Y llais a’i ddiffyg
Adolygu Pridd gan Llŷr Titus
Llŷr Titus
Pridd
Y Bwthyn, 128tt, £8.95, Ebrill 2022
Hanes datod sydd yma – neu dyna a ddywedwn pe byddech yn gofyn i mi beth yw’r nofel hon mewn ychydig eiriau. Pe bai gofyn i mi ymhelaethu, byddwn yn oedi’n ochelgar cyn cyfaddef nad ydw i’n hollol siŵr, mewn gwirionedd, beth ydyw. Ond na phoened neb: mae hen ddigon i’w ddweud amdani, ac mae categoreiddio’n ffordd ddiflas ofnadwy i ddechrau adolygiad.
Yn y bôn, cawn hanes Hen Ŵr yn gymysgfa o sylwadau, atgofion a meddyliau, ond bod y cyfan wedi ei adrodd yn y trydydd person. O’r cychwyn mae yna hollt annisgwyl: adnabyddiaeth a phellter yr un pryd. Down yn agos at yr Hen Ŵr, fel pe baem wedi ymgartrefu yn ei ben neu wedi nythu yn ei galon, ond eto ni chlywn yr un gair ganddo ef ei hun. Erys o hyd ryw amheuaeth, felly: pwy sy’n gweld a gwrando? A ydym mewn gwirionedd yn closio at yr Hen Ŵr, neu ai rhith yw’r adnabyddiaeth hon? Mae hyn oll yn gweddu i’r cymeriad, ac yntau’n ffermwr sy’n byw ar ei ben ei hunan ym Mhen Llŷn mewn amgylchiadau digon tila. Dyn unig ydyw, arwahanwr lletchwith sy’n cosi’r ffin rhwng ymhyfrydu yn ei gwmni a’i drefn ei hun a dyheu am bobl goll ei fywyd, yn ffrindiau marw, gwraig farw, a hyd yn oed y capel, sydd yntau’n stwyrian fel person o gig a gwaed yn ei atgofion, er ei fod yn gragennaid o lwch ac ysbrydion bellach.
Cawn lawer o’r ysgrifennu gorau wrth i’r Hen Ŵr symud o amgylch ei dir – ac mae’r tir yn bresenoldeb yma. Oedais fwy nag unwaith i werthfawrogi’r delweddau miniog sy’n brigo fel cerrig yn sydyn yma a thraw. Er enghraifft, fe’m trawyd gan y disgrifiad hwn o’r Hen Ŵr yn cynnau tân mewn hen stof gan chwythu i’w gynnud o bapur a brigau i hyso’r fflamau ymlaen: ‘Pe byddai rhywun yn edrych drwy’r ffenest ... fe fydden nhw’n meddwl fod yr Hen Ŵr yn gweddïo yng ngenau uffern.’ Oedwn gyda’r stof: mae’r Hen Ŵr yn ymhel eithaf tipyn â hen bethau, ac mae’n chwannog i ymlithro i hiraeth chwerwfelys. Ar un wedd, dyma ymateb disgwyledig gan henwr unig mewn cymuned amaethyddol sy’n teneuo. Ymddengys weithiau fel anachroniaeth o ddyn yn shwfflan tuag ebargofiant, ond nid heb ambell wthiad chwaith. Tuedd hynod ddiflas yw darllen llenyddiaeth Gymraeg mewn modd didactig, am yr hyn y mae’n ei ddweud am Gymru heddiw a’r gwersi honedig i’r darllenydd, ond anodd osgoi’r cyswllt yn y gyfrol hon â sefyllfa Llŷn heddiw. Gallwn honni, heb wrido, fod yna elfen alegorïaidd gref i’r dieithrwch a’r diffyg llais yn y gyfrol hon. Realiti i rai, wrth gwrs, yw gweld hen fywyd eu bro yn datod nes gadael dim ond atgofion brau a bylchau llwythog.
Cwyd trothwyon o bob math yn y stori hon, ynghyd â thyndra rhwng goleuni a thywyllwch. Daw elfennau breuddwydiol hefyd i ymwau â’r cofio episodaidd, ac weithiau mae’n anodd dirnad y gwnïad sy’n eu cydio at ei gilydd. Cefais fy atgoffa o By Night in Chile (2000; cyf. 2003) gan yr awdur o Chile, Roberto Bolaño, y nofelig honno sy’n gronicl ffiwgaidd o feddyliau hen ŵr sy’n marw; ac fel y gwaith hwnnw, stwff diriaethol bywyd, serch hynny, sydd flaenaf yn nofelig Llŷr Titus: nid oes ymgolli yn y rhithweledigaethau, er bod marwolaeth yn gysgod trwm dros y cyfan, gan ddenu ysbrydion a chladdedigion o’u cuddfeydd. Yn Pridd, wn i ddim ai dihangfa i’r Hen Ŵr yw’r elfennau breuddwydiol hyn, ynteu rhyw ffordd herfeiddiol o wrthwynebu’r unigedd a’r cau amdano. Nid ydynt yn peri iddo ymgragennu, yn rhyfedd ddigon: os unrhyw beth, maent yn gwthio’r Hen Ŵr yn nes at y tir o’i amgylch. Ceir cryn hyfrydwch yn y delweddu ar y tir, hyd yn oed wrth ddwyn i gof sefyllfa lle mae popeth fel petai’n pydru: ‘Cofia am y chwyniach rheiny oedd yn gadael coesyn ar eu holau erbyn y gaeaf yn y dalar, yn fudur-wyn fel esgyrn ac yn hisian yn y gwynt. Beth bynnag oedd yr enw ar y rheiny – esgyrn chwyn – yn esgyrn chwyn ei ddyddiau oedd o.’
Mae yna le amlwg i’r ansylweddol a rhith-bresenoldebau: cerrig hynafol sy’n dod i’r golwg yn y niwl a’r tes, onglau cyfrwys y caeau sy’n lled-ddatgelu ffigwr, ffermdy, neu gysgodion oriog y lleuad. Yn benodol, mae yna gadno sy’n hawntio’r Hen Ŵr, sef prif ddelwedd neu fotîff y gyfrol. Ymrithia’n deimlad o golled ac o barhad am yn ail. Fel llais yr Hen Ŵr nad ydym byth yn ei glywed, mae’r cadno fel petai’n cynrychioli’r hyn sy’n bosib, os yn amwys felly, fel yr holl bethau a awgrymir yn y tes a’r niwl.
Dyma gyfrol ddirgel y talai ei darllen yn araf, rhag mynd ar goll ymysg y rhithiau a’r bylchau. Mae’n llusgo ar brydiau, gan ymostwng i ambell ystrydeb, ond mae miniogrwydd yn y dweud. Datod cain yw hwn.
Cyfrol ddiweddaraf Morgan Owen yw'r pamffled Ysgall a gyhoeddwyd gan wasg Pelydr yn Rhagfyr 2021.