Adolygu

Pedair cyfrol i’r plant lleiaf

Caryl Lewis

Sgleinio'r Lleuad

Y Lolfa, 36tt, £5.95, 2014

Luned Aaron

ABC Byd Natur

Carreg Gwalch, 60tt, £5.95, Hydref 2016

Sue Hendra a Paul Linnet, addasiad Cymraeg Elin Meek

Supertaten

Dref Wen, 32tt, £5.99, Chwefror 2016

Manon Steffan Ros

Dafydd a Dad

Y Lolfa, 32tt, £3.95, 2013

Pedair cyfrol i’r plant lleiaf
Mari Siôn

Amser darllen: 3 munud

20·12·2016

Y cyfaill gorau, cofia,
A lleufer dyn, yw llyfr da.

Nodwyd cwpled Ieuan Brydydd Hir mewn ysgrifen gain gan athronydd doeth ar ddechrau cyfrol a roddodd yn anrheg i’m mab hynaf yn fuan wedi ei eni. 

Wrth syllu’n hir ar silffoedd siopau llyfrau sy’n gorlifo o gyfrolau o bob siâp, lliw a llun, mae dod o hyd i lyfr da i blentyn dan bump oed yn medru bod yn fwy o gamp na’r disgwyl. Ar drothwy’r Nadolig, dyma rannu diléit mewn ambell gyfrol sydd wedi llwyddo i gyfareddu a rhoi adloniant, a hynny i'r fath raddau fel eu bod bellach yn cael eu trin fel hen ffrindiau.
 

ABC Byd Natur gan Luned Aaron
Gwasg Carreg Gwalch, £5.95, Hydref 2016

Dwi’n cofio’r gyfrol a gyflwynodd lythrennau i mi am y tro cyntaf yn gwbl glir. Mae clawr Llyfr ABC gan John Walters (D Brown a’i Febion, 1981) wedi ei serio ar fy nghof. Yr A, B, C du bras, yr hanner enfys, a’r afal melyn diwyd-ddireidus a’i goesau wedi’u croesi. Wedi dweud hynny, mae’n bosib fy mod i’n cofio’r gyfrol cystal am fod y llyfr yn ganolog i helynt fy ngweithred gelwyddog gyntaf. Ond stori arall ydi honno. 

Tra bod ambell lyfr wedi ei gyhoeddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf sy'n cyflwyno’r wyddor Gymraeg i blant, nid oes yr un wedi taro tant acw rhywsut. Mae ABC Byd Natur yn wahanol. Dyma gyfrol clawr caled hardd. Cyflwynir llythrennau ein hiaith drwy gyfrwng lluniau sy’n deillio o fyd natur. Ceir adlais o waith Eric Carle yn y cyfuniad hyfryd o ddeunyddiau a lliwiau yn nelweddau collage Luned Aaron. Mae pob gair yn amlwg wedi ei ddethol yn ofalus (dim U am Ungorn yma!) fel bod cyfle nid yn unig i edmygu’r delweddau, ond i’w canfod a’u harchwilio hefyd wrth fynd am dro.

Heb air o gelwydd, dyma gyfrol fendigedig a fydd yn siŵr o greu argraff ar blant bach.
 

Dafydd a Dad gan Manon Steffan Ros, lluniau Jac Jones
Y Lolfa, £3.95, Tachwedd 2013

Mae 'na dair blynedd ers cyhoeddi Dafydd a Dad gan Manon Steffan Ros. Er hynny, dyma gyfrol a gaiff ei dewis yn gyson fel stori-cyn-cysgu yn ein tŷ ni. Mae’n stori gyfarwydd i bob teulu ar ryw ben dwi’n siŵr. Mae Dad yn rhy brysur i chwarae gyda Dafydd am ei fod wrthi’n rhedeg ac yn rasio o amgylch y tŷ, yn ceisio cael trefn ar y dillad, y llestri a’r 'llnau. Cryfder y gyfrol yw’r modd y llwyddir i gyflwyno sefyllfa mor gwbl gyffredin y gall pawb bron uniaethu â hi, a’i throi’n stori y gellir ei darllen dro ar ôl tro.

Mae darluniau arbennig Jac Jones yn llwyddo nid yn unig i wreiddio’r gyfrol yng Nghymru, ond hefyd i gryfhau’r naratif. Fel yn llyfrau Alffi a Lili Mei gan Shirley Hughes, mae fel petai straeon pellach i’w canfod ym manylion y darluniau, o’r llun mewn ffrâm ar y seidbord i’r negeseuon ar y wal. Ac am nad oes ateb amlwg i un o gwestiynau canolog y gyfrol, parhau mae’r chwilfrydedd a’r awydd i ddarllen eto.
 

Sgleinio’r Lleuad gan Caryl Lewis, lluniau Valériane Leblond
Y Lolfa, £5.95, Gorffennaf 2014

Dyma gyfrol anrheg berffaith, yn sicr, i blentyn tua 4 neu 5 oed. Rhwng y diwyg, y dewis o liwiau a’r darluniau tlws gan Valériane Leblond, does dim modd peidio â chodi’r gyfrol a’i bodio’n fodlon. Mae naws Ewropeaidd i stori Byrti a Bwbw - maen nhw’n penderfynu rhoi’r gorau i sgleinio’r lleuad am fod neb i'w weld yn sylwi ar eu gwaith bob dydd.

Wrth i ninnau ymgodymu â’r ffaith bod rhai wedi dewis diffodd y sêr fis Mehefin, mae yna gysur mawr yn yr ymdeimlad Ewropeaidd hwnnw, yn ogystal ag ymdeimlad o ddylanwad Antoine de Saint-Exupéry, awdur Le Petit Prince, ar y gyfrol.

Dyma stori oesol wedi’i hadrodd gan gymeriadau annwyl, sy’n cynnig rhybudd amserol am beryglon cymryd pobl a phethau yn ganiataol.
 

Supertaten gan Sue Hendra a Paul Linnet, addasiad Cymraeg Elin Meek
Gwasg y Dref Wen, £5.99, Chwefror 2016

Pe bawn i’n derbyn punt bob tro y byddaf yn darllen Supertaten, byddai O’r Pedwar Gwynt yn gylchgrawn print wythnosol erbyn hyn.

Mae hon yn gyfrol ryfeddol. Mae’n adrodd hanes Supertaten, super-arwr o dysen, sy’n arbed ei chyfeillion yn yr archfarchnad rhag y Bysen Gas a lwyddodd i ddianc o’r rhewgell. Dyma stori lawn hwyl a hiwmor sy’n llwyddo i godi gwên a chwerthin afreolus a hynny ers y darlleniad cyntaf un. Mae’r delweddau’n ddoniol a’r defnydd o liwiau cysefin yn cyfoethogi’r dweud a’r mwynhad. Mae ‘Supertaten i’r Adwy’ yn gri gyson cyn neidio lawr y grisiau erbyn hyn ac mae archwilio mawr ar bob bag pys cyn eu cadw yn y rhewgell.

Cymaint yw’r cariad at y gyfrol hon nes i ni orfod darllen ei dilyniant, Supertaten a’r Llysiau Llawen, wrth gerdded adref o’r siop. Ers mis bellach bu cais i Siôn Corn ddod â gwisg yr arwr annisgwyl yn anrheg Nadolig. Croeswch eich bysedd ar ein rhan.
 

Mari Siôn yw Rheolwr Golygyddol a Chynhyrchydd O'r Pedwar Gwynt.

Pe bawn i’n derbyn punt bob tro y byddaf yn darllen 'Supertaten', byddai 'O’r Pedwar Gwynt' yn gylchgrawn print wythnosol erbyn hyn

Pynciau:

#Llyfrau plant
#Mari Siôn