Dedfryd y Gwigiaid
Llŷr Titus
Anfadwaith
Y Lolfa, 278tt, £9.99, 2023
‘Nofel ffantasi dywyll’, meddai’r broliant. Gan nad yw’r genre hwnnw’n apelio ataf fel arfer, go brin y buaswn i wedi codi’r gyfrol pe taswn i heb ddarllen nofel gyntaf yr awdur, Pridd, yn barod, ac wedi rhyfeddu at ei ddawn sgrifennu. Ceir yr un feistrolaeth ar iaith ac arddull yn Anfadwaith, a’r un cyfoeth o ran geirfa, ond mae hon yn nofel dra gwahanol ei chynnwys.
Cawn ein hunain mewn gorffennol pell, mewn gwlad ac amser dychmygol, ond mewn byd Cymreig sydd â naws canoloesol i’w ddiwylliant materol, ei dechnoleg, ac i raddau ei drefn gymdeithasol hefyd. Cyfunir hyn oll gydag elfennau hud a lledrith, mewn ffordd go debyg i’r hyn a geir mewn chwedlau Cymraeg Canol. Fel yn y testunau hynny, dyma fyd lle mae Cristnogaeth yn cyd-fyw o hyd gydag elfennau o’r hen arferion paganaidd, lle mae’r ffin rhwng y diriaethol a’r goruwchnaturiol yn hydraidd, lle y defnyddir swyndlysau i gadw cythreuliaid draw. Eto i gyd, o bryd i’w gilydd ceir adlais o nodweddion ein byd ninnau, er enghraifft yn y cyfeiriadau cynnil at newid hinsawdd a’i effaith ar gnydau.
O ran y naratif, math o nofel dditectif yw hi. Gwigyn o’r enw Ithel yw’r prif gymeriad. Ystyr gwreiddiol gwigyn, wrth gwrs, yw dyn sy’n byw yn y coed, o bosibl math o ddyn gwyllt, ond yn y nofel dyn sydd ar wahân i’r gymdeithas feidrol ydyw, ac mae ganddo swyddogaeth arbennig yn y byd. Er mwyn gwneud iawn am ryw bechod amser maith – o bosibl cenedlaethau – yn ôl câi Gwigiaid eu dedfrydu i grwydro’r wlad yn datrys troseddau a sicrhau cosb neu iawndal yn unol â’r Gyfraith. Mae ganddyn nhw ddawn arbennig i ddeffro euogrwydd yng nghalon troseddwyr a pheri iddyn nhw ildio, a hynny trwy rym meddwl yn unig. Defnyddir y rhagenwau ni a nhw yn achos Ithel a’i gyfaill o Wigyn, Dana, oherwydd ar wahân i’w prif hunaniaeth mae pob Gwigyn yn ymgorffori eneidiau llu o unigolion o’r gorffennol, y mae eu lleisiau o bryd i’w gilydd yn dod yn hyglyw er mwyn cynnig cyngor iddo.
Cyflwynir Ithel a’i (neu’n hytrach a’u) swyddogaeth inni yn y bennod gyntaf, lle gwelwn allu’r Gwigyn trwy lygad y troseddwr, llofrudd sydd wrthi’n croesi pont i diriogaeth lle y bydd y tu hwnt i afael y Gyfraith. Ond wedi i Deiwyn dalu’r pris am ei drosedd, awn ar brif drywydd y naratif, sef dirgelwch anodd ei ddatrys hyd yn oed i Wigyn profiadol. Gan Dana, sydd wedi glanhau llechen eu pechod ac felly’n dod at ddiwedd y daith, clyw Ithel am anfadwaith rhyfedd. Cafwyd hyd i gyrff Dafydd y gof, ei wraig a’i blentyn wedi eu darnu’n erchyll gan rym rhyw arf neu ddull anhysbys. Yr unig drywydd sydd gan Ithel i’w ddilyn yw olion trol a hanes gan rai a’i gwelodd hi’n pasio. Yn y man caiff Ithel gymorth Adwen y porthmon wrth geisio dod o hyd i’r gist a gariwyd ar y drol. Daw Adwen ar y daith er mwyn cynorthwyo i ddal a chosbi’r sawl a lofruddiodd ei chyfyrder ifanc yn yr un modd erchyll ag y lladdwyd y gof a’i deulu.
Defnyddir yma nifer o’r motiffau a’r patrymau naratif a geir mewn storïau gwerin a chwedlau canoloesol. Ceir cyferbyniaeth rhwng nerth bôn braich a grym dysg, er enghraifft, motîff a gyfunwyd yma ag un y ddau frawd sy’n cystadlu am rym, thema draddodiadol sy’n dwyn i gof hanes cymeriadau megis Beli a Brân ym Mrut y Brenhinedd. Prif edefyn y nofel yw’r daith, sy’n dilyn patrwm y cais (quest), lle daw’r ymgeiswyr i gyfarfod â nifer o gymeriadau gwahanol, rhai ohonynt yn cynnig cymorth, eraill am eu rhwystro neu eu difa, rhai’n ddynol, eraill yn perthyn i arall fyd. Mae angen tipyn o grefft i greu byd newydd ond eto’n un Cymraeg, un sydd yn ddychmygol ond yr un pryd yn argyhoeddi’r darllenydd, byd sydd yn gyflawn ynddo’i hun, yn ddarostyngedig i’w reolau ei hun ac sydd hefyd â chysondeb o ran natur yr holl nodweddion sydd iddo. Llwyddodd yr awdur i wneud hyn oll a chreu yn ogystal linyn naratif cryf sydd yn cynnau a chynnal diddordeb y darllenydd o’r tudalennau cyntaf un.
Efallai y temtir rhai darllenwyr i gymharu Anfadwaith gyda nofelau ffantasi eraill yn y Gymraeg lle tynnir ar ein cynhysgaeth ganoloesol Gymraeg – gwaith Robin Llywelyn, er enghraifft. Ond nid oes gan Llŷr Titus ddyled i unrhyw awdur penodol neu waith llenyddol arall, a’i lais a’i ddychymyg ei hun sy’n gyrru’r nofel hon. Tipyn o gamp yw cyhoeddi dwy nofel mor feistrolgar o fewn yr un flwyddyn, a’r ddwy mor wahanol o ran eu cynnwys. Ar ba drywydd yr â Llŷr Titus yn ei nofel nesaf, tybed? Fydd dim perygl imi gerdded o’r tu arall heibio, beth bynnag fo’r genre.
Mae Ceridwen Lloyd-Morgan yn gyn-Archifydd a Phennaeth Llawysgrifau a Delweddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.