Trais, gynnau a bod yn fam
Adolygiad o Aderyn Prin gan Elen Wyn
Elen Wyn
Aderyn Prin
Y Bwthyn, 224tt, £8.95, Hydref 2016
Cwlwm o bechodau ac euogrwydd sy’n rhwymo’r nofel hon ynghyd, wrth inni ddilyn hanes Lena a’i theulu, y pechodau a gyflawnir ganddynt, a’r rheiny sy’n talu’r pwyth am eu drwgweithredoedd, a hynny o Washington i Waunfawr a hyd at byrth y nefoedd.
Yn ei hail nofel, llwydda Elen Wyn i greu cymeriadau hoffus a difyr. Mae ganddi’r gallu i greu disgrifiadau byw o leoliadau. Er hynny, mecanyddol yw’r strwythur ar adegau. Mae’r nofel wedi ei rhannu yn ddwy ran, un wedi ei gosod yn Washington, lle dilynwn yrfa Lena yn yr FBI, a’r ail nôl yn Waunfawr, wedi iddi orfod dychwelyd i’w chartref i wynebu colled deuluol. Ceir hefyd ddwy bennod swrrealaidd wedi eu gosod mewn rhyw fath o burdan neu limbo, cyn i’r meirw gyrraedd y nefoedd/uffern. Mae hwn yn syniad gwreiddiol ac mae hi’n biti na ddatblygwyd mwy arno.
Byddai’r nofel wedi elwa hefyd o gael gwared ar baragraffau gwastraffus a chyfeiriadau at fanion amherthnasol. Mae yna duedd i’r darnau cyffrous droi’n felodramatig, pan fyddai cyffyrddiad mwy minimalaidd wedi cynnal y tensiwn yn fwy effeithiol. Er enghraifft, yn yr olygfa lle mae Lena yn ceisio achub babi rhag ei herwgipiwr mewn gorsaf drenau danddaearol, mae’r paragraff sy’n sôn am ddydd marwolaeth Kyffin Williams yn taro nodyn od, ac yn lleihau tensiwn yr olygfa. Ym mhennod chwech, wedyn, pan gawn ni ddisgrifiad o Festhesda (Maryland) yn oleuadau a glaw i gyd, arafu’r tempo a ffwndro’r darllenydd wna’r cyfeiriad manwl at Yncl Wil o Fethesda (Cymru) sy’n torri tafellau bara afresymol o denau. Nid yw Yncl Wil yn cyfrannu o gwbl at ddatblygiad y stori a does dim angen gwastraffu 12 llinell o bennod ddwy dudalen o hyd arno, hyd y gwelaf i.
Ond gadewch i ni droi at olwg fanylach ar y cymeriadau, ac at y cymeriadau benywaidd yn benodol, gan mai cyfrol yn llawn merched yw hon. Mae digon o enghreifftiau mewn llenyddiaeth Gymraeg o fenywod cryf - o fatriarchiaid Kate Roberts, i fenywod ffraeth Lleucu Roberts. Yr hyn sydd fymryn yn anarferol yn y nofel hon yw mai merched treisgar yw merched Elen Wyn: Lena, y prif gymeriad, sy’n asiant FBI ac yn cario gwn; Kathia, yr herwgipwraig; Nina a’i phadell ffrio. Mae nhw’n fenywod sydd wedi crwydro'n eithaf pell o ystrydeb ‘mam Gymreig’ Dr Kate. Ac os mai pechod ac euogrwydd sy’n rhwymo’r nofel yn thematig, yna greddfau mamol sy’n gyrru ei chymeriadau.
Caiff trais gan fenywod – pwnc a esgeuluswyd hyd yn hyn – ei drin gan Laura Sjoberg a Caron E Gentry yn eu cyfrol Mothers, Monsters, Whores (2007), a hynny yng nghyd-destun gwleidyddiaeth ryngwladol a’r ffordd y caiff gweithredoedd treisgar gan fenywod eu hegluro gan y wasg. Yn ôl Sjoberg a Gentry, caiff trais gan ddynion ei egluro yn rheolaidd yn nhermau ideoleg, crefydd a gwleidyddiaeth. Ond tri eglurhad arall sydd yn gweddu i drais gan fenyw; mae’r fenyw dreisgar yn gweithredu fel mam, fel bwystfil neu fel putain. Ymhellach, tra bod dynion yn gweithredu ar sail egwyddor, rhesymeg ac oddi mewn i’r sffêr cyhoeddus, emosiwn a pherthnasau rhamantus neu deuluol sy’n rheoli merched, a hynny oddi mewn i’r sffêr breifat, hyd yn oed pan gaiff y weithred dreisgar ei chyflawni yn gyhoeddus.
Nid gweithredoedd gwleidyddol a gyflawnir gan fenywod Aderyn Prin, ac mae eu trais wedi ei gyfyngu i’r sffêr breifat ar y cyfan. Ond y reddf famol (neu ei diffyg) sy’n gyrru pob dynes yn y nofel, fwy neu lai. Dadleua Sjoberg a Gentry bod y profiad mamol yn cael ei ddefnyddio mewn dwy ffordd i egluro gweithredoedd menywod: mae mam naill ai’n ofalwraig fagwrol, neu yn fam chwerw, ddialgar. Yn y naill achos, y fam sydd yn mynd y tu hwnt i bob rheswm er mwyn amddiffyn ei hepil, ei gŵr neu ei threfniant domestig. Yn y llall, mae’r fenyw wedi ei gyrru y tu hwnt i bob rheswm, tuag at ddialedd, gan rwystredigaethau sy’n deillio o fethiant, diffyg neu golled.
Naratif y fam ddiffygiol a welir yng nghymeriad Kathia sydd, o fod wedi methu ag esgor ar faban byw ac iach, yn cael ei gyrru i herwgipio baban arall. Mae Nina, wedyn, yn cael ei gyrru i lefelau seicopathig o drais ar ôl colli ei mab a’i gŵr. Ofni bod yn fethiant o fam sydd wrth wraidd anallu Magw i fod yn ‘fam dda’; mae hi’n llwyddo i ddieithrio ei merch ac i wireddu ei hunion ofnau fel rhyw fath o broffwydoliaeth hunan-wireddol. Does dim modd ennill: pan fetha Lena ag ymdopi mewn sefyllfa lle mae’n rhaid trafod a darbwyllo troseddwraig – sefyllfa y mae hi wedi ei hyfforddi’n broffesiynol i ymdopi â hi – ei anghyflawnder ei hun, fel un nad yw’n fam, sydd yn gyfrifol am ei methiant. Mae greddf famol naturiol ei chwaer ddibrofiad, ar y llaw arall, yn ei galluogi hithau i lwyddo. Ac mae’r reddf famol honno fel petai’n drech na holl hyfforddiant a phrofiad ei chwaer.
Mewn nofel wedi ei chanoli ar un teulu, mae’n siŵr mai anochel yw i’r profiad mamol fod yn ddylanwad cryf ar y cymeriadau. Ond difyr yw nodi mai’r reddf famol sy’n gyrru’r lleill hefyd, hyd yn oed y tu allan i gylch teuluol Magw-Lena-Naomi-Beth-Sali. Teg yw dweud fod y personol a’r teuluol yn cael effaith sylweddol ar unigolion a’u gweithredoedd ond mae angen golwg feirniadol ar y duedd barhaus i seilio gweithredoedd menywod ar ysgogiadau teuluol a phersonol ar draul yr amrywiol ddiddordebau eraill sy’n rhan o brofiad menywod.
Mae’r nofel hon yn gosod y profiad mamol reit yng nghanol ystod profiadau’r fenyw, a’r awgrym yw bod ymyrraeth â chwrs naturiol, ‘cywir’ y profiad hwnnw yn brofiad andwyol i fenyw. Yn achos Lena, mae diffyg profiad o fod yn fam yn ei gwneud hi’n annigonol. Profiad rhwystredig oedd gweld cymeriad mor gryf â Lena, a oedd wedi llwyddo i ddiosg y disgwyliadau rhyw-ganolog yn ei dewis yrfa, yn cael ei chornelu yn y diwedd gan ystrydeb y fenyw ddi-blant.
Ond wedyn dydw i ddim yn fam, felly be wn i, ’de?
Enillodd Elan Grug Muse Gadair Eisteddfod yr Urdd 2013. Mae hi'n fyfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn un o gyd-sylfaenwyr Y Stamp.
Hefyd gan Elan Grug Muse: Ffêc tan, lager a merched Abermandraw, Chwyldro mewn ‘Disni Land glawog’ a Cwymp byddarol