Gwagio Sbaen
Llenyddiaethau argyfwng
Sergio del Molino
La España vacía: Viaje por un país que nunca fue (Sbaen Wag: Teithio’r wlad na fu erioed)
Turner, 292tt, €23, 2016

Moros, Zaragoza, pentref sydd wedi dioddef o ddiboblogi yn Sbaen
Tipyn o gonfensiwn ymhlith beirniaid diwylliannol Sbaen yw ystyried 2008 – blwyddyn y cwymp ariannol byd-eang a dechrau dirwasgiad yng ngwledydd gorllewin Ewrop – yn flwyddyn a esgorodd ar gyfnod gwleidyddol newydd yn y wlad. O ganlyniad mae’r hyn a elwir yn ‘llenyddiaethau argyfwng’ yn faes ymchwil ffyniannus iawn. Dyma’r twf mewn gwaith ffuglennol a ffeithiol sy’n trin a thrafod profiadau pobl mewn byd o gyni (a hwnnw gan amlaf yn fyd trefol a dinesig). Astudiwyd nofelau fel La mano invisible (Y Llaw Anweledig, 2011) gan Isaac Rosa a La trabajadora (Y Weithwraig, 2014) gan Elvira Navarro fel testunau sy’n nodweddiadol o gynnyrch llenyddol y cyfnod hwn. Iaith ansefydlogrwydd sy’n britho’r cyfrolau. Ceir galw, bellach, am dermau megis ‘deshaucio’ (gorfodi pobl o’u cartrefi), ‘emigración’ (mudo) ac ‘incertidumbre’ (ansicrwydd) i ddisgrifio llanw a thrai bywyd, gan nad yw hen weithiau ffuglen y 1990au, a’r neo-ryddfrydiaeth gynyddol sy’n sail iddyn nhw, yn dal dŵr mwyach.
Mae arbenigwyr ym maes ‘llenyddiaethau argyfwng’ yn Sbaen yn aml yn cysylltu’r ffenomenon ddiwylliannol hon â thwf Podemos, y blaid asgell chwith newydd. Dyma blaid a ffurfiwyd yn 2014 gan Pablo Iglesias, darlithydd mewn gwleidyddiaeth ym Madrid, yn dilyn protestiadau’r mudiad 15-M yn 2011 yn erbyn cyni a llygredd. Protestiadau a gychwynnodd ar 15 Mai 2011 yn sgwâr canolog Puerta del Sol ym Madrid oedd y rhain. Roeddwn i yn Vigo, lle cefais fy magu, pan ddechreuodd protestiadau tebyg ledaenu i ardaloedd eraill, gan gynnwys Galisia, un o genhedloedd hanesyddol Sbaen. Rydw i’n cofio trefnwyr y brotest yn ein hannerch yn Sbaeneg, gan dybio y gallai fod pobl na fedrent siarad Galiseg ymhlith y dorf denau a oedd wedi dechrau ymgasglu’n chwilfrydig o’u cwmpas. Troi ar ein sodlau wnaeth nifer ohonon ni.
Llywodraeth bresennol Sbaen, a ffurfiwyd ar ôl Etholiad Cyffredinol 10 Tachwedd 2019, yw’r llywodraeth glymblaid ganolog gyntaf yn y cyfnod ar ôl Franco. A hithau’n llywodraeth rhwng pleidiau’r PSOE (plaid lafur hanesyddol Sbaen a ffurfiwyd yn 1879) ac Unidas-Podemos (y gynghrair etholiadol o bleidiau traddodiadol y chwith a phleidiau a ffurfiwyd ar ôl 2008 i wrthwynebu cyni), fe’i disgrifir yn aml fel y ‘llywodraeth fwyaf blaengar yn hanes Sbaen’ – a hynny heb arlliw o goegni. Mae hi’n ddwy flynedd a rhagor ers sefydlu deddfwrfa a ddechreuodd ar ei gwaith yn ystod pandemig byd-eang, ac mae’r cnoi cil am lwyddiannau a chamau gwag y llywodraeth glymblaid hon yn aml i’w glywed yng nghyd-destun lledaeniad chwimwth gwleidyddiaeth y dde eithafol yn Sbaen. Yn gryno, mae ar bobl ofn y gall llywodraeth glymblaid ganolog ffurfio yn y dyfodol rhwng y Blaid Boblogaidd asgell dde (a sefydlwyd yn 1976 gan gyn-aelodau amlwg o gyfundrefn Franco gynt) a VOX (y blaid a holltodd oddi wrthi sydd ar y dde eithaf, ac yn malio dim am hynny). Mae hyn yn rheswm a grybwyllir gan lawer dros gefnogi’r llywodraeth bresennol, yn hytrach na’i hansefydlogi. Dylai’r rhai sydd wedi’u dadrithio â diffyg polisïau blaengar Unidas-Podemos ers iddi ddechrau llywodraethu ymatal rhag beirniadu, medden nhw, er mwyn osgoi sefyllfa waeth o lawer (mae’n siŵr y bydd hyn yn canu cloch i’r Ffrancwyr).
Does dim dwywaith nad yw’r cylch gwleidyddol a ddechreuodd â thwf gwleidyddiaeth newydd y chwith yn Sbaen, dan arweiniad Podemos, wedi gweddnewid y tirlun etholiadol yn sylweddol iawn. Yn ôl rhai, mae’n arwydd o dranc y system ddwy blaid a fu’n llwyddiannus dros ben wrth gynnal y ‘wladwriaeth ddofn’, frenhinol gynt. Dyma wladwriaeth a reolwyd gan y fyddin a’r farnwriaeth – pobl a’u hagweddau heb newid dim ers cyfnod Franco. O droi’r cloc yn ei flaen i 2022, fodd bynnag, gellir gweld fod y fath ddehongliadau gobeithiol yn ymddangos yn rhy optimistaidd o’r hanner. A hithau’n un o bleidiau’r llywodraeth glymblaid bresennol yn Sbaen, does dim dewis gan Podemos ond ysgwyddo cyfrifoldeb am rai o bolisïau mwyaf dadleuol y llywodraeth honno, gartref a thramor fel ei gilydd. Yng nghanol rhyfel procsi’r Unol Daleithiau â Rwsia (a Tsieina) ar ddaear Wcráin, mae llywodraeth PSOE-Podemos (fel pob cenedl Ewropeaidd arall) yn anfon arfau sydd wedi’u defnyddio, yn ôl y sôn, gan y milisia neo-Natsïaidd. Mae hyn yn arwyddocaol yng nghyd-destun Podemos oherwydd mae gwrthwynebu NATO yn ganolog i bolisïau’r chwith hanesyddol yn Sbaen, ond fu dim modd i Unidas-Podemos gynnal y safbwynt hwn y tu hwnt i ambell brotest yn erbyn rhyfel gan ei harweinwyr.
Ar dir Sbaen ei hun, wrth imi ysgrifennu’r llith hwn, mae’r llywodraeth yn ceisio tawelu argyfwng ar ôl i The New Yorker a Citizen Lab, grŵp ymchwil ym Mhrifysgol Toronto, honni bod Canolfan Cudd-wybodaeth Genedlaethol Sbaen wedi ysbïo’n anghyfreithlon ar hyd at 65 o wahanol arweinwyr mudiad annibyniaeth Catalonia. Er bod Pablo Iglesias, sylfaenydd Podemos, wedi beirniadu’r newyddion, gan gydnabod ei fod yn achos difrifol o weithredu’n groes i egwyddorion demo-crataidd, nid yw’n ymddangos bod neb yn bwrw bai ar y llywodraeth glymblaid ei hun. Ar y mater hwn a sawl un arall (gan gynnwys y mân addasiadau a wnaed i gyfraith y gweithwyr yn 2022, a’r ffaith nad yw cyfraith diogelwch cyhoeddus 2005 – cyfraith lem a didostur – wedi’i diwygio byth), diflannu’n llwyr, fwy neu lai, wnaeth protestiadau gwleidyddol a chymdeithasol yn Sbaen ers i Podemos ddechrau llywodraethu. Mae hyn yn eironig o gofio iddi gipio grym yn sgil ton o brotestiadau helaeth.
O ran gwleidyddiaeth bleidiol yn Sbaen, nid yw’n ymddangos bod twf Podemos wedi gwanhau ‘Cyfundrefn 1978’, fel y gelwir hi. Dyma’r enw a fathwyd gan ddeallusion y chwith newydd i gyfeirio at y criw grymus a gynllwyniodd i sicrhau bod Sbaen yn pontio’n ‘heddychlon’ rhwng cyfundrefn Franco a’r gyfundrefn ddemocrataidd, ond heb orfod cyflwyno diwylliant gwleidyddol gwrth-ffasgaidd wrth wneud hynny. Dim ond yn sgil y drafft o’r Gyfraith Cof Democrataidd a gyflwynwyd gan lywodraeth Sbaen yn 2020 y bydd modd mynd ati o’r diwedd i ddiddymu Sefydliad Francisco Franco (a ffurfiwyd gyda’r nod o gynnal gwaddol yr unben). Mae’r sefydliad hwnnw’n dal i fodoli.
Eto i gyd, mae argyfyngau a gwrthdaro yn Sbaen heddiw yn dal i gael eu gweld yng nghyd-destun cwestiynau tiriogaethol, ac yn benodol gwestiynau am annibyniaeth a hunanbenderfyniaeth. Cur pen mawr i’r wladwriaeth yw’r ffaith y ceir yng nghanol gwleidyddiaeth seneddol Sbaen bleidiau Galisaidd, Basgaidd a Chatalanaidd sy’n galw yn eu rhaglenni am hunanbenderfyniaeth genedlaethol, yn enwedig pan ystyriwn nad yw Cyfansoddiad Sbaen 1978 yn rhoi hawl i hunanbenderfyniaeth i’w chenhedloedd hanesyddol. O ganlyniad, mae ymgyrchu o blaid annibyniaeth yn cael ei ystyried yn Sbaen yn ffurf ar frad yn erbyn y wladwriaeth neu’n weithgarwch troseddol. Fe gosbir hynny â chryn orthrwm, gan gynnwys carcharu pobl, eu harteithio a – os credwn ni’r ‘Catalangate’ diweddar – threfnu i wasanaethau cudd-wybodaeth Sbaen hacio ffonau symudol yn anghyfreithlon. Gellid dadlau, gan hynny, mai mudiadau o blaid annibyniaeth sydd wedi achosi’r argyfwng mwyaf i wladwriaeth gyfoes Sbaen, a refferendwm Catalonia ar hunanbenderfyniaeth ar 1 Hydref 2017 yw’r enghraifft fwyaf pell-gyrhaeddol o hynny yn yr 21g hyd yma.
Serch hynny, yn y cyfnod ers y refferendwm hwnnw (ac yn enwedig ar ôl y trafodaethau a arweiniodd at roi pardwn y wladwriaeth i naw o arweinwyr y mudiad annibyniaeth a dreuliodd dair blynedd a hanner yn y carchar), perthynas wleidyddol heb fawr o wrthdaro ymddangosiadol a welwyd drachefn rhwng Catalonia a Sbaen. Bu’r sylwebydd diwylliannol, Júlia Ojeda o Universitat Oberta de Catalunya (Prifysgol Agored Catalonia) yn astudio’r twf aruthrol mewn llenyddiaeth am y ‘procès’, fel mae’n cael ei alw. Dyma’r gair Catalaneg a ddefnyddir i gyfeirio at y cyfnod rhwng 2012 a 2021, sef cyfnod y prif ddigwyddiadau a arweiniodd at y refferendwm a’r hyn a ddaeth yn ei sgil. Mae amrywiaeth genres y llenyddiaeth honno’n rhyfeddol, ac yn cynnwys hanesion yn y person cyntaf, profiadau gwleidyddion, a llenyddiaeth am annibyniaeth i blant (gan gynnwys casgliad Oriol Junqueras o straeon byrion a ysgrifennodd i’w fab a’i ferch tra oedd yn y carchar). Mae natur fasnachol y cyhoeddi hwn – cyhoeddi y mae mynd mawr arno – yn cadarnhau bod y procès yng Nghatalonia wedi gweddnewid o fod yn ddigwyddiad gwleidyddol o’r pwys mwyaf i fod yn gynnyrch diwylliannol i’w farchnata. Mewn nifer o ffyrdd, mae’r twf aruthrol mewn gwaith ysgrifenedig ar y refferendwm a’i ganlyniadau yn llenwi’r bwlch a welir yn sgil y diffyg cynigion gwleidyddol yn y berthynas rhwng Catalonia a Sbaen heddiw. Dyma berthynas lle mae’r ‘mesa de diálogo’ bondigrybwyll (y bwrdd trafod) rhwng y llywodraeth ganolog a llywodraeth Catalonia yn cael ei ddefnyddio’n llwyfan i droi gwleidyddiaeth galed yn ddrama, er bod llywodraeth Catalonia i bob pwrpas wedi ildio’i holl rym bargeinio. Fel y dywedodd Júlia Ojeda, darlun o ddinistr ar ôl storm yw’r un gorau i ddisgrifio tirlun gwleidyddol Catalonia ers Refferendwm 2017.
*
Mae’r ddelwedd o wacter a thirlun wedi’i anrheithio yn ddefnyddiol hefyd wrth fwrw golwg arall ar gwestiynau’n ymwneud â thiriogaeth ac argyfwng yn Sbaen heddiw. Cyfeirio yr ydw i fan hyn at y cysyniad o ‘España vacía’ (Sbaen wag), thema sydd wedi magu cryn stêm yn y degawd diwethaf, yn symptom o berthynas drawmatig y gymdeithas Sbaenaidd â’r gwreiddiau gwledig y mae hi wedi’u colli. Brigodd y ffenomenon hon i’r wyneb gyntaf yn sgil cyhoeddi ysgrif lwyddiannus Sergio del Molino, La España vacía: Viaje por un país que nunca fue (Sbaen Wag: Teithio’r wlad na fu erioed, 2016), a chafodd y syniadau ynddi eu hadleisio’n syth yng nghyfryngau, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth Sbaen. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae dyfodiad pleidiau lleol neu ranbarthol newydd wedi gweddnewid tirlun gwleidyddol Sbaen. Pleidiau yw’r rhain sy’n galw’n bennaf am bolisïau adfywio uchelgeisiol i bentrefi a threfi bychain, gwledig, lle mae’r boblogaeth a’r gwasanaethau wedi dirywio’n gyson dros y degawdau diwethaf. Bydd unrhyw deithiwr sy’n mentro y tu hwnt i ardaloedd arfordirol twristaidd, gorlawn Sbaen yn gweld yn union beth sydd gan y pleidiau newydd hyn dan sylw: pentrefi gwag wedi’u britho â ffermdai hen ffasiwn ond adfeiliedig, lle nad oes plant wedi’u geni ers degawdau; trefi bychain yn y berfeddwlad, mewn llefydd fel Castille, Aragón neu Extremadura, lle mae’r cyfleoedd gwaith yn y sector cyhoeddus yn brin, a’r swyddi mewn diwydiant yn brinnach fyth. Yn gryno, dyma ddaearyddiaeth ddiwylliannol ac economaidd lle mae’r grym i gyd yng nghanol y cylch. Mae Madrid wedi sugno adnoddau dynol, adnoddau naturiol ac adnoddau ariannol ers degawdau, a’r hyn a gafwyd yn gyfnewid am hynny fu llygredd sy’n effeithio ar y rhanbarthau o’i hamgylch.
Yn ôl y pleidiau newydd, mae’r anghydbwysedd tiriogaethol sy’n deillio o’r canoli mawr hwn yn rhy ddifrifol i’w anwybyddu, ac mae’n rhaid i’r llywodraeth weithredu i sicrhau bod modd cynnal bywyd yn y rhanbarthau hyn sydd wedi’u ‘gwacáu’. Yn etholiadau rhanbarthol Castille a León fis Chwefror eleni, enillodd y blaid leol Soria Ya (Soria Nawr) dair sedd, dwy yn fwy na Podemos ei hun. Plaid yw Soria Ya a ffurfiwyd i sianelu’r galwadau am well swyddi a seilwaith yn nhalaith fewndirol Soria, sydd ryw ddwy awr i’r gogledd o Madrid. Mae llwyddiant etholiadol y mudiad ‘Sbaen Wag’ drwy gyfrwng Soria Ya yn fygythiad pellach i system ddwy blaid draddodiadol Sbaen (cynrychiolir y bygythiad hwn yn senedd Sbaen hefyd ar ôl i’r blaid Teruel Existe – Mae Teruel yn Bodoli – gipio un sedd yn etholiad cyffredinol Sbaen ym mis Tachwedd 2019). Â’u holl sylw ar alw am seilwaith lleol a chydnabyddiaeth bod trefi mewndirol anghofiedig Sbaen yn rhan o’r map hefyd, gallai’r pleidiau hyn edrych i sawl cyfeiriad wrth benderfynu â phwy i ochri. Yn sgil cyflwyno polisïau i hybu mwy o enedigaethau (gyda’r pwyslais amlwg ar werthoedd teuluol cryf) a’r parodrwydd gwleidyddol i dderbyn siofiniaeth leol, nid yw gwerthoedd y pleidiau hyn yn anghyson â gweledigaeth a dulliau VOX, y blaid asgell dde eithafol yn Sbaen, sydd bellach mewn clymblaid gyda’r PP yn y llywodraeth ranbarthol yn Castille a León. Amser a ddengys, felly, a fydd troi mudiad ‘Sbaen Wag’ yn rym gwleidyddol ffurfiol yn arwain at newid cymdeithasol blaengar, ynteu’n fodd arall i gynnal ceidwadaeth un-genedl yn Sbaen.
Mae beirniaid fel Àlex Mata Pons, darlithydd mewn theori lenyddol ym Mhrifysgol Barcelona ac enillydd Gwobr Ysgrif Orau Joan Fuster 2020 am ei lyfr Els marges dels mapes (Ymylon mapiau), wedi sôn am y dinc genedlaetholgar Sbaenaidd sydd i lawer o’r cynnyrch deallusol sy’n gysylltiedig â ‘Sbaen Wag’. Heb amheuaeth, elfen sydd heb ei hastudio ryw lawer yn y ffenomenon hon yw’r modd y mae’n ailddylunio map Sbaen ar ffurf tiriogaeth dau ddimensiwn newydd, gyda rhaniad amlwg rhwng y trefol a’r gwledig, a’r ffiniau hanesyddol rhwng gwahanol genhedloedd wedi diflannu, fwy neu lai. Nid peth anarferol fu clywed rhai o gynrychiolwyr mudiad ‘España vacía’ yn dadlau yn y cyfryngau y dylai eu pecyn arfaethedig o atebion gael ei roi ar waith drwy holl diriogaeth Sbaen, o Teruel i Badajoz. Eto i gyd, mae pryderon diwylliannol a gwleidyddol am ddiboblogi yn ardaloedd gwledig Sbaen wedi bod yn bwnc trafod yn rhai o genhedloedd hanesyddol Sbaen ers tro byd. Yn Galisia, er enghraifft, roedd y newidiadau a welwyd o’r gwledig i’r trefol yn ystod ail hanner yr 20g yn aruthrol ac yn drawmatig.
Mae bron i holl swmp cynnyrch diwylliannol Galisia heddiw yn rhoi sylw i’r pwnc hwn mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. O weithiau ffuglennol a ffeithiol awduron mawr eu bri fel Suso de Toro a Manuel Rivas, i feirdd mwyaf nodedig Galisia heddiw (Chus Pato, Pilar Pallarés, Olga Novo, Marcos Abalde), i wneuthurwyr ffilmiau (Oliver Laxe, Margarita Ledo Andión) ac ysgrifwyr diwylliannol (David Rodríguez), mae’r thema hon, sef sut mae cymdeithas yn Galisia wedi cefnu dros nos ar ei gorffennol gwledig traddodiadol, yn ymddangos dro ar ôl tro yn ffynhonnell tensiwn artistig a chymdeithasol. Yn y byd gwleidyddol, un o gerrig sylfaen cenedlaetholdeb modern yn Galisia fu adeiladu cronfa ddŵr Castrelo de Miño yn 1969, yn ystod oes Franco. Gadawodd hynny dir ffermio, corlannau, ac yn wir bentrefi poblog glan yr afon dan ddŵr. Gwaetha’r modd, mae gan bobl Galisia eu Tryweryn eu hunain.
Tiriogaeth ac argyfwng yn Sbaen oedd prif bynciau cynhadledd ryngwladol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor fis Ebrill eleni. Gyda nawdd hael y Sefydliad Ymchwil Ieithoedd Modern (Prifysgol Llundain), nod ein cynhadledd oedd chwilio am ffyrdd newydd o bortreadu profiadau pobl o argyfwng a gwrthdaro yn y Sbaen gyfoes, gan gamu y tu hwnt i’r gred mai ymatebion gwleidyddol-gymdeithasol Sbaen i gwymp ariannol 2008 fu’r grym gweddnewidiol mawr. Nid drwy gyd-ddigwyddiad y denodd y gynhadledd hon ym Mhrifysgol Bangor arbenigwyr mewn astudiaethau diwylliannol Sbaenaidd sy’n deall cymhlethdodau gwleidyddiaeth genedlaethol yn Sbaen heddiw. A hithau’n gartref i’r Ganolfan astudiaethau Galisiaidd yng Nghymru ers 2006, mae’r adran Astudiaethau Hisbanaidd ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn ganolbwynt i ymchwil a dysgu sy’n feirniadol o’r dehongliadau canoliaethol o natur gyfoes Sbaen. Ar y diwrnod ei hun, bwriwyd ati i drafod sut y mae argyfwng a gwrthdaro wedi’u cynrychioli yn niwylliannau Sbaen dros y degawd diwethaf, gan ddeall yn iawn fod tuedd i egwyddorion unoliaetholdeb canoliaethol (centralist unionism) yn Sbaen bennu beth sy’n cael ei ddathlu, ei dderbyn gan y sefydliad, neu’i dawelu yn y wlad. Dangosodd y gynhadledd ym Mangor bwysigrwydd meddwl yn feirniadol yn y mannau hynny sydd ar gyrion grym, lle gall ecoleg o leisiau beirniadol ffynnu. Dyna, yn fy marn i, un o nodweddion llesol astudiaethau Hisbanaidd yma yng Nghymru.
Mae Helena Miguélez-Carballeira yn Athro yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor.