Dieithryn
Darllen llun
Gwanwyn y llynedd cefais lun drwy’r post. Ffotograff sy’n edrych fel dyfrlliw, â haen ysgafn o baent yn addurno’r ddelwedd ddu a gwyn. Portread o ddieithryn ydyw – bachgen bach o genhedlaeth a chefndir gwahanol i mi. Llun gweddol gyffredin o’i gyfnod, am wn i, heblaw bod llofnod arno.
Dorothy Wilding (1892–1976), un o ffotograffwyr ffasiynol yr 20g, a’i tynnodd. Roedd ganddi stiwdios yn Llundain ac Efrog Newydd a thros yrfa faith, casglodd restr o gleientiaid breintiedig a disglair – y frenhiniaeth, byddigions, sêr y sgrin a’r llwyfan, yn ogystal ag eisteddwyr mwy cyffredin – anhysbys yn eu dydd ac anghofiedig erbyn hyn.
Aelod o’r categori olaf yw gwrthrych y llun a anfonwyd ataf. John Orchard oedd ei enw: enw cyn dlysed â’r un a ddyfeisiwyd gan Thomas Hardy, a dengys y portread fod Dorothy Wilding yr un mor fedrus i chwyddo calon rhiant balch ag yr oedd i roi sglein wenieithus ar enwogion ei dydd.
Ceisiais ddychmygu bywyd John Orchard. Cartref cysurus yn un o Siroedd Cartref Lloegr, gyda stafelloedd uchel, dodrefn derw a charpedi o Bersia. Tua’r un oed ag yntau yn y llun, ymlafniais innau geisio deall y byd hwn drwy gyfrwng llyfrau awduron Saesneg o’r un genhedlaeth â fy nain. Erbyn hyn, gallwn lenwi rhai o’r bylchau, a dychmygais y fo a’i fam yn cychwyn am stiwdio Dorothy Wilding yn Bond Street. Yn ddi-os cafodd ei siarsio i fod yn ofalus wrth fwyta ei frecwast rhag maeddu ei jersi wen. A mynnaf weld esgidiau lledr patent am ei draed, gyda bar a botwm i’w cau. A’i fam wedyn, yn gysurus ei meddwl ei bod wedi dewis y ffotograffydd gorau posib i anfarwoli’r bychan.
O dde Lloegr – Brighton – y daeth y llun, drwy fy nghyfaill, David. Wn i ddim sut y daeth i’w feddiant o. Ei ganfod ar-lein, efallai, mewn sêl cist car, neu ocsiwn. Dywedodd ei hun nad yw pobl yn gwerthfawrogi pethau a bod elw i’w wneud o hynny. Bu’n sgut i ragweld y ffasiwn am daclau modernaidd canol y ganrif: nid y dodrefn Ercol a G-Plan hollbresennol-boblogaidd yn unig, ond gwaith esoterig crefftwyr o Sgandinafia a’r Eidal yn ogystal. Roedd ei helfeydd a’r modd y’u cyflwynid yn ei gartref yn deilwng o sylw mewn unrhyw gylchgrawn. Byddai’r gweddill, yr eitemau mwy disylw, yn cael eu gosod yn syth ar eBay.
Doedd llun John Orchard ddim cweit yn gydnaws â decor unlliw a chelfi ceinion fy nghyfaill: roedd yn rhy sentimental a disylwedd i wneud fawr o argraff mewn cyd-destun mor ddethol, ond yn amlwg, apeliodd y darlun ato yntau hefyd.
Cyn y Nadolig 2020, cefais sgwrs hir â David. Doedd hi’n fawr o Ddolig i neb y flwyddyn honno ac ymddiheurodd nad oedd ganddo anrheg i mi – roedd o’n flinedig, meddai, ac yntau’n rhannu ei amser rhwng gweithio mewn archfarchnad, gwerthu celfi ac addurno tŷ ei fam. Dim ots; fel deudes i, doedd hi’n fawr o Ddolig. Serch hynny, cefais gerdyn ganddo o’i waith ei hun – collage crafog, cain, yn dychanu holl gybôl y tymor. Cafodd yntau gerdyn elusen fflat yn ôl gen innau.
Byddem yn siarad eto yn y flwyddyn newydd ac yn y cyfamser, cedwais lygaid ar ei gownt Trydar, gan ei fod yn feistr ar y cyfrwng – yn fachog, doniol a llawn gwybodaeth am fanion blasus diwylliant poblogaidd y gorffennol.
Yna, dirywiodd iechyd fy mam, a dychwelais innau adref i edrych ar ei hôl orau gallwn: am y tro olaf, fel y trodd pethau allan. Ynghanol y gofid, ceisiais godi fy nghalon drwy weld beth oedd David wedi’i bostio yn ei ffrwd Trydar. Roedd yn yr ysbyty gyda Covid-19 erbyn hynny, ac ar ddiwedd y neges, wedi canmol y nyrsys, ychwanegodd, ‘If things don’t go as I hope – it’s been fun x.’ Rhwng marwolaeth ac angladd fy mam, drylliwyd ei obeithion yntau.
Rhywsut yn ystod ei waeledd, trefnodd David i mi dderbyn poster o’r ffilm, Flamingo Road (roedden ni’n dau yn rhannu obsesiwn â Joan Crawford), a’r ffotograff o fachgen nad oedd yn golygu dim i’r un ohonom.
Anghofiais sôn bod David yn ysgrifennu. Doedd neb tebyg iddo am daro ar enw perffaith i gymeriad (byddai wedi dotio at enw John Orchard). Ni fyddai byth ychwaith yn gadael i stori ddiweddu’n swta. Mi ddylwn innau fod wedi sylweddoli bod diweddglo i hanes John Orchard a mwy o arwyddocâd i’r llun na’r sawl a’i tynnodd.
Glynwyd amlen i gefn y llun ac ynddi roedd hen delegram at rieni Is-lifftenant J Orchard yn eu hysbysu bod eu mab wedi ei ladd ar faes y gad yn ystod misoedd cyntaf yr Ail Ryfel Byd. Gwyddwn wedyn pam yr oedd David wedi cadw’r llun a rhoi cartref i atgof a chwalwyd yn sgil clirio cartref yn y Siroedd Cartref, a theimlais innau’r fath falchder cynddeiriog ei fod wedi ymddiried ynof i’w warchod.
Defodau mygydog digyffwrdd oedd angladdau’r adeg hynny. Gyda phawb am y gorau yn ceisio osgoi neu wadu angau, roedd rhywun yn falch o gael yr angenrheidiol drosodd, o gau’r drws a berwi’r tegell am de tramp. Roedd hel atgofion mewn te cynhebrwng allan o’r cwestiwn, beth bynnag. Chwaraewyd ‘Yr Arglwydd yw Fy Mugail’ yn angladd fy mam a recordiad o Mae West yn canu ‘Great Balls of Fire’ dros y Zoom yn deyrnged i David. Y ddau ddarn yn dyst diamwys i’r ffaith na all cân grisialu bywyd neb. Yn enwedig gan i farwolaeth y ddau deimlo’n debycach i ddiflaniad na phrofedigaeth.
Roedd amgylchiadau’r cyfnod yn cyfyngu ar alar, hyd yn oed, ond drwy lens Dorothy Wilding a bodolaeth gwta John Orchard, cefais ofod i lowcio anadl rhwng y powlio. Agorodd dieithrwydd y bachgen, ei gyfnod a’i ddiwylliant le yn y dychymyg i amgyffred y colledion nad oedd modd eu cydnabod. Wedi’r cwbl, mewn pla neu ryfel, cofnodir y dinistr drwy gyfrwng ystadegau a llyncir yr absenoldebau unigol gan benawdau’r zeitgeist.
Ni cheisiaf ganfod mwy am y llun na’r bachgen: anghwrtais a diangen fyddai llenwi’r bwlch rhwng tynnu’r llun a’r telegram. Ni cheisiaf ychwaith olrhain teulu John Orchard er mwyn ei ddychwelyd atynt: yn hunanol a chenfigennus, mynnaf bellach fod y llun hwn yn golygu mwy i mi nag i neb arall.
Mae Ruth Richards yn awdur dwy nofel: Pantywennol (2016) a Siani Flewog (2018), a gyhoeddwyd ill dwy gan wasg y Lolfa. Mae wedi cwblhau doethuriaeth yn ddiweddar ar y berthynas rhwng ffotograffiaeth a’r nofel Gymraeg yng Nghymru yn ystod Oes Fictoria.