaeth ddiweddarach. Mae’n werth cofio taw bardd uchel ei fri oedd Geoffrey Grigson. Cyfiawnha ei fenter swynol fel hyn: ‘This is a book I wanted myself, and a book, it seems, which no one else would write.’ Gwiw o beth! Dyma gyfrol am berthynas pobl â phlanhigion, a sut y maent wedi eu dychmygu, eu defnyddio, a’u meithrin. Neu am sut y bu i ni gydymwreiddio.
Fe roes ambell un o’r cofnodion ddigon i mi gnoi cil arno. Cefais wybod taw un o’r enwau Saesneg ar erwain yn Sir Benfro yw ‘Meadow-queen’. Brenhines y weir-glodd yw un o’r enwau Cymraeg arno, wrth gwrs, a fflachiodd y syniad am ennyd taw cyfieithiad o’r Gymraeg yw hwn; ond eto, o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y daw’r cofnod cyntaf o’r enw Cymraeg, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, felly dyna fy anfon i dyrchu (a thyrchaf o hyd). Rhwng yr hanesion a’r enwau, codir caeaid o sgyfarnogod yn y gyfrol hon. Caf fy atgoffa ryw ychydig o’r gyfrol gampus honno Meddyginiaethau Gwerin Cymru (2017), pe bai honno wedi mynd i gyfeiriad mwy llenyddol a rhyfedd-braf.
Yn olaf, ychwanegir at gyfaredd y gyfrol hon gan y torluniau pren cain sydd wedi eu hatgynhyrchu o lysieulyfrau cyfandirol yr unfed ganrif ar bymtheg (rhai Almaenig yn bennaf).
Mae Morgan Owen yn fardd ac ysgrifwr, ac mae'n byw yng Nghaerdydd. Enillodd gystadleuaeth yr ysgrif yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.