Gweld Affrica yn Ewrop
Adolygu Afropean gan Johny Pitts
Johny Pitts
Afropean: Notes from Black Europe
Penguin, 392tt, £10.99, 2019
Llyfr taith anghyffredin am ddinasoedd sy’n hen gyfarwydd i dwristiaid yw hwn. Pan oedd hi’n dal yn bosibl i grwydro’n ddirwystr gyda thocyn Interrail, aeth Johny Pitts ar daith bum mis o Sheffield i Baris, Brwsel, Amsterdam, Berlin, Stockholm, Mosco, Marseille a Lisboa, gan orffen yn Gibraltar er mwyn gweld Affrica dros y dŵr. Oddi yno yr hanai ei gyndeidiau ar ochr ei dad – canwr du o’r Unol Daleithiau a symudodd i Brydain. Rhwystrodd y glaw iddo weld Affrica dros y dŵr, ond ar ei daith mi welodd Affrica yn Ewrop. Taith i ddarganfod pobl dduon Ewrop oedd hon, a’r hyn sy’n anghyffredin am y llyfr yw ei fod yn cyflwyno byd fyddai fel arall yn y cysgodion, pobl yr ymylon yn crafu byw ar gyrion y gymdeithas sefydlog a chyfreithlon, yn aml mewn maestrefi neilltuedig, a’u llafur yn cadw’r canolfannau mawr i fynd. Er hynny, nid dosbarth haniaethol o ddioddefwyr a gyflwynir ond unigolion lliwgar ac amrywiol eu cefndir, ynghyd â’u mannau cyfarfod cartrefol, eu bwydydd a’u cerddoriaeth, a’u hymateb creadigol i’w sefyllfa fregus. Mae’r awdur yn arbennig o wybodus am gerddoriaeth, ac yn y cyd-destun hwnnw y clywodd y term Afropean gyntaf.

Mosco: 'Hanner canrif o baratoi'r elît rhyngwladol' (Llun: Johny Pitts)
Magwyd Johny Pitts yn Sheffield yng nghyfnod Thatcher, mewn ardal lle’r oedd y dosbarth gweithiol Seisnig yn byw yn gymysg â charfanau o’r Yemen, Jamaica, Pacistan ac India. Mae’r rhaglith am Sheffield yn ddarlun byw ac yn ddadansoddiad treiddgar o’r lle a’r cyfnod. Dyn o waed cymysg yw Johny Pitts – ei fam o ogledd Lloegr, er o dras Wyddelig. Wrth uniaethu â byd ‘du’ ei dad mae Johny yn ymateb i ddiffiniad a orfodir arno gan y gymdeithas o’i gwmpas. Esbonia ei fod yn defnyddio’r gair ‘du’ fel llaw-fer gyfleus gan wybod yn iawn mai categori a ddyfeisiwyd gan eraill ydyw. Mae’n anghysurus â’r categori ‘Black-British’ oherwydd y dewisiadau hunaniaeth sydd ymhlyg yn y term, ac rwy’n tybio mai’n rhannol i ddianc rhag y dewis hwnnw y mae’n coleddu’r syniad o fod yn Affro-Ewropead. Mae’n hiraethu hefyd, rwy’n credu, fel yr wyf innau, am yr ideoleg Sosialaidd draddodiadol oedd am drosgynnu categorïau lliw.
Ar gyfandir Ewrop mae Johny Pitts yn anorfod yn dwrist, ond yn un sy’n cwrdd â phobl wahanol i’r arfer ac yn sylwi ar bethau o ongl wahanol. Ym Merlin mae’n ymuno â phrotest dorfol y chwith radical. Mae llawer iawn o’r protestwyr yn ifanc, sy’n peri iddo feddwl y byddent yn nes ymlaen yn ymsefydlu’n gysurus mewn maestrefi tawel tra bydd brwydr yr ychydig dduon sydd yno’n para am oes. Wrth iddo aros yng ngorsaf reilffordd Brwsel, nid yw bod yn ddu yn rhwystr i ddau ddyn croenddu lleol geisio dwyn ei waled. Pan ddaw dynion seciwriti (a fu’n gwylio ar gamerâu cudd) i’w harestio, mae Johny yn teimlo drostynt – gallai’n hawdd fod yn eu sgidiau nhw. Yn Stockholm flaengar mae parau cymysg eu lliw yn ffasiynol, ond yn anffodus iddo ef mae’r ffasiwn bellach yn symud i gyfeiriad estheteg ‘Dwyrain Asia’. Yng nghanol Stockholm hefyd mae’n cwrdd â merch o’r un lliw ag yntau sydd wedi ei chymathu’n llwyr i’r gymdeithas leol a phrin wedi dioddef hiliaeth o gwbl. Ond y funud nesaf mae hi’n cwyno am safon iaith Swedeg y mewnfudwyr llai breintiedig yn Rinkeby, maestref lle mae tua naw deg y cant o’r boblogaeth yn fewnfudwyr. Ym Mharis mae’n ymuno â thaith dwristaidd o gwmpas cynefinoedd y duon enwog a dreuliodd gyfnodau yn y ddinas, megis y ddawnswraig Josephine Baker a’r awdur James Baldwin. Mae’r daith, a drefnir yn bennaf ar gyfer Americanwyr duon, yn gorffen mewn bwyty Senegalaidd lle mae’r gwesteion du yn amau glanweithdra’r lle; wedi’r cwbl, Americanwyr ar daith dramor ydynt. Mae’n rhaid iddo fynd ar ei ben ei hun i Clichy-sous-bois, y banlieue enwog a ffrwydrodd yn 2005 pan laddwyd dau lanc ifanc wrth iddynt ddianc rhag yr heddlu.
Mae olion yr ymerodraethau gynt o’i gwmpas ymhobman, ac nid yn y gwledydd mawr yn unig. Ceisia’r Iseldiroedd anghofio am ei hymerodraeth yn y Dwyrain Pell a’r Caribî, ond mae Pitts yn cyfweld pobl sy’n cadw’r cof yn fyw. Ni chaniateir fyth i Wlad Belg anghofio’r cyfnod cywilyddus pan laddwyd deng miliwn o bobl y Congo yn amser Léopold II, ac mae Pitts yn ymweld ag amgueddfa ger Brwsel sy’n tystio i’r cyfnod hwnnw. Yn nes ymlaen yn ne Ffrainc daw ar draws y Villa Léopold a fu’n eiddo i’r un brenin. Heb fod ymhell i ffwrdd mae un o’r tai moethus niferus a brynwyd gan Joseph Mobutu, un o arweinwyr mwyaf llwgr y Congo annibynnol, yntau wedi rheibio cyfoeth y wlad a’i thrigolion. Ac nid hanes gorffenedig yw hyn i gyd. Os yw’r rheibwyr gwreiddiol wedi mynd, mae Ewrop yn dal i elwa o’r hyn a ladratwyd.
Ym Mosco mae hi’n oer; does neb yn gwenu arno ac mae’n cael yr awyrgylch yn fygythiol. Cysur yw dwyn i gof y cyfnod Sofietaidd a datganiad Paul Robeson mai dyma’r lle cyntaf erioed iddo gael ei drin fel bod dynol, ac nid fel negro. Yn y 1960au sefydlwyd Prifysgol Lumumba yn arbennig i hyfforddi myfyrwyr tlawd y Trydydd Byd ac mae’r brifysgol yn dal yno, wedi newid ei henw a’i hideoleg bellach. ‘Hanner canrif o baratoi’r elît rhyngwladol’ dywed y murlun yn y llun ar y chwith, ac nid ieithwedd gomiwnyddol mo hynny. Yno yr aiff Johny Pitts i ganol myfyrwyr du er mwyn eu holi am eu profiad o hiliaeth, ond prin bod neb am siarad ag ef. Maent am fanteisio ar addysg rad a mynd adref. Nid Affropeaid mohonynt ond Affricanwyr ar ymweliad. Am fynd adref y mae Johny Pitts hefyd: ‘I felt stranded, even among the black students. I also felt as Western European as I ever have, and couldn’t wait to leave.’ Perthyn bydolwg Johny Pitts i’r triongl rhwng gorllewin Ewrop, Gorllewin Affrica a gwledydd caethwasiaeth y Caribî ac America. Gwladwriaeth imperialaidd oedd Rwsia hefyd, yn amser y Tsar a Chomiwnyddiaeth. Eu ‘duon’ hi heddiw, sy’n gweithio ym Mosco am y nesaf peth i ddim ac yn cysgu’n ddeg mewn un ystafell, yw’r Tadsiciaid a’r Cirgisiaid a phobl o fynyddoedd y Cawcasws. ‘Nhw,’ medd rhywun wrth Pitts, ‘sy’n dod yma ac yn mynd â’n swyddi.’
Ym Marseille y teimla Johny Pitts ei hun fwyaf cysurus, mewn dinas sy’n gymysgedd o bobl a dylanwadau Ffrengig ac Eidalaidd, y byd Arabaidd a’r byd Affricanaidd, du. Os bu lle yn haeddu’r enw Afropea erioed (meddaf i), yna’r byd clasurol, oedd yn troi o gwmpas Môr y Canoldir, oedd hwnnw, ac mae Marseille yn dyddio o’r cyfnod hwn. Mae Johny Pitts wedi darllen yn eang yn llenyddiaeth Gorllewin Affrica a’r Caribî, a hefyd yng ngwaith awduron du’r Unol Daleithiau; gan fod llawer ohonynt wedi treulio blynyddoedd yn Ewrop, mae’r llyfr yn fath o ddeialog â’r awduron fu yma mewn cyfnodau cynharach. Mae’r ddeialog yn troi’n ddadl ambell waith. Mae’n atgyfodi hen ddadl o fewn y gymdeithas ddu adeg ‘Dadeni Harlem’, rhwng y rhai oedd am i’r duon brofi eu bod mor weithgar ac uchelgeisiol a pharchus â’r gwynion (nid annhebyg i’r Cymry wrth ymateb i’r Llyfrau Gleision) a’r rhai fel Claude McKay, y bardd o Jamaica, oedd yn dewis dangos bywyd y gymdeithas ddu fel ag yr oedd yn ei dlodi ond hefyd yn ei hynodrwydd a’i harddwch. Mae Johny Pitts yn uniaethu â safbwynt McKay, a dyna reswm arall pam y mae bywyd deheuol ac ymlaciedig Marseille yn apelio ato. A dyna paham y mae cyfrol Pitts yn apelio ataf innau, am ei fod yn ennyn cydymdeimlad trwy ddangos – trwy gyfrwng geiriau celfydd iawn yn ogystal â lluniau, gan ei fod yn ffotograffydd dawnus. Lluniau du a gwyn sydd yn y llyfr, ond nid llyfr du a gwyn mohono.
Lluniau a fewnosodwyd: Château Rouge, Paris; De Pijp, Amsterdam.
Darllenwch ymhellach ar afropean.com