Colofnau

Lluniau yn Eryri

Darllen llun

John Clow: ‘Lluniau yn Eryri’

Ffotogaleri y Gofeb, hyd 21 Rhagfyr 2022, Machynlleth

Mabon Llŷr Hincks

Amser darllen: 4 munud

09·11·2022

Llun gan John Clow, o arddangosfa Ffotogaleri y Gofeb. Ar agor hyd 21 Rhagfyr 2022
 

Daeth John Clow i Gymru am y tro cyntaf ar ddiwedd y pum degau. Cafodd ei gyfareddu gan Eryri. Dechreuodd ymddiddori mewn ffotograffiaeth yn fuan wedyn, ac mewn dim o dro roedd wedi dysgu sut i drin y dechnoleg. Am ddegawdau wedi hynny, bu’n rhannu’r hyn a alwai yn ‘fyd dirgel y mynyddoedd’ â’i ddarllenwyr, ac mae’n amlwg o’r lluniau a’r geiriau a adawodd ar ei ôl, na phylodd ei frwdfrydedd i’n cyflwyno i anferthedd hudolus natur. 

Detholiad gofalus o’r ychydig brintiau sydd wedi goroesi a gawn yn Ffotogaleri y Gofeb, Machynlleth yr hydref hwn, ond gwell yw meddwl amdanyn nhw fel pigion yn hytrach nag fel gweddillion. Cyn iddyn nhw gael eu cynnull ynghyd yma, fe’u hanfonwyd ar draws y byd, i wahanol gystadlaethau. Dyma gyfle go arbennig felly i weld y lluniau ochr yn ochr, yn harddu’r waliau, heb fod angen iddyn nhw gystadlu â dim arall.

Tir, dŵr ac awyr yw’r prif gynhwysion ym mhob llun, bron â bod, ac fel elfen sy’n hanner perthyn i’r tri mae gan gymylau ran bwysig i’w chwarae. Fel y gwelwn mewn cyfres fechan a dynnwyd o’r un perspectif – ar Y Lliwedd yn edrych tuag at Lyn Llydaw – mae Clow yn dangos symudiad y cymylau o un ochr o’r cwm i’r llall, bron fel petai’r cymylau yn perthyn i’r ddaear a’r nef yr un pryd. Ar adegau eraill, fel yn ei lun o Lyn Idwal sy’n dwyn y teitl Spring shower, cawn fod cwmwl mawr gwyn yn ymddangos, yn barod i dorri yn don dros ochr y mynydd.

Does dim rhaid treiddio yn ddwfn cyn cael blas ar y berthynas agos rhwng yr artist ac Eryri. Mae’r gair ‘perthynas’ yn teimlo’n neilltuol addas, am fod cymaint o ramant yn y ffordd y mae Clow yn trin y mynyddoedd. Ond rhoddir gwedd ddiriaethol i’r gwaith gan ddefnydd gofalus Clow o enwau Cymraeg a gwelwn sut y daw enwau’r mynyddoedd a’r nentydd yn rhan o freuddwyd Clow a’i weledigaeth bersonol. Serch hynny, cawn hefyd deitlau amwys a rhamantaidd megis Curtain callRoll back the mists of time a Tuonela, land of heroes (Tuonela yw enw’r is-fyd yn chwedloniaeth y Ffiniaid). Ambell dro, mae’r teitlau fel cymeriadau mewn drama dragwyddol, ac Eryri gyfan yn llwyfan o’n blaen. Y berthynas hon rhwng y rhamant a’r elfennau mwy real sy’n creu’r tyndra yn y gwaith.
 


Mae tynerwch i’w deimlo yn y lluniau hyn, yn y sylw arbennig a roddir i amlinelliad y tir, a’r gofal i’r mân newidiadau yn y golau, sy’n awgrymu i mi bod Clow yn ymdrechu i adnabod Eryri yn ddyfnach nag ymwelydd hamddenol yn chwilio am ddim ond ystrydebau i’w dal a’u cofnodi. Tan yn ddiweddar, wrth gwrs, doedd dim dewis ond cludo camera a thrybedd trwm i’r uchelderau er mwyn creu lluniau. Ond ffrwyth gwaith caled unigolyn ymroddedig, yn hytrach na gêm i wylwyr, yw ffotograffiaeth Clow. Rhaid bod yn fynyddwr mentrus, profiadol a galluog er mwyn cyrraedd y mannau hyn lle mae’n gosod ei gamera. Ac eto nid yw’r lluniau yn awgrymu ei fod am herio na goresgyn dim.

Un o nodweddion difyr y math o gamera y byddai Clow yn ei ddefnyddio, yw bod rhaid plygu ymlaen ac edrych i lawr, i mewn i’r gwydr, cyn gweld yr hyn sydd o’ch blaen. Gallaf ei ddychmygu yn moesymgrymu ger bron yr olygfa wrth dynnu’r lluniau. Cawn deimlad cryf drwy’r arddangosfa mai’r mynyddoedd sy’n arwain a’r ffotograffydd yntau’n dilyn, mewn tirwedd sy’n cael ei gweld yn fythol olau, yn fythol dywyll. 

Yng nghefn ei lyfrau, The Mountains of Snowdonia (1993) a Snowdonia Revisited (1996), ceir tablau sy’n amlygu manylder ei driniaeth a’r technegau a ddefnyddiodd wrth greu’r delweddau. Cawn wybod beth yw’r wybodaeth ymarferol, wyddonol fyddai ei hangen i ail-greu rhywbeth tebyg, gan gynnwys maint agoriad pob lens, sawl eiliad a gymerodd pob llun, a nifer o fanion eraill. Er enghraifft: Nant Ffrancon ་ Mis Tachwedd ་ Lens 80mm ་ Ffilter Oren ac ND8 ་ ƒ/16 ་ 10 Eiliad ་ Papur Gradd 3.

Byddai cadw cofnod agos o’r pethau hyn yn beth digon cyffredin i unrhyw ffotograffydd proffesiynol ar y pryd, ond mae dewis rhannu’r wybodaeth hon yn datgelu rhywbeth am ei feddylfryd hefyd. Yn gyntaf, o ran amser a dyddiad tynnu’r lluniau, ni chawn wybod ond enw’r mis yn unig, fel pe na bai angen manylu mewn munudau wrth ystyried amserlen y mynyddoedd. Ond tu hwnt i hynny, dyma enghraifft o Clow yn dangos ei syms, neu fel consuriwr yn datgelu ymhle roedd y gwningen wen yn cuddio wedi iddi ymddangos o’r het. Mae Clow fel petai’n gwneud hyn er mwyn dod â’r lluniau yn ôl i lawr i’r byd go iawn, er mwyn atgoffa’r sawl sy’n cyrraedd diwedd ei lyfrau bod y mynyddoedd, y creigiau a’r llynnoedd yno o ddifri, a bod ganddon ni oll y cyfle i ddod i’w hadnabod cystal ag ef. Ac wrth reswm, mae mwy i sioe hud a lledrith ac i ddoniau consuriwr na chuddio cwningod. Mae’r tric yn dal i greu argraff er bod y gynulleidfa wedyn un cam yn nes at y gwir.

Pan fu farw John Clow yn 2009, ni wyddai neb beth fu tynged ei negatifau gwreiddiol. Efallai i’r artist gofalus hwn eu dinistrio yn fwriadol, er mwyn sicrhau mai dim ond ei brintiau crefftus fyddai’n goroesi. Dathliad tawel o weledigaeth John Clow a geir yng ngofod hardd Ffotogaleri y Gofeb. Ac mae modd i chi brynu’r lluniau dan gynllun casglu Cyngor Celfyddydau Cymru – neu ddewis un o’i gyfrolau o’r casgliad mawr o lyfrau ffotograffiaeth sydd ar gael yn y galeri unigryw hon.
 

Ffotograffydd sy’n byw yng Nghaerfyrddin yw Mabon Llŷr Hincks

Gellir prynu cyfrolau o gasgliad hynod o lyfrau ffotograffiaeth Ffotogaleri y Gofeb yn uniongyrchol o’u gwefan yn y fan hon.

Mae Ffotogaleri y Gofeb wedi ei lleoli tu ôl i gofeb rhyfel Machynlleth, tri drws i fyny o Galeri a Siop Lyfrau Penrallt, 3 Glasfryn, Heol Penrallt, sydd yn yr un stryd â MOMA Machynlleth. Mae ar agor ar bnawniau Mercher (diwrnod marchnad), Gwener a Sadwrn, rhwng 1.30pm a 4pm. Mae modd ymweld ar ddiwrnodau eraill hefyd trwy drefniant: ffoniwch 01654 700 559.

Cofiwch hefyd am Siop Lyfrau’r Senedd-dy, sydd wedi ei lleoli yn adeilad arbennig hen senedd-dy Owain Glyndŵr ar Heol Maengwyn (prif stryd Machynlleth). Mae ar agor 10:30-12:30 a rhwng 1pm a 3:30pm ar ddydd Mercher, Gwener a Sadwrn. 

Rhaid bod yn fynyddwr mentrus, profiadol a galluog er mwyn cyrraedd y mannau hyn lle mae’n gosod ei gamera. Ac eto nid yw’r lluniau yn awgrymu ei fod am herio na goresgyn dim

Pynciau:

#Ffotograffiaeth
#Ffotogaleri y Gofeb
#Mabon Llŷr Hincks
#Darllen llun