Adolygu

Beth dda yw myth?

Llongddrylliadau

Karen Armstrong

The Lost Art of Scripture: Rescuing the Sacred Texts

Bodley Head, 560tt, £14.99, 2019

Aled Jones Williams

Lleu Llaw Gyffes

Atebol, 42tt, £5, 2019

Cynog Dafis

Amser darllen: 12 munud

27·04·2021

Amser gweddi yn Xiahe, Rhanbarth Gansu, Tsieina, 1996

 

Beth sy’n digwydd pan fo myth yn dymchwel? Dyna thema drama Aled Jones Williams, Lleu Llaw Gyffes, yr aeth cwmni Bara Caws â hi ar daith yng ngaeaf 2019, ac a gyfansoddwyd gryn ddegawd ynghynt. Golwg ddryslyd oedd ar wynebau cynulleidfa Aberystwyth wrth adael y theatr ac ar un ystyr roedd hynny nid yn unig yn ddealladwy ond yn briodol. 

Gwaelod Llyn Nantlle, sef ‘o dan y meddwl’, yw lleoliad y ddrama. Yno mae Lleu Llaw Gyffes yn deffro o drwmgwsg ac yn ymystwyrian i adfer ei statws fel duw / offeiriad / pregethwr / dewin. Yn goruchwylio’r ymdrech wele DD, sef rhyw gyfuniad o awdurdod diwinyddol, manipiwleiddiwr a Duw. Mae’r Deifar, y ‘dyn cyffredin’, yn mentro i’r dwfn i chwilio am ba ystyr bynnag y gall Lleu ei gynnig. Cyn dyfod y Deifar, mae Lleu wedi ceisio galw i gof elfennau’r ffydd y mae’n ei chynrychioli, a’r rheini’n arllwys allan yn gybolfa atgofus, ddigyswllt a diystyr, yn bytiau o emynau, adnodau, rhigymau a dywediadau: ‘Blant bychain chwi o ychydig gwael eich gwedd yng nghôl y bwystfilod rheibus o’r bryniau tywyll niwlog na waherddwch iddynt dorri’r egin mân i lawr ar y dydd cyntaf o’r wythnos gwyn eich byd …’ I’r rhai yn y gynulleidfa a fagwyd yn y pethe roedd yr effaith yn ddigri-ddirdynnol. I eraill, rhaid ei fod yn annealladwy. A dyna, wrth gwrs, yw’r pwynt. Nid dim ond myth Cristnogaeth sydd wedi cwympo’n ddarnau yn y ddrama hon ond Pedair Cainc y Mabinogi hefyd, a chwedl Blodeuwedd yn benodol. Dyna i chi ddymchweliad go gynhwysfawr ar ddiwylliant cyfan.

Dyw Lleu ddim mewn unrhyw fath o gyflwr i gynnig goleuni i’r Deifar druan. Gan anghofio nad Gwydion mohono, mae’n rhithio gwraig i’r Deifar ond mae’r tric consurio yn mynd o chwith: organau rhywiol gwrywaidd sydd gan y Flodeuwedd hon. Mae’r Deifar yn cael ei rwygo rhwng yr ysfa i ddianc ac atyniad hud-a-lledrith Lleu a dirgelion y ‘petha na wyddon ni ddim be ma nhw’n da yng ngwaelod drôr ond ’n bod ni am ’u cadw nhw am fod rhywbeth yn deud wrtha ni am ’u cadw nhw’. Mae siarad dryslyd Lleu yn ymlwybro drwy gyfres o draethiadau ffantasïol a chynyddol ddiargyhoeddiad. Mae yna rwdlan pregethwrol go fombastig am ‘Fendithion a grasusau ... Miraglau!’ Am rithio helfa bysgod o’r llyn a rhyw lol am wneud three-point turn mewn jeep. Ond mae batris y fflachlamp a ddylai fod ym mhoced Lleu wedi dampio. Disylwedd hefyd yw’r cwch y mae Lleu yn dychmygu ei weld yn dod i’w cludo i Ynys Afallon. Ac mae’r haul yn gwrthod codi ar ei orchymyn. Yr unig gysur i’r Deifar druan yw cofleidiad cynyddol dynn a chynhesol Lleu: ‘Duw ti’n oer washi … ac yn drwm … fel talp o haearn … Tyd yn nes ata’i.’ Mae’n cusanu’r Deifar. ‘Ma’ mraich i’n dal amdanat ti mor dynn ag y medra’i.’ Mae’n esgus mwstro’i dipyn hud-a-lledrith ar ffurf ‘washin mashin Hotpoint’ i gynhesu, er mwyn y Deifar, dipyn ar ddŵr oer y llyn yn sŵn ‘hen dderyn’ a ‘ddydodd … wbath w’rtha’i unwaith’.      

Portread o’r llanast sy’n canlyn dymchwel myth sydd yma, a’r llanast gwaeth sy’n gallu canlyn ymdrech i’w adfywio. A oes angen mythau arnom o gwbl yw cwestiwn yr awdur yn ei ragair i’r ddrama: ‘Tybed mai’r mythiau eu hunain sy’n codi’r cwestiynau yr honnant hwy eu hateb? Ac nad oes yna mewn gwirionedd gwestiwn i’w ateb? Nad oes yna unrhyw “ystyr” i chwilio amdano? Mai’r hyn a ofynnir ohonom yw byw orau allwn, a byw’n drugarog atom ein hunain ac felly at eraill.’

*

Ymdrech i ateb cwestiwn Aled Jones Williams, a hynny’n gadarnhaol, yw perwyl gwaith y diwinydd hanesyddol Karen Armstrong. Yn A History of God (1993), fe aeth ati i archwilio’r syniad o wahaniaethu rhwng mythos a logos, gan awgrymu mai yn nhermau mythos y dylid ystyried Duw, a chrefydd yn gyffredinol. Byd rheswm, ffeithiau gwrthrychol, tystiolaeth a phrawf empeiraidd yw logos, meddai. Byd y dychymyg, sythwelediad, symbolau a chwedlau yw eiddo mythos. Datblygwyd ei syniadau ymhellach yn The Case for God (2009), a gyfansoddodd yn sgil ysgrifeniadau’r Atheistiaid Newydd, gan ddadlau i chwyldro gwyddonol Ewrop o’r 16g ymlaen ogwyddo’r dafol ddeallusol yn drwm o blaid logos a hyd yn oed beri i bleidwyr crefydd a theistiaid deimlo’r angen i gyfianwhau eu ffydd yn nhermau rheswm a thystiolaeth, rhywbeth na fyddai diwinyddion traddodiadol wedi breuddwydio ei wneud.   

Yn ei chyfrol ddiweddaraf, The Lost Art of Scripture (2019), mae’n cysylltu’r gwahaniaethiad hwnnw â darganfyddiadau niwrolegol y degawdau diwethaf ynghylch dau hemisffer yr ymennydd
dynol. Mae’r hemisffer dde yn hanfodol i greu barddoniaeth, cerddoriaeth a chrefydd, meddai; mae’n ymwneud â ffurfio ein hunaniaeth bersonol a meithrin gwel-edigaeth gyfannol, gan weld pob un dim mewn perthynas â’r cyfan. Mae’n gysurus felly gyda metaffor, sy’n peri i endidau annhebyg ddod yn un: ‘I’r hemisffer dde y daw newyddion gyntaf; yno mae’n cael ei weld yn rhan o undod cydblethedig.’ Wedi hynny, y mae’n cael ei drosglwyddo i’r hemisffer chwith. Yno, mae’r wybodaeth newydd yn cael ei diffinio a’i dadansoddi, a’i defnyddioldeb ymarferol yn cael ei hasesu. Fodd bynnag, dim ond fersiwn rhydwythol (hynny yw, dadansoddiad o’r elfennau cyfansoddol) o realiti cymhleth y gall yr hemisffer chwith ei gynhyrchu. Gyda bod yr wybodaeth wedi cael ei phrosesu, rhaid ei phasio yn ôl i’r hemisffer dde, lle mae modd ei gweld yng nghyd-destun y cyfan.

Mae Karen Armstrong yn cydnabod bod ein ffocws modern ar fewnwelediadau empeiraidd a gwrthrychol yr hemisffer chwith yn ddiau wedi bod o fudd enfawr i ddynolryw: mae wedi helaethu ein gorwelion meddyliol a ffisegol, ‘wedi gwella’n ddramatig ein dealltwriaeth o’r byd, a lleihau dioddefaint dynol yn ddirfawr gan alluogi mwy o bobl nag erioed o’r blaen i fod yn ddiddig yn gorfforol ac yn emosiynol’. Fodd bynnag, y perygl yw i’r pwyslais llethol a roddir gan ein diwylliant ar wirionedd empeiraidd beri mai dim ond hanner ein galluoedd meddyliol y byddwn yn eu meithrin. Er mwyn i ni allu gweithredu’n greadigol ac yn ddiogel yn y byd, meddai Karen Armstrong, gan dynnu ar dystiolaeth seicolegwyr a niwrolegwyr, rhaid wrth gyfraniad hemisfferau’r dde a’r chwith fel ei gilydd.

Mae hyn oll yn dod â’r awdur at brif thema ei llyfr. Fel rheol, meddai, mae dwy ochr yr ymennydd yn cydweithio’n lled gytbwys. Ar rai adegau mewn hanes, fodd bynnag, ac mewn rhai unigolion, gwelwyd tueddiad i feithrin yn fwriadus sythwelediadau’r ochr dde. Yr arfer hwn a roddodd i rai pobl neilltuol o ddawnus ymdeimlad cryf o undod anhraethol realiti. Aeth rhai o’r proffwydi, y beirdd a’r gweledwyr hyn ati i geisio mynegi eu sythwelediadau mewn ysgrythurau; cafodd eraill eu hysbrydoli gan ysgrythurau i feithrin yr ymwybyddiaeth effro hon. 

O blith ysgrythurau’r Dwyrain Canol trafodir nid dim ond yr Hen Destament a’r Newydd ond ysgrythurau Cwmrân (a ailddarganfuwyd yn ail hanner yr 20g), ysgrifeniadau Iddewig diweddarach, ac wrth gwrs y Corân. Yn yr India, cyfansoddwyd ysgrythurau Hindŵaidd megis y Rig Fedas, yr Wpanishads a’r Baghafad Gita, Calpa Swtra y Jainiaid a Chanon Pali a swtras y Bwdïaid. Yn Tsieina gwelwyd casgliadau cynnar megis y Zhouanyi, y Dogfennau a’r Awdlau ac yn nes ymlaen Groniclau Conffiwsiws a Daodejing y Daoaiaid. Mae’r awdur yn bwrw golwg hefyd ar wlad Groeg ac yn trafod trasiedïau Soffocles, er enghraifft, yn yr un ysbryd â’r ysgrythurau.

*

Yn ei phennod olaf, ‘Post-Scripture’, mae Armstrong yn cynnig nifer o gasgliadau ar sail y toreth rhyfeddol hwn o ysgrifeniadau ysgrythurol. Yn gyntaf, yng nghyd-destun defod y mae ‘deall’ yr ysgrythurau, a’r ddefodaeth honno’n meithrin ymdeimlad o ryfeddod, parch a referens, ymatebion na ellir eu gwahanu oddi wrth agweddau moesegol crefydd. Er enghraifft, dim ond wrth ei lafarganu, meddai, y mae modd gwerthfawrogi’r Corân. Yn ail, dyw’r traddodiadau ysgrythurol ddim yn datgan athrawiaethau di-droi-’nôl na negeseuon eglur, unllais. I’r gwrthwyneb, un thema sy’n cael ei chodi’n rheolaidd yw nad oes modd i’r realiti eithaf gael ei fynegi mewn iaith. Yn y pen draw, mae’r realiti hwn – Duw mewn rhai traddodiadau – y tu hwnt i eiriau, a diwedd unrhyw drafodaeth ddiwinyddol werth ei chael amdano fydd rhyw fath o ddistawrwydd sanctaidd, ecstatig hyd yn oed.

Gwaith sydd ‘ar waith’ yn barhaus yw cyfansoddi ysgrythurau. Cwbl arferol yw golygu ac impio testun diweddarach ar yr hen un, er enghraifft yn nhraddodiad midrash yr Iddewon, weithiau gan danseilio’r ystyr gwreiddiol yn gyfan gwbl. Yr hyn sy’n gyson i’r traddodiadau oll yw dimensiwn moesol: gwŷs i weithredu’n allgarol, yn drugarog, â chydymdeimlad. Yn y traddodiad undduwiol mae’r pwyslais ar gyfiawnder cymdeithasol yn holl-bresennol. Gwyrdroad erchyll oddi wrth y persbectif hanfodol hwn yw’r llawenhau mewn concwest a dial sydd i’w weld
yn Llyfr y Datguddiad neu’r traddodiad Wahabaidd yn Islam.

Yn ôl Armstrong, mae’r ffaith fod celfyddyd ysgrythura mewn amrywiol draddodiadau wedi bod mor debyg i’w gilydd yn awgrymu rhywbeth pwysig am y cyflwr dynol. A dychwelyd at ei hymresymiad agoriadol, ‘mae’r syniad o gydymdeimlad yn hanfodol i’n hadeiladwaith niwrolegol. Ond yr hyn y mae’r ysgrythurau yn ei bwysleisio yw nad ar chwarae bach y daw eu gwerthoedd canolog – megis cydymdeimlad – yn rhan o’n hymddygiad.’ Go brin bod rheswm ac ideolegau seciwlar yn ddigon i gyflawni’r dasg hollbwysig hon. Rhaid eu meithrin yn ddiwyd drwy’r math o ddefodau ac ymarferion a ddisgrifir ganddi yn y gyfrol. 

Er mwyn i’r ysgrythurau gyfrannu at y gwaith hwn, rhaid ymwrthod â gwyriadau megis ffwndamentaliaeth a’r syniad bod yn unrhyw un ohonyn nhw ddatguddiad terfynol o’r gwirionedd, a’u dehongli mewn modd sy’n mynd i’r afael â heriau ein hoes ni. (Enghraifft ddiddorol o drin yr ysgrythurau yn y dull deinamig hwn yw nofel bedair-rhan Thomas Mann, Joseph und seine Brüder [Joseff a’i frodyr, 1934–44], sy’n ailadrodd chwedl Jacob, Joseff a’r brodyr er mwyn dehongli ac ymosod ar Nazïaeth.) Yn wyneb yr argyfwng dirfodol sy’n wynebu dynoliaeth, yn arbennig y difrod enbyd i’r byd naturiol sy’n amod ein gallu i oroesi, mae taer angen, meddai Armstrong, i ni ‘ailddarganfod cysegredigrwydd pob dyn ac ailgysegreiddio’r byd’.

*

Sut felly mae mynd ati? Waeth i ni wynebu ddim bod Cristnogaeth draddodiadol, fel y mae Ioan Talfryn wedi ei awgrymu [gw. ‘Llongddrylliadau’ yn O’r Pedwar Gwynt, Gaeaf 2020], mewn cyflwr o longddrylliad, er bod datgymaliad y llong ar hyn o bryd ymhell o fod wedi gorffen. Ond nid dim ond Cristnogaeth sydd ar y creigiau wrth i ni nesáu at ddiwedd chwarter cynta’r 21g. Felly hefyd ideoleg dra-arglwyddiaethol ail hanner y ganrif ddiwethaf, sef cyfalafiaeth neo-ryddfrydol, a rhoi iddi label a wnaiff y tro am nawr. Mae’n dod yn gynyddol amlwg bod y model hwn, a’i bwyslais ar dwf economaidd parhaus a phrynwriaeth ddi-ben-draw, yn gwrthdaro benben â’r angen i’r ddynoliaeth ddysgu sut mae byw mewn cytgord â byd natur yn hytrach na’i wastrodi. Mewn gair, rhaid traws-symud cyn gynted â phosibl i ffordd gynaliadwy o fyw. 

Bydd gan wyddoniaeth a dyfeisgarwch technolegol, y mae ei gartref yn hemisffer chwith yr ymennydd, ran allweddol i’w chwarae yn y traws-symud hwn. Oni bai am wyddoniaeth, fydden ni ddim yn sylweddoli maint nac achosion yr argyfwng yr ydym yn ei wynebu. Mae’n amheus, serch hynny, a ddown ni, yn unigol neu’n gyfunol, o hyd i’r ewyllys moesol i wireddu’r traws-symud hwn heb i ni yn ogystal feithrin ymwybyddiaeth a diwylliant moesegol newydd. I’r perwyl hwnnw bydd yn rhaid tynnu ar adnoddau’r hemisffer dde, lle mae crefydd yn trigo.

Mae’r mudiad gwyrdd yn pwysleisio’r cyfannol, fel y mae’r gair ‘ecoleg’ yn awgrymu. Mae’n pwysleisio cyd-ddibyniaeth rhywogaethau’r ddaear, a Dyn yn eu mysg, cydweithrediad yn hytrach na chystadleuaeth, parch ac yn wir, gariad at natur. Mae rhai o ysgrifeniadau gwaelodol y mudiad, megis Blueprint for Survival (1974), yn meddu ar statws lled-ysgrythurol – a’u syniadau creiddiol yn cael eu haddasu, ac weithiau eu herio, yn barhaus. Mae i’r mudiad ei broffwydi ac yn wir ei ferthyron. Mae ei ddisgyblion yn angerddol ymroddedig a’u nifer ar gynnydd carlamus. Mae iddo’r fantais arwyddocaol bod ei weledigaeth wedi’i gwreiddio mewn tystiolaeth wyddonol gadarn: mae’n ieuo mythos a logos yn rymus iawn. 

Cwestiwn heriol i Gristnogaeth yn benodol yw i ba raddau y mae am ei huniaethu ei hun â’r weledigaeth radical newydd hon, sydd ar un ystyr yn perthyn yn agosach i animistiaeth amldduwiol. A oes modd impio’r weledigaeth werdd ar hen gyff Cristnogaeth, neu ai impio rhai o elfennau Cristnogaeth ar dyfiant egnïol gwyrddni a fyddai’n briodol? Neu a oes modd defnyddio rhai o’r distiau a ddaw o longddrylliad Cristnogaeth, chwedl Ioan Talfryn, i adeiladu crefydd foesegol newydd? Pa drosiad bynnag fo’n addas, mae’n anodd dychmygu na fydd gan bersbectif y myth Cristnogol rywbeth i’w gynnig i’r fenter hanesyddol hon. 

Tebyg bod angen mythau arnom. A hwythau wedi cefnu ar Dduw’r Creawdwr goruwchnaturiol, caiff Karen Armstrong ac Aled Jones Williams eu denu gan dduw’r traddodiad apophatig, duw’r dirgelwch eithaf nad oes modd dweud dim amdani/amdano ond y mae myfyrio arni/arno yn peri i ni ddistewi mewn rhyfeddod a pharchedigaeth. Mae’n fwy trawiadol fyth fod gwyddoniaeth fodern (efallai mai ôl-fodern ddylid ei ddweud) yn cadarnhau ‘bodolaeth’ y dirgelwch eithaf hwn. Darganfuwyd llawer am natur y bydysawd aruthrol yr ydym yn rhan ohono. Ond dim ond y Bydysawd Arsylwadwy, sy’n cynnwys dau driliwn o alaethau. Y tu hwnt i hynny, sef gweddill y Bydysawd, does dim posibl gweld dim: amhosib yw canfod unrhyw wrthrych sydd ymhellach oddi wrthym na thaith goleuni o fewn oes y bydysawd (13.8 biliwn o flynyddoedd), gan nad oes modd i’r signal ein cyrraedd eto. Os nad yw rhywbeth fel hyn yn peri i ddyn dewi mewn anneall, gostyngeiddrwydd a pharchedigaeth, beth sydd?

Portread o’r llanast sy’n canlyn dymchwel myth sydd yma, a’r llanast gwaeth sy’n gallu canlyn ymdrech i’w adfywio

Pynciau:

#Aled Jones Williams
#Cynog Dafis
#Crefydd
#Rhifyn 15