Adolygu

Hela’r heliwr

Ar y bwrdd bach

László Krasznahorkai

The Last Wolf

Tuskar Rock Press, 120tt, £12.99, (2009) 2017

Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 3 munud

29·05·2024

Disgrifiwyd byd ffuglennol yr awdur Hwngaraidd László Krasznahorkai fel byd Dostoiefscaidd, dim ond bod Duw wedi ei dynnu ohono. Tebyg mai’r nofel Sátántangó (1985; Tango Satan) sydd fwyaf cyfarwydd i ddarllenwyr y Saesneg, nofel gyntaf yr awdur, oherwydd iddi gael ei throsi’n ffilm hir iawn, 6 awr o hyd (1994), gan y gwneuthurwr ffilmiau ardderchog Béla Tarr. Enillodd y cyfieithiad Saesneg gan George Szirtes wobr Best Translated Book 2013 a dyna oedd dechrau’r diddordeb cwltaidd yn ei waith ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau. Os ydych yn mwynhau gwaith José Saramago, Thomas Bernhard, W G Sebald neu Peter Handke, ond ddim eto wedi darllen unrhyw beth gan Krasznahorkai, dylid mynd ati ar unwaith. Mae ei fydolwg, er yn un o ddadrith ysgubol, yn un lle ceir ymdeimlad o drugaredd cwbl arbennig na ddarganfyddais ar yr union ffurf hon yn unlle arall. Mae’n llwyddo i roi mynegiant i wagedd dyn trwy adael y mymryn lleiaf o olau i mewn i’w dudalennau, golau eiddil enbyd sy’n gadael y darllenydd yn syfrdan. Ac mae ei frawddegau hirion a’i ddiffyg paragraffu, er yn golygu bod rhywun ofn rhoi cychwyn arni, yn rhan hanfodol o’r cyfan.  

Er efallai nad The Last Wolf ydi’r gyfrol o’i eiddo wnaeth fy nghyfareddu fwyaf, mae’n rhwyddach troi at hon oherwydd ei bod yn llawer byrrach na’r mwyafrif o’i gyfrolau eraill sydd ar gael yn Saesneg. Ceir tair stori yn y gyfrol, y gyntaf yn nofela (‘The Last Wolf’) am rywun sy’n ennill ei fara a menyn trwy feddwl ond sydd eto i gyd wedi rhoi’r gorau i feddwl. Mae’n rhygnu byw yn strydoedd budron Berlin pan gaiff gais fel awdur gwadd i fynd i Extremadura, i ‘roi llais i flodeuad [...] y diffeithiwch hwn fu unwaith yn rhan o hanes’ (gan ddwyn i gof freuddwyd mwy nag un swyddfa dramor Gymreig). Mae’n meddwl yn siŵr fod camgymeriad, mai nid ar ei gyfer o y mae’r gwahoddiad, gan nad ydi’r person y mae wedi ei gyfeirio ato yn bodoli mwyach ac yntau wedi hen roi’r gorau i feddwl. Ond rywsut neu’i gilydd – am y pres, fallai – mae’n derbyn y gwahoddiad ac, wedi cyrraedd, rywsut neu’i gilydd, mae’n treulio ei amser ar drywydd y blaidd olaf a laddwyd yno, dim ond nad oes modd gwybod i sicrwydd mai dyma oedd y blaidd olaf. Mae enigma’r syniad o ‘flodeuad y diffeithwch’, a’r obsesiwn ynghylch dod o hyd i union hanes hela’r bleiddiaid, a wnelo â darganfyddiad yr awdur gwadd fod Extremadura mewn gwirionedd yn bodoli y tu hwnt i’r byd, ond nad oes neb yno fel petai’n ymwybodol o faint y peryg a ddaw o fod, yr un pryd, mor agos at y byd. 

Un frawddeg hir sy’n para 70 tudalen ydi’r nofela hon, wedi ei ffurfio trwy feddyliau’r prif gymeriad ond sy’n diriaethu’n ddrysfa, ar ffurf y penderfyniadau a wneir ganddo, drysfa y mae’n gorfod wynebu ei muriau cyfyng, os am ddeall strwythur ei ddryswch. Mae’r obsesiwn â hela’r heliwr, a’r gorgyffwrdd rhwng pobl ac anifeiliaid, yn rhan o’r ddwy stori arall hefyd, a dyna’r rheswm, mae’n siŵr, dros eu tynnu ynghyd yn y cyfieithiad hwn.

Sioned Puw Rowlands ydi golygydd O’r Pedwar Gwynt.

Pynciau:

#Rhifyn 24
#Sioned Puw Rowlands
#László Krasznahorkai
#Hwngari
#Ar y bwrdd bach