Hud madarch a’r we fyd-eang
O John Cage i gyfalafiaeth
Merlin Sheldrake
Entangled life: how fungi make our worlds, change our minds, and shape our futures
Bodley Head, 368tt, £20, 2020
John Cage
A Mycological Foray
Atelier Éditions, 224tt, $55, 2020
Duncan Brown, Twm Elias, Bruce Griffiths, Selwyn Williams
Ffyngau
Cymdeithas Edward Llwyd, 63tt, £4.50, 2016
Anna Lowenhaupt Tsing
The Mushroom at the end of the world: on the possibility of life in capitalist ruins
Princeton, 331tt, £15.99, 2015

Sa(l)vaging the Forest gan Feifei Zhou (2018)
Ar glawr un o anturiaethau Tintin, Y Seren Wib (L’Étoile mystérieuse, 1942), gwelir tyfiant arallfydol – madarchen anferth yn frith o smotiau a brychau coch a gwyn. Mae’n ddigon o ryfeddod, fel petai wedi ymrithio o ddimensiwn amgen neu o deyrnas hud a lledrith. Daw i’r golwg ar dalp o asteroid sydd wedi glanio ger Pegwn y Gogledd, a dyna gychwyn ras rhwng Tintin a chriw o ddihirod i gyrraedd y graig ofodol a hawlio’r mwynau prin a’r grymoedd cyfrin sydd ynddi. Mae’r darlun ar yr wynebddalen gan yr awdur a’r cartwnydd Hergé yn cyfleu rhywfaint o’r ffieidd-dra mae madarch yn gallu ei ennyn yn y dychymyg torfol. Ar un llaw, maen nhw’n fygythiol a sinistr, ac yn beryg bywyd i’r anghyfarwydd. Ar y llaw arall, mae tabŵ yn eu cylch – maen nhw’n agor llwybr i brofiadau hunllefus, swreal, cosmig, hyd yn oed.
O holl anturiaethau Tintin, dyma’r antur fwyaf apocalyptaidd a ffantasïol, yn llawn golygfeydd llesmeiriol a gweledigaethau. Mae mwydyn yn troi’n bilipala enfawr, er enghraifft, ac mae cawr o bry cop yn erlid ein harwr ar ôl dianc o’i focs brechdanau. Mae hi bron fel petai’r cyw ohebydd o Frwsel mewn perlewyg ar ôl bwyta llond bol o fadarch hud ac wedi ffoli ar psilocybin, y cemegyn seicedelig mewn rhai madarch sy’n chwarae triciau ar yr ymennydd. Cafodd y stori hon ei dychanu’n ddi-drugaredd gan gartwnydd arall o Wlad Belg, y parodïwr Jan Bucquoy, dan y teitl La Vie Sexuelle de Tintin (1980). Ar y clawr, yn lle madarchen anghynnes ond lled-dderbyniol Hergé, mae yna rywbeth sy’n rhyfedd o debyg i’r fadarchen a elwir yn phallus impudicus yn Lladin, neu yn Saesneg, stinkhorn – enw sy’n dweud digon. Mae’n un o’r madarch mwyaf powld a digywilydd yr olwg dan haul (ac mae digon o ddewis). A dyna daro ar arwyddocâd arall i fadarch – maen nhw’n tywys y meddwl a’r dychymyg at flas y pridd a phethau’r cnawd.
Daw hyn â ni at ganfyddiad pellach cyffredin yn ein diwylliant – mae madarch yn arwydd o ddirywiad a llygredd. Yn llythrennol, maen nhw’n llwydo ac yn pydru pethau, yn ddrwg yn y caws, yn rhoi’r farwol i bob daioni. Nid gor-ddweud ydi datgan eu bod nhw ar adegau’n cael eu cyplysu â’r pechod gwreiddiol – ein drygioni a’n llygredigaeth, ac yn fwy na dim, ein marwoldeb. Ystyriwch yr enwau sydd arnyn nhw ar lafar gwlad: caws llyffant, bwyd y boda, bwyd yr ellyllon, grawn unnos – pethau gwrthun o’r isfyd, o Wlad y Tylwyth Teg neu Annwn, teyrnas y meirw. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru mae cofnod o’r gair madarch (madalch) yn Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch a Geiriadur William Salesbury, 1547. Yn nwylo’r beirdd, buan y daw’r gair hwn hefyd yn arwydd o wawd a sen. ‘Lili yw Gwen, loywliw gwenno, / Madalchen felen yw fo,’ medd Siôn Tudur (16–17g) wrth ganmol ei anwylyd a difenwi dyn arall. Ond sylwch sut mae madarch yn cydio yn nychymyg y llenor Caradog Prichard. Yr olygfa fwyaf tyner a thorcalonnus yn Un Nos Ola Leuad (1961) i mi ydi honno lle mae’r bachgen diniwed yn codi ben bore a dringo i Cae Ŷd Gorlan ‘i edrach oedd yna fyshirŵms yno’ – a hynny ychydig oriau cyn i’w fam gael ei hebrwng i’r seilam:
A dyna lle oeddan nhw’n sbotia gwynion dros y lle i gyd, run fath â tasa ieir Tan Fron wedi bod yn brysur yn dodwy wya trwy’r nos. Dew, mi helia i lond cap ohonyn nhw ar ffordd adra, medda fi wrth fynd i lawr o ben wal. A capiad da ges i hefyd.
Pan ddaw yn ei ôl i’r tŷ, mae Nain yn rhoi’r bachgen ar waith i ‘llnau’r myshirŵms yn barod i ffrio’, ac wedi’r ddefod fach honno daw’r coginio a’r bwyta: ‘Dew ma’r myshirŵms yma’n dda.’ Gydol yr amser mae’r awyr yn drwm gan bethau cudd – cyfrinachau tu hwnt i amgyffred y bachgen. Fel Nain, mae Gres ac Elis Ifas Tŷ Nesa ‘yn siarad yn gleniach nag arfar’ ac mae yntau wrth ei fodd yn dweud wrthyn nhw am ei wledd o frecwast, ‘Llond plât o fyshirŵms wedi’u ffrio o Cae Ŷd Gorlan.’ Ac yna’r dadrithiad: ‘Mi ges i wybod mwy nag oeddwn i eisio yn fanno.’ Daw’r datguddiad di-ofyn-amdano o salwch meddwl ei fam. Ar y bore hwnnw mae o’n croesi’r bont o symlrwydd a phurdeb plentyndod i fyd o gur a gofalon. Yng ngolygfa gynnil Caradog Prichard mae ‘myshirŵms’ yn perthyn i deyrnas diniweidrwydd ond hefyd yn symbol o foment drosiannol.
Nid pob diwylliant sy’n rhannu’r ddrwgdybiaeth reddfol hon o ffyngau. Tybed oes gan ein hamheuon cyffredin ohonynt rywbeth i’w wneud â’n hinsawdd laith? Mae gormod o leithder yn yr aer yn rhywbeth i’w osgoi er mwyn iechyd, mae’n debyg, ac mae’r ffyngau yn symbol o damprwydd yn fwy na dim arall, fallai, yng ngogledd-orllewin Ewrop. Darlun go wahanol sydd yng ngwledydd hinsawdd gyfandirol, sychach Dwyrain Ewrop, ac yn Rwsia hefyd, lle mae’n arferiad mynd i hel madarch pan ddaw’r hydref. A beth am edmygedd rhai diwylliannau o ffyngau am resymau ysbrydol, megis y syniad ym Mecsico fod madarch gwyllt yn meddu ar ‘awra’ uwchnaturiol? Yn sicr, mae yna wedd arall i ffyngau. Er mai distadl fu eu henw cyhyd yn yr ynysoedd hyn, ac eithrio ymysg y cognoscenti, mae diddordeb cynyddol heddiw yn swyddogaeth ffyngau ar lefel ficrobig, yn eu potensial i gynnig deunyddiau adeiladu amgen ac ecolegol ar gyfer yr 21g, ond hefyd yn y ffyrdd y gallant ein dysgu i feddwl yn wahanol am ein lle yn y byd. Mae cyfrol ddiweddar gan fiolegydd o Brydain yn symptomatig o’r tro hwn ar fyd ac yn dangos y dylem dalu sylw.
*
Mae Entangled Life: How Fungi Make Our Worlds, Change Our Minds And Shape Our Futures gan y biolegydd Merlin Sheldrake, a gyhoeddwyd y llynedd, yn troi rhagfarnau am ffyngau ar eu pennau. Mae Sheldrake yn mynegi ei ddiléit ynddynt mewn arddull arbennig o ffraeth a gafaelgar, ac ni fedrwn ond dotio at ei gyfeiriadaeth eang a chellweirus. Ar ddechrau pob pennod ceir epigraffau gan ffigyrau mor amrywiol ag Alexander von Humboldt, Ursula K Le Guin a Tom Waits. Fel nifer cynyddol heddiw yn y gorllewin, sydd wedi ein cario gan donnau ffasiwn gwneud ein bara surdoes ein hunain, bwyta bresych kimchi neu fragu ‘te’ kombucha, mae’r awdur yn mwynhau eplesu ac yn byw a bod ei angerdd deallusol am ffyngau. Mae ganddo hefyd arbenigedd dwfn a phrofiad uniongyrchol fel biolegydd afieithus: bu ar ei liniau yn astudio’n fanwl rwydweithiau ffyngaidd tanddaearol yn fforestydd trofannol Panama ar gyfer ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Dysgais gan y gyfrol hon fod ffyngau yn deyrnas fiolegol ynddynt eu hunain: nid planhigion nac anifeiliaid mohonynt. Mae’r rhan fwyaf o ffyngau’n ffurfio rhwydweithiau amlgellog o’r enw hyphae – strwythurau meinion/coeth sydd yn rhannu, yn uno ac yn ymglymu’n eurwe a elwir yn myseliwm. ‘Mycelium describes the most common of fungal habits, better thought of not as a thing, but as a process – an exploratory, irregular tendency,’ meddai Sheldrake. Ac yn wir, mae’n debyg bod myseliwm rhai rhywogaethau ffyng-aidd yn medru cynhyrfu’n drydanol gan gario tonnau o brysurdeb ar hyd yr hyphae hyn – adlais i’r meddwl anthropomorffaidd o’r cynyrfiadau yng nghelloedd nerfol anifeiliaid. Dyma’r hyn a ddisgrifir yn ddychmygus gan Sheldrake fel ‘ecological connective tissue, the living seam by which much of the world is stitched into relation’.
Er mai fel planhigion diflodau rydym wedi arfer meddwl amdanynt, mae nifer o nodweddion sy’n gwahaniaethu ffyngau oddi wrth blanhigion ac maent yn debycach i anifeiliaid mewn mwy nag un ystyr. Mae ffyngau yn fedrus wrth ddatrys posau, er enghraifft, megis y ffordd fwyaf ddarbodus drwy ddryslwyn, neu o fynd o A i B. Rhy Sheldrake enghreifftiau o’r modd y defnyddir llwydni llysnafeddog i gynllunio rhwydweithiau trafnidiaeth a llwybrau dihangfeydd tân mewn adeiladau mawrion. Mae’n debyg bod ymchwilwyr wedi canfod eu bod yn fwy medrus wrth y dasg hon wedi iddynt ollwng ffyngau yn rhydd ar fodelau o lawr siop Ikea a sylwi eu bod yn dod o hyd i’r allanfa ynghynt na’r gwydd-onwyr a gafodd yr un pos i’w ddatrys. ‘Solving mazes and complex routing problems are non-trivial exercises,’ meddai Sheldrake. ‘This is why mazes have long been used to assess the problem-solving abilities of many organisms, from octopuses to bees to humans.’ Mae ffyngau yn alluog yn hyn o beth oherwydd eu bod wedi esblygu i ddatrys problemau gofodol a geometrig. Maent yn ‘fodau’ gwasgarog, ac yn addasu’n barhaus i’r hyn sydd dan sylw: yn ‘gorff’ heb gynllun, heb ffiniau, dyna ran o fantais eu gallu. A dyma eisoes sigo fy syniad o ddeallusrwydd fel gallu sy’n ddibynnol ar ymennydd canolog i reoli.
Cawn ein hatgoffa gan Sheldrake o’r ffaith na fyddai yna blanhigion nac anifeiliaid ychwaith heb ffyngau: mae’n debyg mai ffyngau oedd y man cychwyn ar gyfer esblygiad pob organeb gymhleth yn y byd. A heb ffyngau i dreulio creaduriaid marw a thrawsnewid pethau anorganig, mi fyddem dros ein pennau mewn baw a gwastraff. Maen nhw ymhobman, wrthi’n ddiwyd nid yn difa bywyd ond yn ei alluogi a’i nerthu, yn dadelfennu pethau nid er mwyn eu lladd ond er mwyn iddyn nhw gael bywyd newydd ar ffurf wahanol. I ffyngau mae llawer o’r diolch am ad-drefnu atomau’r greadigaeth fel bod un peth yn gallu troi’n rhywbeth arall. Mae’n werth cofio mai hollysyddion ydynt. Mae Sheldrake yn lladmerydd croyw dros eu haml dalentau: cawn ein hatgoffa fod ffyngau yn bwyta creigiau, yn gwneud pridd, yn glanhau llygredd o’r amgylchfyd (nid dim ond olew ond ymbelydredd, hyd yn oed) ac yn rhoi maeth i blanhigion. Mae yna hefyd ddiddordeb cynyddol yn eu potensial amgylcheddol-sensitif i gymryd lle cig, lledr a deunyddiau sy’n dibynnu ar betrolewm. (Tybed ai deunyddiau ffyngaidd fydd manna’r 21g?) Maen nhw hefyd, fel y gwyddom, yn cynhyrchu bwyd a diod (megis bara a gwin), yn gwneud meddyginiaethau (megis penisilin) ac yn gallu pennu ymddygiad anifeiliaid. ‘Like an incorporeal spirit, the fungus does not have a body, instead entering and possessing something else’s,’ meddai Sheldrake. Mae enghraifft ddrychiolaethus ganddo o hynt morgrugyn sy’n cael ei fabwysiadu gan fyseliwm. I bob pwrpas mae’r ffwng (‘zombie fungi’ ydi delwedd drawiadol Sheldrake) yn herwgipio’r morgrugyn ac yn rhyddhau cemegion sy’n rheoli ei ymddygiad er mwyn creu’r amodau mwyaf ffafriol i’r ffwng wasgaru ei sborau ac atgynhyrchu. Yn groes i’w anian, caiff y morgrugyn ei orfodi i adael diogelwch y nyth a dringo’r planhigyn agosaf. Caiff ei gymell i frathu ar ddeilen, ac yna mae myseliwm yn tyfu o draed y morgrugyn a’i glymu’n dynn at y planhigyn. Unwaith mae’r ffwng wedi treulio corff y morgrugyn mae madarchen yn tyfu o ben yr anifail ac yn taflu cawod o sborau ar forgrug eraill, ac mae’r broses yn dechrau o’r newydd.
Mae ffyngau hefyd yn medru dylanwadu ar ymddygiad dyn. Os ydi diwylliant yn chwarae ei ran yn ffurfio ein canfyddiadau gwyddonol, fel y mae Sheldrake yn boenus ymwybodol drwy gydol y gyfrol, cawn ninnau hefyd ein ffurfio gan ffyngau – petai, yn y lle cyntaf, ond gan yr afiaith cymdeithasol a anogir gan y burum sy’n creu alcohol. A diolch i’r cemegyn psilocybin mewn rhai madarch (y ‘madarch hud’), mae rhai ohonynt yn agor drysau’r dychymyg yn llythrennol, fel y profodd Sheldrake mewn arbrawf y bu’n rhan ohono dan amgylchiadau labordy. Arbrawf oedd hwn i astudio a oedd llyncu’r cemegyn yn gymorth i academyddion dorri allan o cul de sac mewn llwybr ymchwil!
Mae Sheldrake yn pwysleisio pwysigrwydd symbiosis rhwng adrannau gwybodaeth ac nid oes arno ofn croesi ffiniau disgyblaethol:
Fungi have changed my understanding of how life happens [...] These organisms make questions of our categories, and thinking about them makes the world look different. It was my growing delight in their power to do so that led me to write this book. I have tried to find ways to enjoy the ambiguities that fungi present, but it’s not always easy to be comfortable in the space created by open questions. Agoraphobia can set in. It’s tempting to hide in small rooms built from quick answers. I have done my best to hold back.
Neilltuir un bennod ganddo i gen, a dysgwn fod cen yn gweithredu fel cyfryngydd go sylfaenol, ar y ffin nid dim ond rhwng disgyblaethau ond rhwng bywyd a dim bywyd (life/nonlife). Dyma’r unig ffurf ar fywyd sydd yn gallu dadelfennu creigiau’n gemegol, gan ryddhau eu mwynau a’u maeth ar gyfer pethau eraill byw.
*
Yn yr un modd ag y mae ymwybyddiaeth ecolegol yn ein hannog i ganolbwyntio ar gyd-berthynas a rhyngddibyniaeth elfennau ein byd, mae dealltwriaeth ddyfnach o ffyngau yn gynyddol berthnasol heddiw. Wrth droedio trwy etifeddiaeth lai cadarnhaol moderniaeth, mae’n werth cofio bod ffyngau nid yn unig yn gallu cynnig prosesau cynhyrchu mwy ecolegol, maent hefyd yn cynnig ffyrdd amgen o synio am bethau. Ac yn hynny o beth mae Sheldrake yn arbennig o sensitif i’r defnydd o iaith, i adnoddau creadigol iaith, a’i gallu i ymestyn posibiliadau cysyniadol. Gŵyr hefyd ei fod yn troedio llwybr simsan, cyfarwydd rhwng anthropomorffiaeth a ffug-wrthrychedd wrth drafod ffyngau. Ond mae’n agored i drosiadau a chymariaethau fel cyfrwng, fel petai’n ymwybodol fod ymestyn ei ddealltwriaeth wyddonol yn dibynnu arnynt. Mae bron yn efengylaidd yn ei gred fod craffu ar ffyngau – ar y ffordd maen nhw’n cydgysylltu a chydweithio ymhobman ar unwaith i greu myrdd o ryfeddodau – yn gallu trawsnewid ein dealltwriaeth sylfaenol o’r byd. Does dim raid i chi fwyta madarch hud er mwyn agor llifddorau’r ymennydd: mae meddwl am ffyngau a sylwi ar eu hynodrwydd yn ddigon i wneud i chi amgyffred y byd mewn ffordd amgen. Yn lle synio amdanom ein hunain fel unigolion – ‘Fi’ – mae’r llyfr hwn yn ein hannog i ddatod y cloeon a sylweddoli ein bod ni oll yn gyd-ddibynnol, yn perthyn i’n gilydd ac i’r byd o’n cwmpas fel un rhan fechan o rwydwaith dynamig enfawr.
Ond ‘creaduriaid’ y cysgodion ydi ffyngau: maent yn cyflawni hyn oll yn y dirgel. Dim ond ffrwythyn ydi’r fadarchen a welwn yn tyfu mewn cae a choedwig – mae’r organeb ei hun o dan y ddaear. Dyma’r myseliwm eto – y brigau a’r gwreiddiau, gellid dweud – sy’n ymledu fel meinwe ac yn cludo dŵr, bwyd a negeseuon ‘trydanol’ i greaduriaid eraill. Mae rhwydweithiau ffyngau melog (Armillaria, neu honey fungi yn Saesneg) ymhlith yr organebau mwyaf yn y byd. Mae’r mwyaf oll, yn Oregon, UDA, yn pwyso cannoedd o dunelli ac yn ymestyn dros 10km sgwâr. Mae gwyddonwyr yn credu ei fod rhwng 2,000 ac 8,000 o flynyddoedd oed. A benthyg delwedd o un o gerddi enwocaf Waldo Williams, ‘Brawdoliaeth’, bron na allech chi feddwl am y myseliwm fel ‘rhwydwaith dirgel’ sy’n ‘cydio’ popeth byw mewn ‘cyflawn we’. Mae gan Sheldrake enw ar y rhwydwaith enfawr sy’n bodoli dan ein traed: ‘Wood Wide Web’. A benthyg eto gan Waldo, y ‘tyndra’ yn y we danddaearol hon ydi’r egni a’r potensial sy’n pefrio’n ddi-baid o’r golwg, yn cysylltu coeden a choeden, fel gwifrau trydanol neu fel hymian cyfrifiadurol parhaus y we fyd-eang. Sôn y mae barddoniaeth Waldo am y frawdoliaeth sy’n sail ac yn injan i’n bywyd moesol ac ysbrydol. Ac yn y byd materol dyna, yn ei hanfod, ydi swyddogaeth bywiol y myseliwm hefyd – rhoi sylfaen a nerth i bopeth byw ar blaned Daear.
*
Does yr un artist y gwn amdano wedi bod yn fwy selog yn ei ddefosiwn at fadarch na John Cage (1912–1992), y cerddor a’r polymath Americanaidd sy’n fwyaf enwog am gyfansoddi darn o’r enw 4'33" – nid pedwar munud a hanner o ddistawrwydd yn union, ond criw o gerddorion yn ymatal rhag canu eu hofferynnau a gwneud unrhyw sain bwriadol am bedwar munud a 33 eiliad. Daeth Cage i goleddu Bwdhaeth Zen a syniadau athronyddol eraill o India a’r Dwyrain Pell, yn ogystal â damcaniaethau cerddorol y cyfansoddwr Awstriaidd Arnold Schoenberg, y bu’n ddisgybl iddo. Pwrpas cerddoriaeth, meddai Cage, ydi sobreiddio a thawelu’r meddwl er mwyn i’r enaid ymagor i ddylanwadau dwyfol. Roedd yr I Ching, testun clasurol o Tsieina sy’n defnyddio symbolau i weld patrwm yn hap a damwain dryslyd y byd o’n cwmpas, yn ddylanwad mawr ar ei holl gyfansoddiadau o’r 1950au ymlaen.
Yn ogystal â bod yn un o ffigyrau cerddorol a deallusol mwyaf arwyddocaol ei gyfnod, Cage oedd un o sylfaenwyr y New York Mycological Society (astudiaeth o ffyngau ydi mycoleg) a byddai’n casglu ac yn gwerthu madarch i dai bwyta enwog fel y Four Seasons yn Manhattan er mwyn ennill pres poced. Mae ei gasgliad mycolegol bellach ar gadw ym Mhrifysgol California, Santa Cruz. Omnibws ydi'r gyfrol John Cage: A Mycological Foray o bopeth yr ysgrifennodd y cyfansoddwr am fadarch, ac mae’n ddadlennol iawn am ffydd Cage yn yr egwyddor o hap a damwain wrth greu celfyddyd. Dyma gyfrol fydd wrth fodd calon unrhyw lyfrbryf. Mae’r papur yn drwchus, y print a’r cysodi’n ddeniadol, a’r ffotograffau a’r gwaith celf yn fendigedig. Adargraffiad o waith a gyhoeddwyd yn 1972 yw’r rhan gyntaf, ‘A Mushroom Book’ – copi union o ugain lithograff sy’n cynnwys darnau o gerddi gan Cage yn ei lawysgrifen ei hun, brasluniau ganddo, a’i fapiau syml o fannau addawol i ddod o hyd i fadarch. Mae yma hefyd luniau godidog o sawl madarchen gain gan ei ffrind, yr artist a’r cynllunydd Lois Long, a nodiadau gwyddonol esboniadol gan ffrind arall, y mycolegydd Alexander H Smith, un o’r arbenigwyr pennaf ar ffyngau yn yr 20g. Y nod, medd atodiad i’r gyfrol, ydi creu deialog rhwng stori a dadansoddiad, sgwrs rhwng celfyddyd gain ac ecoleg. Mae diwyg y Mushroom Book – fel llyfr lloffion, bron – yn adlewyrchu agwedd agored yr awdur. Mae’n disgrifio un helfa fadarch fel hyn: ‘Hunting for hygrophoroides, found abortivus instead. Returning to get more abortivus, found ostreatus … When we go and come back by the same path, returning we notice mushrooms we haven’t noticed going out … Hunting is starting from zero, not looking for.’ Taro ar bethau cudd – dyna sydd mor gyffrous am hel madarch a chreu celfyddyd fel ei gilydd. Fe eglurodd Cage mewn cyfweliad yn 1991 mai bwriad y Mushroom Book oedd dangos ‘that ideas are to be found in the same way that you find wild mushrooms in the forest, by just looking … they come to you as things hidden’.
Mae’r gosodiad hwn yn berthnasol iawn i’w ddull o gyfansoddi. Fe ddisgrifiodd ei waith Concert for Piano fel ‘a walk in the forest’. Yn enwedig yn ail hanner ei yrfa, mae’n ymroi i greu darnau sy’n tynnu’n groes i gonfensiwn a ‘rheolau’ arferol y canon cerddorol. Ei ddelfryd ydi cerddoriaeth sydd fel petai’n ‘digwydd’ ar ddamwain, darnau lle mae pob math o sain yn gyfwerth. Ei ddull, meddai, ydi creu gweithrediadau ar hap (‘chance operations’). Yn ei ysgrif ‘Music Lovers’ Field Companion’, a gyhoeddwyd yn wreiddiol mewn rhifyn ar hiwmor o’r United States Lines Paris Review (1954), mae Cage yn datgan: ‘I have come to the conclusion that much can be learned about music by devoting oneself to the mushroom.’ Ond mae Cage yn amlwg o ddifri. Mae’r ysgrif hon yn ymddangos yn ail gyfrol A Mycological Foray, ynghyd â phytiau o ddyddiaduron Cage, trawsgrifiad o’i berfformiad o’i waith ei hun, Mushrooms et Variationes (1983), a straeon a sylwadau ar y thema ‘Indeterminacy’. Mae’r term hwn hefyd yn cael ei briodoli i weithiau cerddorol Cage o ganol yr 1950au. ‘My intention is to let things be themselves,’ meddai, gan ddiffinio ‘indeterminacy’ nid yn unig fel ‘chance music’ ond fel gallu darn i gael ei berfformio mewn ffyrdd sylfaenol wahanol.
Yn ôl Cage, dylai celfyddyd ein rhyddhau o hualau’r meddwl rhesymegol. Mae’r ‘anarchydd’ iwtopaidd hwn yn ymwrthod â threfn ragosodedig fel mater o egwyddor ac yn ffafrio’r hyn a adnabyddir bellach fel ei gyfraniad artistig – ‘chance-controlled music’. Yn ei gyflwr arbennig o ddiniweidrwydd ymwybodol mae’n agored i bopeth, a hynny er mwyn gweld y byd fel newydd wyrth. Y symbol gorau o’r meddylfryd hwnnw ydi madarch, sy’n dod i’r golwg ar hap – pwy a ŵyr ble a phryd? – ac yn mynnu ein holl sylw oherwydd, o gasglu a bwyta’r un anghywir, medrant fod yn angheuol, wrth gwrs! Mae mynd i hel madarch, felly, yn gofyn am finiogi’r synhwyrau. Beth allai fod yn well hyff-orddiant ar gyfer datblygu ein clyw a’n hymwybyddiaeth o synau? Mae’n debyg mai dyna un o’r dadleuon a ddefnyddiwyd i argyhoeddi’r New School for Social Research yn Efrog Newydd, lle roedd Cage yn darlithio mewn cyfansoddi, y dylai gael dysgu cwrs ar hel madarch hefyd i’r myfyrwyr. Yn yr un ffordd ag y mae ffyngau yn dadelfennu pethau marw i’w priod elfennau, gan ryddhau maeth i’r ecosystem, aeth Cage ati i greu cerddoriaeth trwy ddadelfennu’r strwythurau disgwyliedig. Yn ei gerddoriaeth, tydi synau a thawelwch ddim i’w canfod yn y llefydd arferol, bron fel petai’n meddu ar ysbryd y myseliwm i addasu a newid tac.
Pwy feddyliai fod madarch wedi gwneud cyfraniad mor sylfaenol i ddatblygiad yr avant-garde cerddorol? Byddai unrhyw greadur arall, yn blanhigyn neu anifail, yn gwegian dan y fath bwysau theoretig a dirfodol. Ond un fach wydn a chryf ydi’r shrwmpsen. Mae’n gallu cynnal mwy nag un sgaffald ddeallusol ar y tro ac fel y dangosodd Sheldrake yn ei gyfrol, mae’n rhyngddisgyblaethol i’r carn:
Composers make pieces of music. These were decomposers [y ffyngau], who unmade pieces of life. Nothing could happen without them. [...] This was such a useful idea. It was as if I’d been shown how to reverse, how to think backwards. Now there were arrows that pointed in both directions at once. Composers make, decomposers unmake. And unless decomposers unmake, there isn’t anything that the composers can make with.
*
Anthropolegydd o Galiffornia ydi Anna Lowenhaupt Tsing, a hi sydd wedi taro ar y teitl mwyaf pryfoclyd o’r holl gyfrolau sy’n rhan o’r don ddiweddar hon ar fadarch a ffyngau: The Mushroom at the End of the World – On the Possibility of Life in Capitalist Ruins (2015). Chewch chi ddim gwell gwahoddiad i ddarllen na hwnna, a’ch gwobr fydd cyfrol sy’n byrlymu o syniadau gwreiddiol. Yn gyfuniad o fioleg, ecoleg, ethnograffeg ac economeg, mae’r awdur yn rhoi ei hysgolheictod disglair ar waith i ddyfeisio ffyrdd newydd o ymateb i’r argyfwng cyfalafol ac amgylcheddol sy’n ein peryglu ni oll.
Canolbwynt y gyfrol ydi’r matsutake, un o’r madarch mwyaf drudfawr yn y byd sy’n gwerthu am grocbris yn Japan ond sy’n tyfu fel chwyn mewn tirweddau gafodd eu rheibio a’u hanffurfio gan ddinistr dyn. Mae’n amhosib ffermio matsutake yn fasnachol ond mae’r madarch arbennig hyn yn llwyddo i oroesi a ffynnu yn y mannau mwyaf annhebygol: maent yn dod i’r golwg mewn fforestydd pinwydd sydd wedi cael eu difetha gan gwmnïau coedwigo ac yn ymwthio drwy gadarn goncrit hen ddinasoedd anghyfannedd. Matsutake oedd y peth cyntaf i dyfu wedi’r dinistr niwclear yn Hiroshima, mae’n debyg. Mae’r her sydd wrth wraidd y llyfr hwn yn arswydus. Beth fydd ein hachubiaeth o weddillion chwilfriw rhyfel, cyfalafiaeth a llanast amgylcheddol? Beth fydd yn gallu byw a’n cynnal wedi i ni droi’r byd yn lludw? Mae’r cwestiwn yn swnio’n apocalyptaidd ac yn gwbl resymol yr un pryd. ‘We are stuck with the problem of living despite economic and ecological ruination,’ medd Tsing. ‘Neither tales of progress nor of ruin tell us how to think about collaborative survival. It is time to pay attention to mushroom picking. Not that this will save us—but it might open our imaginations.’
Ac felly, yn llawn dychymyg a deallusrwydd neilltuol, mae’r awdur yn bwrw ati i ddilyn un o’r cadwyni masnach byd-eang mwyaf rhyfedd ac annisgwyl ar y blaned. O goedwigoedd Oregon, Lapland a Yunnan i dai ocsiwn mwyaf Tokyo, mae’n holi cast amrywiol o gymeriadau o fydoedd gwahanol iawn i’w gilydd. Mae’r casglwyr madarch yn aml yn bobl yr ymylon, naill ai’n gyn-filwyr o ymgyrchoedd tramor trychinebus yr Unol Daleithiau neu’n ffoaduriaid o’r union wledydd gafodd eu chwalu gan yr ymladd. Yn ddolen gyswllt rhyngddyn nhw a phobl yr arian mawr mae casgliad o entrepreneuriaid, ecolegwyr, gwyddonwyr a phrynwyr, ac ar ben y pyramid mae’r cwsmeriaid cyfoethog yn ninasoedd mawr Japan sy’n prynu’r matsutake fel rhoddion – arwyddion o’u golud a’u statws. Mae Tsing yn cynnig myfyrdod beirniadol nid yn unig ar gyfalafiaeth ond ar y syniad mai dim ond un ffordd sydd o ddeall a dychymgu cyfalafiaeth: ‘To understand capitalism (and not just its alternatives) […] we can’t stay inside the logics of capitalists; we need an ethnographic eye to see the economic diversity through which accumulation is possible.’ Mae hi’n rhoi sylw arbennig i’r cysylltiad a’r gyd-ddibyniaeth rhwng gwahanol rywogaethau – ‘multi-species assemblages’ yn ei geiriau hi – a’r ffyrdd anrhagweladwy maen nhw, drwy symbiosis, yn goroesi chwalfa ac yn llwyddo i greu tirweddau (ac economïau) amgen, nid o fwriad ond o anghenraid. Ac mae’r tirweddau newydd sy’n deillio o hyn, medd Tsing, yn gallu dangos i ni sut i fyw yn weddus ac yn wylaidd: mae hi’n eu gweld fel teclynnau radical ar gyfer ‘datganoli’ hybris ddynol (‘radical tools for decentering human hubris’).
Yn yr ystyr yma mae stori’r matsutake yn ddameg i gyfalafwyr am ostyngeiddrwydd ac anhunanoldeb. Nid adnodd i’w gamddefnyddio ac i ymelwa arno’n ddi-ben-draw er budd ein rhywogaeth ein hunain ydi’r amgylchfyd. Dim ond mewn cydweithrediad â rhywogaethau eraill y gallwn ni oroesi: ‘One could say that pines, matsutake, and humans all cultivate each other unintentionally. They make each other’s world-making projects possible [...] Landscapes are not backdrops for historical action: they are themselves active. Watching landscapes in formation shows humans joining other living beings in shaping worlds.’
Mae’r ildio diymhongar hwn i realiti amgen sy’n ddifwriad a digynllun yn adlais o ysbryd gweithrediadau ar hap (chance operations) ac amhenodolrwydd (indeterminacy) John Cage: ‘My intention is to let things be themselves,’ meddai’r cyfansoddwr. Mae’r ddau’n gweld rhyw ddoethineb arbennig mewn pethau sy’n digwydd ar hap a damwain neu sy’n ymddangos dros nos yn y mannau mwyaf rhyfedd a mympwyol – ac mae hynny’n rhywbeth i’w drysori, o safbwynt Cage a Tsing. Yng ngeiriau Tsing: ‘The uncontrolled lives of mushrooms are a gift – and a guide – when the controlled world we thought we had fails.’ Daw’r matsutake yn symbol o barhad – deued dilyw, deued tân, maen nhw’n goroesi. Tebyg y byddan nhw’n tyfu ar Graig yr Oesoedd ar Ddydd y Farn. I enaid clwyfus, maen nhw’n gysur ac yn falm. Tsing sy’n cyfleu hyn orau: ‘What do you do when your world starts to fall apart? I go for a walk and if I’m really lucky I find mushrooms.’
Dyfynnir geiriau Tsing hefyd yn Mushrooms: The Art, Design and Future of Fungi (2020) – catalog i gyd-fynd ag arddangosfa yn Somerset House yn Llundain y llynedd. Mae ynddo luniau o weithiau celf myshrympaidd, yn cynnwys brasluniau gan yr artist Americanaidd Cy Twombly. Ceir ysgrif gan y curadur Francesca Gavin hefyd sy’n agor sawl trywydd newydd ac yn codi’r awch i weld a gwybod mwy. Ac er bod yna restr ddarllen go academaidd ar ei ddiwedd, dydi’r catalog ddim yn feichus o gwbl. Mae’n llawn syniadau difyr ac mae digon yn yr arddangosfa i brocio’r meddwl. Enghraifft o hynny ydi Growing Shoes (2018) gan yr artist a’r cynllunydd esgidiau Kristel Peters o Wlad Belg. Bu’n gweithio yn y gorffennol i dai ffasiwn Dries van Noten a Bottega Veneta. Erbyn hyn mae’n defnyddio myseliwm fel deunydd crai i wneud esgidiau sodlau uchel. Ei nod ydi dyfeisio ffyrdd newydd o weithgynhyrchu sy’n gwneud llawer llai o niwed i’r amgylchfyd, gan arbrofi ar y gyffordd rhwng biotechnoleg a ffasiwn.
Ac i rai sy’n dymuno ymadael â’r byd hwn mewn steil, beth am ffasiwn angladdol yr artist Coreaidd-Americanaidd Jae Rhim Lee? Infinity Burial Suit (2017) ydi enw’r gwaith – siwt amdo i bob pwrpas, wedi ei gwneud o fadarch a myseliwm, sy’n helpu i ddadelfennu’r corff (ei bydru, os mynnwch chi) a chyfleu’r maeth i blanhigion. Mae hefyd yn rhwystro’r gwenwyn o gyrff marw rhag diferu i’r pridd. Ac mae dyn busnes o’r Iseldiroedd, Bob Hendrikx o gwmni Loop Biotech, yn defnyddio myseliwm i wneud eirch i gladdu’r meirw, serch bod £1,300 braidd yn ddrud am gist corff.
Ond nid breuddwyd gwrach mo’r dyfodol madarchaidd hwn. Mae cynllunwyr a phenseiri yn arbrofi efo ffyrdd ymarferol o roi perthynas symbiotig rhwng ffyngau a dyn ar waith yn y byd go iawn. Mae’n bosib y daw myseliwm i ddisodli brics neu blastig fel deunydd crai i’r diwydiant adeiladu yn y dyfodol agos, ac mae rhai mathau o fyseliwm yn bwyta plastig, hyd yn oed. Yn y Berggruen Institute yn Los Angeles (ble arall?) mae prosiect o’r enw ‘Transformation of the Human’ yn ceisio dychmygu dinasoedd iwtopaidd sy’n seiliedig ar ffyngau. Yn eu canol byddai ffatrïoedd enfawr yn cyn-hyrchu miloedd o dunelli o fyseliwm.
*
Rwyf wedi codi’r term Cymraeg ‘myseliwm’ o Eiriadur yr Academi, sef gwaith Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. Bruce Griffiths hefyd ydi’r arbenigwr iaith ar y gyfrol Ffyngau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Edward Llwyd. Mae’n un o gyfres o lyfrau sy’n safoni’r enwau Cymraeg ar rywogaethau byd natur er mwyn darparu termau safonol, cywir a diamwys i naturiaethwyr a chyfieithwyr. Mae’n gaffaeliad mawr i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn madarch. Ceir enwau Lladin, sy’n dilyn y dacsonomeg wyddonol arferol, yna’r enw yn Saesneg, ac yn y drydedd golofn yr enw Cymraeg. Mae digonedd i’w fwynhau. Cawn ddarllen, er enghraifft, mai’r enw Cymraeg ar un o’r madarch blasusaf, Boletus edulis, neu’r cèpe yn Ffrainc, ydi’r ‘wicsen gron’. Bynsen ydi ‘wicsen’, felly mae’r enw Cymraeg yn go debyg i’r enw Saesneg, penny bun. Mae cyffredinoli am seicoleg cenedl gyfan yn beth peryglus, ond mae’r enwau gwahanol ar y fadarchen hon ledled Ewrop yn go ddadlennol. Yr enw sydd fwyaf cyfarwydd i ni ydi’r Eidaleg, porcino, sy’n awgrymu siâp mochyn bach, tra mae cèpe y Ffrancwyr yn cyfeirio at fonyn trwchus y winwydden (daw’r gair yn wreiddiol o’r iaith Ocsitaneg yn ne-orllewin Ffrainc, un o gadarnleoedd madarch gwyllt). Enw’r Basgiaid ar y ‘wicsen’ ydi ontto txuri neu’r penfelyn, ond sureny (corcyn) sydd gan y Catalaniaid (tybed ai oherwydd eu harfer o yfed cava?). Yng ngwledydd Llychlyn ceir amrywiadau ar Karl Johan svamp, er clod i’r Brenin Siarl XIV Ioan, alltud o Ffrainc a fyddai’n casglu Boletus edulis ger ei balas yn Sweden ac sy’n enwog am boblogeiddio’r madarch yn y wlad honno. Mae’r gwledydd Ellmynig eu hiaith yn gweld pethau’n wahanol. Yr enw mwyaf annisgwyl a welais ydi’r Iseldireg eekhoorntjesbrood – yn llythrennol, bara’r wiwer. Yn Awstria cawn Herrenpilz, madarchen o uchel ach, ac yn yr Almaen Steinpilz – yn llythrennol, madarch cerrig. Rhai garw ydi’r Almaenwyr am greu geiriau cyfansawdd a chawn hefyd Atompilz, neu yn Saesneg mushroom cloud y bom niwclear. A dyma ni’n enllibio madarch eto fyth drwy ddychwelyd i fyd y delweddau negyddol. ‘Now I am become Death, the destroyer of worlds,’ meddai ‘tad’ y bom atomig Robert Oppenheimer, gan ddyfynnu adnod o’r ysgrythur Hindŵaidd, y Bhagavad-Gita.
Gellir dweud hynny hefyd am ambell fadarchen sy’n tyfu ar garreg ein drws, yn cynnwys angel angau (amanita virosa neu’r destroying angel i’r Saeson) a’r cap marwol (amanita phalloides neu’r death cap). Mae’r olaf bron yn sicr o’ch lladd ar ôl cystudd hir a phoenus. Ceir yr wybodaeth anhepgor yma yn Fungipedia gan Lawrence Millman, gwyddoniadur bach hylaw o ffeithiau diddorol am fadarch sy’n cwmpasu sawl maes: llenyddiaeth, ecoleg, ethnograffeg, hanesyddiaeth, celfyddyd a llên gwerin. Diolch i’w arddull ffraeth a smala, mae yna rywbeth ar bob tudalen sy’n codi gwên. Wrth bori rhwng A a Z mae yna ddigon i’ch difyrru, o gyfeiriadau at Alice in Wonderland Lewis Carroll a Fantasia Walt Disney, i restr o nofelau a ffilmiau cyfoes sy’n rhoi lle amlwg i fadarch.
Yn Fungipedia, fel madarchen yn cuddio mewn gwely o ddail crin, cawn hyd hefyd i frawddeg gofiadwy o waith y bardd Americanaidd A R Ammons – llinell a fyddai’n epigraff teilwng iawn i bob un o’r cyfrolau hyn: ‘Attend to mushrooms and all other things will answer up.’
Cynhyrchydd teledu yw Marc Edwards ac mae'n hoff o gasglu a choginio madarch gwyllt.