Ffyrdd y tylwyth teg
Ar y bwrdd bach
William Rowland
Straeon y Cymry
Gwasg Aberystwyth, 113tt, 1939
Rwy’n dal i ddarllen gyda fy mhlant er eu bod nhw, erbyn hyn, yn ddeg ac un ar ddeg oed. Ers sbel fach, rwy’ wedi bod yn aros i’r cyfnod hwn ddod i ben, ond er mawr syndod (a llawenydd, rhaid dweud!) parhau y mae. Gan eu bod nhw’n ddarllenwyr brwd bellach, rwy’n ceisio dewis llyfrau na fyddent o reidrwydd yn eu dewis eu hunain. Un o’r cyfrolau rydym wedi bod yn ei hailddarllen yn ddiweddar yw Straeon y Cymry gan William Rowland. Roedd yn awdur, yn gyfieithydd ac athro a aned yn y Rhiw ger Aberdaron yn 1887.
Casglodd William Rowland hen straeon gwerin Cymru o bob math o gylchgronau a diolcha i nifer am gymorth gyda’r gwaith yn rhagair y llyfr hwn: chwedlau gwerin Sir Gaernarfon gan Nefydd a Gwynionydd yn y Brython, chwedlau a gasglwyd gan Glasynys yn Cymru Fu, straeon eraill o draethawd y Parchedig Elias Owen, ‘Welsh Folk Lore’, ac eraill eto yn Celtic Folklore a British Goblins – ychydig yn unig o’r teitlau yw’r rhain, mae’r rhestr yn un hir.
Mae rhai o’r straeon yn gyfarwydd, er enghraifft ‘Ogof Arthur’. Tra bo eraill, er nad yn gyfarwydd yn eu cyfanrwydd, yn cynnwys elfennau o’m plentyndod fy hun. Caf fy atgoffa gan stori ‘Pwca’r Trwyn’ o’r pwca drwg dan ddaear yn y pyllau glo y clywais amdano gan fy nhaid. Hefyd, mae ffyrdd y tylwyth teg yn gyfarwydd i mi – cefais rybuddion lawer gan fy mam-gu i beidio byth â bwyta unrhyw beth a roddwyd i mi gan dylwythen deg. Ac meddai wrthyf, efallai mai awr yn unig fyddwn i yn ei dreulio yng nghwmni’r tylwyth teg, ond erbyn i mi ddychwelyd o’u byd nhw byddai oes wedi pasio yn y Gymru roeddwn i’n rhan ohoni – byddai fy mrawd, fy nghefndryd a’m ffrindiau wedi troi’n oedrannus, a fy rhieni wedi hen ymadael â’r byd hwn. Roedd yn arswydus.
Yn stori’r ‘Ynys Hud’ yng nghanol un o lynnoedd Brycheiniog, neu yn stori ‘Einion y Bugail’ ar un o fynyddoedd Eryri, caf gyfarfod unwaith eto â’r tylwyth teg. Mae yna ryw ddireidi yn y ffordd maent yn trin bodau dynol ym Mrycheiniog ac Eryri ond mae’r stori ‘Melltith Pantannas’ am dylwyth teg ardal Merthyr Tudful (ardal fy magwraeth) lawer yn debycach i straeon arswydus a dialgar tylwyth teg fy mhlentyndod.
Daw’r straeon hyn o bob cwr o Gymru ac ynddynt mae yna gewri hefyd, pobl fychain a gwrachod, telyn hud, trysor a brwydrau. Maent yn deffro rhyw frith gof ynof o’r hyn roeddwn yn ymwybodol iawn ohono pan oeddwn yn ferch fach – sef y byd arall hwnnw sy’n bodoli ar y ffin â’n byd ni, a dim ond i chi allu symud y llen neu agor y drws, cewch fynd yno. Bron i 90 mlynedd ers cyhoeddi’r argraffiad hwn, rwy’n adnabod o leiaf dau blentyn sy’n dal i fod wrth eu boddau gyda’r cynnwys.
Mae Catrin Ashton yn un o dîm cyhoeddi O'r Pedwar Gwynt.