Cyfweld

Byw yn y presennol

Holi Ágnes Heller

Csaba Polony

Amser darllen: 25 munud

01·08·2023

Gweddillion cofeb i Stalin, Budapest, 2017. (Llun: Matt Black/Magnum Photos)
 

Bu Ágnes Heller, a anwyd yn Budapest yn 1929, yn byw dan rai o gyfundrefnau totalitaraidd mwyaf eithafol yr ugeinfed ganrif: Natsïaeth, a laddodd ei theulu, a’r gyfundrefn Sofietaidd a’i gyrrodd i fyw yn alltud. Bu’n fyfyriwr i György Lukács ac yn aelod o’r grŵp o athronwyr a chymdeithasegwyr disident yn Hwngari y 1960au a’r 1970au. Yn 1977 gadawodd ei gwlad enedigol am Awstralia, ac yna Efrog Newydd lle daeth maes o law i olynu Hannah Arendt yn ei chadair yn y New School for Social Research. Wedi ymddeol, dychwelodd i Hwngari a’i brwydr olaf oedd yn erbyn llywodraeth Viktor Orbán. Bu farw wrth nofio yn llyn Balaton yn haf 2019. 

Ei phrif ddiddordeb oedd moeseg ac yn ei chyfrol An Ethics of Personality (1996) amlinellodd athroniaeth foesegol o bersbectif ôl-fetaffisegol. Roedd o’r farn mai dim ond ar sail yr hunan, ar lefel yr unigolyn, y mae modd adeiladu gweledigaeth ar gyfer ein hymddygiad moesol tuag at eraill, nid ar sail system allanol neu archdeipiau; rhaid i’r unigolyn gymryd cyfrifoldeb didwyll dros yr hyn ydyw, a bod yn ffyddlon iddo’i hun. 

Roedd yr egwyddor o fyw yn y presennol, a bywyd bob dydd, yn allweddol i’w moeseg. Meddai mewn cyfweliad ar gyfer Le Monde ychydig fisoedd cyn ei mar-wolaeth yn 2019, ‘Wnes i erioed gredu yn yr egwyddor gyffredinol o gynnydd... Dylsem feithrin ein gardd, datblygu yr hyn sydd o fewn terfynau’r gofod hwn a pheidio â sôn gormod am ardd ein cymydog. Rhaid aros yng ngorsaf y presennol, ei harddu, ei haddasu fel ei bod yn ateb ei diben. Ond ni ddylsem gamu ar drenau’r dyfodol, oherwydd nid oes modd i ni ragweld sut y bydd dyn yn meddwl mewn 200 mlynedd. Mae hi’n bwysig byw yn y presennol. Rydym wedi ein cau ynddo.’

Mae ei gwaith yn gwneud defnydd o dechnegau creadigol megis deialog dramatig i gyfleu ei syniadau, rhywbeth sy’n lled anarferol ym maes athroniaeth heddiw. Mae ei chyfrol fywgraffyddol, A Short History of My Philosophy (2010), yn gyflwyniad darllenadwy i’w bywyd a’i gwaith.

Cynhaliwyd y cyfweliad hwn fis Mawrth 1997 yn Bwdapest. Csaba Polony (1944–2014), golygydd y cyhoeddiad Left Curve (Unol Daleithiau), oedd yn cyfweld a chyhoeddwyd y sgwrs yn wreiddiol yn y cylchgrawn hwnnw yn 1998 (rhif 22). Mae’n rhoi darlun diddorol, annisgwyl ar brydiau, o lle roedd pethau arni ar y pryd, gwta chwarter canrif yn ôl. [SPR]

*

Fedrwch chi sôn yn fyr wrthym am eich cefndir, eich hyfforddiant a’r materion sydd wedi bod fwyaf ar flaen eich meddwl?

Fy ngwaith ydi fy mywyd yn ei gyfanrwydd. Hoffwn ddechrau â fy mhrofiad o’r Holocost. Cafodd fy nhad ei ladd, yn ogystal â nifer o fy ffrindiau bore oes. Mi gafodd y profiad hwn ddylanwad aruthrol ar fy mywyd, ac yn arbennig ar fy ngwaith. Roeddwn i bob amser â diddordeb yn y cwestiwn sut allai hyn fod wedi digwydd, a sut mae modd i mi wneud synnwyr ohono. Ar wahân i fy mhrofiad o’r Holocost, roedd y ffaith i mi fyw mewn cyfundrefn dotalitaraidd yn codi cwestiynau tebyg iawn wrth i mi geisio dirnad y pethau hyn: sut y gallai hyn ddigwydd, sut y gallai pobl wneud pethau o’r fath? Roedd rhaid i mi geisio deall mwy am foesoldeb, am natur da a drwg. Beth fedraf i ei wneud ynghylch trosedd, beth fedraf i ei ddeall am wraidd moesoldeb a drygioni? Dyna oedd y man cychwyn i fy ngwaith.

Roedd cwestiwn o natur cymdeithasol hefyd: pa fath o fyd sy’n gallu creu hyn, pa fath o fyd sy’n caniatáu i bethau fel hyn ddigwydd? Beth yw modernrwydd? A oes modd i ni fedru disgwyl gwaredigaeth? Cwestiynau fel hyn oedd yn mynd â fy sylw, roeddwn yn meddwl yn angerddol amdanynt yn gynnar iawn. Ac ro’n i’n teimlo, fel rhywun a oroesodd, fod gen i ddyled i’w thalu. Daeth ysgrifennu athroniaeth foesol ac athroniaeth hanes wedyn yn ffordd i mi dalu fy nyled i’r rhai na wnaethant oroesi. Felly yn yr ystyr hwn, mi ddaeth f’athroniaeth yn fath ar aberth, ond aberth yr oeddwn yn ei mwynhau. Tydi hyn ddim yn groesddywediad, gallaf ddweud yn ddiffuant fod fy mywyd yn ei gyfanrwydd wedi bod yn aberth er mwyn talu fy nyled a’r un pryd ro’n i’n mwynhau ysgrifennu athroniaeth.

Am fy nghefndir ymarferol: ar ôl y rhyfel, pan o’n i’n bymtheg oed, mi wnes i gofleidio Seioniaeth. Roeddwn yn credu ar y pryd fod gwaredigaeth yn dod o Seion ac roeddwn yn bwriadu mynd i Balesteina. Ond pan oeddwn yn ddwy ar bymtheg neu ddeunaw oed mi newidiais fy meddwl a dewisais aros yn Hwngari, er mwyn mynd i Brifysgol Budapest i astudio Cemeg a Ffiseg. Ar ôl i mi ddechrau fy nghwrs, mi wnaeth fy nghariad ar y pryd ofyn i mi fynd efo fo i wrando ar György Lukács a’i gwrs o ddarlithoedd ar athroniaeth diwylliant. Ar y dechrau dweud ‘na’ wnes i i’r gwahoddiad, doeddwn i ddim â diddordeb yn yr hyn a oedd yn fy nharo fel pwnc da-i-ddim. Nid gwyddoniaeth go iawn oedd hyn. Roedd hi’n bwysig iawn i mi ddangos bod merch yn medru rhagori mewn gwyddoniaeth gystal ag unrhyw ddyn. Roeddwn am fod yn wyddonydd, fel Madame Curie, wrth gwrs. Ond dan ddylanwad fy nghariad, mi wnes i gytuno yn y diwedd i fynychu un o ddarlithoedd Lukács. Felly un diwrnod roeddwn yn eistedd yno yn gwrando ar Lukács yn trafod Shelling neu Hegel – fedra i ddim cofio yn union pa un – ac mi wnaeth wawrio arna i nad oeddwn yn deall dim o’r hyn roedd o’n ei ddweud. Ond roedd un peth, serch hynny, roeddwn i wedi ei ddeall yn iawn, sef bod yr hyn oedd dan sylw ganddo yn holl bwysig, a’i bod yn fater o raid i mi geisio deall hyn. Mi wnaeth fy mhrofiad y diwrnod hwnnw ar y naill law, a fy mhrofiad o’r Holocost ar y llaw arall, gyfuno yn fy meddwl oherwydd gwyddwn fod y ddau, yn sylfaenol, yn ymwneud ag ystyr bywyd. Mi ddaeth hyn yn llawer mwy pwysig i mi na’r gwyddorau ‘caled’ fel ffordd o ddeall y byd rydw i’n byw ynddo. Mi sylweddolais nad oeddwn am fod yn gemegydd nac yn ffisegydd, roeddwn am ddeall y byd. Mi wnaeth ymwybyddiaeth o’r ddyled roedd rhaid i mi ei thalu o ganlyniad i’r Holocost gyfuno efo’r sylweddoliad nad oeddwn i’n deall dim ar y byd. Felly mi wnes i roi’r gorau i fy ngwersi cemeg a ffiseg ar unwaith ac ymuno â Lukács. O hyn allan, myfyrwraig athroniaeth oeddwn i, ac yna yn nes ymlaen, myfyrwraig athroniaeth a llenyddiaeth Hwngaraidd. Penderfynais mai dyma oedd fy ffawd a dewisais bryd hynny mai athronydd roeddwn i am fod. A deuais i’r casgliad hefyd nad ydi rhywun fyth yn datblygu, mewn gwirionedd. Y foment mae rhywun yn ‘dewis ei hun’ fel athronydd mae’n athronydd i bob pwrpas, cystal ag y bydd fyth, boed iddo fyw yn 80 neu’n 90 neu’n 100 oed. Mae modd dysgu mwy, wrth gwrs, casglu mwy o wybodaeth, gwneud cymariaethau, ond fydd hynny ddim yn gwneud rhywun yn well athronydd. Yr un person ydi rhywun. Bryd hynny, pan wneir dewis fel hyn, mae fel petai rhywun yn croesi rhyw linell, wn i ddim beth yn union.

Beth sydd gennych mewn golwg wrth ddweud nad oes dim yn newid?

Does dim yn newid yn ymrwymiad yr unigolyn. Dyna pam yr oedd hi’n llawer pwysicach i mi fynd i’r afael â f’athroniaeth yn hytrach na gwleidyddiaeth, er enghraifft, a derbyn gwleidyddiaeth gomiwnyddol. Roeddwn yn aelod o’r Blaid Gomiwnyddol am ddwy flynedd. Roeddwn wedi fy niarddel o’r Blaid eisoes yn 1949. Cefais fy nerbyn yn ôl a fy niarddel am y tro olaf yn 1958. Ar y pryd roedd modd dewis rhwng gwleidyddiaeth ac athroniaeth. Ond roedd gwrthdaro rhyngddynt hefyd. Roedd hi’n amlwg pe bai rhywun yn derbyn cyfeiriad y Blaid a’i ddilyn gam wrth gam nad oedd modd mynd i’r afael ag athroniaeth, oherwydd roedd rhaid derbyn rhai pethau nad oedd modd derbyn eu bod yn wir. Os ydi rhywun yn penderfynu peidio â dilyn y llwybr hwnnw yna mae eisoes wedi ‘dewis ei hun’ fel athronydd a fydd o ddim yn newid wedyn, yn yr ystyr y bydd athroniaeth bob amser yn dod o flaen unrhyw ymarfer arall. Dim ots beth mae rhywun yn ei wneud, pa opsiynau bynnag sydd ar y bwrdd, yr addewidion, y dyrchafiadau, dychwelyd i athroniaeth y bydd rhywun bob tro oherwydd mai dyna oedd y dewis gwaelodol. Mae modd dysgu llawer, casglu ynghyd lawer o wybodaeth, darllen llawer o lyfrau, dod yn hyddysg mewn paratoi a thraddodi darlithoedd, symud yn rhydd trwy’r byd materol, ond eilradd ydi hynny i gyd. Yr hyn sy’n dod gyntaf yw’r dewis sylfaenol a wnaethpwyd.

Hoffwn ofyn cwestiwn i chi ynghylch eich profiad o gomiwnyddiaeth fel athroniaeth ac fel mudiad gwleidyddol ymarferol. Roedd delfrydau’r mudiad comiwnyddol ar y pryd yn ymateb i’r math o gwestiynau rydw i’n cymryd eich bod chithau hefyd yn chwilio am atebion iddynt: pam fod yna ddioddefaint? Pam fod yna orthrwm a sut i liniaru neu newid yr amgylchiadau sy’n cynhyrchu hyn? Ar sail eich profiad chi, beth ddigwyddodd – o ystyried yr agweddau gorau ar ddelfrydau’r mudiad hwnnw – beth oedd yn gyfrifol am y methiant hwn? 

Iawn. Y rheswm yr ymunais â chomiwnyddiaeth oedd oherwydd yr hyn rydych wedi ei grybwyll. Roedd yn cynnig yr hyn roeddwn yn chwilio amdano. Roedd yn cynnig eglurhad ynghylch pam fod dioddefaint yn y byd a hefyd gwaredigaeth ddaearol – ail ddyfodiad o fath. Ond yn eitha buan daeth yn amlwg mai ffug oedd hyn. Oherwydd mewn athroniaeth mae angen gwaredigaeth ac atebion i’r fath gwestiynau. Ond mae angen rhywbeth arall hefyd, y gallu i feddwl drosoch eich hun. Mae angen y ddau ond roedd gwrthdaro rhyngddynt. Roedd y Blaid yn cynnig cynllun ar gyfer gwaredigaeth ond nid oedd fyth yn caniatáu i chi feddwl drosoch eich hun. Roedd croesddywediad rhwng y ddau. Fel mae’n digwydd, dyna sut oeddwn i’n byw Marcsiaeth ar y dechrau. Yn nes ymlaen, deuais yn Farcsydd ond roeddwn i hefyd yn reit wrthwynebus i gomiwnyddiaeth Hwngaraidd. Roedd hyn yn ffon ddwybig, neu gyfyng-gyngor os leciwch chi. Marcsiaeth, ie, oherwydd ei bod yn cynnig addewid o waredigaeth, ond nid y ffurf hon ar gomiwnyddiaeth, oherwydd nid yw’n caniatáu i chi feddwl drosoch eich hun. Mi wnaeth ffrind da i mi fynegi’r anghysondeb hwn yn 1952 yn y ffordd ganlynol: ‘Mae’r hanfod yn dda ond mae’r hyn sydd yn y golwg yn ddrwg.’

Dwi’n meddwl bod hwn yn ymadrodd hardd. Yr hanfod ydi’r addewid o’r hyn sydd yn y theori, yn arbennig yn y Marx cynnar. Ar y llaw arall, does dim modd cytuno efo’r hyn maen nhw’n ei ddweud [y comiwnyddion mewn grym] a tydyn nhw ddim yn caniatáu i chi feddwl drosoch eich hun. Mae hynny’n broblem o ran personoliaeth hefyd i mi. Rydw i’n gyfunolydd (collectivist) ac yn unigolydd (individualist) yr un pryd. Rydw i wrth fy modd yn cyfarfod ag eraill, rydw i wrth fy modd yn cael rhywbeth i frwydro drosto ac mi rydw i bellach yn anniddig nad oes gen i achos i frwydro drosto. Mae’n well gen i fywyd efo achos, mae’n bwysig i mi fedru deffro yn y bore a meddwl sut y gallaf gyfrannu at yr achos. Ond yr un pryd, dw i am aros yn driw i fi fy hun fel unigolyn. Sut mae modd gwneud y ddau beth hyn gyda’i gilydd? Mae’n anodd dros ben, fallai nad yw’n bosib.

Hoffwn eich holi ynghylch y dyfyniad rydych newydd ei grybwyll. Onid problem oesol ydi honna, un draddodiadol, yn yr ystyr cyn yr oes fodern ystyrid mai’r hanfod oedd gwir realiti, tra ystyrid ymddangosiad pethau yn rhith, yn lledrith? Mewn geiriau eraill, ystyrid bod y byd materol yn bodoli dros dro tra bod yr ysbryd neu’r enaid yn dragwyddol – yn y cysyniad canol oesol o bethau a chyn hynny hefyd. A rhan o’r broses o foderneiddio oedd gwneud ymddangosiad pethau yn real a’r hanfod yn rhith [...] Ydych chi o’r farn bod methiant Marcsiaeth, neu o ymestyn hynny, methiant modernrwydd yn ei gyfanrwydd, ynghlwm â’r gwrthdaro hwn?

Ar y pryd, pan oeddwn yn ymwneud â’r broblem yna, doeddwn i ddim yn ymwybodol o ddadadeiladaeth metaffiseg. Doeddwn i ddim yn ymwybodol bod Marcsiaeth, a hyd yn oed Karl Marx eisoes, yn fetaffiseg newydd – ac mae modd ei gymharu o ddifri â’r hyn roedd Heidegger a Nietzsche yn ei ddisgrifio fel gwrthdroad metaffiseg. Yr hanfod wedyn ydi’r hyn sydd oddi tano, mae’n ddwfn ac nid yw’n uchel i fyny. Rhaid mynd yn ddwfn a datgysylltu’r hanfod oddi wrth fyd yr hyn sy’n ymddangos ar yr wyneb, byd ffetisiaeth nwyddau (commodity fetishism). Gwrthdroad metaffiseg yw’r hyn sy’n ymddangos yn eich bywyd bob dydd, mewn cyfathrebu ac ymwneud bob dydd ac ati ac yng ngwrthdroad ymddangosiad rhywbeth sydd, mewn gwirionedd, yn ddwfn ac yn hanfodol. Ond ar y pryd, doeddwn i ddim wedi profi hyn yn y termau hynny. Rydw i’n cyfeirio at faes ehangach Marcsiaeth, nid Karl Marx. Roedd Marx yn cogito a oedd yn ehangu theori fawr modernrwydd. Yn fy marn i mae yna dri theorïwr mawr modernrwydd sy’n cwmpasu mwy nag un maes: Hegel, Marx a Max Weber. Roedd yr holl theorïwyr eraill yn ymdrin â modernrwydd o ryw un ongl neu’i gilydd ond doedden nhw ddim yn rhoi i ni theori gyffredinol o fodernrwydd. Ond fyddwn i ddim am sôn am fethiant modernrwydd. Syniad rhamantaidd iawn ydi hwnnw [...] Mae’n cymryd y dylai modernrwydd fod wedi bod yn rhywbeth amgenach, ac oherwydd na ddaeth rhywbeth gwell yn ei sgil, ei fod, trwy ddiffiniad, wedi methu.

Allwch chi ymhelaethu ar y syniad yma, na wnaeth modernrwydd fethu yn eich barn chi?

Gallaf. Wnaeth modernrwydd ddim methu. Os ydym yn meddwl i fodernrwydd fethu rhaid i ni gymharu modernrwydd â’n disgwyliadau, a’r cwestiwn y byddem wedyn yn ei ofyn ydi a oedd ein disgwyliadau’n anghywir. Roeddem yn disgwyl datblygiad, roeddem yn disgwyl dilyniant, roeddem yn disgwyl y byddai’r byd modern yn datrys yr holl broblemau nad oedd y byd cyn-fodern yn medru eu datrys. Roeddem yn disgwyl i’r byd modern fod yn llawer amgenach na phob math o drefniadaethau cyn-fodern. Wnaeth hynny ddim digwydd ac yn lle siarad am fethiant modernrwydd rhaid i ni ofyn a oedd ein disgwyliadau yn gywir. 

Yn hytrach, mae angen i ni ystyried modernrwydd fel rhywbeth gwahanol i’r holl drefniadaethau cymdeithasol cyn-fodern. Tydi’r ffaith ei fod yn wahanol ddim yn golygu ei fod o angenrheidrwydd yn well; mae’n wahanol, dyna’r cyfan. Ac os ydym yn ei ddisgrifio fel rhywbeth gwahanol rhaid i ni ofyn sut y mae’n cyflawni’r dasg honno, fel trefniadaeth gymdeithasol newydd, yn wahanol i’r holl drefniadaethau cymdeithasol blaenorol. Ac am y tro, does dim modd i ni siarad am fethiant modernrwydd ond yn hytrach am ei lwyddiant anferthol. Oherwydd mi gafodd ei ddatblygu gyntaf ddwy neu dair canrif yn ôl yn Ewrop ac oddi ar hynny mae wedi lledu trwy’r byd i gyd. Mae’r byd i gyd, i bob pwrpas, wedi troi’n fodern, o leiaf o ran ei drefniadaeth gymdeithasol. Llwyddiant syfrdanol ydi hyn, nid methiant o gwbl. Wrth gwrs, os ydych yn anniddig â’r byd modern, os nad ydych yn ei hoffi, os ydych yn teimlo bod ystyr wedi ei golli ac os ydych yn ofnus, ac yn siarad â Heidegger yna, ydi, dwi’n meddwl ei fod yn fethiant. Ond nid methiant modernrwydd ydi hyn, mae anniddigrwydd efo modernrwydd hefyd yn rhan o fodernrwydd. Mae’n rhan o’i weithrediad, o’r ffordd mae’n gweithio, mae’n perthyn i’w allu i oroesi. Does dim modd cynnig ateb ar gyfer hynny eto. Mae’n drefniadaeth gymdeithasol newydd iawn ac mae’n anodd i ni ddychmygu sut y gall trefniadaeth gymdeithasol efo cyn lleied o ddimensiwn ysbrydol oroesi. Mae’n gwestiwn a all modernwydd oroesi. Mae’n rhy fuan i ddweud, ond ar hyn o bryd, does dim modd ei ddisgrifio fel methiant.

I droi’n ôl at hynt eich bywyd, fedrwch chi ddisgrifio’r amgylchiadau ar yr adeg y bu i chi adael Hwngari? Pam wnaethoch chi adael?

Gadewais oherwydd yr hyn a elwid ‘Prawf yr Athronwyr’, a gafwyd yn 1973 – dyna sut y cyfeirir ato erbyn hyn yn hanes Hwngari. Penderfyniad gan y Blaid yn erbyn grŵp o athronwyr a chymdeithasegwyr oedd y prawf, yn bennaf myfyrwyr György Lukács a’u dilynwyr hwythau. Hanfod y penderfyniad yn eu herbyn oedd hyn: gan y dylai Marcsiaeth-Leniniaeth gael ei harfer mewn sefydliadau Hwngaraidd, does dim lle yn y sefydliadau hyn i’r rhai hynny sydd yn erbyn Marcsiaeth-Leniniaeth. O ganlyniad dylid gwared y bobl hyn o’u swyddi. Felly cawsom ein diswyddo o’n swyddi yn y Sefydliad Athroniaeth a’r Sefydliad Cymdeithaseg ac roeddem yn ddi-waith. Hynny ydi, yn ‘ddi-waith mewn egwyddor’ oherwydd yn swyddogol, doedd dim diweithdra bryd hynny. A doedd dim modd ymgymryd â swydd o statws is, ond yr un pryd, yn unol â phenderfyniad y Blaid, doeddem ni, fel gweithwyr ‘gwyddonol’, ddim â’r cymwysterau i weithio yn ein maes oherwydd ein bod yn cwestiynu Marcsiaeth-Leniniaeth. 

Tra oeddem yn ddi-waith mi wnaethom benderfynu gadael Hwngari, nid dim ond oherwydd ein bod yn ddi-waith ond oherwydd ein bod yn cael ein poeni’n barhaus gan yr heddlu; roedden nhw’n ein dilyn ar y stryd, yn gyrru clepgwn ac ysbiwyr i’n cartrefi, ac fe gafodd fy ngŵr, Feri [Ferenc Fehér], ei garcharu am rai dyddiau. Byddai ein fflatiau’n cael eu harchwilio yn oriau mân y bore. Roedd bywyd wedi mynd yn brofiad diflas iawn. Ac felly digon oedd digon. O’r diwedd, yn 1977, mi wnaethom benderfynu gadael y wlad. Dyma’r flwyddyn gyntaf pan oedd hi’n bosib i ni ystyried gadael. Gadewch i mi egluro: roedd hi’n sefyllfa Catch-22. Dywedwyd wrthym mai’r unig ffordd y gallem gael pasbort mewnfudo oedd os oedd gennym swydd i fynd iddi. Ond ar y pryd ychydig iawn o swyddi oedd ar gael i ni yn y Gorllewin a byddai’r prifysgolion yn dweud wrthym fod rhaid i ni ddod am gyfweliad er mwyn iddyn nhw ystyried a oeddent am roi gwaith i ni. Ond roedd rhaid egluro wrthynt nad oedd dim modd i ni ddod am gyfweliad oherwydd yr unig ffordd y gallem gael pasbort oedd os oedd gennym swydd eisoes. Yn y diwedd mi wnaeth ffrind i mi, a oedd wedi allfudo o Hwngari i Awstralia, Ivan Szelényi, wneud cais ar fy rhan am waith yno ac mi yrrodd y brifysgol rywun i Budapest i fy nghyfweld. Ac mi gefais y swydd honno a dyna sut ges i fy mhasbort.

Un peth nad wyf erioed wedi ei ddeall yn iawn ydi pam wnaeth y Blaid fynd i’r fath drafferth. Pam roedd yr hyn oedd gan lond dwrn o athronwyr i’w ddweud mor bwysig? Beth oeddent yn ei ofni?

A, welwch chi, tydach chi ddim yn deall y gyfundrefn. Doedd dim modd i’r gyfundrefn oddef unrhyw safbwynt gwahanol, dyna beth ydi cyfundrefn dotalitaraidd. Ond does dim modd i gyfundrefn dotalitaraidd reoli popeth, does dim modd diystyru plwraliaeth, mae plwraliaeth yn bodoli yn y byd modern, yr un pryd mae modd deddfu yn erbyn plwraliaeth. Roedd hynny’n golygu bod y Blaid yn penderfynu pa fath o safbwynt disident oedd yn dderbyniol. Hynny ydi, doedd dim modd ysgrifennu rhywbeth heb ei fod yn cael ei ganiatáu gan y Blaid. Ond roeddem wedi dechrau ysgrifennu a meddwl yn annibynnol ac roedd hynny’n gymaint o her i’r ffordd roedd y system yn gweithio; doedd dim modd iddynt oddef pobl nad oedden nhw’n chwarae yn ôl rheolau’r gêm. A doedden ni ddim yn dilyn y rheolau. Gadewch i mi ddweud rhywbeth syml iawn wrthych, rhywbeth sy’n anodd iawn ei ddeall: pan oeddem ar fin cael ein diarddel o’n swyddi cyhoeddodd y Blaid eu bod yn mynd i drefnu trafodaeth ‘wyddonol’ ynghylch ein safbwyntiau croes. Ac fe gawsom wahoddiadau i ymuno yn y drafodaeth hon ar ein safbwyntiau. Mi wnaethom eu hateb trwy lythyr yn dweud y canlynol: byddem yn hapus i gymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus ar ein safbwyntiau. Ond, does dim modd i ni gymryd rhan mewn trafodaeth sy’n cael ei threfnu gan y Blaid, sydd yn agored dim ond i’r rhai mae’r Blaid yn eu gwahodd. Ar ben hynny, pwrpas y drafodaeth yw trafod ein syniadau gwallus. Felly pa fath o drafodaeth oedd hon i fod? Mae’n hurt! Does dim modd i ni gymryd rhan. Dyma rydw i’n ei olygu trwy ddweud ‘peidio chwarae’r gêm yn ôl y rheolau’. Mi wn i hyn oherwydd roedd bòs y Blaid ar y pryd, György Aczél, yn gresynu’n fawr i Brawf yr Athronwyr gael ei gynnal ac mi ddywedodd wedyn, wedi’r newid a fu i gyfundrefn ddemocrataidd, ‘Mi wnaethoch chi ddifetha fy ngêm i, roeddwn i’n disgwyl i chi ddod, mynegi rhywfaint o hunanfeirniadaeth ac yna, ar ôl ychydig flynyddoedd, byddai wedi bod yn bosib i chi gael eich swyddi’n ôl. Ond mi wnaethoch chi ddifetha’r gêm.’ Ac mae hynny’n wir, wnaethon ni ddim dilyn y rheolau. Yn y gyfundrefn honno roedd rhaid chwarae’r gêm, fel arall byddai rhywun yn cael ei yrru i’r cyrion yn llwyr. Wrth gwrs, byddai modd byw yn ysgymun. Chawsom ni erioed ein gorfodi i adael. Dewis wnaethon ni. Byddai modd byw yma fel parïaid, trwy weithio fel athro iaith ddydd a nos, cyfieithu llyfrau, rhoi’r gorau i athroniaeth, rhoi’r gorau i wneud gwaith deallusol. Pe bawn i’n gwybod y byddai’r régime yn chwalu yn 1989, fallai y byddwn i wedi dewis aros fel parïa. Ond yn ôl ein dehongliad ar y pryd, er ein bod o’r farn y byddai’r gyfundrefn yn chwalu ryw dro, doedden ni ddim yn rhagweld hynny’n digwydd yn ystod ein hoes ni. A dim ond un bywyd sydd gan rywun ac roeddwn i wir am wneud gwaith ym maes athroniaeth, roedd rhaid i mi ysgrifennu athroniaeth. Doeddwn i ddim am chwarae eu gêm a doeddwn i ddim am fyw yn ysgymun, felly mi benderfynasom adael. 

Ydych chi o’r farn bod yna rywbeth creiddiol i athroniaeth system gymdeithasol fel hon, yn y modd yr oedd yn cael ei rhoi ar waith, wnaeth arwain at dotalitariaeth, neu at sefyllfa lle roedd rhaid i chi chwarae yn ôl rheolau’r gêm? Mae’n ymddangos i mi mai dyma oedd y canlyniad ym mhob rhan o’r byd lle bu rheolaeth o’r math hwn gan blaid, lle roedd cymdeithas i’w hadeiladu a’i rheoli ar sail cynllun gosodedig. Beth yw eich dealltwriaeth o hyn a phaham y bu i hyn ddigwydd?

I gychwyn, dw i ddim yn meddwl ei bod fyth yn bosib cael hyd i eglurhad cyflawn o hanes. Ar y mater hwn, mae cynifer o atebion ag sydd yna o gwestiynau. Dw i ddim yn meddwl bod model athronyddol Karl Marx o reidrwydd yn arwain i’r gwlag a does dim cysylltiad uniongyrchol rhwng yr athroniaeth hon a byd totalitaraidd, fwy nag oes a wnelo Nietzsche â Natsïaeth. Mae cyfundrefnau totalitaraidd yn dewis syniadau sydd yn eu plesio ac yn rhoi’r gorau i syniadau nad ydyn nhw wrth eu bodd, ond dwi ddim yn meddwl bod yna ddatblygiad uniongyrchol o’r system athronyddol maent yn ei dewis. Daeth cyfundrefnau totalitaraidd i fod ar sail pleidiau totalitaraidd. Y blaid dotalitaraidd gyntaf i gael ei sefydlu oedd un gan Lenin ac yna gan Mussolini. Ond gan Lenin y cafodd Mussolini ei syniadau i ddechrau, roedden nhw’n gyfeillion yn y mudiad chwith-sosialaidd. Yn y blaid dotalitaraidd roedd yna galon awdurdodaidd yr oedd yr aelodau i gyd dan orfodaeth i ufuddhau iddi. Roedd yr egwyddor o drafodaeth yn cael ei hystyried yn beth anghydnaws â’r Blaid, ac roedd gweithgaredd, gweithredu felly, yn bwysicach. Dwi’n credu i Ortega y Gasset ddisgrifio hyn yn hyfryd, er mai cyfeirio at Ffasgaeth yr oedd, pan ddywedodd bod ideoleg lle na cheir dim ond deallusion yn trafod a’r bobl wleidyddol go iawn yn gweithredu yn hytrach na thrafod yn nodweddiadol o blaid dotalitaraidd. Nawrte, yr hyn ddigwyddodd yn yr Undeb Sofietaidd, ac mi ddigwyddodd yn yr Almaen dan y Natsïaid hefyd, ydi hyn: pan aeth grym i ddwylo’r Blaid roedd y wladwriaeth hefyd wedi ei phatrymu ar fodel y Blaid. Yna aeth pethau o ddrwg i waeth ac mi wnaeth y wladwriaeth ormesu a homogeneiddio’r gymdeithas i gyfateb i fodel totalitaraidd y Blaid. Ac mae’r model totalitaraidd hwn yn gynnyrch y byd modern, nid yw’n wrth-fodern [...] Mae’n rhywbeth modern iawn. Mae modernrwydd yn ymwneud â dyfeisio sefydliadau gwleidyddol newydd. Dim ond un sefydliad gwleidyddol oedd i’w gael yn y byd cyn-fodern, a’r Frenhiniaeth oedd hynny. Un dyn yn rheoli popeth, a dim arall. Fallai y bu enghreifftiau o ddemocratiaeth lle cafwyd llond dwrn o ddynion yn rheoli popeth ond dim ond ychydig ganrifoedd wnaeth hynny bara a dim ond mewn ambell fan. Y norm oedd un dyn yn rheoli. Ond mi wnaeth y byd modern ddyfeisio ffurfiau newydd: Brenhiniaeth Absoliwt, Brenhiniaeth Gyfansoddiadol, trefn seneddol o lywodraethu, Democratiaeth, Rhyddfrydiaeth, Totalitariaeth, cafodd popeth ei ddyfeisio. Daeth y wladwriaeth yn fath ar grefft, techneg, technoleg ... a daw hynna â ni at Heidegger eto.

Mae’n broblem i’w datrys; gallwn ddychmygu byd, a’i sefydlu hefyd, os oes gennym y modd i wneud hynny. Creu ein sefydliadau ein hunain ydi’r ffordd gywir i gyrraedd at ein hamcanion. Dychymyg technolegol, cyfryngu syniadau wnaeth arwain at ddyfeisio sefydliadau cwbl newydd, cyfundrefnau sydd yn ôl pob tebyg yn gallu gwireddu ein cynlluniau. Rydym yn trawsffurfio byd natur, rydym yn creu’r dyn newydd, rydym yn creu popeth ac mae angen y peirianwaith arnom. Y Blaid yw’r peirianwaith hwn y mae’n rhaid i bob un ddilyn ei orchmynion. Mae’n ddyfais gwbl fodern. Ac er mwyn i’r Blaid hon lywodraethu ar genedl doedd dim angen trefniant cymdeithasol cyn-fodern. Roedd angen dadrithiad llwyr efo democratiaeth, efo rhyddfrydiaeth, roedd angen rhyfel byd, teimlad o fethiant, bywydau a gollwyd. Felly pan siaradwn heddiw am ‘ddiwedd hanes’, ‘diwedd totalitariaeth’, a dweud ‘byth eto’, rydw i’n amheus, yn sgeptigol. Os daw pobl eto i golli eu ffydd mewn democratiaeth, mewn bywyd, yna ‘Pam lai?’, gall ddigwydd eto. Nid fallai ar ffurf Bolsieficiaeth, ond ar ryw ffurf arall fyddai’n ganlyniad dychymyg totalitaraidd sy’n addo paradwys ar y ddaear. 

Mae’n ddiddorol yr hyn rydych yn ei ddweud am ‘baradwys ar y ddaear’ oherwydd mae’n dod â ni at y mater a godwyd ynghynt ynghylch y cysyniad o hanfod ac ymddangosiad pethau. Mae’r addewid o ‘baradwys ar y ddaear’, i bob pwrpas, yn trawsffurfio ymddangosiad, bywyd bob dydd ar y ddaear, yn hanfod neu yn ‘baradwys’.

Ydi, mae’r hyn rydych yn ei nodi yn ddiddorol. Mae holl fater ymddangosiad a hanfod yn dychwelyd fan hyn. Yn yr ystyr hwn roeddech yn gywir pan gyfeiriasoch at y cysylltiad efo Marcsiaeth a’r gyfundrefn dotalitaraidd. Er nad oes dylanwad uniongyrchol, mae yna fwriad cyffredin mewn dymuno gwrthdroi ymddangosiad a hanfod. Dyna pam y gallem ddychmygu yn y byd hwn mai’r hanfod ydi’r gwrthwyneb i ymddangosiad. Yn yr ystyr yna, mi rydych yn gywir. 

I droi’n ôl at hanes eich bywyd, mi wnaethoch adael Hwngari yn niwedd y 1970au ac yna byw yn y Gorllewin, i gychwyn yn Awstralia ac yna, yn y pen draw, yn yr Unol Daleithiau. O roi y ddau brofiad hyn at ei gilydd, eich bywyd yn Hwngari sosialaidd ac yna eich profiad o fyw yn y Gorllewin, sut mae hynny wedi effeithio ar eich bywyd, yr hyn roeddech yn ei ddisgwyl gan y Gorllewin pan oeddech yn dal i fyw yn Hwngari, eich profiadau unwaith roeddech wedi symud yno ... ?

Mi sylweddolais nad oes y fath beth â ‘Gorllewin’. Er enghraifft, mae Efrog Newydd, lle rwyf yn byw bellach yn yr Unol Daleithiau, ac Awstralia mor wahanol i’w gilydd. Pan es i Awstralia, deuais i fyd lle roedd nawdd cymdeithasol, undebau llafur cryf, rhyddid personol mawr, doedd pobl fyth yn ymyrryd ym mhethau pobl eraill. Doedd hynny ddim yn hawdd ei ddeall ar y dechrau, ond po hwyaf roeddwn i’n byw yno, y mwya ro’n i’n dod i garu’r byd yna. O’r holl lefydd rydw i’n gyfarwydd â hwy yn y byd, i mi Awstralia ydi’r mwyaf dynol. Fallai oherwydd ei fod mor anghysbell. Mae cyfeillgarwch yn bwysig yno, does dim cymaint o ysbryd cystadlu rhwng pobl. Ychydig o elyniaeth sydd. Mae’n fyd heb ragfarnau mawr. Wrth gwrs, mae’n rhan o’r gynhysgaeth gymdeithasol yno, y nhw ydi gorwyrion y troseddwyr ifainc a gafodd eu gyrru i Awstralia, ac eto dwi erioed wedi dod ar draws pobl sy’n parchu’r gyfraith gymaint. Maen nhw’n gwneud hynny heb fod â diddordeb yn y gyfraith fel y cyfryw, tydyn nhw jyst ddim yn creu cymaint o loes i’w gilydd.

Yna, mi ddeuais i’r Unol Daleithiau lle deuais ar draws byd hollol wahanol. Gallaf ddweud dau beth wrthych. Un ydi na fedraf gwyno am fy sefyllfa bersonol. Mi ges i gydnabyddiaeth yn yr Unol Daleithiau. Mae hynny’n rhywbeth mae modd ei gael yno ond nid mewn llefydd eraill. Maent yn cydnabod rhagoriaeth. Yn Awstralia tydyn nhw ddim o gwbl, tydi o ddim mor bwysig â hynny. Felly cafodd fy ngwaith ei gydnabod yn yr UD a tydi hynny ddim yn beth drwg. Ro’n i’n teimlo’n gysurus yn yr UD. Ar y llaw arall, mae yna ryw fath o egwyddor groes yn America. Yn Awstralia mae yna gyfunoliaeth mewn economeg ac unigolyddiaeth mewn gwleidyddiaeth. Mae’r wladwriaeth trwy negodi â’r undebau llafur (ac mae bron pawb yn aelod o undeb llafur yno) yn penderfynu’n ganolog ar brisiau a chyflogau. Yn gymdeithasol, yn economaidd mae’n gyfunol iawn. Mae yna ysbryd o estyn cymorth, mae pobl yn cynorthwyo ei gilydd. Mae ailddosbarthu cyfoeth yn naturiol. Ond yn wleidyddol, maent yn unigolyddol iawn. Fel arall mae hi yn yr Unol Daleithiau: mewn gwleidyddiaeth mae’r UD yn gydymffurfiol dros ben, ac yn economaidd maent yn unigolyddol. Felly mae Awstralia a’r UD yn ddrych o’i gilydd, ac eto mae’r ddwy wlad yn cael eu hystyried yn ‘Orllewin’. Sylweddolais nad un model mo’r Gorllewin, ond nifer. Pan gyrhaeddais yr UD yr hyn wnaeth fy synnu oedd mor gydymffurfiol yr oedden nhw yn wleidyddol. Yn Awstralia byddai bod yn wleidyddol gywir wedi bod yn fater o sbort, yn jôc fawr. Ond mae faint dwi’n gorfod ei dalu er mwyn cael tynnu fy nant yn cael ei benderfynu gan fy ffrind Alen Fels yn Canberra.

Felly beth ydych chi’n ei werthfawrogi ynghylch yr Unol Daleithiau a beth nad ydych yn ei hoffi?

Rydw i’n hoffi’r ffordd maen nhw’n parchu’r Cyfansoddiad. Eu hymdeimlad o bwysigrwydd y gyfraith a’u difrifoldeb yn hynny o beth. Wrth gwrs, adlach ydi’r difrifoldeb hwn. Yn Awstralia mae llawer mwy o synnwyr digrifwch ganddyn nhw ynghylch hyn. Tydw i ddim yn hoffi’r embaras sydd yn aml yn rhan o ddiwylliant America. Mae yna argyhoeddiad yno fod yna’r fath beth â llywodraeth y mwyafrif. Yn Ewrop rydym yn argyhoeddedig mai’r ‘mwyafrif’ ydi pwy bynnag sy’n gweiddi fwyaf croch. Er enghraifft, yn America mae bod yn wleidyddol gywir yn rhywbeth sy’n perthyn i leiafrif, ond oherwydd eu bod nhw’n gwneud cymaint o sŵn yn y prifysgolion mae ar bawb eu hofn nhw, does neb yn barod i agor ei geg a dweud eu bod yn hurt. Mae yna ryw fath o ddemocratiaeth dotalitaraidd ar waith yn America. Nid yn y wladwriaeth: o gymharu gwladwriaeth yr UD â gwladwriaethau yn Ewrop, mae gwladwriaeth America yn llawer mwy rhyddfrydol. Ond yn America, yr hyn sy’n anryddfrydol ydi’r gymdeithas, nid y wladwriaeth. Yn Ewrop fyddai neb fyth yn gofyn, er enghraifft, i Don Carlos, brenin absoliwtaidd Sbaen, roi eu rhyddid meddwl yn ôl iddyn nhw. Fyddai neb yn ysgrifennu llythyrau at Stalin neu Adolf Hitler yn gofyn iddynt am ryddid ar gyfer hyn neu’r llall. Mae’n syniad hurt. Ar y llaw arall, mae’r gymdeithas yn Ewrop bob amser wedi dangos solidariaeth yn erbyn y wladwriaeth. Byddai modd i rywun fyw yn gall, fyddai ffrindiau ddim yn eich bradychu, fydden nhw ddim yn achwyn arnoch wrth y wladwriaeth. Ond yn America does dim modd bod yn siŵr o hynny. Mi fydden nhw’n achwyn arnoch ymhobman. Pe baech yn dweud jôc yn breifat does dim modd gwybod i sicrwydd na fyddwch yn cael eich reportio i’r cyflogwr, i’r Deon, i bwyllgor hyn neu’r llall. Does dim modd bod yn sicr fyth, tydach chi fyth yn saff, does dim modd teimlo’n saff mewn ffordd bersonol ymhlith ffrindiau oherwydd does dim modd gwybod i sicrwydd pwy ydi eich ffrindiau. Ac i goroni’r cyfan, mae pobl yn gwneud hyn o’u gwirfodd eu hunain! 

Roedd hyn yn syndod mawr i mi. Yn Hwngari, yn ystod cyfundrefn Kadar, byddai’r heddlu cudd yn gofyn i bobl ysbïo ar eu ffrindiau. Mi fydden nhw’n dweud pethau fel hyn: ‘Rydych wedi derbyn arian gan ymwelydd Americanaidd ac felly os nad ydych yn barod i ysbïo ar eich ffrindiau byddwch yn cael eich gyrru i garchar.’ Felly, byddai pobl yn cael eu gorfodi i wneud hyn. Yn America maent yn ei wneud yn wirfoddol, maent wrth eu boddau’n gwneud hyn, maent yn meddwl mai dyna eu cyfrifoldeb. Tydyn nhw ddim yn credu mewn perthynas sifil, ac yn yr ystyr hwnnw does dim ‘chwaeth’ ganddyn nhw, tydyn nhw ddim yn credu mewn setlo pethau ymysg ei gilydd. Er enghraifft, mae’r berthynas rhwng merched a dynion ben i waered yn llwyr. Yn America maent ag obsesiwn efo rhyw. Yn Ewrop neu Awstralia tydyn nhw ddim, maen nhw jyst yn cael cyfathrach rywiol. Mae’r Americaniaid yn biwritaniaid, maent ag obsesiwn go iawn efo troseddau rhywiol. Does dim modd i ferched a dynion fod yn gyfforddus yng nghwmni ei gilydd. Does dim modd iddyn nhw ddweud beth maen nhw am ei ddweud. Mae’r iaith bob amser wedi ei rheoli, rhaid rheoli’r hyn rydych yn ei ddweud, rheoli eich meddyliau. Ac mae hyn nid oherwydd y wladwriaeth ond oherwydd y gymdeithas. Mae hyn yn hollol an-Ewropeaidd a hefyd an-Awstralaidd.

Ac nid dim ond ym maes rhyw. Yn ystod y Rhyfel Oer roedd pawb yn gorfod dweud yr un peth. Roeddwn i wedi ymroi i’r chwith eithafol yn ystod cyfnod 1968 a mudiad y myfyrwyr, ond roedd y gydymffurfiaeth hyd yn oed yn y mudiad hwnnw yn fy mhoeni bob amser. Roedd rhaid i bawb ddweud yr un peth, doedd dim modd i neb feddwl drostyn nhw eu hunain, doedd dim modd gwahaniaethu rhwng dafad a dafad, roedd rhaid gweiddi efo’ch gilydd efo’r bleiddiaid.

Rydw i’n cytuno efo chi. Yn y 1960au y deuais i yn fwy radical ac mi gofleidiais y mudiad hwnnw’n gyfan gwbl. Ond mi wnaeth fy nharo’n ddigon cyflym nad oedd a wnelo’r delfrydau, yn aml iawn, fawr ddim â’r hyn oedd yn mynd ymlaen. O safbwynt ymarferol, roedd yn gyfystyr ag estyniad ar ffurf wahanol o’r un ysbryd cystadleuol anhygoel sydd ar waith ar bob lefel o’r gymdeithas yn America. Roedd yn gêm oedd yn ymwneud â grym ac roedd glynu at y rheolau derbyniedig, cyflwynedig, byrhoedlog yn ffordd o hyrwyddo’r grym hwnnw. Y thema dwi’n ei gweld drosodd a throsodd mewn diwylliant Americanaidd ydi’r ysbryd cystadleuol anhygoel yma. Mae pawb yn pwyso a mesur ei gilydd i weld pwy sydd fwyaf ar y blaen a phwy sydd y tu ôl. Ac mae hynny’n digwydd yn barhaus ac yn anymwybodol. Nid yw’n rhywbeth sy’n cael ei brosesu yn y meddwl mwyach.

Rydw i o’r farn bod hynny’n digwydd yn ymwybodol. Dwi ddim yn meddwl ei fod yn rhywbeth anymwybodol. Rydw i’n gwybod hynny ar sail profiadau fy mab, sy’n gyfreithiwr Americanaidd. Mae’n gyfan gwbl ymwybodol. Fel cyfreithiwr rydych drwy’r amser yn cyfrifo pethau yn y termau hyn, sut y gallwch gael eich dyrchafu, sut y gallwch ddod yn bartner. Dyna lle mae ffocws y gwaith meddwl, ar sut i ddringo’r ysgol, nid ar yr achosion dan sylw. Ond eto, er gwaethaf hyn, mae modd magu ymdeimlad o ysbryd tîm, o gyd-weithio...

Hoffwn ofyn cwestiwn cyffredinol. Rydym fwy neu lai wedi cyrraedd diwedd y mileniwm, ac mae rhai o’r farn bod oes hollol newydd yn datblygu. O ystyried hynny, beth ydi rhai o’r materion pwysicaf y dylai deallusion roi eu sylw iddynt?

Mae yna ar hyn o bryd doreth o faterion sy’n bwysig yn ddeallusol. Yn fy marn i, mae athroniaeth wedi mynd yn oddrychol, sy’n croes-ddweud y syniad cyfarwydd sydd gennym fod y goddrych wedi dod i ben, fel petai. Hynny ydi, mae gan bob athronydd ei iaith neu ei hiaith ei hun, erbyn hyn. Does dim ‘ysgolion’ athroniaeth heddiw, carfanau o feddylwyr. Does dim ‘Meistri’ mwyach a’u disgyblion. Mae ar ‘ysgolion’ yn yr ystyr hwn angen rhywun a ystyrir yn gloddfa o wirionedd ac yna pobl sy’n ei gylchu ac yn cael eu hysbrydoli gan y cnewyllyn hwn o wirionedd. Felly dyma’r amser pan fo oes yr ‘ysgolion’ ar ben oherwydd does neb mwyach yn credu ei fod ef neu hi yn gloddfa o wirionedd. Yn y traddodiad athronyddol blaenorol, roedd gan bob athronydd ei wirionedd ei hun ac roedd yr amrywiol wirioneddau’n cael eu gwrthgyferbynnu â gwirioneddau eraill ac roedd pob ysgol yn elyniaethus tuag at ysgolion eraill. Bellach, does dim cysyniad o wirionedd canolog gennym. Mae gennym well dealltwriaeth o ffyrdd pobl eraill o feddwl, bod fallai rywbeth yn y safbwynt arall, ei bod yn ongl ddiddorol, yn ffordd ddiddorol o daflu golau ar y mater; nid yn anwir ond fallai ddim yn wir ychwaith. 

Mae’n fath ar drawsffurfiad ar iaith. Nid yn ystyr Wittgenstein o ddefnydd o iaith ond yn yr ystyr bod gennym i gyd ein personoliaethau athronyddol ein hunain. Mae athroniaeth yn dod yn agosach at yr hyn y gallwn eu galw’n nofelau, hynny ydi, mae gennym bob un ohonom ein cymeriadau ein hunain yr ydym yn eu rhoi ar waith oddi mewn i fframwaith ac mae gan eraill eu nofelau a’u cymeriadau eu hunain ond mae hi’n dal yn bosib i ni ddarllen nofelau ein gilydd. Dyma un tueddiad; y tueddiad arall ydi’r gwrthdroad o fath o’r hyn ddigwyddodd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif roedd athroniaeth Ewropeaidd gyffredinol yn dal i fodoli, wedi ei gwreiddio mewn Lladin. Ond yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuodd athroniaeth rannu ar seiliau cenedlaethol. Doedd a wnelo athroniaeth Brydeinig, Ffrengig, Almaenig ddim oll ag iaith athronyddol gyffredinol [...] yr hyn a ddatblygodd oedd athroniaethau a oedd wedi eu hynysu’n genedlaethol. Bellach yr hyn sydd wedi digwydd, o ganlyniad i ryngwladoli, ydi croesbeillio ar draws ffiniau. Does dim ysgolion athroniaeth ynysig mwyach a does dim ‘ysgolion’ mwyach. Ond mae yna lyfrau a ddewisir yn ‘llyfrau’r flwyddyn’. Nid yw hyn yn cael ei wneud yn ymwybodol nac yn anymwybodol. Yn yr holl gannoedd a miloedd o gyfarfodydd a chynadleddau a gynhelir bob blwyddyn, mae’r mynychwyr yn gwybod pa lyfrau y mae angen iddynt fod yn gyfarwydd â hwy a’u trafod ar y pryd. Yn dilyn y 1960au cafwyd ‘cyfnod Marx’, roedd pawb yn trafod Marx. Dwi ond yn sôn am y bobl ar y chwith rŵan. Yna, mi roedd pawb yn trafod Max Weber, yna wedi hynny, roedd pawb yn trafod Habermas, yna Foucault, yna Derrida, yna Hannah Arendt. Gellid dweud mai dim ond mater o ffasiwn oedd hyn ond mae’n ffasiwn sy’n fwy na dim ond ffasiwn, oherwydd er mwyn dweud rhywbeth mae angen i ni fod yn siarad am yr un peth. Does dim modd trafod cyngerdd efo ffrind os na wnaethoch fynychu’r un cyngerdd, does dim modd trafod llyfr os ydych chi a’ch ffrind yn darllen llyfrau gwahanol. Felly, y broblem erbyn hyn ydi sut i drefnu pobl fel bod modd iddynt ddod at ei gilydd ac o leiaf ddarllen yr un llyfrau, fel bod modd iddynt gael trafodaeth ynghylch yr un pethau. Ac mae ffasiwn yn creu hyn i bob pwrpas; mae ffasiwn yn dewis yr ychydig lyfrau sy’n dod yn ganolbwynt trafodaeth. 

Felly, gan nad oes yna ysgolion mwyach, gan fod pawb yn feddyliwr annibynnol, fallai bod o leiaf rhai gweithiau y mae pawb yn medru troi atynt er mwyn cael trafodaeth, er mwyn cael iaith gyffredin. A dyma’r datblygiad newydd. A all hyn gynhyrchu gweithiau mawr, wn i ddim. Rydw i’n amheus braidd o hynny. Dwi ddim yn meddwl bod sefyllfa fel hon yn cynhyrchu gweithiau mawr cryf ac annibynnol. Ond rydw i’n ofalus wrth ddweud hyn oherwydd does wybod. Fel y dywed Baudelaire, mae gweithiau mawr yn byrstio allan yn hapus o rywle a does dim modd rhagweld pryd nac yn lle, mae jyst yn digwydd. Soniodd Hegel am ddiwedd celfyddyd yn y 1820au ac fe wyddoch beth ddigwyddodd. Daeth celfyddyd fawr fodern i fod wedyn. Dwi’n gyndyn o sôn am ddiwedd unrhyw beth oherwydd, wel, gadewch i ni aros, a gweld. Rydw i’n amheus o feirniadaeth ddiwylliannol oherwydd mae eisoes yn arwydd o ddirywiad. Dyna’r ochr gyferbyniol i’r cysyniad o ddatblygiad (progression). Felly rydym ar hyn o bryd mewn cyfnod o ddirywiad, mae yna ddiwedd i rywbeth o hyd neu argyfwng rhywbeth neu’i gilydd. Rydw i’n amheus o hyn. Nid wyf yn edmygydd mawr o gelfyddyd gyfoes ond mae yna rai gweithiau dwi’n eu hoffi ac eraill na dda gen i mohonyn nhw. Does dim grandeur. Ond mae yna rai gweithiau da a diddorol heddiw. Ar y llaw arall, ni fedrwn ragweld a ddaw rhywbeth mawr i fod ai peidio. Felly dyna pam rydw i’n amheus ynghylch beirniadaeth ddiwylliannol oherwydd mae dirywiaeth (decadence) yn gymaint o dueddiad ag ydi datblygiad ac mae yr un mor amheus.

I gloi, pa gyngor fasech chi’n ei roi i bobl ifanc heddiw?

Dim byd o gwbl. Pan o’n i’n ifanc roeddwn i’n casáu pan oedd hen bobl yn rhoi cyngor i mi. 

Cyfieithiad gan Sioned Puw Rowlands.

Byddai modd i rywun fyw yn gall, fyddai ffrindiau ddim yn eich bradychu ... yn achwyn arnoch

Pynciau:

#Hwngari
#Rhifyn 22
#Athroniaeth
#Moeseg
#Comiwnyddiaeth
#Karl Marx
#Hannah Arendt
#Sioned Puw Rowlands