Adolygu

Perchnogi’r byd

Ar y bwrdd bach

Andrew Craig

How to own the world

John Murray, 38tt, £12.99, (2015) 2019

Perchnogi’r byd
Eluned Gramich

Amser darllen: 2 funud

11·12·2021

Os ydych chi am sicrhau pensiwn da pan fyddwch yn ymddeol, mae angen i chi brynu aur a’i gladdu yn yr ardd. Byddai metel drudfawr arall, megis arian, yn iawn, ond aur sydd fwyaf dibynadwy, yn ôl Andrew Craig. Yn y cyfamser, yr allwedd i ddiogelwch ariannol, meddai, yn ei ganllaw poblogaidd How to Own the World, yw buddsoddi mewn amrywiaeth eang o gynnyrch ariannol. Rhaid bod yn berchen ar gyfranddaliadau, arian parod, bondiau, eiddo, metelau gwerthfawr, ac asedau ledled y byd fel na fydd damwain mewn un rhan o’r farchnad yn effeithio’n ormodol arnoch. Peidiwch ag ymddiried yn y banciau: maen nhw’n mynnu gormod am eu gwasanaethau ac rydych yn colli allan trwy gadw arian parod mewn cyfrif cynilo, oherwydd chwyddiant. Mae Craig yn esbonio llog cyfansawdd (un o ryfeddodau’r byd) ac yn cwyno’n dawel am yr argyfwng hinsawdd, sy’n achosi tipyn bach o bryder iddo – ond mae’n casglu nad oes modd datrys yr argyfwng, ac yn y cyfamser mae’r farchnad yn ehangu, mae pobl gyfoethog yn dod yn fwyfwy cyfoethog, ac felly mae synnwyr yn dweud y dylid ymuno â nhw. Mae hefyd yn datgelu arswyd chwyddiant ac ymyriadau gwael gan y llywodraeth (Gordon Brown yn gwerthu aur y Deyrnas Unedig am lawer llai na’i werth, er enghraifft). Efallai mai ar gyfer pobl fel fi y bwriadwyd y gyfrol hon, pobl nad ydynt yn gwybod beth yw ‘cyfranddaliad’ neu ‘ddosbarth asedau’, sydd ddim ond yn amgyffred bod y cynilion yn eu cyfrif banc yn werth llai a llai dros amser, ac sy’n ystyried buddsoddi fel hobi anhygyrch ac i’r cyfoethog yn unig.

Ffrind i mi wnaeth argymell fy mod i’n darllen y gyfrol hon; fel arall, fyddwn i ddim wedi ei dewis. Banciwr buddsoddi yw fy mrawd yng nghyfraith ac a dweud y gwir ni ddeallais erioed yr hyn a wna wrth ei waith; ystyriais natur niweidiol cyfalafiaeth, ac anfoesoldeb ei ddewis o yrfa, ond dyna i gyd. Mae Craig yn gwneud pwynt da: mae’r frwydr am bensiwn, y frwydr i grafu byw ac arbed wrth deimlo eich bod chi’n mynd yn dlotach bob dydd ‘is often not a problem of income, it is a problem of financial literacy’. Rwy’n cofio gweld fideo o Jacob Rees-Mogg pan oedd yn ddeuddeg oed yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd yn siarad am yr hyn a roddodd ei dad iddo ar gyfer ei ben-blwydd: cyfranddaliadau. ‘It’s very pleasing,’ dywed y plentyn Rees-Mogg am fuddsoddi, ‘when you get it right and it goes up.’ Wrth ei ystyried yn y cyd-destun yma, mae gwaith Craig ar gyllid yn fwy na llawlyfr am ‘sut i wneud’ cyfalaf; mae’n faniffesto rhyfedd dros genhadaeth addysgol sy’n mynd i’r afael â chydraddoldeb economaidd. Wedi’r cyfan, dysgwyd Rees-Mogg am gyfranddaliadau gan ei dad: y gymdeithas freintiedig y cafodd ei eni iddi, y sgyrsiau o amgylch y bwrdd bwyd, yr hyder ariannol, sydd yn ei alluogi i gronni cyfoeth. Wrth gwrs, byddai’n well gan Rees-Moggs y byd hwn pe bai mwyafrif y boblogaeth yn parhau i fyw mewn anwybodaeth ynghylch symlrwydd buddsoddi. Ac am y rheswm hwnnw’n unig, mae’n werth darllen How to Own the World

Pynciau:

#Rhifyn 17
#Eluned Gramich
#Ar y bwrdd bach
#Arian