Adolygu

Llongddrylliadau

Ailddychmygu Cristnogaeth

Anerchiadau a phapurau cynhadledd ‘dechrau o’r newydd’, Aberystwyth

Cristnogaeth 21 (Agora), Gwanwyn 2019

Ioan Talfryn

Lluoedd Duw a Satan

Tao Sôn, ioantalfryn.tumblr.com

John Gray

Seven Types of Atheism

Penguin, 170tt, £17.99, 2018

Cynog Dafis

Amser darllen: 12 munud

11·12·2020

Bwda yn Bago, Myanmar, 2009 (Llun: Chien-Chi Chang)

I Ioan Talfryn, ac yn sicr i genhedlaeth ei blant, mae’r drws yn prysur gau am byth ar Gristnogaeth. Dyna fan cychwyn ymresymiad yr awdur yn ei erthygl, ‘Lluoedd Duw a Satan’, a gyhoeddodd ar ei flog ddechrau 2020 yn ymateb i drafodion cynhadledd ‘Dechrau o’r Newydd’ a gynhaliwyd dan nawdd Cristnogaeth 21, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion yn Aberystwyth y llynedd. Byrdwn y gynhadledd honno oedd ystyried sut y gellid ailddychmygu Cristnogaeth ar gyfer yr 21g – rhywbeth y ceisiodd Aled Jones Williams a finnau ei wneud yn ein cyfrol Duw yw’r broblem (2016). 

Diddorol, fodd bynnag, yw’r ffaith bod Ioan Talfryn yn lliniaru ei sgeptigiaeth ag elfen gref o empathi â pherwyl Cynhadledd ‘Dechrau o’r Newydd’. Cafodd yr awdur a’i wraig ill dau fagwraeth Gristnogol. Ond penderfynwyd peidio â throsglwyddo’r ffydd i’w plant. Y tramgwydd blaenaf iddyn nhw oedd methiant llwyr theodiciaeth (ymdrech y diwinyddion i gysoni bodolaeth Duw cariadus â’r dioddefaint ‘sy’n rhan annatod o’r cread’) i’w hargyhoeddi. Ond mae beirniadaeth Talfryn o Gristnogaeth, a hynny ar seiliau gwyddonol a hanesyddol, yn llawer iawn mwy pellgyrhaeddol na hyn. Mae’n defnyddio gwyddor seicoleg esblygiad i geisio esbonio tarddiad credoau crefyddol ac yn cyfeirio at ddau ffactor esblygiadol penodol a fu’n allweddol yn hynny: ofn, a’r gallu, drwy iaith, i lunio stori. 

Yn yr un modd â’r gallu i atgynhyrchu, roedd ofn fel ymateb i berygl yn hanfodol i oroesiad dyn. Trwy broses dethol naturiol, fe ddaeth ofn yn rhan greiddiol o’n cynhysgaeth esblygiadol. Yna, trwy ddatblygu iaith daeth Dyn i allu esbonio a cheisio meistroli’r byd o’i gwmpas. Rhan allweddol o hyn yw’r gynneddf i adrodd stori neu chwedleua (‘wilia’ yn nhafodieithoedd y de-ddwyrain – gair Cymraeg hŷn, fe ddichon, na ‘siarad’). Y cyfuniad hwn o ofn a’r duedd i esbonio drwy adrodd storïau dychmyglawn a chwedlau sy’n esbonio’r gred mewn bodau goruwchnaturiol – cred sydd, yn ôl pob tystiolaeth, yn hollbresennol yn niwyllannau dynolryw. Felly y daeth crefydd, o’i diffinio’n eang, yn elfen angenrheidiol yn esblygiad naturiol a datblygiad diwylliannol ein rhywogaeth ni.

Mae Ioan Talfryn yn mynd ymlaen i drafod y berthynas rhwng emosiwn a rheswm yn ein cyfansoddiad seicolegol, sy’n dod yn gynyddol arwyddocaol wrth i Ddyn dyfu’n greadur llwythol-gymdeithasol a chydweithiol. Mae’n go amlwg, meddai, mai emosiwn a ddaeth gyntaf ac sy’n parhau i reoli ein hymddygiad. O’i fynegi’n gryno: ein tuedd ni, blant dynion, yw teimlo a chredu’n gryf ac yna gyfiawnhau ein safbwynt a’n safiad drwy resymegu. Swyddogaeth y gallu hwn i resymegu’n rymus-effeithiol yw galluogi rhai unigolion i ddylanwadu ar ymddygiad gweddill y grŵp, boed yn deulu neu lwyth neu genedl. Mae hyn, meddai’r awdur, yn agos-gysylltiedig â’n ‘tueddiad cryf tuag at gydweithio mewn-lwythol a chystadlu all-lwythol milain’. Ymhellach, ynghyd â’n tueddiad naturiol i fuddsoddi’n drwm yn emosiynol yn y credoau y’n magwyd i’w coleddu, dyma sydd yn esbonio amharodrwydd credinwyr i ymwadu â’r credoau hynny, hyd yn oed pan fo tystiolaeth yn llethol yn eu herbyn, fel yn achos rhai grwpiau ffwndamentalaidd, ac yn yr un modd i brofi rhyw alar dirdynnol ar eu hôl, fel yn achos grwpiau mwy rhyddfrydig.

Mae’r awdur yn symud ymlaen i herio’r apologia gyfarwydd bod Cristnogaeth yn fudiad cwbl ddiddrwg a thangnefeddus tan i’r fargen Ffawstaidd ag Ymerodraeth Rhufain ei wthio i gyfeiriad erledigaeth a thrais. Yn groes i’r apologia honno, meddai, o’r cychwyn cyntaf daeth yn arfer i esgymuno sectau lleiafrifol o fewn yr Eglwys Fore er mwyn cadarnhau’r proto-uniongrededd a ddaeth maes o law yn sylfaen i gredo swyddogol Eglwys Rhufain yng Nghredo Nicea. Cafwyd tystiolaeth o’r erlid hwn ar ‘heresïau’ yn yr efengylau amgen, Gnostigaidd, a ddarganfuwyd mewn ogof y tu allan i dref Nag Hammadi yn yr Aifft yn 1945.  

Roedd tri ffactor penodol, yn ôl Talfryn, yn gyfrifol am dwf rhyfeddol Cristnogaeth, hyd yn oed cyn i Gystennin roi sêl ei fendith arni ac i Theodosius ei gwneud yn grefydd swyddogol yr Ymerodraeth yn y flwyddyn 385: cred apocalyptaidd yn ailddyfodiad Crist; ymroddiad Paul i genhadaeth y tu allan i’r gymuned Iddewig; ac undduwiaeth fel credo unigryw o fewn diwylliant Rhufeinig amldduwiol go oddefgar. Roedd y duedd at anoddefgarwch ac erledigaeth, y rhoddwyd hyrfa steroidaidd iddi maes o law gan Rufain, ymhlyg felly o’r cychwyn yn y syniad o wirionedd datguddiedig terfynol yng Nghrist. Yn y modd hwn yr esgorwyd ar erchyllterau arswydus megis y Croesgadau, gwrth-Iddewiaeth, y Chwilys a’r lladdfeydd gwaedlyd a welwyd yn sgil y Diwygiad Protestannaidd.

Wel, dyna ddadadeiladu Cristnogaeth yn go ddidostur, a gallai’r awdur fod wedi ei gadael hi ar hynny. Ond nid felly. Serch ei sgeptigiaeth am yr ymdrech i ‘ailfrandio Cristnogaeth fel myth’, mae ganddo’r ‘parch mwyaf at y Cristnogion modern, goddefgar hynny sy’n ddiffuant yn byw eu Cristnog-aeth’ ac o blaid ymgynghreirio â hwy yn wyneb ‘y casineb a’r diffyg goddefgarwch sy ar gerdded ar draws y byd’.

Ymhellach, mae’n cynnig syniadau ynghylch sut y gellid o bosib ‘anadlu anadl einioes newydd i mewn i Gristnog-aeth Cymru’. Yn gyntaf, dylid edrych am arweiniad gan grefyddau’r Dwyrain – Bwdïaeth, Daoaeth, Shinto a Chonffiwsiaeth – a’u pwyslais pragmataidd ar yr hyn sy’n gweithio yn hytrach na’r hyn y mae gofyn i’r ffyddloniaid ei gredu. Mae yntau wedi mabwysiadu ymarfer Daoaidd (Dao = Y Ffordd) o sefyll mewn osgo arbennig am gyfnod estynedig o amser. Po fwyaf o’r ymarfer mae’n ei wneud, meddai, ‘mwya cynganeddus a thawel dw i’n ei deimlo a lleia tebygol ydw i o wylltio’n gacwn … a chreu gwrthdaro diangen’. Mae’n cymeradwyo ‘pwyslais yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ar via negativa y traddodiad apophataidd’ ac yn awgrymu bod y Crynwyr ar y trywydd iawn. O blith papurau Cynhadledd ‘Dechrau o’r Newydd’ mae’n canmol yn arbennig gyfeiriad Huw L Williams at ddirnadaeth Morgan Llwyd o Dduw fel Dim, y ‘dyfnder llonydd’ y mae pob peth wedi tarddu ohono.

*

Negeseuon wedi eu gosod o dan goeden ddwyfol yng nghreirfa Oyashimo Shinto, Izumo, Japan (2000)
 

Yn Ioan Talfryn mi welwn rywun a gefnodd yn benderfynol ar Gristnogaeth ei blentyndod ond sy’n cydnabod bod crefydda yn wreiddiol yn natur Dyn; a ddaeth o hyd i fodd o ddiwallu’r angen gwreiddiol hwn drwy ymarfer y Dao; ac sy’n sylwi gyda diddordeb ar yr ymdrech gan Gristnogaeth 21 a Chynhadledd ‘Dechrau o’r Newydd’ i ailddyfeisio Cristnogaeth. Ar lawer ystyr mae persbectif yr athronydd atheistaidd o Sais John Gray yn drawiadol o debyg iddo, ond heb yr ymdeimlad o fagej cenedlaethol sy’n esbonio’r islais lleddf a’r engagement cymdeithasol a gawn yn ‘Lluoedd Duw a Satan’. Yn ogystal â’i theistiaeth undduwiol mae Gray yn gweld dau ddiffyg gwaelodol mewn Cristnogaeth. 

Y cyntaf yw’r honiad ‘bod iachawdwriaeth dyn ynghlwm wrth ddigwyddiadau hanesyddol penodol, sef bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu’ nad oes unrhyw dystiolaeth hanesyddol gadarn iddyn nhw. Yn hyn mae Cristnogaeth yn wahanol i grefyddau megis Bwdïaeth, Taoaeth a Hindwaeth a myrdd o grefyddau amldduwiol eraill nad oes disgwyl i’w dilynwyr dderbyn yn ffeithiau gwrthrychol yr holl chwedlau sy’n rhan o’u traddodiadau. Ychydig a wyddys i sicrwydd am yr Iesu hanesyddol, ond y tebygrwydd yw, meddai Gray, nad efe oedd sylfaenydd Cristnogaeth, na honnodd erioed mai ef oedd y Meseia ac mai at yr Iddewon, nid y Cenhedloedd, yr anelodd ei neges am ddyfodiad buan teyrnas nefoedd ar y ddaear. 

Mae ail feirniadaeth Gray yn fwy damniol. Trwy i’r Eglwys Fore, dan ddylanwad Paul, droi Cristnogaeth yn gwlt, yr oedd disgwyl i’w aelodau dderbyn nad proffwyd oedd Iesu ond Duw yn y cnawd, ac ‘fe osodwyd y llwyfan ar gyfer milenia o wrthdaro’. Cyfystyru ffydd (yn yr ystyr o ymddiriedaeth) â chredo ‘a fu prif ffynhonnell y trais athrawiaethol a anrheithiodd wareiddiadau’r gorllewin fyth wedyn’. Ar y llaw arall, wrth ailddiffinio crefydd yn fater o gredo ac argyhoeddiad mewnol yn hytrach na defodaeth gyhoeddus, plannodd Cristnogaeth yr egwyddor y dylid gwahanu’r Eglwys a’r Wladwriaeth. Eiddo Cesar i Gesar ac eiddo Duw i Dduw. O’r had hwnnw y tyfodd y syniad o ryddid nad oedd yn bod o gwbl yn yr hen fyd ond y bu ei ddylanwad yn bellgyrhaeddol ac yn gynyddol dros y ddau fileniwm nesaf.

Os yw dyfarniad Gray ar Gristnogaeth yn llym (ac mae ganddo fwy na’r uchod i’w ddweud ar y pwnc), mae ei lach ar y mwyafrif o atheistiaid yn drymach o lawer. O’r saith math o atheistiaeth y mae’n eu trafod yn ei gyfrol, mae pump ohonyn nhw yn ‘atgas’ ganddo.

Mae’n trin ei gategori cyntaf, yr ‘Atheistiaid Newydd’, y trafodwyd eu syniadau yn Duw yw’r broblem [gw. hefyd Dylan Llŷr, Marchogion cibddall a Giovanni Tiso, ‘Â thanbeidrwydd crefyddol’ – gol.] – Sam Harris, Richard Dawkins, Christopher Hitchins ac eraill – â dirmyg, gan eu cyhuddo o ‘aildwymo cecreth Fictoraidd rhwng gwyddoniaeth a chrefydd’. Eu camddealltwriaeth sylfaenol, meddai, yw trin crefydd fel ‘damcaniaeth wallus’, yn bennaf ynghylch bodolaeth Crëwr goruwchnaturiol. Eithr nid tanysgrifio i gyfres o athrawiaethau yw hanfod crefydd ond ymroi i ddefod ac ymarfer. Hyd yn oed o fewn Cristnogaeth, sy’n bennaf cyfrifol am y syniad o uniongrededd athrawiaethol, mae traddodiadau i’w cael – diwinyddiaeth negyddol neu apoffatig Eglwys Uniongred y Dwyrain, er enghraifft – sy’n mynnu bod Duw y tu hwnt i unrhyw gysyniadaeth ddynol. Mynnodd Thomas o Acwin, hyd yn oed, nad yw Duw’n bod yn yr un ffordd ag y mae unrhyw beth penodol yn bod. Dyma’r Atheistiaid Newydd felly wedi codi cocyn hitio ffug er mwyn ei fwrw i lawr, gan anwybyddu yn ogystal y crefyddau dwyreiniol, Bwdïaeth yn benodol, nad yw’r syniad o Fod Mawr yn perthyn iddyn nhw o gwbl.

Mae Gray yn arbennig o feirniadol o’r Atheistiaid Newydd am ffaelu â chydnabod y berthynas rhwng crefydd a moeseg. Mae Sam Harris o blaid datblygu ‘gwyddor da a drwg’ ac yn cymryd y byddai hynny’n arwain yn anochel at bwyslais ar gydraddoldeb ac ymreolaeth unigol. Mae hyn yn gamsyniad sylfaenol, meddai Gray: ‘Does dim modd i wyddoniaeth gau’r bwlch rhwng ffeithiau a gwerthoedd.’ O fewn Iddewiaeth-Cristnogaeth y meithrinwyd y syniad o ryddid, a’r ‘mwyaf gelyniaethus y mae’r meddwl seciwlar i grefydd Iddewig a Christnogol, lleiaf tebyg ydyw o fod yn rhyddfrydig’. Mae’n drawiadol, meddai, nad yw goddefgarwch yn amlwg yn y gwerthoedd a hyrwyddir gan yr Atheistiaid Newydd ac yn arwyddocaol bod Sam Harris yn fodlon cyfiawnhau arteithio ar y sail y gall fod yn rhaid wrth hynny i amddiffyn rhyddid. Beth bynnag fo barn dyn ar y mater hwn, meddai Gray, ‘all gwyddoniaeth ddim penderfynu p’un a oes modd cyfiawnhau arteithio, neu beidio’.   

Camsyniad mawr yr ail gategori, sef y Dyneiddwyr Seciwlar, yw iddyn nhw ar y naill law ymwrthod â chrefydd ond yr un pryd, yn ddiarwybod iddyn nhw eu hunain, lyncu’n grwn y syniad Cristnogol o iachawdwriaeth Dyn a’i addasu ar ffurf y syniad o Gynnydd. Yn ôl Gray, does dim rheswm yn y byd dros gredu ym myth Cynnydd. Cylchol, nid llinellol, yw hanes gwareiddiad, meddai: cyfnodau o welliant a chyfnodau o ddirywiad yn dilyn ei gilydd.

Cyferbyniol iawn eu natur yw arddelwyr ffydd Cynnydd. Dyna i chi John Stuart Mill a’i gred yn nhra-arglwyddiaeth rheswm, neu ei fab bedydd Bertrand Russell a’i weledigaeth o baradwys ddaearol wrth i Ddyn fanteisio ar ddarganfyddiadau gwyddoniaeth a thechnoleg. Ar y llaw arall, dyna’r athrylith Rwsiaidd sinistr Ayn Rand, ag ôl syniadaeth Nietzsche ar ei gwaith, a’i hatgasedd at allgaredd, elfen greiddiol yn y foeseg Gristnogol. Yn ôl Gray, serch ‘hurtrwydd ei fersiwn hi o atheistiaeth’, cafodd ei chwlt ddylanwad mawr iawn yn yr Unol Daleithiau, lle’r ymfudodd yn 1925. Ymysg ei hepil deallusol mae’n rhestru’r Tea Party (ffrwyth priodas anghymharus rhwng syniadau Rand a ffwndamentalwyr Cristnogol) ac Alan Greenspan, cyn-gadeirydd y Gronfa Ffederal yr arweiniodd ei ideoleg neoryddfrydol at Ddymchweliad Ariannol 2008–9. Am y bagad brith hwn o feddylwyr, meddai Gray, ‘Yn ddieithriad, roedd yr atheistiaid hyn yn argyhoeddedig eu bod yn hyrwyddo achos dynoliaeth. Ym mhob achos, rhith yn eu dychymyg nhw oedd y rhywogaeth yr oedden nhw’n credu eu bod yn hyrwyddo ymdaith ei chynnydd.’

Atheistiaid a goleddodd ‘ffydd ryfedd mewn gwyddoniaeth’ yw testun y bennod nesaf, lle mae Gray yn bwrw golwg ar ‘hiliaeth wyddonol’ H G Wells a Julian Huxley; yr hiliaeth a’r wrth-semitiaeth a oedd, meddai, yn ganolog yn syniadau meddylwyr yr Oleuedigaeth, gan gynnwys Hume, Kant a Voltaire; a gwyriadau gwyddonol megis Mesmeriaeth. ‘Prosiect o hunan-ddwyfoli dynol,’ meddai Gray yw trawsddyneiddiaeth (transhumanism), y syniad (sy’n cael ei hyrwyddo, er enghraifft, yn Sapiens a Homo Deus, Yuval Noah Harari) y gall dynoliaeth, drwy ryfeddodau technoleg, lywio’i hesblygiad ei hun. Dydy Gray ddim yn amau dichonoldeb trawsnewidiol y dechnoleg ond mae’n rhybuddio y byddai unrhyw ‘dduw’ a fyddai’n dod i’r fei drwy’r dethol artiffisial hwn yn debyg o fod ar ffurf demiurgos y Gnostigiaid, yn ‘fileinig neu’n ddiofal ei driniaeth o ddynolryw’.

Sect Iddewig-Gristnogol a fu’n ddylanwadol yn nyddiau’r Eglwys Fore oedd y Gnostigiaid. Craidd eu syniadaeth oedd ffydd mewn gwybodaeth gyfrin am y goruwch-ddwyfol fel allwedd i iachawdwriaeth, wedi’i throsglwyddo i ddynion, weithiau gan ymwelydd o’r byd goruwchnaturiol. Yng ngeiriau Gray, eu cred oedd ‘bod modd i ddynion gael eu gwaredu rhag byd o dywyllwch gan oleuni iachaol gwybodaeth’. Y Gnostigiaid, ynghyd â’r Cristnogion cynnar a oedd yn disgwyl yn eiddgar am ddyfodiad teyrnas nefoedd ar y ddaear, yw hynafiaid atheistiaid y ‘Crefyddau Gwleidyddol Modern’. 

*

Mae Gray yn ein tywys ar daith  sobreiddiol-arswydus drwy  waddol syniadol a gweithredoedd y ‘crefyddau seciwlar a luniodd y byd modern’: o theocratiaeth annynad Bockelson yn Münster yr 16g at Jacobiniaeth Chwyldro Ffrainc a gyflawnodd ysgelerderau enbyd a chostio cannoedd o filoedd o fywydau, mwy o lawer nag a wnaeth yr Ancien Régime. Yna, ymlaen at Gomiwnyddiaeth Rwsia, yr oedd ei phrif ddyfeisydd Lenin yn fwy na pharod i ladd yn systematig ac ar raddfa enfawr, er mwyn creu byd newydd ar sail gweledigaeth crefydd ersatz Bolsheficiaeth; a Natsïaeth â’i breuddwyd wallgof am sefydlu Trydydd Reich, syniad wedi’i wreiddio mewn myth apocalyptaidd canoloesol a oedd yn rhagweld sefydlu cymdeithas berffaith yn niwedd penllanwol Hanes. Yn ei hanfod, ‘hiliaeth wyddonol’, syniad a darddodd o Oleuedigaeth yr 18g, oedd wrth wraidd Natsïaeth.

Rhyfedd ar yr wyneb bod Gray yn trafod ‘rhyddfrydiaeth efengylaidd’ a’r erchyll-bethau uchod o dan yr un pennawd. Mae’n cydnabod bod rhyddfrydiaeth yn ‘un o’r ffyrdd mwyaf gwâr i alluogi bodau dynol i gyd-fyw’. Ond un o ganlyniadau ymrwymo i ryddfrydiaeth fel cyrchfan hanesyddol ddelfrydol yw ymdrechion trychinebus rhai o lywodraethau’r Gorllewin i hyrwyddo, drwy rym milwrol (Irac, Affganistan a Lybia yw ei enghreifftiau), ffordd ryddfrydig o fyw mewn cymdeithasau na fu rhyddfrydiaeth orllewinol erioed yn rhan o’u hetifeddiaeth.

Mae trafodaeth Gray ar y ‘Duw-gasawyr’ – y Marquis de Sade, Ifan Caramasof yn nofel Dostoiefsci a’r beirniad llenyddol o Sais, William Empson – yn ddifyr ond yn llai creiddiol i berwyl ei ddadl. Digon nodi efallai ei ddyfarniad mai neo-Gristion oedd Empson tan y diwedd. Wrth gollfarnu Cristnogaeth am ei bod yn ‘cywilyddio dynoliaeth’ drwy fynnu bod angen iachawdwriaeth arni, wrth ei chyhuddo o wadu rhyddid dyn, roedd yn anghofio mai ‘creadigaeth Iddewig a Christnogol’ oedd yr union ryddid hwnnw. 

A dyna ni’n dod at y ddwy atheistiaeth y mae Gray yn cael ei ddenu atyn nhw: atheistiaeth y rhai sy’n ‘hapus i fyw gyda byd di-dduw neu Dduw na ellir ei enwi’. George Santayana, ‘yr atheist a oedd yn caru crefydd’, a’r nofelydd Joseph Conrad sy’n ffurfio’r categori cyntaf, ond efallai mai’r bennod olaf, ‘Atheistiaeth Distawrwydd’, ac yn arbennig y drafodaeth ar athroniaeth Arthur Schopenhauer (1788–1821) sydd fwyaf perthnasol yn y fan hon.

Cefnodd Schopenhauer ar Gristnogaeth ei febyd gan fynnu na allai ‘crefydd sydd â’i sail mewn un digwyddiad’, mewn amser ac mewn lle penodol, a’r digwyddiad hwnnw’n cael ei weld fel ‘trobwynt y byd a holl fodolaeth’, obeithio goroesi. Fodd bynnag, mewn cerddoriaeth fe ddaeth o hyd i gysur mawr ei fywyd, i ‘argoelion o bau y tu hwnt i’r byd dynol’. Daeth i gredu bod ‘natur pethau yn anhraethol’. Doedd dim modd i iaith ‘afael yn y realiti sy’n gorwedd y tu hwnt i ymddangosiadau cyfnewidiol’ y byd o’n cwmpas. I Schopenhauer, nid Duw credo Cristnogol oedd y realiti hwn. Rhaid ymwrthod â hwnnw er mwyn ymgyrraedd at rywbeth tebycach i ‘Dduw y diwinyddion negyddol’.

Wrth gloi ei ymdriniaeth, mae Gray yn dadlau mai ‘nonsens’ yw’r ffydd gyffredin gyfredol yng nghynnydd y ddynoliaeth. Nid rhywbeth y mae rhyw ddynoliaeth gynyddgar yn debyg o dyfu allan ohono mo crefydd ychwaith, ond agwedd barhaol ar brofiad Dyn. Rhaid gwarchod rhag y math o ffwndamentaliaeth eithafol, grefyddol neu seciwlar, a anharddodd wareiddiad mor fynych, ac a all wneud hynny eto. Ond rhaid sylweddoli cyfyngiadau anochel dealltwriaeth Dyn. Wrth ddod i delerau â hynny, mae’n bwysig i ni ‘weld nad yw diwinyddiaeth sy’n traethu am anhraeth-oldeb Duw a rhai mathau o atheistiaeth mor bell â hynny oddi wrth ei gilydd’.

Mae’r tir cyffredin rhwng safbwyntiau Ioan Talfryn a John Gray yn drawiadol. I’r ddau, mae theistiaeth Gristnogol draddodiadol wedi hen chwythu’i phlwc. Ar ben hynny, maen nhw’n mynnu nad oes dim modd gwadu’r drwgeffeithiau yr esgorodd ei thra-arglwyddiaeth arnyn nhw na’r peryglon sy’n tarddu o’i hadfywiad ffwndamentalaidd yn ein hoes ni. Llawn mor drawiadol, fodd bynnag, yw eu bod am ymgyrraedd at ystyr yn eu bywydau sydd tu hwnt i’r hyn sy’n faterol-resymiadol. I’r ddau, mae’n amlwg mai i fyd myth y perthyn Cristnogaeth. 

Bydd Cynog Dafis yn trafod dau awdur y mae’r canfyddiad hwn yn sylfaenol i’w gwaith yn ail ran yr erthygl hon, i’w chyhoeddi yn 2021, sef y cyn-offeiriad a’r llenor Aled Jones Williams a’r diwinydd hanesyddol Karen Armstrong.

Dylid edrych am arweiniad gan grefyddau’r dwyrain a’u pwyslais pragmataidd ar yr hyn sy’n gweithio yn hytrach na’r hyn y mae gofyn i’r ffyddloniaid ei gredu

Pynciau:

#Rhifyn 14
#Cristnogaeth
#Anffyddiaeth
#Meddwlgarwch
#Moeseg
#Cynog Dafis