Adolygu

Heb ei fai, heb ei eni

Ein natur ddynol amwys

R Wrangham

The Goodness Paradox: How Evolution made us both more and less violent

Profile Books, 401tt, £10.99, 2019

Steven Pinker

The Better Angels of our nature: A History of Violence and Humanity

Penguin, 784tt, £14.99, 2011

Daniel Kahneman

Thinking Fast and Slow

Penguin, 499tt, £8.99, 2011

Jonathan Haidt

The Righteous Mind: Why Good People Are Divided by Politics and Religion

Penguin, 528tt, £12.99, 2013

R Gareth Wyn Jones

Energy – the great driver: Seven Revolutions and the Challenges of Climate Change

Gwasg Prifysgol Cymru, 199tt, £17.99, 2019

R Gareth Wyn Jones

Amser darllen: 20 munud

10·12·2020

Dinas Efrog Newydd, 11 Medi 2001 (Llun: Susan Meiselas)

Un o broblemau mawr y ddynoliaeth yw sut i ddehongli, esbonio a rheoli ein natur ddynol amwys. Rydym un ac oll yn gymysgedd o’r da a’r drwg, y cydymdeimladol a’r ffiaidd, yr hunanaberthol a’r treisgar. Crynhoir y gwirionedd heriol hwn yn yr hen ddihareb Gymraeg, ‘Heb ei fai, heb ei eni’. Pam rydym ni fel hyn? Dyma gwestiwn moesol, diwinyddol – a gwyddonol.

Un o elfennau sylfaenol y gred Gristnogol yw bod dynoliaeth yn greadigaeth Duw cariadus, cyfiawn a hollalluog, ac yn adlewyrchu ‘llun a delw’ y Duw da hwn. Os ‘yn blant i Dduw’, felly, pam rydym mor ddrygionus a chreulon? Ar y llaw arall, o safbwynt ein dealltwriaeth o ymddangosiad ein hil, Homo sapiens, ac o esblygiad bywydegol, teg fyddai gofyn i’r gwrthwyneb: pam rydym mor ddaionus a chydymdeimladol? Hynny ydi, os ydym yn ffrwyth trefn gystadleuol ddidrugaredd, pam fod gennym synnwyr daioni a chydymdeimlad? Dros y canrifoedd cynigiwyd llawer o atebion i’r benbleth hon gan wahanol grefyddau a mythau llwythol, ond mae’r gwrthgyferbyniad rhwng y gosodiadau a wneir a’r atebion a gynigir gan y traddodiad Cristnogol a’r rhai sy’n deillio o wyddoniaeth gyfoes yn arbennig o ddadlennol.

Yn ddi-os, mae’r hen ddihareb Gymraeg y cyfeiriais ati uchod yn ffrwyth ffraethineb a sylw ein hynafiaid. Ond tybed nad yw hefyd yn dystiolaeth o ymdreiddiad credoau Cristnogol i’n hisymwybod Cymreig? O fodio trwy unrhyw lyfr emynau, prin fod unrhyw bwnc yn denu mwy o sylw na’n ‘beiau’ a’n ‘pechodau’. Meddylier er enghraifft am y dyfyniadau cyfarwydd hyn: 'Cudd fy meiau rhag y werin' (Caneuon Ffydd, 704); 'Os gwelir fi, bechadur, ryw ddydd ar ben fy nhaith' (718); 'Pechadur wyf, O Arglwydd sy’n curo wrth dy ddôr' (191). Er i’r ysfa i ddeall cymhlethdodau ac amwysterau’r natur ddynol ragflaenu dyfodiad y gred Gristnogol, y Beibl oedd prif ffynhonnell ein deall am ymhell dros fil o flynyddoedd. Tarddiad yr esboniad traddodiadol Cristnogol yw llyfr Genesis yn yr Hen Destament – neu’r Torah i’r Iddew – a’r deongliadau a’r athrawiaethau a ychwanegwyd ato. (Gweler y testun cyflawn yn y Beibl Cymraeg Newydd (Pennod 3)).

Yn ôl yr hanes, roedd y dyn a’r ferch gyntaf, Adda ac Efa, yn byw yng ngardd Eden yn gytûn mewn diniweidrwydd a hawddfyd rhyfeddol, yn ddilychwyn ac yn ddi-ryw. Ond, yn groes i ddymuniad y Duw a’u creodd, cawsant eu temtio gan sarff i fwyta’r ffrwyth o’r goeden waharddedig – coeden gwybodaeth y da a’r drwg. O ildio i’r temtasiwn, chwalwyd eu diniweidrwydd ac fe’u hesgymunwyd o’u hawddfyd i fyd o boen, pryderon a phechod – y byd rydym yn dra chyfarwydd ag o. Yn ôl yr hanes, Efa a swynwyd yn gyntaf gan y sarff ac yn ei thro hi a anogodd Adda i fwyta’r ffrwyth gwaharddedig a achosodd eu hel o ‘baradwys’, gan achosi ‘cwymp’ dynoliaeth – ‘Paradise Lost’, yn ôl Milton. Y pechod gwreiddiol oedd anufudd-dod i Dduw. Canlyniad yr anufudd-dod oedd poen a drygioni ac, yn arwyddocaol, marwolaeth. Fel hyn y ceisiodd yr hen Israeliaid egluro bywydau byrhoedlog a thymhestlog dynoliaeth a chymhlethdodau ein natur ddynol a’n tueddiadau at ddrygioni a thrais, yn ogystal â daioni. Fel ymestyniad o Iddewiaeth, mabwysiadwyd y myth gan Gristnogaeth gydag oblygiadau ychwanegol. Diddorol yw nodi, fodd bynnag, nad yw’r stori hanner mor bwysig i Iddewiaeth ag y mae i Gristnogaeth. Ychydig iawn o bwyslais a roddir yn y ffydd Iddewig ar y ‘cwymp’ fel y cyfryw. Llawer mwy arwyddocaol iddynt yw'r cyfamod rhwng Duw a’i genedl ddewisiedig a’r pwyslais ar gadw ‘Ei Ddeddfau’. Diddorol yw nodi hefyd o’r dechrau un fod rhai o’r tadau Cristnogol, megis Origen o Alecsandria (c.184-253), yn dehongli'r stori hon, ynghyd â hanes blaenorol y creu, fel mythau yn hytrach nag fel storïau ffeithiol. Meddai John Barton yn ei gyfrol feistrolgar A History of the Bible; the Book and Its Faiths (2019):

Could any man of sound judgement suppose that the first, second and third days had an evening and morning when there were yet no sun or moon or stars [...] could anyone be so unintelligent to think God made a paradise somewhere in the east […] no one, I think, will question that these are only fictions, stories that never actually happened, and that figuratively they refer to certain mysteries.

Yn ôl y dehongliad Cristnogol, o ganlyniad i’n cyflwr pechadurus, cyfyd yr angen am iachawdwriaeth ac achubiaeth, ac yn arwyddocaol, am ffordd i orchfygu marwolaeth ei hun. Daeth gobaith am faddeuant ac am achubiaeth i ddynoliaeth golledig trwy aberth Crist ar y Groes a’i atgyfodiad, sef yr ‘Iawn ar Galfarî’. Amlinellir y ddamcaniaeth draddodiadol am y cwymp ac achubiaeth yn eglur yn llythyr Paul at y Rhufeiniad:

Dyma'r gymhariaeth gan hynny: fel y daeth collfarn ar y ddynolryw i gyd trwy un weithred o drosedd, felly hefyd y daeth cyfiawnhad sy'n esgor ar fywyd i'r ddynolryw i gyd trwy un weithred o gyfiawnder. Fel y gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid trwy anufudd-dod un dyn, felly hefyd y gwneir y llawer yn gyfiawn trwy ufudd-dod un dyn.  (Rhufeiniad 5, 18 19)

Mae’r achubiaeth hon yn cynnig ffordd i orchfygu marwolaeth ac yn ganolog i neges y rhan helaethaf o’r sectau Cristnogol. Ychydig, wrth gwrs, yn yr oes bresennol sy’n credu’n llythrennol yn stori ‘y Cwymp yn Eden’. Ystyrir hi’n enghraifft ragorol o fyth a dirgelwch. Eto, ynghyd â dehongliad Paul ohoni, mae’n sylfaenol i gredo llawer un. Ond mae’n eglur fod i’r myth ei wendidau pellgyrhaeddol: priodolir i Efa y prif gyfrifoldeb am y cwymp. Bu hyn yn esgus ychwanegol am ganrifoedd lawer i ddibrisio ac i ddifrïo merched. Gan i’r myth ddatblygu mewn cymdeithas batriarchaidd yn nhiroedd sych y dwyrain, nid yw’n syndod ei fod yn adlewyrchu rhagfarnau’r oes a’r ardal.

*

Beth felly am y ddealltwriaeth sy’n deillio o’r astudiaethau paleontolegol, anthropolegol, seicolegol a genetig diweddaraf? Sut maent yn esbonio ein natur ddynol, gymysg oll i gyd?  

Seilir y stori hon ar esblygiad: ar y gadwyn fiolegol a genetig sy’n ymestyn yn ôl dros biliynau o flynyddoedd, ac ar rym detholiad naturiol. Mae’r broses esblygiadol yn dibynnu ar y genhedlaeth hŷn yn marw fel bo unrhyw nodweddion manteisiol yn yr epil yn cael cyfle i’w hamlygu eu hunain ac i gyfrannu at addasiad y genhedlaeth nesaf. Yn y cyd-destun presennol, mae ymddangosiad yr hominidau cynnar yn allweddol, sef y rhywogaeth Homo yn yr Affrig tua dwy filiwn o flynyddoedd yn ôl, ac yn fwy diweddar Homo sapiens. Yn gwbl groes i fyth yr ‘Eden berffaith’ (‘Yn Eden, cofiaf hynny byth, / bendithion gollais rif y gwlith; / syrthiodd fy nghoron wiw’), roedd ein hynafiaid yn fwy gwyllt ac yn fwy anystywallt na ni. Roeddynt yn byw ac yn cenhedlu yn ddyrnaid bach o helwyr-gasglwyr a hynny mewn amgylchiadau hynod o anodd, heriol a bregus am gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Darlun tra gwahanol, felly, i’r hawddfyd a’r diniweidrwydd a bortreadir ym myth Gardd Eden.

Yn ôl y dehongliad esblygiadol, trwy brosesau didostur, dall ac araf iawn y daeth ein rhywogaeth ni – Homo sapiens – i fodolaeth a’i gwahanu oddi wrth yr hominidau mwy cyntefig. Yn rhyfeddol, mae lle i gredu nad ymddangosiad Homo sapiens tua 300,000 o flynyddoedd yn ôl oedd yr unig gam tyngedfennol. O leiaf miliwn o flynyddoedd cyn Homo sapiens, ymddangosodd Homo erectus, y gwir hominid cyntaf, eto yn Affrica. Mae Homo erectus yn meddu ar nifer o’r un nodweddion corfforol â ni, gan gynnwys ymennydd llawer mwy nag un yr epaod Awstralopithaidd a’i rhagflaenodd. Ymledodd Homo erectus ar draws cyfandiroedd Affrica ac Ewrasia, fel yn achos ‘Peking man’. Yn gysylltiedig â’i weddillion corfforol ceir tystiolaeth o arferion a chymdeithas led gymhleth, sef y diwylliant Acheulan. Mae’n bosib fod ganddo iaith gyntefig i gyfathrebu ynddi, ac yn amlwg byddai gallu rhagorach i gyfathrebu yn hynod fanteisiol i gyd-drefnu hela a choginio ac i gyd-deithio o’r Affrig i Tsieina.

Yn ôl damcaniaeth Richard Wrangham (gw. ei gyfrol Catching Fire: how cooking made us human, 2009), cam pwysig oedd darganfod y gallu i reoli tân ac i goginio. Gan fod coginio’n rhyddhau mwy o faeth ac yn cynnig dewis ehangach o fwyd, yn arbennig cigoedd, roedd y dechneg yn hynod fanteisiol. O ganlyniad ychwanegwyd mwy o galorïau a gwell maeth i’r fwydlen hollysol (omnivorous). Yn dyngedfennol, buddsoddwyd yr ynni a’r maeth hwn yn natblygiad yr ymennydd a galluoedd a deallusrwydd rhagorach. Cychwynnwyd felly ar y daith esblygiadol tuag at y ‘dyn deallus’. Roedd hwn yn drywydd gwahanol iawn i eiddo’n cefndryd epaaidd eraill (llysfwytawyr, i raddau helaeth) megis y gorila, y tsimpansïaid a’r bonobos sydd wedi goroesi hyd heddiw ond yn fwy cyfyng eu cyraeddiadau. Buddsoddodd ein cyndeidiau mewn clyfrwch, nid bôn braich; mewn ymennydd, nid cyhyrau: cam tyngedfennol ar y llwybr at hunanymwybyddiaeth. Dros y 1.5 miliwn o flynyddoedd canlynol esblygodd y galluoedd newydd hyn, nes y bu i ddynoliaeth – Homo sapiens – goncro neu, ys dywedir yn Genesis, ‘dra arglwyddiaethu’ dros ein planed (gw. Energy – The Great Driver ac O’r Pedwar Gwynt, Gwanwyn a Haf 2018).

Credir bod amrywiaeth o rywogaethau hominidaidd wedi esblygu, ffynnu a diflannu yn y cyfnod maith (dros filiwn o flynyddoedd) rhwng dyfodiad Homo erectus ac ymddangosiad a goruchafiaeth ddiweddar Homo sapiens. Bu’r llwybr esblygiadol tuag at ein hil yn un troellog a chymhleth. Yn wir, hyd at yn lled ddiweddar – tan tua 40,000–50,000 o flynyddoedd yn ôl – mae’r dystiolaeth yn dangos yn glir ein bod ni, y sapient, yn cyd-fyw ag o leiaf dair rhywogaeth Homo arall, sef Homo neanderthalensis (a adawodd ddant yn Ogof Pontnewydd yn y Cefn, ger Llanelwy), Homo denisova a Homo floresiensis, a gwelir olion y rhain a hominidau eraill yn ein genynnau hyd heddiw. Nid ydynt felly wedi llwyr ddiflannu. Yn groes i’r darlun poblogaidd, datblygodd rhai o’n cefndryd y ddawn i reoli tân, i goginio, i greu gwaith artistig ac i gynnal cymdeithas led gymhleth. Nid yw’n glir pam y diflannodd y neanderthaliaid a’r denisofiaid, ond collasant y ‘frwydr’ esblygiadol yn erbyn Homo sapiens.

*

O ddilyn y rhesymeg esblygiadol, cyfyd sawl cwestiwn dyrys, lawn mor arwyddocaol â’r gwrthgyferbyniad rhwng yr ymateb eglwysig traddodiadol a’r dystiolaeth wyddonol. Rhaid gofyn beth oedd y ffactorau esblygiadol a barodd i linach Homo sapiens ffynnu a beth oedd tarddiad y cyfuniad unigryw o nodweddion personol a chymdeithasol – y gwych a’r gwachul, y cydymdeimladol a’r treisgar – sy’n nodweddu dynoliaeth. Yn ei gyfrol ddiweddaraf, The Goodness Paradox, mae Richard Wrangham yn ceisio atebion i’r cwestiynau hyn. Fel arbenigwr ar ymddygiad epaod (y tsimpansïaid a bonobos yn benodol) yn eu cynefinoedd naturiol yn Affrica, ei fan cychwyn yw’r sylw ein bod ni’n drawiadol fwy dof a goddefgar yn ein harferion beunyddiol na’n cefndryd agosaf. Felly hefyd, yn ôl pob tebyg, aelodau mwy cyntefig o’n llinach esblygiadol. Rydym yn byw gyda’n gilydd yn lled gytûn, yn ddi-stŵr a di-drais, ac yn cydweithio’n rhyfeddol o dda, yn wreiddiol mewn grwpiau bach gwasgaredig ond erbyn hyn mewn cymdeithasau cymhleth. Anodd dychmygu llond trên tanddaearol o epaod heb ffrwgwd tanllyd a gwaedlyd.

Er hynny, rydym i raddau syfrdanol yn coleddu trais cyfundrefnol, nid yn unig yr eithafwyr drwgenwog diweddaraf ond hefyd arweinwyr ‘gwâr’ megis George W Bush a Tony Blair, yn ogystal â sawl arweinydd crefyddol amlwg dros y canrifoedd. I’r gwrthwyneb, anaml mae ein cefndryd yn cynllunio trais, hyd yn oed y tsimpansïaid, er eu bod yn feunyddiol dreisgar, yn anoddefgar ac yn ymladdgar. Yng nghymdeithas y tsimpansïaid, yn arbennig, mae’r gwryw yn gyson yn gorthrymu ac yn curo’r fenyw. Un gwryw alffa sy’n teyrnasu fel unben ar ei grŵp bach a dim ond trwy ei ladd gan gystadleuydd iau a chryfach – unben newydd, gorthrymus – y’i disodlir fel pennaeth y llwyth.

Ceir allwedd i ddeall y benbleth hon mewn man annisgwyl, sef yng ngwaith arloesol y Rwsiad Dmitry Belyayev. Cychwynnodd Belyayev ar arbrawf yn y 1950au i fridio llwynogod arian gan obeithio hybu’r diwydiant ffwr yn Siberia. Dechreuwyd bridio llwynogod drwy ddethol llinach oedd yn llai ofnus a mwy ‘cyfeillgar’ i’r bobl a oedd yn agor eu caetsys. Ar ôl dim ond ugain cenhedlaeth, bridiwyd llwynogod hynod o ddof a chyfeillgar, oedd yn ysgwyd eu cynffonnau ac yn udo i ddenu sylw’r staff. Nid yw hynny’n llawer o syndod ynddo’i hun, gan i hyn ddigwydd i sawl anifail anwes ac amaethyddol. Ond yn dra arwyddocaol gwelwyd newidiadau sylweddol ac anrhywiol yn ffisioleg y llinach ddof: blaenau cynffon gwyn a seren wen ar y talcen (fel a welir mewn cŵn a cheffylau fferm) a newidiadau yn siâp y benglog ac yng nghylchoedd oestrws y fenyw ac ymddygiad rhywiol yr anifeiliaid. Yn dyngedfennol, dangosodd gwaith Belyayev a’i gyfeillion gysylltiad pendant rhwng dethol am ymddygiad dof a newidiadau pell-gyrhaeddol ffisiolegol a biocemegol. I grynhoi, credir bod ymddygiad celloedd y gwrym niwral (neural crest) yn ystod datblygiad yr embryonau yn arwyddocaol. Yn gynnar yn natblygiad yr embryo dynol gwelir sawl math o feinwe. Ond, yn unigryw, mae celloedd o’r gwrym niwral yn mudo i bob rhan o’r corff wrth iddo ddatblygu, gan gynnwys y chwarren adrenal (cynhyrchydd hormonau megis adrenalin [dianc neu ymladd] a’r androgenau [megis testosteron]), yr ên a’r dannedd a’r celloedd sy’n cynhyrchu melanin (blaen cynffon wen a seren talcen), ac yn y blaen. Felly, ymddengys bod cysylltiad agos rhwng mudiad y celloedd hyn a’r ‘syndrom dofi’, er bod llawer eto i’w ddeall, wrth gwrs.   

Mae i’r syniad bod Homo sapiens yn ddof, o’i gymharu â’i hynafiaid gwyllt, wreiddiau dwfn, gan gynnwys yng ngwaith Aristoteles a Darwin. Awgrymwyd ganddynt fod y dyn gwyn Ewropeaidd wedi gwareiddio a dofi, ond nid felly’r llwythau brodorol (a doedd sefyllfa merched yn ddim llawer amgenach). Roedd hyn yn esgus i orthrymu a choloneiddio ‘yr arall’. Ni chynigiwyd ateb i’r
sylw bod llu o wahanol elfennau ffisiolegol ac ymddygiadol yn cael eu cydgysylltu yn ‘syndrom dofi’, er enghraifft wynebau mwy fflat, penglogau mwy crwn, natur mwy cymodol a chwareus, y merched yn ffrwythlon trwy’r flwyddyn, tueddiadau paedomorffaidd, newid ym mherthynas gwryw a benyw, a mwy o ymddygiad cyfunrhywiol. O waith Belyayev, ac yn fwy diweddar Richard Wrangham a’i gyd-weithwyr, daeth eglurhad posib.

O dderbyn bod Homo sapiens yn arddangos symptomau ‘dofi’, a yw’n bosib i ddynoliaeth hunanddofi? Os felly, beth oedd y grymoedd oedd yn gyrru’r dethol a sut yr arweiniodd hynny at y dofi? Pryd ddechreuodd y broses? Ac a ydyw’n dal i ddigwydd?

Yn ôl Wrangham, mae’n debyg i’r broses hon ddechrau tua 300,000 o flynyddoedd yn ôl, yn nyddiau boreol sapiens gyda datblygiad gallu dynion mewn llwythau bach cyntefig i gydweithio ac i gyfathrebu’n fwy effeithiol. Defnyddiwyd y galluoedd newydd i dorri crib ac i ladd unrhyw wryw a oedd yn ceisio tra-arglwyddiaethu ar y llwyth yn y dull tsimpansïaidd neu ymddwyn yn fygythiol ac amhriodol. Cyplysir hyn ag esblygiad iaith fwy caboledig a’r gallu i gynllwynio yn y dirgel fel bod y lladd yn digwydd gyda risg bychan iawn i’r cynllwynwyr. O ganlyniad, roedd unrhyw aelod o’r grŵp oedd yn gwrthod cydymffurfio neu’n rhy wahanol mewn peryg. Dyfynnir amryw enghreifftiau gan Wrangham o ymddygiad cyffelyb mewn llwythau bach brodorol ar draws y cymunedau helwyr-gasglwyr-cogyddion a oroesodd. Mae’n werth cofio hefyd sut roedd ein cyndadau, yn lled ddiweddar, yn trin ‘gwrachod’ a’u tebyg.

Yn ôl damcaniaeth Wrangham, newidiwyd yn araf o ‘orthrwm y gwryw alffa’ (megis y drefn tsimpansïaidd) i ‘dra-arglwyddiaeth y cefndryd’, sef grym grŵp bach o ddynion priod a oedd, gyda’i gilydd, yn rheoli’r llwyth. O ganlyniad, lleihawyd dylanwad y genynnau oedd yn caniatáu ymddygiad gorwrywaidd, bygythiol, a chadarnhawyd dylanwad y rhai a oedd yn cryfhau cyd-drafod, cydweithio a goddefgarwch. Ffrwynwyd gwrywdod eithafol, gwrol. Os oedd unigolyn yn ymddwyn yn groes i’r drefn gymdeithasol, aelodau o’r grŵp (yn lled aml, aelodau o’i deulu) oedd yn cynllwynio i’w ladd. Dyma, yn ôl Wrangham, y grym esblygiadol a ddetholodd ddofdra.

Yn eironig, o esblygu galluoedd ymenyddol rhagorach gan gynnwys iaith, mân siarad a’r gallu i gynllunio ac i gynllwynio, dofwyd ein tueddiadau greddfol mwyaf gwyllt. Lleihawyd nid yn unig orthrwm y gwryw unbenaethol ond ffeminyddwyd y gwryw yn gyffredinol, a daeth rhinweddau mwy ‘plentynnaidd’ megis cyfeillgarwch parod a chwaraeon, yn ogystal â newidiadau ffisiolegol – siâp yr wyneb a’r benglog – i’r amlwg. Ond, ar y llaw arall, cadarnhawyd lle trais cyfundrefnol a chynllwynio o fewn y gymdeithas. Roedd y trais cyfundrefol yn gymorth i reoli’r rhai gor-wrol, a hefyd i ddiogelu buddiannau’r llwyth a’r teulu rhag bygythiadau o du grwpiau hominid eraill ac anifeiliaid gwyllt y safana a’r goedwig, ac wrth gwrs i hela cig.
 

Plant yn mynd i'w gwersi yn Gaza, 2014 (Llun: Peter Van Agtmael)

Mae Wrangham yn gwahaniaethu’n ofalus rhwng ymddygiad treisgar adweithiol – hynny yw, ein hymatebion uniongyrchol, greddfol megis colli tymer, y reddf i ymladd neu ddianc (ffrwyth adrenalin) a crime passionnel ar y naill law, a thrais sydd wedi ei gynllunio yn fwriadus, oeraidd, ar y llaw arall. Hawdd deall sut y byddai natur gorymosodol ac adweithiol yn tanseilio unrhyw ymdrech gan gymdeithasau cyntefig, bach a bregus, i oroesi. Roeddynt yn gyd-ddibynnol ac o anghenraid yn pwyso’n drwm ar ei gilydd. Ar y llaw arall, roedd angen trais rhagweithiol (proactive) i gadw trefn ac i sicrhau bod y dewrion yn amddiffyn y llwyth fel y disgrifiwyd uchod. Dyma wraidd paradocs Wrangham ac mae’n cynnig eglurhad ar sawl agwedd o’n natur ddynol ddeublyg. Crynhoir y paradocs yng ngeiriau Harri V yn nrama Shakespeare: 

In peace there’s nothing so becomes a man as modest stillness and humility; but when the blast of war blows in our ears, then imitate the action of the tiger; stiffen the sinews, summon up the blood, disguise fair nature with hard-favor’d rage.

Mae’n werth ystyried y berthynas rhwng damcaniaeth Wrangham ac astudiaethau’r seicolegwyr ymddygiad Daniel Kahneman a Jonathan Haidt a’r niwroffisiolegydd Antonio Damasio. Maent ill tri yn gwahaniaethu rhwng ein hymatebion greddfol uniongyrchol a’n hymatebion mwy pwyllog a meddylgar i symbyliadau a bygythiadau allanol. Yng ngwaith Kahneman, gelwir ein hymateb greddfol – cyfundrefn sy’n adlewyrchu ein rhagfarnau – yn ‘System 1’. Mae Damasio yn cyfeirio at ymddygiad tebyg fel ein hymateb ‘uniongyrchol emosiynol’ ac yn pwysleisio’i fod yn crynhoi, o fewn ennyd, ein cof (rhagfarnllyd) o brofiadau blaenorol perthnasol a’n rhagdybiaethau am y dyfodol. Gwahaniaethir rhwng hyn a’n gallu i ystyried yn fwy gofalus a phwyllog – dyma ‘System 2’ ar waith. Yn ôl Kahneman, gan amlaf rydym yn gyndyn o ddefnyddio ein System 2 lafurus, ymenyddol, ac o’i harfer yn dueddol o’i defnyddio i gadarnhau, yn ffug-resymegol, y penderfyniadau a wnaethpwyd yn reddfol gan System 1. 

Cadarnheir llawer o gasgliadau Kahneman a’i gyfeillion gan Jonathan Haidt yn The Righteous Mind (2013) ac ychwanegir dimensiwn newydd yn ei ddamcaniaeth ynghylch sylfeini moesoldeb (Moral Foundation Theory). Dadleua ein bod yn seilio ein hymatebion fel unigolion, a’n barn ynghylch pa mor dderbyniol a moesol yw ymddygiad eraill yn ein cymdeithas, ar sail pum egwyddor: Gofal, Tegwch, Teyrngarwch, Awdurdod a Phurdeb. Yn ôl y pwysau a roddir ar egwyddorion unigol, daw’r gymdeithas i’w chasgliad cyfunol ynghylch yr hyn sy’n dderbyniol, ac felly’n ‘iawn’. Er enghraifft, gall ystyried ‘erthylu’ fel bygythiad dwys i Burdeb cymdeithas drechu ymlyniad at Degwch neu Ofal. Yn ôl Haidt, fel unigolion rydym yn ysu am fod yn rhan o grŵp mwy a chyd-fynd â moesau a disgwyliadau ein cymdeithasau. Un canlyniad yw teyrngarwch i’n llwyth a’r duedd i wfftio’r ‘arall’, ond cyfyd llawer o dueddiadau eraill, megis ymgrymu i awdurdod, o’r un gwreiddiau. Ys dywed Haidt: ‘Morality binds; morality blinds.’ Mae’r dofi felly’n ein clymu i’n cymdogion ond mae hefyd yn aml yn ein dallu i rinweddau’r ‘arall’. 

Yn fwy diweddar cynigiodd Oliver Scott Curry fframwaith mwy cynhwysfawr, yn cynnwys saith rhinwedd foesol ddisgwyliedig: ymlyniad i’r teulu, ymlyniad i’r grŵp, cymryd a rhoi (reciprocity), gwroldeb, ynghyd â pharch (deference), tegwch ac eiddo. Dadleuir bod yr elfennau hyn yn cwmpasu moesoldeb pob aelod o’r hil ddynol a phob cymdeithas, er bod y cydbwysedd eto’n amrywio o le i le ac o oes i oes. Maent yn hanfodol i’n gallu i gyd-fyw a chydweithio; maent hefyd yn dibynnu ar ein dofi hanesyddol ac ar ffrwyno adweithiau gorwrywaidd a threisgar. 

O dynnu syniadaeth Wrangham a gwaith y seicolegwyr ymddygiad hyn ynghyd, ymddengys i esblygiad y ‘dyn dof’ ymgorffori paradocs creulon. Defnyddiwyd ein galluoedd ymenyddol mwy datblygedig – ein gallu i ymresymu, i ddadansoddi mewn dyfnder ac i gyfathrebu'n gynnil (nodweddion System 2) – i ffrwyno rhai o’r agweddau mwyaf adweithiol ac ymosodol dreisgar sy’n deillio o’n System 1 fwy cyntefig, yn arbennig yn y gwryw. Ond, o ganlyniad, cadarnhawyd rhai elfennau treisgar yn ein hymresymiadau – yn ein System 2. Yn ystod ein cyfnod maith fel helwyr-gasglwyr-cogyddion yn crafu byw, onid oedd yn ‘rhesymegol’ lladd unrhyw un a oedd yn bygwth cydweithrediad y llwyth bach? Onid oedd yn ‘rhesymegol’ lladd cystadleuwyr am adnoddau prin ond angenrheidiol? Onid oedd yn ‘rhesymegol’ cydweithio i ladd anifeiliaid am eu cig? Yn baradocsaidd eto, roedd trais a thwyll, yn ogystal â chydymdeimlad a hunanaberth, yn bwysig i barhad a llwyddiant ein rhywogaeth. Y cyfuniad hwn a enillodd i Homo sapiens y ras esblygiadol ac rydym yn etifeddion ei gryfderau a’i wendidau. Yn gwbl groes i rediad myth ‘diniweidrwydd’ a rhagoriaeth bywyd yng ngardd Eden, ni fu hawddfyd Edenaidd: arweiniodd ein llwybr esblygiadol at fagu nid yn unig greaduriaid mwy dof a chymodlon eu natur na’n hynafiaid pell ond creaduriaid sydd hefyd yn fwy bwriadus giaidd.  

*

Fel Wrangham, credaf ei bod yn hanfodol bwysig gwahaniaethu rhwng ein hanes esblygiadol a’r ymagweddu sy’n addas i ni heddiw. Rhaid bod yn ofalus iawn wrth benderfynu pa wersi a briodolir i’n hanes. Er enghraifft, nid yw damcaniaeth Wrangham ynghylch lladd aelodau gorymosodol cymdeithas yn cyfiawnhau dienyddio drwgweithredwyr gan y wladwriaeth yn y presennol nac yn esgusodi gwladwriaethau os byddant yn ymddwyn yn rhyfelgar ac yn fygythiol. Mae’n werth cofio casgliad Steven Pinker fod trais wedi lleihau ers y Chwyldro Amaethyddol, er gwaethaf erchyllterau’r Rhyfeloedd Byd, y Pogromau a’r Holocost, a’r meysydd lladd yn Cambodia a Rwanda. Erbyn hyn, dewis bwriadol a bwriadus dynoliaeth yw ein hymddygiad a’n safonau moesol. 

Nid yw’r gwaith o ddiwylltio a diwyllio dynoliaeth, ac yn benodol o ddadfarbareiddio’r berthynas rhwng y gwryw a’r fenyw, wedi ei gwblhau o bell ffordd, ond nid yw erbyn hyn yn fater o ddetholiad naturiol bywydegol. Dibynna’r dyfodol ar ein dealltwriaeth a’n diwylliant a’r safonau rydym yn eu mabwysiadu. Yn anffodus, fe welir bron yn ddyddiol y tyndra rhwng apêl cyntefig y gwron gwyllt ac ymddygiad mwy diwylliedig, deallus.

Cychwynnwyd â’r cwymp yn Eden. Yn amlwg ni fu ‘Cwymp’ yn hanesyddol nac yn fiolegol, er bod i’r myth ei rinweddau megis amlygu peryglon gwybodaeth heb foesau. Yn araf, esblygodd dynoliaeth a chynyddodd goddefgarwch a chydweithio er budd llwyddiant ein rhywogaeth. Ond, o dderbyn syniadaeth frawychus Wrangham, gyrrwyd y newidiadau hyn a ffrwynwyd ein hymatebion adweithiol trwy gydweithio i ladd. Lleihawyd dylanwad yr anystywallt gan ddefnyddio, yn eironig, ein galluoedd uwch, rhagweithiol i ddadansoddi ac i gynllunio ac i weithredu ac i ladd yn fwriadus (System 2 Kahneman).

Gan na fu ‘cwymp yng Ngardd Eden’, beth a wneir o ddysgeidiaeth Paul am ‘achubiaeth’ a’r ‘iawn’ trwy’r croeshoeliad ac atgyfodiad Iesu? A ydynt yn amherthnasol? Neu, o ystyried y cyflwr dynol, a oes eto ddirgelion mawr i’w trafod? Pery sawl sialens fawr. Yn yr oes niwclear a chynhesu byd-eang, sut mae ffrwyno ein tueddiad rhagweithiol i ladd, i fygwth ac i dwyllo’n fwriadus a’n hymlyniad adweithiol i’n teulu ac i’n llwyth? Sonnir yn yr emyn am ‘[w]ael, golledig, euog ddyn’. Nid o fewn y ffydd Gristnogol yn unig y gellir dehongli’r geiriau hyn. Parhau y mae’r galw oesol am gyfundrefnau a sefydliadau i’n cynnal, i’n diwylltio a’n hymgeleddu, ni Homo sapiens – yn ein galluoedd a’n ffolineb, yn ein hofnau a’n gorhyder. Gwyrth ein hetifeddiaeth a’n hesblygiad yw bod gan ddynoliaeth y crebwyll i ddadansoddi ac i ymateb i’n problemau, ond yr hunllef yw’r elfennau dinistriol sydd eto’n perthyn i’n natur. 

Fel yn achos ein hymateb i newid hinsawdd, credaf yn gryf fod deall ein hetifeddiaeth esblygiadol ac ymddygiadol yn hanfodol. Rhaid cydnabod ac wynebu’r her a ymgorfforir ynddi. Mae’r dyfodol yn dibynnu, nid ar ein hetifeddiaeth reddfol na’n defnydd o drais bwriadus, ond ar ein gallu i wneud penderfyniadau doeth, diwylliedig – ac i adeiladu cyfundrefnau lleol a rhyngwladol i’w cadarnhau a’u gwireddu.

Cyfrol ddiweddaraf R Gareth Wyn Jones yw Energy – the Great Driver (GPC, 2019).

Onid oedd yn ‘rhesymegol’ lladd cystadleuwyr am adnoddau prin?

Pynciau:

#Rhifyn 14
#R Gareth Wyn Jones
#Esblygiad
#Moesoldeb
#Moeseg