Adolygu

Iaith ac ecoleg

Pa fath o dwll?

Manchán Magan

Thirty-two Words for Field: Lost words in the Irish landscape

Gill Books, 386tt, £18.99, 2020

Rhian Parry

Cerdded y Caeau

Y Lolfa, 210tt, £19.99, 2022

Michael Cronin

An Ghaeilge agus an Éiceolaíocht / Irish and Ecology

Foilseacháin Âbhair Spioradálta, 159tt, €15, 2019

Mererid Hopwood

Amser darllen: 15 munud

13·12·2023

Inis Meáin, Iwerddon (Llun: Chris Killip Photography Trust / Magnum Photos)

‘Caleidosgob’ yw teitl pennod gyntaf llyfr Manchán Magan, Thirty-two Words for Field: Lost words in the Irish landscape, ac mae’n agor, nid drwy osod stondin ddamcaniaethol ei athroniaeth, ond yn hytrach drwy gynnig enghraifft drawiadol, ddiriaethol sy’n tynnu’r darllenwyr gerfydd eu deall at ei hypothesis. Mae’n dwyn i gof y tro yr holodd ei fam-gu, beth oedd y gair Gwyddeleg am ‘dwll’? Cafodd gwestiwn yn ateb: ‘Pa fath o dwll?’ Ac aiff yn ei flaen i ailadrodd y posibiliadau a glywodd gan yr hen wraig. Dyna uachas: twll wedi ei gloddio yn y ddaear gan anifail; saothar: twll wedi ei wneud gan bysgod yn nhywod gwely’r afon pan ddaw hi’n adeg bwrw sil; plobán: twll wedi ei durio gan garnau anifail ac sydd wedi’i lenwi â glaw; fach: twll cwato cimwch; puathais: twll cwato creadur rheibus, gwyllt; criathar: twll wedi ei gloddio mewn cors; tarathar: twll wedi ei wneud gan ebill (a’r gyfnither Gymreig, ‘taradr’ am fath ar ebill, yn ein helpu ni fan hyn); ballán: twll fel cwpan mewn craig; log: twll llawn dŵr yn y dirwedd; crá: twll mewn nodwydd (‘crai’ i ni, wrth gwrs); spail: twll mewn starn cwch; breifne: twll pitw bach wedi ei wneud gan drychfilyn neu nodwydd; duibheachán: twll mor fawr nes y gellid ei alw’n ddwnshwn. A rhag ofn nad ydyn ni’r darllenwyr erbyn hyn wedi ein hargyhoeddi o gyfoeth posibiliadau’r syniad o dwll, mae’n taflu pluais, séib, sloc, cluais a logán i ... wel, beth ddwedwn ni? ... i’r ‘pair’ (rhag llethdod ‘twll’).

Dyna’r eiliad, meddai Magan, y sylweddolodd fod y ddwy iaith a siaradai, Saesneg a Gwyddeleg, yn gofyn nid yn unig am ddulliau gwahanol o fynegi gramadeg a chystrawen, ond hefyd am ddulliau gwahanol o weld y byd. A dyna’r ddamcaniaeth: mae iaith yn ffordd o weld, deall, dirnad.

Tamaid i aros pryd yw ei ymdriniaeth â’r twll. Oherwydd fel y mae teitl y llyfr yn addo, buan y try’r caleidosgop ei sylw at y caeau. Af i ddim i restru’r deuddeg ar hugain gair lliwgar sydd gan y Wyddeleg am ‘gae’, ond wrth ddarllen sut y mae’r awdur yn dychmygu’r ymwelydd o’r ddinas yn edrych ar dirlun cefn gwlad a’i weld yn go unffurf, ac yna’n gwrthgyferbynnu hynny â’r sawl a fagwyd yn y tirlun gwledig hwnnw ac sy’n gweld pob cae yn wahanol iawn i’w gilydd, cofiais yn glir am fy syndod pan ddywedodd rhywun a ddaeth rywdro ar ei wyliau i Bencaer, penrhyn gwledig gogledd sir Benfro, ei fod wrth ei fodd yn y llonyddwch yno gan nad oedd neb yn sylwi ar ei fynd a dod. Neb yn sylwi? meddyliais mewn anghrediniaeth, gan wybod yn iawn fod pobl Pencaer yn clywed ac yn gweld yn llawer pellach nag y gallai’r cyfaill o bant fod wedi ei ddychmygu. Ydyn, wrth gwrs, eu bod nhw’n clywed y ‘CLAP!’ byddarol sy’n galw bois y bad achub, a chlywed Thompson’s Bull, y corn niwl cwynfanus. Ond maen nhw’n clywed hefyd sŵn tractor, lori-laeth, moto-beic, car, gan wybod bod injin pob un cerbyd â rhyw si fach lawn mor unigryw â’i berchennog. Clywed ceiliog yr Hafod. Clywed drws garej Pontiago’n agor – rhaid ei bod hi’n 9 y bore. Clywed y da yn croesi. Clywed fan y postmon. Dwtsh yn hwyrach na’r arfer heddi – oes rhywbeth yn bod? Clywed yr adar yn ôl eu tymor. Clywed y môr, y llanw a’r trai. A chlywed y fusutors, siŵr iawn. Nhw a’u mynd a dod ...

Yna, tua dechrau’r llyfr, mae Magan yn nodi swyngerdd Amergin, y derwydd a’r bardd a ddaeth yn niwloedd amser ar don hudol o fôr yr Iwerydd a glanio yn Iwerddon mewn storm, gan wthio duwiau rhyfeddol y Tuatha Dé Danann i’r isfyd o dan wyneb y ddaear. Yn llafarganu y gerdd gynharaf hon (sy’n siŵr o’n hatgoffa o’n Taliesin chwedlonol ninnau) gwêl Magan sut y mae iaith nid yn unig yn disgrifio pethau ond yn eu galw i fod: ‘[a]m gaeth i m-muir’ (wyf wynt ar y môr); ... ‘[a]m dér gréne’ (wyf ddeigryn disglair yr haul) ...

Dros y bron i bedwar cant o dudalennau sy’n dilyn, ymhlith y themâu a gaiff sylw ganddo mae: cerrig a cholled, duwies y don, cylchoedd, tir, tabŵ, melltith, rhyw, yr awen ddwyfol, golau, gwymon, gwynt, gwrachod, a phennod am bysgod nad yw’n sôn fawr ddim am yr un pysgodyn, hyd y gwelaf. Ac fel un sy’n ymfalchïo yn llinach y gofaint ar ei choeden deuluol, oedais yn hir gyda’r gair ceap a grybwyllir yn y bennod â’r teitl gogleisiol ‘Isn’t it yourself?’ Y boncyff pren a forthwylid i ddyfnder daear yn yr efail yw’r ceap, a hynny er mwyn rhoi sail gadarn i’r eingion, ond gair sydd bellach wedi dod i olygu ‘y man lle mae rhywun yn teimlo’n fwyaf diogel’.  

Heb os, synhwyra’r darllenydd mai yng nghwmni ei fam-gu y mae Manchán Magan yn canfod ei ceap yntau, ac ati hi mae’n troi i gael y doethineb sy’n ei wthio ymhellach ar drywydd y llyfr: ‘Saol trí mhíol mhór saol iomaire amháin, saol trí iomaire saol an domhian’, meddai’r hen wraig drachefn: ‘tair gwaith oes morfil yw rhychwant oes esgair, a thair gwaith oes esgair yw rhychwant oes y byd’. 

Drwy’r geiriau a’r esiamplau lu sy’n ddifyrrwch o ddechrau i ddiwedd y llyfr, un nod yw perswadio’r darllenydd o argyhoeddiad Magan fod gwybodaeth a doethineb hen, hen gof wedi eu dal yn y tir – cof sy’n ymestyn yn ôl i’n hynafiaid Neolithig; nod arall yw ein perswadio mai’r ffordd orau o ddod at y cof hwnnw yw drwy’r iaith y mae pobl y tir hwnnw wedi ei siarad ers amseroedd maith.

Rhan o’r un wybodaeth sy’n cael ei datgelu yn llyfr sylwgar ac ardderchog Rhian Parry, Cerdded y Caeau. Mae’r awdur yn agor gyda’r datganiad mai ‘ymgais yw’r llyfr’ i rannu’r hyn a ddysgodd wrth astudio geiriau (yn yr achos hwn, geiriau sy’n enwau ar ffermydd a chaeau Ardudwy) am ‘dirwedd, hanes, a diwylliant cymdogaeth’. Un o gymwynasau mawr yr astudiaeth yw’r modd y mae’r ymwneud mor benodol ag un ardal yng Nghymru yn bwrw goleuni ar Gymru gyfan. Ystyriwch yr adran sy’n olrhain hen gyfundrefn dosbarthiad tir yng Nghymru gan nodi cyfreithiau fel y’u cofnodwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg. Yma, ceir esboniad pam fod ffermydd mor aml yn dwyn enw ‘Tref-Hyn-Ac-Arall’ (rhywbeth a’m drysodd i am flynyddoedd: ‘sut yn y byd gallai un tŷ ac ychydig o dai-mas fod yn dref?’ meddyliwn yn blentyn). Mae’r un adran hefyd yn esbonio pam mai ‘Llain Rafel Fach’ yw enw un o’r caeau ar dopie Abergwaun.

Pedair erw mewn tyddyn; pedwar tyddyn mewn rhandir; pedwar rhandir i’r afael; pedair gafael mewn tref/treflan/trefgordd; pedair tref mewn maenol; deuddeg maenol a dwy dref mewn cwmwd; y ddwy dref ar gyfer y tywysog; un yn dir bwrdd, neu faerdref (demesne) a’r llall yn hafod a gwast neu ddiffaith. Rhennid pob cantref yn ddau gwmwd.

Wrth gwrs, nid ‘cae’ ond ‘parc’ fyddai pobl Abergwaun yn galw parsel o dir. Ac wrth sôn am berci, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, o’r Hen Ffrangeg y daeth ‘parc’ i’r Gymraeg yn wreiddiol, a dyma oedi i holi wrth basio ai’n uniongyrchol o’r ‘jambe’ Ffrangeg (yn golygu coes) neu drwy’r benthyciad Saesneg ‘jomb/jamb’, o’r un gair Ffrangeg, y daeth y gair hyfryd ‘jom’ i’r Gymraeg, sef gair gogledd sir Benfro am bostyn iet? Tybed? A siawns mai dod yn uniongyrchol o’r Ffrangeg ar dafodau morwyr a wnaeth un o ymadroddion Anti Joyce, Solfa, a fynnai ein hannog i beidio â sylwi ar ryw fân anafiadau a siomedigaethau gyda’r geiriau cysurlon: ‘twsh baw san fferian’. Bydd Ffrangeg-ysgol go sylfaenol yn ddigon i’n helpu ni i weld mai ‘touche pas, ça ne fait rien’ sy’n cuddio fan hyn.

Ond yn ôl at lyfr Rhian Parry. Geiriau olaf un y gyfrol (a hynny ar waelod adran y lluniau yn y cefn ac nid yn y bennod swyddogol olaf) yw: ‘[m]ae cysylltu tystiolaeth lafar fel hon ac astudiaeth o fapiau ystadau, mapiau’r Degwm a mapiau OS ac astudiaeth o’r dirwedd ei hun yn werthfawr. Mae darnau bach yn cysylltu â’i gilydd ac yn cynnig darlun mwy cyflawn na’r hyn a geir drwy ganolbwyntio ar un agwedd yn unig.’ A dyma ni eto, yn cael ein perswadio bod angen mwy na llygaid sy’n gweld patrymau tirlun er mwyn deall y tir o dan ein traed –  mae angen clustiau sy’n clywed iaith hefyd.

Gyda’r diffyg clustiau i glywed iaith yng nghanol holl drafodaethau’r dydd am gynaladwyedd ecolegol yr agorodd Michael Cronin ei sesiwn fel darlithydd gwadd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Aberystwyth ddechrau Medi eleni. Deiliad cadair enwog ‘Chair of French 1776’, Coleg y Drindod, Dulyn, yw’r Athro Cronin, ac ysgolhaig sy’n fwyaf adnabyddus efallai am ei gyfraniad pwysig i faes astudiaethau cyfieithu. Fodd bynnag, yn y cyfnod diweddar, mae wedi ymddiddori fwyfwy ym mhotensial rôl iaith, ac yn benodol, y Wyddeleg, ei famiaith, yn nisgwrs swnllyd argyfwng yr hinsawdd. Teitl awgrymog ei ddarlith wadd oedd  ‘Foreign Neighbours: Climate, Language and the Future’, ac ynddi ymhelaethodd ar rai o’r syniadau y mae wedi bod yn eu gosod ger bron mewn cyhoeddiadau fel ei lyfr dwyieithog a dadlennol, An Ghaeilge agus an Éiceolaíocht / Irish and Ecology (2019).

Mae’n synnu pa mor ymylol yw cwestiwn iaith yn y drafodaeth am yr argyfwng, ac yn hawlio sut y byddai dod â’r cwestiwn hwn o’r cyrion yn cynnig atebion amgen i’r heriau sy’n ein hwynebu wrth inni feddwl am ddyfodol y ddaear. Fel Rhian Parry a Manchán Magan, mae’n gweld bod iaith yn cynnig cysylltiadau pwysig rhwng y gorffennol a’r presennol, cysylltiadau a allai oleuo ffordd well inni ‘ymgodymu â daear’, chwedl Waldo. 

Yn gynnar yn ei ddarlith aeth â ni i fyd seicdreiddio a’n hannog i feddwl am yr effaith andwyol sy’n dilyn, ar lefel bersonol, pan fo’n gallu ni i wneud cysylltiadau rhwng ddoe a heddiw yn cael ei chwalu. Dyma’r gallu sy’n cael ei golli pan fo pobl yn profi shifft ieithyddol, mynnai; hynny yw, wrth i bobl golli iaith y cenedlaethau a aeth o’u blaenau a dechrau siarad iaith wahanol, maen nhw’n colli elfen allweddol o’u gallu i bontio yn ôl o heddiw i’r doeau pell. Yn aml, mae shifft ieithyddol yn digwydd nid o ganlyniad i gatastroffi, esboniodd, ond o ganlyniad i’n hawydd i wasanaethu delfryd ddinistriol Twf Diderfyn – yr union ddelfryd sy’n ein harwain at ofyn y cwestiwn ‘what for?’ difaol am iaith leiafrifiedig fel y Wyddeleg neu’r Gymraeg. ‘Beth yw ei diben?’

Datblygodd Cronin ei ddadl gan ganolbwyntio ar ddau gategori – amser a sylw (attention) – ac ar y nodweddion epistemig ac ontolegol sy’n gysylltiedig â’r ddau, gan bwysleisio bod angen ystyried holl ieithoedd y byd ar y cyd â’i gilydd, a bod angen dirnad lluosogrwydd ieithyddol fel uchelgais ar y cyd yn hytrach nag ‘evolutionary bunfight for individual spoils’. A chyda’r gair ‘evolutionary’ hwnnw, down at wraidd un o’i brif ddadleuon, sef bod angen disodli’r delweddau a’r trosiadau hynny sy’n tarddu o syniadau hierarchaidd Darwin am esblygiad wrth drin a thrafod iaith – fel yn wir gymaint o elfennau eraill ein cymdeithas fodern – a chwilio am rai newydd. 

Aeth â ni yn ôl at draethawd (drwg)enwog Thomas Malthus o’r flwyddyn 1798, Essay on the Principle of Population, a thynnu sylw at y ffaith mai ar ôl i Darwin ddarllen syniadau Malthus (yn 1839) y datganodd ei fod, o’r diwedd, wedi cael gafael ar ddamcaniaeth a allai esbonio’r ‘ymdrech i oroesi’ neu’r ‘frwydr i fodoli’, y frwydr honno yr oedd wedi sylwi arni yn nheyrnas yr anifeiliaid a’r planhigion. (‘Kingdom’ yw’r gair am ‘deyrnas’ sydd ganddo wrth gwrs, a’r gair Cymraeg fel y Saesneg yn dangos mor ddwfn oedd gafael y drefn hierarchaidd ar ei syniadaeth.) Gan ddyfynnu’r hanesydd Theodore Roszak, meddai Cronin: ‘Far from reading the ethos of the jungle into civilised society, Darwin read the ethics of industrial capitalism into the jungle.’ 

Nid yw damcaniaeth ‘parhad y trechaf’ felly, pwysleisiodd Cronin, yn ffaith naturiol ac anochel. Ac o ystyried hyn, mae llwybr amgen yn ymagor o’n blaenau, un sy’n fwy abl i gwmpasu amrywiaeth ieithyddol (fel amrywiaeth pob math o bethau byw eraill o ran hynny) ac sy’n fwy cydnaws â ffyrdd o fyw llai tebygol o ddistrywio’r blaned. Cynigiodd fodel endosymbiosis, sef proses fiolegol sy’n gweld un math o facteria yn ymsefydlu mewn math arall o facteria er mwyn cynhyrchu trydydd math mwy cymhleth. Dyma broses sy’n awgrymu bod pob cell fyw yn ganlyniad i bact, i ddealltwriaeth, i gytundeb esblygol rhwng gwahanol facteria. Yng ngoleuni’r dehongliad hwn, gellir gweld bod rhywogaethau newydd yn ganlyniad i ymdrech ar y cyd, a bod esblygiad yn tarddu o ymateb ar y cyd i newidiadau mewn amodau bywyd. Dyma ymateb sy’n dilyn egwyddor cydweithredu nid egwyddor cystadlu.

Mae’r syniad hwn o ymaddasu fel ymateb cydweithredol i amgylchiadau newydd yn gofyn am set sylfaenol wahanol o ddelweddau a throsiadau. Wrth drin a thrafod ein cymdeithas a’n planed ni heddiw, mae angen torri’n rhydd o rwymiad trichlwm cyfalafiaeth Ddarwinaidd, neu’r hyn y mae Tim Jackson yn ei alw’n ‘the unholy trinity of Darwinian Capitalism’, sef y syniad o natur fel brwydr (struggle); elw fel cystadleuaeth; a defnydd neu draul (consumption) fel rhywbeth anniwall.

Oedaf fan hyn i nodi mor ddiddorol o anodd yw trosi ‘consumption’ i’r Gymraeg mewn modd sy’n cario holl ystyron byd y farchnad a glywir bellach mor eglur yn y term Saesneg. Wrth droi at Eiriadur yr Academi am gymorth, cofiais mai un cynnig ar ‘consumption’ yw’r ‘ddarfodedigaeth’ (y ‘diciáu’ neu’r ‘dicléin’), a gwelais hynny, rywsut, yn rhyfedd o arwyddocaol.

Oedodd Cronin fan hyn hefyd, i bensynnu ar y cwestiwn: pe byddai modd ystyried ieithoedd o bersbectif cydweithredol, symbiotig, yn hytrach nag o bersbectif digyswllt, cystadleuol, sut gallen nhw, gyda’i gilydd, gyfrannu at ffyrdd ac arferion newydd o breswylio yn ein cymdeithas? A dyma oedi drachefn i ddweud mai’r ferf a ddefnyddiai Cronin am ‘breswylio’ oedd ‘to dwell’, wrth iddo sôn am ‘new ways of dwelling’. Byddai ‘trigo’ yn lle ‘preswylio’ wedi bod yn ddewis digon teilwng fan hyn i gyfleu ei syniadau yn Gymraeg, ond efallai bod deuoliaeth y ferf ‘trigo’, a hithau’n gallu golygu ‘byw’ a ‘marw’ fel ei gilydd, yn ychwanegu’n ddiangen at gymhlethdod y syniad. (Ac eto, er bod geirdarddeg y ddau fath o ‘drigo’ yn gwbl wahanol, onid oes rhywbeth yn hynod ac arwyddocaol yn y modd y mae un gair, dwy sillaf, yn gallu dal cymaint o’r tyndra sy’n gorwedd rhwng dau begwn ein bod?)

Ta waeth am hynny, aeth Cronin yn ei flaen i’n rhybuddio bod y delweddau a’r trosiadau Darwinaidd, gyda’u pwyslais ar ddiben, defnyddioldeb a chystadleuaeth popeth yn arwain at fywyd hwrlibwrli. Lleidr amser yw’r hwrlibwrli hwn, un sydd, yn ei dro, yn arwain at anghytgord triphlyg: yn ecolegol, yn gymdeithasol ac yn seicolegol. 

Beth felly yw rôl iaith ac ieithoedd yn hyn oll? A fan hyn, tynnodd sylw at beryglon pwysleisio gwerth ieithoedd fel adnodd iwtilitaraidd yn unig, fel rhywbeth sy’n gallu ein gwneud ni’n gyfoethocach, yn glyfrach, yn gyflymach ac yn y blaen, gan fod hynny’n cyfiawnhau ieithoedd ar delerau rhesymeg echdynnol cyfalafiaeth. Y perygl o roi’r pwyslais ar werth ieithoedd yn y telerau hyn yw ei fod yn anwybyddu’r ffaith waelodol bod dysgu iaith yn gofyn am amser. Ac yn hyn o beth, mae’r rhai hynny ohonom sy’n awyddus i weld mwy o ddysgu ieithoedd yn ein byd yn wynebu problem, oherwydd mae’r ‘gofyn am amser’ hwn yn mynd yn groes i gerrynt y byd modern, lle mae egwyddor yr ‘ar-unwaith-ac-ar-amrantiad’ yn llywodraethu.

Prociodd Cronin ymhellach. ‘Beth ddigwyddai,’ holodd, ‘pe bai’r “broblem” hon yn dod yn rhan o’r datrysiad? Beth pe baem ni’n gwneud yn fawr o’r mater hwn o ‘angen amser’ i ddysgu iaith, ei dderbyn, a’i droi’n rhinwedd: rhinwedd yr ymrwymiad i’r hir-dymor?’ Ac aeth yn ei flaen i bensynnu, ‘beth pe baem ni hefyd yn derbyn ein bod ni’n dysgu iaith newydd nid yn hytrach na’r iaith (neu’r ieithoedd) ry’n ni eisoes yn ei/eu siarad, ond yn ogystal â’r iaith/ieithoedd eraill?’ Hynny yw, ein bod ni’n gwneud yn fawr o’r amrywiaeth ieithyddol sydd o’n cwmpas, ac yn ystyried dysgu iaith fel rhywbeth sy’n gyfannol, yn holistaidd, ac nid yn rhanedig? Byddai hyn oll yn herio dwy elfen sy’n andwyo ein hoes ni: ar y naill law, y byr-dymhoriaeth patholegol, ac ar y llall, y mynnu cystadlu yn erbyn ein gilydd yn hytrach na’r cyd-dynnu gyda’n gilydd.

Yna, i gloi, trodd at gategori ‘sylw’. Mae ymateb i eraill, meddai, boed yn fodau dynol neu beidio, yn galw am dalu sylw. Ac mae’r dechnoleg ddigidol wedi hen sylweddoli mai prif ffactor ei chynnyrch yw sylw. Mae sylw yn rhywbeth sy’n werth arian. Gellir cael pob math o wasanaeth yn ymddangosiadol rad ac am ddim, ond inni fodloni cyfnewid nid ein harian ond ein sylw. Mae’r farchnad yn symud o gynhyrchu i hyrwyddo, a’r pwyslais yn llai ar nwyddau a gwasanaeth nag ar alw (demand) drwy gipio sylw. Y cipio sylw sy’n hawlio amser ac adnoddau. Ennyn pobl i dalu sylw yw’r prif gynhyrchydd incwm.

Ond ynghlwm â’r syniad o sylw, mae’r syniad o werth. A dyma lle trodd Michael Cronin at William James a’i Principles of Psychology, 1890, sy’n dadlau’n groes i syniadaeth a arddelir gan nifer o athronwyr hyd heddiw. Dadl y rhain yw bod pethau’n mynnu ein sylw ni fwy neu lai’n ddigymell, ond dadl James yw mai’r hyn sy’n mynnu ein sylw ni yn y pen draw yw’r hyn sydd o ddiddordeb inni. A’r hyn sydd o ddiddordeb inni yw’r hyn sy’n werthfawr inni. Hynny yw, nid rhywbeth goddefol yw’r modd ry’n ni’n talu sylw. O’r miloedd o bethau sydd o’n cwmpas ar unrhyw un eiliad ac y gallen ni sylwi arnynt ac felly eu profi, ry’n ni’n sylwi ar, neu’n profi, y pethau hynny ry’n ni’n cytuno i dalu sylw iddynt yn unig. Mae’r talu sylw hwn yn fater o ddewis. Heb y gallu i ddewis a dethol yr hyn sy’n mynd â’n sylw ni, nid yw profiad yn ddim ond caos llwyr. Ein diddordeb ni yw’r hyn sy’n rhoi cysgod a golau i’r byd o’n cwmpas. Mewn geiriau eraill, ein diddordeb dethol ni yw’r hyn sy’n rhoi ystyr iddo. Ry’n ni’n dewis yn ôl tair ystyriaeth: diogelwch, pwyll, bodlondeb. (Mae’r cyflythrennu ar ‘S’ yn gwneud y triawd hwn yn gofiadwy yn Saesneg: safety, sanity, satisfaction.) O’r talu sylw hwn, daw gwerth, ac mae’r berthynas rhwng ‘gwerth’ a ‘sylw’ yn berthynas siap cylch. Rydym yn gwerthfawrogi’r hyn ry’n ni’n talu sylw iddo, ac yn talu sylw i’r hyn ry’n ni’n ei werthfawrogi. 

A dyma lle mae iaith yn dod i’r stori. Oherwydd wrth ddysgu iaith arall, ry’n ni’n cael ein gorfodi i dalu sylw i bethau yr oeddem ni wedi eu hanwybyddu yn ogystal ag i bethau sy’n gwbl newydd inni. Mae dysgu iaith newydd yn newid patrwm ein sylwgarwch ac yn agor ein meddyliau. Wrth gwrs y gallwn oroesi rhwng dwy iaith drwy ddefnyddio technoleg hwyliog fel y Google Translate a’i gyfeillion ‘ar-unwaith-ac-ar-amrantiad’. Dyna ddileu’r angen am ddysgu ieithoedd ... ond y drafferth gyda’r cyfieithu ‘AI’ yw ei fod yn gyfieithu sy’n cau drws y meddwl, drws profiad, drws ein sylwgarwch, nid ei agor. 

Mentraf gynnig esiampl ddiraethol ddiweddar o’m profiad innau fan hyn. Roeddwn yn paratoi darlith ar Facsen Wledig ar gyfer y myfyrwyr a meddyliais y byddai llun pwrpasol o gêm bêl droed yn lle da i ddechrau arni, a sôn, wrth gwrs, am anthem Dafydd Iwan, ‘Pwy sy’n cofio Macsen?’ Nawr, mae fy nghyfrifiadur i, chwarae teg iddo, yn gymorth hawdd ei gael yng nghyfyngder fy niffyg sgiliau dylunio. Yn ddiofyn, ac wn i ddim sut, mae’n cynnig twtio fy sleidiau drwy roi er enghraifft ffrâm am lun neu is-bennawd i esbonio’r hyn sydd yn y llun. Gan weithio oddi mewn i’w werthoedd, a dilyn trefn ei sylwgarwch yntau, cynigiodd Yr Afal y geiriau yma imi am y llun yr oeddwn wedi ei ddewis: ‘a man speaking into a microphone in front of a crowd of people’. Digon teg. Ac eto, nid ‘a man’ ydoedd y dyn yn y llun, ond Dafydd Iwan. Nid siarad i feicroffon a wnâi, ond morio canu, ac nid  ‘crowd of people’ oedd y criw y tu ôl iddo, ond yn hytrach Gareth Bale a holl dîm buddugol Cymru a ninnau newydd ennill ein lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf er 1958...

Mae peidio â dysgu ieithoedd eraill yn gyfystyr â pheidio talu sylw, neu, yn waeth, yn gyfystyr â thalu sylw i oruchfiaeth unieithrwydd, tra bo dysgu iaith yn altro’n sylfaenol gyfundrefn ein sylwi, patrwm ein sylwgarwch. Ac mae cyfundrefn ein sylw ni’n cael ei llesteirio, yn wir ei handwyo’n sobor gan ein hanallu i ymwneud yn fwy llawn â lluosogrwydd ieithoedd ein byd.

Nid addurn yw dysgu iaith. Nid ceisio cysur y cyfieithiad hawdd ei gael yw’r hyn sydd bwysicaf wrth ddysgu iaith, ond yn hytrach y pendroni dros yr hyn sy’n ein herio i sylwi o’r newydd. Nid chwilio o hyd am yr hyn sy’n debyg o iaith i iaith ddylai’r nod fod, ond yn hytrach ymlawenhau ym mhotensial creadigol y gwahaniaethau. 

A chyda hyn, dychwelwn at gategori amser, oherwydd, po fwyaf o ieithoedd sydd gennym, y mwyaf hefyd o ddolenni posib i’r gorffennol sydd gennym. A pho fwyaf o ddolenni i’r gorffennol sydd gennym, y mwyaf o ddolenni i hen gof a gwybodaeth sydd gennym, ac felly’r mwyaf yw ein posibiliadau o wynebu’r dyfodol â doethineb. Nid mater o ysgolheictod ffuantus yw dysgu ieithoedd, yn hytrach mater sy’n mynd at wraidd yr her a wyneba unrhyw ddiwylliant sy’n dymuno goroesi ymhell i’r dyfodol. Meddai Cronin:

The future lies with languages that can maximise diversity, alter human interaction with the non-human and reveal ways of being that are connected to the specificities of place but are open to the world. Irish is one of those languages of the future. The genuine pragmatists are those who look to the language for resources to build an alternative future, not the monolingual fantasists who would condemn us to an intolerable past in the name of an unsustainable future.

Mae bod yn ymwybodol o hyn yn gallu rhoi goleuni a hyder i’r rhai hynny ohonom sy’n ceisio dull mwy dichonadwy o breswylio ar y ddaear – yn ieithyddol ac amgylcheddol fel ei gilydd. A dyma wefr dadl Cronin: mae’r gallu hwn i barchu ieithoedd lleiafrifiedig yn ein trawsffurfio ni o fod yn rhyw boblach hynod sy’n ymwneud ag ieithoedd diflanedig (bron) ddoe er mwyn ymdrybaeddu mewn hiraeth, i fod, yn hytrach, yn bobl weithredol yn y presennol â’n golwg yn glir ar y dyfodol. ‘Being mindful of this,’ meddai, ‘can then both enlighten and embolden those who seek a more ling-uistically and ecologically viable way of dwelling in the world. Not as ghosts but as actors.’

Wrth dynnu at y diwedd, dychwelwn i’r dechrau, gan gofio yn ôl at Manchán Magan a chwestiwn ei fam-gu: ‘pa fath o dwll?’ Roedd gan y Wyddeleg lawer gair, ac mae Geiriadur Prifysgol Cymru yntau yn cynnig: ‘agoriad’, ‘pannwl’, ‘pant’, ‘pwll’, ‘genau’, ‘ogof’, ‘ceudwll’, ‘ffau’, ‘gwâl’, ‘tyrchfa’. Ond mae ystyr arall hefyd i ‘dwll’ wrth gwrs: ‘picil’. 

Un ffordd mas o bicil y blaned a’r bobl sy’n byw arni yw mynd ati i siarad a gwrando ar ieithoedd mawr – a bach – y byd. Gan ddechrau gyda’r Gymraeg.

Nid ceisio cysur y cyfieithiad hawdd ei gael yw’r hyn sydd bwysicaf wrth ddysgu iaith

Pynciau:

#Rhifyn 23
#Mererid Hopwood
#Ecoleg
#Iaith