Antonio Damasio


THE STRANGE ORDER OF THINGS: LIFE, FEELING AND THE MAKING OF CULTURES

Pantheon Books, 310tt, £22.50, Chwefror 2018

Antonio Damasio


LOOKING FOR SPINOZA: JOY, SORROW AND THE FEELING BRAIN

Heinemann, 320tt, £20, 2003

Daniel Everett


HOW LANGUAGE BEGAN: THE STORY OF HUMANITY'S GREATEST INVENTION

Profile Books, 325tt, £25, 2017

Jared Diamond


THE WORLD UNTIL YESTERDAY

Penguin, 512tt, £10.99, 2012

Daniel Kahneman


THINKING, FAST AND SLOW

Penguin, 512tt, £10.99, 2011

Ian Morris


WHY THE WEST RULES — FOR NOW

Profile Books, 768tt, £12.99, 2011

Dadansoddi

Ynni, gwaith a chymhlethdod II


R Gareth Wyn Jones

Amser darllen: 20 munud

28·07·2018

Yr Ynys Las. Llun gan Sara Penrhyn Jones

Yn rhan gyntaf yr erthygl hon, a gyhoeddwyd yn rhifyn Gwanwyn 2018 O’r Pedwar Gwynt, amlinellais chwe chwyldro ynni yn hanes y Ddaear (gw. y tabl yn Rhan I). Dadleuais i’r chwyldroadau ynni hyn fod yn greiddiol i ddatblygiad ac esblygiad bywyd ar ein planed. Buont yn gyfrifol am drawsffurfio cyfansoddiad yr atmosffer a’r cefnforoedd ac, i raddau, y lithosffer, dros gyfnod o 4 biliwn o flynyddoedd.

Wrth wraidd fy nadansoddiad mae’r berthynas ffisegol rhwng llif ynni a’r gallu a ddaw yn ei sgil i wneud gwaith ac, o ganlyniad, i greu pŵer – sef y gwaith a gyflawnir mewn uned o amser. O wneud gwaith a defnyddio pŵer, cynhyrchir cymhlethdod materol ac, yn fwy diweddar, gymhlethdod cymdeithasol ac economaidd. Dadleuaf yn y rhan hon o’r erthygl bod fframwaith ddeallusol y chwe chwyldro ynni yn ein cynorthwyo nid yn unig i ddehongli datblygiad bywyd ar y Ddaear ond i ddeall yn well yr argyfwng presennol, hynny yw, her yr hyn a alwaf y seithfed chwyldro, sydd eisoes ar ein gwarthaf.

Cyflenwodd y chweched chwyldro – y Chwyldro Diwydiannol – ynni rhad ar sail llosgi tanwydd ffosil. Arweiniodd hynny at olud anghredadwy i ganran sylweddol o boblogaeth y Ddaear. Ond mae’n glir ers tro, bellach, bod ein defnydd o danwydd ffosil nid yn unig yn halogi ein Daear ond yn peryglu gwareiddiad. Rhyddheir tunelli di-ri o nwyon tŷ gwydr anthropogenaidd i’r atmosffer; gwelir simsanu difrifol yn y cydbwysedd rhwng yr ynni a dderbynnir gan ein planed oddi wrth y haul a’r ynni a adlewychir yn ôl gan y Ddaear i’r gofod. O ganlyniad mae’r byd yn araf gynhesu a’r hinsawdd yn newid ac yn mynd yn llawer mwy anwadal. Byr iawn o amser sydd gennym i ddiddyfnu dynoliaeth o’i dibyniaeth ar ynni hydrocarbonau ffosil.

Yn hanfodol i’n dealltwriaeth o’r berthynas rhwng ynni a chymhlethdod mae’r cysyniad o ‘homeostasis’. Hon yw’r broses sy’n sefydlogi’r stwythurau cymhleth a gyfyd o’r gwaith a ddaw o’r llif ynni. Yn hanesyddol datblygodd ein dealltwriaeth o homeostasis ar sail ymchwil fywydegol. Ond gan ddilyn gweledigaeth y niwrofiolegydd blaenllaw o Bortiwgal, Antonio Damasio, dadleuaf y dylid dehongli llawer o strwythurau cymdeithasol a chyfreithiol dyn fel ymestyniad o’r un cysyniad hwn.

Ar lefel fiolegol, gwyddom fod pob cell fyw yn dibynnu ar homeostasis i sefydlogi a chynnal ei hun fel uned o drefn gywrain, er bod yr amgylchedd o’i chwmpas yn tueddu at anhrefn. Rhaid wrth gyfres o adweithau soffistigedig i sicrhau cydbwysedd mewnol er mwyn i’r gell oroesi a chenhedlu. Dadlennol yw cymharu dylanwad homeostasis ar hirhoedledd cell unigol gyda hynt trobwll mewn afon neu gorwynt trofannol. Adeiladir trobwll lled sefydlog a deinamig mewn afon o grych mewn llif cyflym; hynny yw, mae’r ‘cymhlethdod materol’ lled sefydlog sy’n cael ei greu yn y dŵr yn ddibynnol ar ynni cinetig yr afon. Ond diflanna’r trobwll yn syth os newidir grym y llif. Yn yr un modd, perthyn adeiladwaith rhyfeddol o gywrain – a pheryglus – i gorwyntoedd. Dibynna eu strwythur ar sugno ynni o gefnforoedd cynnes. Eto, os yw’r storm yn croesi dyfroedd oerach neu’r tir mawr ac yn colli ei chyflenwad o ynni, yna diflanna’r adeiladwaith a gostegir y gwyntoedd. Syml a byrhoedlog yw’r strwythurau ffisegol hyn. Dibynna strwythurau ffisegol a bywydegol fel ei gilydd ar lif o ynni ond, yn dyngedfennol, bodau byw yn unig sy’n meddu ar beirianwaith homeostatig – peirianwaith sy’n eu sefydlogi a’u cynnal ac yn eu galluogi i ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd allanol.

Mewn celloedd ‘syml’ procariotig, megis bacteria ac archaea, ni welir isadeiledd amlwg o fewn y gell a amgylchynir gan bilen allanol. O ganlyniad, cyfyngir yr angen am beirianwaith homeostatig i’r berthynas rhwng gofod mewnol trefnus y gell a’r amgylchedd allanol. Mae’r sefyllfa yn fwy cymhleth mewn celloedd ewcariotig, fel a drafodwyd yn rhan gyntaf yr erthygl hon. Mewn celloedd ewcariotig gwelir israniadau o fewn y gell megis meitocondria, cloroplastau, niwclei a’r gwagolion; a phob organel wedi ei hamgylchynu gan bilen. Cyfyd yr angen, felly, am gyfundrefnau homeostatig i sicrhau cydlyniad a chydweithrediad boddhaol rhwng yr organelau a’i gilydd a gyda’r gell yn ei chyfanrwydd. Wrth gwrs, parhau mae’r angen hefyd am reolaeth homeostatig rhwng y gell a’i hamgylchedd.

Hyd heddiw, ceir llaweroedd o greaduriaid ungell ewcariotig (y protistiaid), ond dros sawl can miliwn o flynyddoedd esblygodd creaduriaid aml-gell yn ogystal. Cyfyd her homeostatig newydd yn sgil amlgelledd. Esblygwyd y prosesau homeostatig er mwyn cydlynu nid yn unig weithgaredd y celloedd unigol a’u horganelau, ond swyddogaethau gwahanol fathau o gelloedd ac organau hefyd. Enghraifft led gyfarwydd yw’r corff dynol (a mamaliaid eraill o waed cynnes). Gŵyr pawb am yr angen i reoli cyfansoddiad, tymheredd a phwysau ein gwaed o fewn terfynau cyfyngedig ac am y negeseuon a drosglwyddir trwy gyfrwng yr hormonau yn y gwaed a thrwy ein nerfau i gydlynu gweithgareddau ein cyrff – cyrff sy’n cynnwys cannoedd o wahanol fathau o gelloedd gyda’u swyddogaethau penodol eu hunain a thriliynau o gelloedd unigol. Gwelwn fod yr egwyddor homeostatig yn weithredol ar lefelau uwch, felly, yn ogystal. Syniaf am y camau homeostatig hyn fel cyfres o risiau ‘Grisiau Hierarchiaeth Homeostatig’ – am fod pob gris yn dibynnu ac yn adeiladu ar y gyfundrefn lai cymhleth islaw.
 

Claude Bernard yn y Collège de France, 1888. Darlun gan Léon Augustin L'hermitte (Wikimedia Commons)

Eisoes yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ysgrifennodd y ffisiolegydd enwog o Ffrancwr, Claude Bernard, bod bywyd rhydd ac annibynnol yn dibynnu ar sefydlogrwydd yr amgylchfyd mewnol (‘La fixité du milieu intérieur est la condition d’une vie libre et indépendante.’). Mewn geiriau eraill, ni all anifail fodoli heb homeostasis. Ychwanegwyd dimensiwn newydd i’r cysyniad hwn gan Antonio Damasio. Yn ôl Damasio, rhaid ystyried camau uwch, sef y galwadau homeostatig sy’n codi o’r ffyrdd mae anifeiliaid, gyda’u galluoedd ymenyddol amgenach, yn ymateb ac yn adweithio i’w gilydd ac i’w hamgylchedd. Mae’r prosesau hyn hefyd yn hanfodol i sefydlogrwydd, iechyd a ‘boddhad’ y creadur pan fydd yn cydfodoli mewn grwpiau neu o fewn ‘cymdeithas’. Gan ddilyn teithi meddwl yr athronydd Spinoza, ystyria Damasio bod emosiynau a theimladau mewn anifeiliaid yn deillio o’r awydd creiddiol i osgoi poen ac i goleddu pleser, sef gris arall ar y grisiau homeostatig. Maent yn rhan o’r drefn ffisiolegol/seicolegol sy’n sicrhau parhad a boddhad y creadur. Yr enghraifft glasurol yw’r reddf mewn dyn neu anifail i ddianc neu i ymladd pan fo peryg. Diddorol cymharu hyn gyda gallu cell brocariotig i nofio oddi wrth fygythiad neu tuag at fwyd.

Dengys gwaith Damasio bod modd gwahaniaethu yn ffisiolegol rhwng ein hemosiynau a’n teimladau a bod ein hymatebion emosiynol yn digwydd yn lled ‘ddifeddwl’. Dadleua fod emosiwn yn deillio – yn niwrolegol a ffisiolegol – o integreiddio gweithgaredd ein hymennydd a’n cyrff (yn groes i ddeuoliaeth Descartes). I raddau helaeth mae emosiynau yn codi yn ‘awtomatig’ yn yr ystyr eu bod yn digwydd heb i’r anifail ‘ystyried’ llawer, os o gwbl.

Mae casgliadau niwrofiolegol Damasio yn ategu ac yn cryfhau gwaith seicolegwyr ymddygiadol megis Daniel Kahneman, Amos Tversky a Jonathan Haidt. Dangosodd Kahneman (enillydd Gwobr Nobel Economeg 2002 ac awdur y gyfrol boblogaidd Thinking, Fast and Slow, 2011) fod ymatebion dynol i heriau allanol yn ffurfio dwy ffrwd a elwir ganddo yn Systemau 1 a 2. Mae Kahneman yn galw ein hymatebion sydyn, awtomatig yn ymatebion System 1, tra bod ymatebion System 2 yn dibynnu ar ymbwyllo, myfyrio a rhesymu. Rydym yn hynod amharod, mae’n debyg, i ymwneud â thybiaethau System 2. Tybiaethau System 1, gyda’i hoptimistiaeth, ei rhagdybiaethau a’i rhagfarnau, piau ein penderfyniadau bron yn ddieithriad. O bryd i’w gilydd, trown at dybiaethau System 2 ond gan amlaf, gwneir hynny i geisio cyfiawnhad am benderfyniadau a wnaethpwyd eisoes gan ein tybiaethau System 1. O ystyried y prosesau emosiynol ac ymddygiadol hyn, ynghyd â thystiolaeth Damasio, mae’n rhesymol awgrymu iddynt ddatblygu er mwyn cynnal bywyd mewn grwpiau bychan cyntefig mewn amgylchiadau heriol a pheryg yn ystod y ddwy filiwn o flynyddoedd ers y Pedwerydd Chwyldro.

Fel y gwelsom yn Rhan I, lleihaodd yr amser rhwng y chwyldroadau ynni trawsnewidiol yn rhyfeddol. Mae cannoedd o filiynau o flynyddoedd yn gwahanu’r pedwar chwyldro cyntaf; dim ond tua dwy filiwn o flynyddoedd sydd rhwng chwyldroadau pedwar a phump, a chwta 12,000 o flynyddoedd rhwng y pumed a’r chweched chwyldro. Wynebwn y seithfed chwyldro o fewn 250 mlynedd i’r chweched. Cymerodd y chwyldroadau cynnar amser sylweddol i aeddfedu ac i ymestyn dros y Ddaear. Ond erbyn y chweched chwyldro, gweddnewidwyd ein planed, er gwell neu er gwaeth, mewn ychydig dros ganrif. Mae’r berthynas rhwng ynni, pŵer, cyflymder y datblygiadau a throsiant y cymhlethdodau yn ystyriaeth bwysig. Mae mwy o ynni a phŵer, o gofio’r ffiseg, yn anochel yn cyflymu’r newidiadau yn y byd biolegol a dynol; hynny yw, cyflymir y trosiant.

Dros y blynyddoedd gwelwyd hefyd newid mawr yn neinameg y gystadleuaeth oesol i oroesi ac i genhedlu. Yn y byd procariotig ni cheir rhyw; rhennir genynnau a DNA yn lled rwydd rhwng rhywogaethau ymhlith y bacteria a’r archaea. Yn y byd ewcariotig, ar y llaw arall, cyfyd cyfathrach rywiol a detholiad naturiol Darwinaidd/ Wallacaidd clasurol sydd hefyd yn sicrhau goroesiad y genynnau mwyaf defnyddiol.

Ar ôl y Pedwerydd Chwyldro, roedd y mân rywogaethau Homo hefyd yn wynebu cystadleuaeth Ddarwinaidd. Llwyddodd rhai i oroesi yn rhannol oherwydd eu gallu i resymu ac i gydweithio a, thrwy hynny, gadarnhau’r buddsoddiad ynni mewn esblygiad ymenyddol. Trosglwyddwyd y wybodaeth a’r sgiliau yn y tylwyth o un genhedlaeth i’r llall. Ond fe ddaeth datblygiad i ddibynnu ar etifeddiaeth ddiwylliannol hefyd. Datblygodd y gallu i ddethol a throsglwyddo syniadau a sgiliau, neu ‘memes’ i ddefnyddio terminoleg Richard Dawkins, yn gynyddol arwyddocaol. Gyda datblygiad cymdeithasau trefol yn dilyn y Chwyldro Amaethyddol dwysaodd y gystadleuaeth gymdeithasol rhwng y dinasoedd a rhwng eu harweinwyr. Gwelwyd ymerodraethau milwriaethus yn cystadlu am adnoddau, am bŵer a rhwysg, gan feddiannu’r tiroedd gorau (hynny yw, ennill adnoddau ychwanegol o ynni ffotosynthetig) a gormesu poblogaethau (sicrhau gwaith dynol i’w dibenion eu hunain). Yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, breiniwyd cystadleuaeth mewn gwleidyddiaeth, busnes a diwydiant yn enw Darwiniaeth Gymdeithasol. Parhaodd rheolaeth dros dir a chynnyrch ffotosynthetig i fod yn bwysig ond tyfodd cystadleuaeth gyfalafol, ddiwydiannol a diwylliannol yn gynyddol arwyddocaol.

Er y pwyslais ar ‘gystadleuaeth’, ni ddylid ychwaith anghofio’r elfennau o gydweithio a chydlynu fu’n rhan annatod o’r holl chwyldroadau. Rhain sy’n nodweddu’r uno symbiotaidd sy’n caniatáu meitocondria a chloroplastau o fewn celloedd ewcariotig; y cydweithio soffistigedig rhwng celloedd mewn bodau amlgellog; y cyd-fyw sy’n nodweddu cen a chwrel a llu o enghreifftiau eraill; a’r gallu dynol i resymu a chydweithio. Yn baradocsaidd, felly, mae cydweithio wedi bod, ac yn parhau i fod, nid yn unig yn rhinwedd ynddo’i hun ond yn arf cystadleuol.
 

Explosion 3, 2011 gan Ştefan Ungureanu

Newidiodd natur ‘cystadleuaeth’ o un chwyldro i’r llall ond nid oes tystiolaeth i’r gyneddf i ymgiprys am bŵer leihau. Os rhywbeth, i’r gwrthwyneb: yn ein byd presennol gorseddir cystadlaethau fel nod rhinweddol. Yn ddadlennol, pan gollir rheolaeth homeostatig ar dwf a chydweithrediad celloedd yn ein cyrff, gelwir hynny yn ddadfeiliad, yn ‘gancr’. Ond pan gollir rheolaeth yn y byd masnach neu ym myd gwleidyddiaeth, er i hyn arwain at ormes a rhyfeloedd, yn lled aml adnabyddir yr unigolion sy’n gyfrifol fel ‘arwyr’.

Mae tair agwedd arall yn berthnasol i’r patrymau a ddatgelir gan y chwe chwyldro. Yn gyntaf, er i ddynoliaeth ffynnu yn y Chwyldro Diwydiannol ar gefn ynni ffosil, ni leihaodd ein dibyniaeth ar ynni ffotosynthetig. Dengys gwaith Marc Imhoff a Lahouari Bounoua (2006) bod dyn wedi hawlio, ar gyfartaledd, tuag 20 y cant o gynnyrch ffotosynthetig y blaned ar gyfer ei ddibenion personol erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif. Yn Ewrop, roedd y ffigwr yn uchel, yn 70 y cant; yn Ne Asia roedd yn uwch fyth, yn 80 y cant, er ei fod yn llawer is mewn ardaloedd llai poblog heb ddiwydiannau trwm. Gyda’r twf mewn cyfoeth ac ym mhoblogaeth y byd (o tua 6 biliwn pan gynhaliwyd yr ymchwil gyntaf, gryn ugain mlynedd yn ôl, i dros 7.5 biliwn erbyn heddiw), ofnaf i’n dibyniaeth ar ynni ffotosynthetig chwyddo i’r fath raddau nes peryglu adnoddau byw pob creadur.

Yn ail, mae cymhariaeth o botensial datblygiadol y tri chwyldro cyntaf yn awgrymu bod nenfwd i’r cymhlethdod materol a ganiateir ar bob gris. Analluog oedd bywyd procariotig (cyn ac ar ôl datblygiad ffotosynthesis), yn yr un modd â bywyd wedi esblygiad celloedd ewcariotig, i ddatblygu y tu hwnt i gyrhaeddiad arbennig. Yr oedd cyfyngiad hefyd ar ddatblygiad materol a chymdeithasol yr helwyr-gasglwyr cyn iddynt ddysgu sut i reoli tân, coginio ac ymelwa o’i fanteision. Awgrymwyd gan Ian Morris fod cyfyngiadau tebyg ynghlwm wrth y Chwyldro Amaethyddol. Yn ôl ei ddadansoddiad ef, nid oedd modd i’r gyfundrefn amaethyddol ddatblygu i gynnal mwy na’r llwyddiant economaidd a chymdeithasol a gyrhaeddwyd gan Ymerodraeth Rhufain yn y gorllewin a Brenhinlin Song yn Tsieina. O gyplysu’r dadansoddiadau hyn, ceir awgrym cryf bod i bob un o’r chwe chwyldro ynni ei nenfwd ei hun.
 

Battle for Anthropocene gan Ştefan Ungureanu, 2011

Yn drydydd, rhaid tanlinellu pwysigrwydd llif gwybodaeth. Perthyn trosglwyddiad gwybodaeth i bob un o’r chwyldroadau. Fe’i gwelir yn nhrosglwyddiad y cod genynnol a’r gallu i gynaeafu ynni’r haul a’r fframwaith ewcariotig. Yn dilyn esblygiad ymenyddol Homo gwelir trosglwyddiad gwybodaeth bersonol. Yn ôl Daniel Everett, sbardunodd y pedwerydd chwyldro angen dybryd am ffyrdd amgenach i gyfathrebu. Yn ei dyb ef, i ateb y galw hwn y datblygwyd yr ieithoedd cynharaf, cyntefig. Roeddynt yn fodd i alluogi cydweithio a chyd-drefnu mwy effeithiol. Am bron y ddwy filiwn o flynyddoedd hyn cynhelid y gadwyn esblygiadol nid yn unig trwy gyfrwng rhyw ond hefyd gan y genhedlaeth hŷn yn trosglwyddo gwybodaeth i’r ieuanc. Yn dilyn y Chwyldro Amaethyddol atgyfnerthwyd y trosglwyddiad cymdeithasol trwy ddatblygiad recordio, ysgrifennu a chyfrif. O ganlyniad i ddatblygu’r gallu i ysgrifennu daeth yn bosib, i raddau, i ddiogelu holl sgiliau, hanesion, chwedlau a chredoau y llwythau a’r cenhedloedd. Ar ben hyn, daeth cyfleon i drethu, i reoli’n fwy llym ac i hybu busnes a masnach. Ac erbyn ein cyfnod ni, a hynny’n syfrdanol o gyflym, daeth byd yr algorithmau, y cyfrifiaduron, y ffonau bach a throsglwyddiadau electronig i dra-arglwyddiaethu ar brosesau cyfnewid gwybodaeth, gan glymu’r Ddinas yn Llundain i’r un gyfundrefn â’r pentref mwyaf diarffordd yn y Trydydd Byd.

Rhaid pwysleisio maint y newid yn ein defnydd o ynni a ddaeth yn sgil y Chwyldro Diwydiannol. I gynnal y corff dynol defnyddir isafswm o 2,000 cilocalori y dydd, gydag oddeutu eu chwarter yn cael eu neilltuo ar gyfer yr ymennydd. I gynhyrchu a chyflenwi’r mewnbwn hwn o gilocalorïau defnyddir tua deg gwaith mwy o ynni o’r haul ac o ynni ffosil. Ond i gynnal safon byw presennol Cymro neu Brydeiniwr mae galw am yn agos at 240,000 o gilocalorïau y dydd. Canlyniad y gofyn anferthol am ynni yw cynhyrchu allyriadau enfawr a pheryglus o garbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill.

Rydym i gyd heddiw yn ymwybodol o’r dystiolaeth ddiymwad ynghylch newid hinsawdd anthropogenaidd a’i berthynas â llosgi tanwydd ffosil. Mae gwneud y newidiadau angenrheidiol yn ein ffordd o fyw yn fater o frys ond hefyd yn gymhleth. Yn y seithfed chwyldro, wynebwn her gwbl newydd. Yng Nghytundeb Paris Rhagfyr 2015 cytunodd 195 o wledydd y byd y dylid atal cynnydd cyfartalog o 2°C yn nhymheredd ein byd ac ymdrechu i gadw’r cynnydd at ddim uwch nag 1.5°C. Yn ystod yr El Niño diweddaraf yn 2016, roedd y tymheredd eisoes ~1.2°C yn uwch nag yn Oes Fictoria, sef ar gychwyn cyfnod ymlediad y Chwyldro Diwydiannol drwy’r byd. Wrth reswm,felly, hyd yn oed heb y llusgo traed a di-frawder yr Arlywydd Trump a’i debyg, mae’r amser i weithredu yn frawychus o brin. Cwta ugain mlynedd sydd gennym i gyflawni uchelgais Paris a gwireddu’r seithfed chwyldro; ugain mlynedd i fabwysiadu ffyrdd di-garbon o gynhyrchu ynni, i reoli’r cynnydd yn nhymheredd y byd ac osgoi trychinebau cyfan gwbl apocalyptaidd. Mae cymharu’r amserlen hon gyda’r cyfnod o 250 o flynyddoedd ers dechrau’r Chwyldro Diwydiannol a’r 12,000 o flynyddoedd ers y Chwyldro Amaethyddol yn sobri dyn.

Rhaid tynnu sylw at rai ffeithiau ysgytwol eraill. Mae’r carbon deuocsid cynyddol a gynhyrchir gan ein ffordd o fyw yn dosbarthu’n gyflym trwy’r atmosffer ac yn parhau yn yr atmosffer am gyfnod cymharol hir (›100 mlynedd). Mae’r allyriadau mewn un rhan o’r byd yn cael effaith ar y Ddaear yn ei chyfanrwydd ac yn parhau yn yr atmosffer am genedlaethau. Cyfanswm yr allyriadau ers y chweched chwyldro yw’r ystadegyn tyngedfennol. Goblygiadau hynny yw po fwyaf poblogaeth y byd, lleiaf y ddogn a ganiateir i bob unigolyn. Hefyd, po fwyaf ein hallyriadau presennol, lleiaf yr allyriadau y bydd yn ddiogel i’n plant ac i blant ein plant eu cynhyrchu. Nid yw’r allyriadau rhyngwladol a gynhyrchir y pen yn agos at fod yn gyfartal. Yn gyffredinol, po gyfoethocaf y wlad (a’r unigolyn), mwyaf yw ei hôl-troed carbon (gwerth nodi bod Gwledydd Llychlyn, i raddau, yn eithriad). Felly, i gyrchu ateb i her yr hinsawdd ac i geisio rheoli a rhannu ein hadnoddau cyffredin yn rhesymol deg, rhaid wynebu’r anghyfartaledd dwys sy’n bodoli rhwng pobl, gwledydd a chenedlaethau.

Soniais eisoes am waith Damasio a Kahneman a’n hymateb greddfol, homeostatig i symbyliadau neu gyffyrddiadau allanol. Nodais fod y rhain, i raddau helaeth, yn awtomatig ac yn dilyn tybiaethau System 1 Kahneman. Y tueddiad yw i ni fod yn llwythol-blwyfol, yn or-optimistaidd, yn rhagfarnllyd, i fyw i’r funud ac yn gyndyn neu’n analluog i drin gwybodaeth ystadegol a risg hir-dymor. Rydym yn blaenoriaethu cadw yr hyn sydd gennym lawer mwy na chwenychu enillion posib yn y dyfodol. Bathodd Kahneman y term WYSIATI i grynhoi ein hymddygiad: ‘What you see is all there is!’ Mae ymgodymu â phroblemau newid hinsawdd yn herio ein rhagdybiaethau, yn gofyn am ddadansoddiad manwl ystadegol, asesiad o risg anweledig, hir-dymor, a chydymdeimlad trawsffiniol a thrawsgenedlaethol. Y tebygrwydd yw y bydd rhaid i fywydau y mwyaf breintiedig hefyd newid. Nid syndod felly bod sicrhau consensws gweithredol rhyngwladol yn anodd – mae’r drwg yn ein genynnau.

Yn ail, er i gyfalafiaeth a chwmnïau ragddyddio’r Chwyldro Diwydiannol, heb os bu’r ynni a’r pŵer a ddatblygodd yn sgil y chwyldro hwn yn gatalydd grymus i’r gyfundrefn gyfalafol, i’r twf anhygoel yn ei chyraeddiadau ac, yn llawn mor rhyfeddol, yn y boblogaeth ddynol. Datblygodd cyfundrefn economaidd a gwleidyddol sydd, fel ‘top’ plentyn, yn ansefydlogi wrth arafu. Yn waeth, o fewn ein trefn economaidd rhaid i’r economi dyfu a chyflymu’n flynyddol i sefydlogi. O ganlyniad, yn ystod yr ugeinfed ganrif, traflyncwyd mwy a mwy o adnoddau ac ynni. Mae’n hynod anodd, felly, dianc oddi ar yr olwyn droed hon heb ddatgymalu’r holl gyfundrefn. Ymateb y rhai sy’n credu’n gryf yn rhagoriaethau’r drefn gyfalafol, megis yr Arglwydd Lawson a’r Global Warming Policy Foundation, yw gwadu realiti newid hinsawdd a chynghreirio gyda’r rhai sydd yn elwa o ddiwydiannau llosgi hydrocarbon i hau amheuon.

Yn drydydd, mae’n werth ystyried beth fyddai’r canlyniadau pe datblygid digonedd o ynni rhad, di-garbon. Oni fyddai hyn, yn ôl tystiolaeth y chwe chwyldro blaenorol, yn cyflymu’r holl brosesau sy’n ychwanegu at gymhlethdodau materol a chymdeithasol ein byd a’n bywydau unigol? Un canlyniad anochel fyddai diflaniad llawer o’r hyn sy’n weddill o fyd natur. Soniais eisoes ein bod, fel dynoliaeth, er ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, yn manteisio ar fwy a mwy o ynni ffotosynthetig y byd. Yn ôl pob tebyg, byddai ffynhonnell ynni ddi-garbon a diwaelod yn cyflymu trosiant yr economi a’n defnydd o adnoddau eraill y blaned ac yn caniatáu poblogaeth ddynol ymhell dros ddeg, o bosib hyd at ugain biliwn. Byddai hyn, yn anochel, ar draul gweddill y biosffer.

Beth fyddai effaith naid arall mewn cyflymdra a chystadleuaeth ar foddhad a lles y ddynoliaeth? Pregethir cenadwri cystadleuaeth gan ein gwleidyddion ond prin y cydnabyddir bod i bob cystadleuaeth ei chollwyr yn ogystal â’i henillwyr. Pregethir cenadwri twf diddiwedd heb gydnabod ei oblygiadau. Rhaid cofio bod gan gyfundrefnau cymhleth eu nodweddion arbennig eu hunain a ymgorfforir yn namcaniaeth Caos. Ystyr hyn yw y gallasai cryniadau bychan lleol ysgogi cyfnewidiadau anferthol, annisgwyl ym mhen arall y byd. Gallasai peryglon cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd anrhagweladwy ddeillio o’r cymhlethdod ychwanegol a’i ansadrwydd. Yn ogystal, rhaid codi amheuon am yr effeithiau ar iechyd meddwl Homo sapiens – ‘y dyn doeth’. Heb os, mae Homo sapiens yn greadur hynod hyblyg gyda galluoedd annisgwyl ac amrywiol ond mae’r dystiolaeth o draul y byd aflonydd presennol ar foddhad ac iechyd meddwl oedolion a phlant yn cynyddu.

Dengys ymchwil anthropolegol bod grwpiau cyntefig yn cydweithio’n glòs er mwyn goroesi ond, o berchnogi adnoddau ychwanegol, maent yn amddiffyn eu mantais hyd yr eithaf (gw. Jared Diamond, The World until Yesterday). Gwelir meddylfryd debyg yng nghestyll y Canol Oesoedd neu mewn cymunedau heddiw y’u gwarchodir gan giatiau caeedig, er enghraifft yn Ne Affrica a’r Unol Daleithiau, ac yn rhethreg rhai o’n gwleidyddion – ‘taking back control’ neu ‘America first’ – sloganau System 1 perffaith. Defnyddiwyd Darwiniaeth Gymdeithasol i gyfiawnhau’r cysyniad fod rhai pobloedd yn fwy teilwng na’i gilydd ac yn haeddu adnoddau gwell na’u cydddyn llai ffodus. O goleddu’r athroniaeth hon yng nghyd-destun newid hinsawdd, wynebir galanastra. Mae Cytundeb Paris, er gwaethaf ei ffaeleddau, yn ymwrthod â’r feddylfryd hon ac yn derbyn bod cydweithio a rheolaeth ryngwladol yn hanfodol.

Er gwaethaf fy nadansoddiad tywyll, mae gan y chwe chwyldro ynni, a’r ‘Grisiau Hierarchiaeth Homeostatig’, eu negeseuon gobeithiol. Drwy’r milenia gwelir bod llinyn aur cydweithredu a chyd-dynnu hefyd yn rhedeg drwy hanes. Sylfaen hyn oll, mi dybiaf, yw gofynion homeostatig celloedd a bodau byw, gan gynnwys Homo sapiens a’i gymdeithasau cymhleth. Dyfynna Domasio o waith Spinoza: ‘Mae pob un peth, i’r graddau y mae hynny o fewn ei allu, yn ymdrechu i warchod ei fodolaeth ei hun’ ac ‘Yn greiddiol i’r cysyniad o rinwedd mae’r ymdrech i warchod yr hunan ac mae hapusrwydd yn gyfystyr â gallu dyn i warchod yr hunan.’

 

 

 

Y Grisiau Hierarchiaeth Homeostatig


Fe ellir dehongli hyn fel sylfaen hunanoldeb a thrachwant, ond camddealltwriaeth ddybryd fyddai hynny o syniadaeth Spinoza a Domasio. Fel y nodais, ystyria Domasio fod ein hymatebion emosiynol a theimladol yn binacl pyramid rheolaeth homeostatig fywydegol. Eu prif amcan yw diogelu ein dynoliaeth, ein hunaniaeth a’n bodlonrwydd. Y gamp yw byw bywyd iach, dymunol a theilwng ac i wneud hynny o fewn cydbwysedd homeostatig sy’n ymestyn o lefel y gell unigol i’r unigolyn, ac i’r gymdeithas a’i hamgylchfyd.

Ymddengys nad yw’r cyfundrefnau homeostatig a esblygodd i ateb galwadau bywyd bregus llwythau bach ein hynafiaid yn addas i’n byd integreiddiedig, egnïol, tra-chystadleuol, digidol a thechnolegol. Ymddengys hefyd nad yw ein cyfundrefn gyfalafol, brynwriaethol yn gydnaws ag iechyd ein planed nac, o bosib, iechyd dynion a merched, er i filiynau freuddwydio y byddai’r drefn hon yn eu rhyddhau o gadwyni tlodi.

Athrylith dynoliaeth, ar y llaw arall, yw ei gallu i ddadansoddi (System 2), i ailfeddwl ac i ddilyn llwybrau amgenach. Mae gennym y gallu i ddatblygu cyfundrefnau yn ogystal â thechnolegau newydd. Yr her greiddiol yw argyhoeddi pobl bod hyn nid yn unig yn bosib ond yn gwbl angenrheidiol.

Ofnaf nad oes llawer o obaith osgoi cynhesu byd-eang i o leiaf 2°C, ar gyfartaledd. Bydd yr ymateb i’r seithfed chwyldro yn rhy araf ac, o ganlyniad, bydd rhaid addasu i newidiadau niweidiol. Ond erys rhai cwestiynau mawr. A gyraeddasom benllanw’r gyfres o chwyldroadau ynni – chwyldroadau sydd wedi ymestyn dros 4 biliwn o flynyddoedd, pob un ohonynt yn trosi mwy fyth o ynni yn waith a phŵer, yn gymhlethdod materol neu gymdeithasol, ac yn cyflymu curiad bywyd? Pe llwyddid i gynhyrchu digonedd o ynni a phŵer di-garbon, oni fyddai hynny’n arwain at greu cymhlethdodau materol a chymdeithasol pellach a fyddai mor enbyd nes lleihau, yn hytrach na chynyddu, ein buddiannau a’n lles?

Oni fyddai pwyllo a byw yn effeithlon ar lawer llai o ynni yn gam i’r cyfeiriad iawn ac yn cynnig gwell dyfodol i’r ddynoliaeth? Mae wynebu’r seithfed chwyldro yn gyfrwng i ailystyried taith dynoliaeth a’n blaenoriaethau. A all y ‘primat doeth’ ddarganfod ffyrdd amgenach o drefnu cymdeithasau’r dyfodol?

 

 

Diolch i John Llew Williams am ei gymorth anhepgor gyda’r erthygl hon.


Mae R Gareth Wyn Jones yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Bangor.

Mae rhannu o’r erthygl hon yn seiliedig ar ddarlith Edward Lhuyd a draddodwyd gan R Gareth Wyn Jones ym Mangor ym mis Tachwedd 2017, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r awdur yn diolch i’r ddau sefydliad am eu cefnogaeth. Ynni, Gwaith a Chymhlethdod (Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2017) ISBN 978-1 911528-11-1; https://goo.gl/vQhn12

Yr ail lun: Battle for Anthropocene gan Ştefan Ungureanu, 2011.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Beth fydd effaith naid arall mewn cyflymdra a chystadleuaeth ar foddhad a lles y ddynoliaeth?

Dyddiad cyhoeddi: 28·07·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Jane Aaron

Mae’r elw o werthiant y nofel hon yn mynd tuag at helpu ffoaduriaid rhyfel. Dyna’r hyn mae prif gymeriad Llinynnau, Ceridwen Jeremy, yn ei wneud hefyd, wrth iddi roi lloches yn ei chartref yng nghefn gwlad Ceredigion i ffoaduriaid o’r rhyfel yn Syria, yn ogystal â…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

Bydoedd pell oedd y rhai a lygrwn i, a 'machau ar gontrol pad fy arddegau. Saethu hwrod ar draeth yn Miami; trywanu ellyllod yn Hyrule a Spira, achub Zelda; a liw nos, a'r dref yn dawel, esgyn o'r sybmarîn i hel Natsïaid ynghyd a'u llosgi â'm fflamdaflwr rhwng y sgwâr a'r stryd ... 

Cyfweld


Esyllt Angharad Lewis

Mae Mary Lloyd Jones wedi arddangos yn rheolaidd ers y 60au, yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Mae ei gwaith i'w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Bu’n gweithio fel artist preswyl yn yr Iwerddon, Philadelphia, Vermont, yr Eidal, Catalwnia, Rajasthan, yr Alban a Llydaw. Ceir arddangosfa o'i gwaith (25 o baentiadau) yn Oriel Tegfryn,…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

O le dwi’n sbio lawr fan hyn, mae pethau’n edrych yn ddu braidd, a gormod rywsut o bren i adael i’r balŵn hwn adael y ddaear; iddo fedru hedeg hyd yn oed o lenwi’r siambar, sori, mor llawn o aer poeth â hyn ... 

Cyfansoddi


Ruth Richards

‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’ ​Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a…

Dadansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Yn y byd cyhoeddi, nodir yr Hydref gan Ffair Lyfrau Frankfurt sydd, gyda llaw, yn arddel ei henw swyddogol Almaeneg, Frankfurter Buchmesse, hyd yn oed wrth gyfathrebu’n Saesneg ac yn rhyngwladol. Dyma ganolbwynt y farchnad ar gyfer y diwydiant hwn, gyda dros 7,000 o stondinwyr, 10,000 o newyddiadurwyr,…

Adolygu


Dyfrig Williams

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am…

Cyfansoddi


Frank Olding

Casgliad Frank Olding ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad o'r cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018.