Adolygu

Meddai Syr Ifor

Oes aur y sgwrs radio

Marged Haycock

Amser darllen: 20 munud

13·04·2022

Radiogram o’r 1950au (Llun: Malcolm Fairman/Alamy)

 

Wrth weithio ar gofiant Syr Ifor Williams (1881–1965) i gyfres Dawn Dweud Gwasg Prifysgol Cymru, bydd rhaid imi ystyried nid yn unig ei brif gynnyrch fel ysgolhaig — Canu Aneirin, Canu Taliesin, Pedeir Keinc y Mabinogi, Enwau Lleoedd, a’r toreth o weithiau eraill — ond y sgyrsiau radio hynny a’i gwnaeth yn llais mor adnabyddus drwy Gymru. Rhwng 1931 a 1960, ‘oes aur radio’, fe ddarlledodd 86 o weithiau, sgyrsiau unigol gan mwyaf a phaneli trafod, yn ogystal ag eitemau cyfareddol i ysgolion. Fe gyhoeddwyd tri detholiad, sef Meddwn I (1946), I Ddifyrru’r Amser (1959) a Meddai Syr Ifor (1968), ac mae’n werth dwyn sylw eto at y wedd boblogaidd, llai cyfarwydd hon ar ei yrfa, a holi am natur a gwerth yr hen sgwrs weiarles. 

Nid tan y 1930au y daeth setiau radio’n gyffredin, ond erbyn 1939 roedd un gan 64% o gartrefi Cymru; erbyn 1952, roedd y ffigur wedi codi i 82%. Sylweddolwyd yn fuan iawn mor andwyol y gallai’r cyfrwng fod i’r iaith Gymraeg. Roedd gwŷr y brifysgol ar flaen y gad yn pwyso ar y BBC — yr hanesydd Ernest Hughes, a Henry Lewis, ill dau o goleg Abertawe, W J Gruffydd yng Nghaerdydd, Emrys Evans, prifathro Bangor, ac aelodau’r Blaid Genedlaethol. Eisoes yn 1929, roedd Saunders Lewis yn crybwyll y syniad o atal y tâl trwydded am fod gwasanaeth Saesneg, meddai, yn ‘gymorth i ddifa gwareiddiad Cymru’. Cafwyd y ‘Welsh Region’ yn 1937, ac yn sgil pryder cynyddol am y gwacter yn y gogledd, fe agorwyd stiwdio ym Mangor. Emrys Evans drodd y fantol o blaid Bangor rhagor Caernarfon, a’r berthynas agos â’r colegau yno. Gwnaed penodiadau nodedig yn y 1930au a’r 1940au — gwŷr o athrylith, nid yn unig Sam Jones a ddaeth i deyrnasu ym Mangor, ond rhes o rai yr un mor greadigol a blaengar — Alun Llywelyn-Williams, T Rowland Hughes, Aneirin Talfan Davies, Geraint Dyfnallt Owen, Dafydd Gruffydd, John Griffiths, a Hywel Davies. Fel Elwyn Evans, mab Wil Ifan, a’r Arglwydd Reith ei hun, roedd nifer ohonynt yn feibion y mans, yn abl ac yn barod i wasanaethu’r cyhoedd, i roi ar waith y nod uchel ‘to educate, inform and entertain’. 

Roedd sgyrsiau’n ateb y gofyn i’r dim, gan ddod yn rhan bwysig o’r ddogn fechan o oriau yn Gymraeg. Roedd mynd mawr ar hanes, gydag R T Jenkins, er enghraifft, yn cyfrannu deg sgwrs yn 1936. Cafwyd atgofion lu — gan y cyn-filwr, Cynan, yn un — a phortreadau edmygus o wŷr fel O M Edwards a John Morris-Jones a J E Lloyd, ac o froydd a threfi a llynnoedd ac afonydd. Tuedd, os rhywbeth, at ‘Gymru lân, Cymru lonydd’. Ceid llawer iawn o hanes llenyddiaeth — roedd Thomas Parry yn seren fore — a thrafod llenyddiaeth gyda rhai fel W J Gruffydd, a T H Parry-Williams a’i wersi yn 1933, a fu’n sail i’r gyfrol Elfennau Barddoniaeth. Roedd lle pwysig i weithiau creadigol hefyd: gwnaeth Kate Roberts ei début yn 1928, yn darllen ei storïau, ond yn cynnig pethau mwy didactig hefyd, fel ‘Termau Cymraeg at Gadw Tŷ’. ‘In any consideration of the lifestyle of Welsh academics’, meddai John Davies, ‘the BBC’s guineas should be borne in mind’, a gwir hynny. Fe welwn Ifor Williams yn clandro ei ginis bob blwyddyn yng nghefn ei ddyddiadur, ac yn cytuno i fynd ar raglen drafod eto fyth yn 1952, ac yntau ar ei bensiwn, ‘er mwyn cael suspension newydd i flaen y Vauxhall’. Ond nid pob academydd a gâi groeso; roedd rhai’n anobeithiol, tra bo eraill fel Stephen J Williams o goleg Abertawe yn dra derbyniol, ‘because he does not sound like a professor on the microphone’.

*

Beth felly oedd cymhwyster Ifor Williams? Pan ddechreuodd ar y busnes darlledu yn 1931, roedd yn hanner cant oed, yn athro cadeiriog ers blynyddoedd, ac oddi ar farw disymwth John Morris-Jones yn 1929, yn gosod ei stamp arbennig ar Adran Gymraeg Bangor. Roedd sawl to eisoes wedi gweld ei ymlyniad diysgog wrth y Gymraeg fel cyfrwng dysgu, ac wedi’u swyno gan ei huodledd a’i symlrwydd o flaen dosbarth, yn siarad â nhw o’r frest. Perthnasol yw ei hyfforddiant yn y capel ac yn y pulpud: pan oedd eto â’i fryd ar y weinidogaeth yn 1901, cafodd fenthyg llyfrau gan ei ewythr, Hugh Brython Hughes, yn eu plith Preaching Without Notes gan yr Americanwr, Richard S Storrs — hen lyfr bryd hynny, ond un sy’n dal mewn print heddiw. 

Ond awn ymhellach nôl at darddle dawn dweud Ifor a’i ddiléit mewn geiriau. Roedd y teulu’n un mawr, bywiog, a thair cenhedlaeth ar yr aelwyd yn cyfoethogi’r eirfa a’r profiad bywyd. Bu farw Taid Meirion, sef yr hynafiaethydd a’r bardd, Hugh Derfel Hughes, gŵr o sylwedd ac athrylith, pan oedd Ifor yn naw mlwydd oed. Roedd Taid Môn, wedyn, yn symlach creadur, yn siarad fel pwll y môr, yn tynnu coes a rhaffu storïau. Da y dywedodd J E Caerwyn Williams fod Ifor wedi cael ‘trwyn Taid Meirion a cheg Taid Môn’, a hwyrach yr ysfa i gellwair: mae llythyrau Ifor yn frith o eiriau mwys diniwed o ddwl, fel y sôn am ‘lenwi’r Tarw Bach hyd ei dagell’, sef llenwi tudalennau Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd y bu’n olygydd arno am flynyddoedd. Mae rhywun yn nabod y teip: yn galw America yn ‘fro’r Iancwn’; yn anfon poscard, lluosog poskeird; yn cael ei oglais gan Dafydd ap Gwilym yn cyhoeddi’n ddamweiniol mai Arab wyf; ac yn cyfrif geiriau’i wyres fach ddwyflwydd: ‘enwau 335, berfau 88’. Yn Saesneg y cafodd ei holl addysg ysgol, wrth gwrs, a’r Gymraeg ar ei gwedd fwy ffurfiol yn y capel a’r ysgol Sul; roedd bron pawb yn Nhre-garth ei febyd yn Gymry Cymraeg, a chwarel Cae Braich y Cafn, fel y dywedai ei hun, ‘wedi minio tafodau cenedlaethau o wŷr y siaced wen a’r trowsus melfa-red’. Mae’n bwysig hefyd fod Ifor yn greadur cymdeithasol a gymerai ddiléit yn natur ac ymddygiad pobl, ac yn eu mynegiant yn enwedig. Dim syndod, felly, mai ei gasgliad ef o werineiriau a fu’n gnewyllyn i glasur O Fynes-Clinton, The Welsh Vocabulary of the Bangor District (1913). Ac fe fanteisiodd i’r eithaf ar ei gyhoeddiadau pregethu a’i sgyrsiau allanol i glustfeinio. Mae ei ddyddiaduron (sydd yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor) yn llawn dop o eiriau ac ymadroddion pert a godwyd ganddo: euon am ‘flour worms’, cymynyar ‘bwyell goed fawr’ ym Mhorthmadog; rhywun ‘chesty’ yng Ngharno yn taeru am ei wynt, a brawd arall yn pesychu fel ceubren; dafaden wyllt yn troi yn fadam wyllt ym Môn; Mrs R Brynhwylfa’n dweud cistan cranc am ‘gragen’. Fe allai drosglwyddo ei ddiléit hefyd: roedd sôn am ‘y gwir alluog Ifor Williams’ ifanc ym Mhwllheli ‘yn areithio ar Lafar Gwlad, a chafodd dorf fawr ac astud i wrando’. Yr un mor boblogaidd ydoedd yno ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach o flaen dosbarth o gant ac ugain — a hwnnw’n ddosbarth ar y Cynfeirdd! Oes aur yn wir.

Gallai sgrifennu’n ddeniadol ddi-lol hefyd, fel y gwelir yn ei ddarnau cyhoeddedig cyntaf, yn Y Gwyliwr yn 1907. Mae’n barnu ei daid, Hugh Derfel, am olrhain yr enw Maes Caradog, Nant Ffrancon, ddwy fil agos o flynyddoedd yn ôl, i Garadog fab Brân yn gwrthsefyll llengoedd haearnwisg Rhufain. Rhybudd sydd gan Ifor: ‘Hwyrach mai ychydig gantodd sydd er dyddiau y Caradog hwn o’r Nant, ac na welodd erioed Rufeiniwr hyd yn oed yn canu hyrdi-gyrdi, heb sôn am gorn rhyfel.’ Dim rhyfedd fod Tegla Davies yn mynnu fod deunydd yn ei gyfaill at iws gwlad, ac y dylai achub pob cyfle ‘i adael i’ch ifory∂iaeth ei fynegi ei hun’. Wel, fe ddaeth yr awr, fe ddaeth y dyn, ac fe alwyd Ifor i Fanceinion yn 1931 i wneud ei ddarllediad cyntaf. A dyna drychineb fu hwnnw, fel y cawn weld.

*    

Gair byr am y drefn y pryd hynny. Er bod recordio ymlaen llaw yn dechnegol bosib, roedd teimlad yn y BBC fod hynny braidd yn anonest. Y rheol, felly, oedd bod sgyrsiau’n cael eu darllen ‘yn fyw’ o sgript; a’r un peth gyda thrafodaethau panel a oedd yn esgus bod yn rhai byrfyfyr. Gan hynny, meddai Asa Briggs, ‘the BBC talk of the 1930s developed into a distinct art form with drafting and redrafting of the script and elaborate rehearsals’. Roedd hi’n bwysig sicrhau siaradwyr a allai ddelio â’r ‘double artifice’, sef hidlo rhywbeth naturiol drwy sgript a’i wneud yn naturiol eto. Yng ngeiriau llawlyfr dylanwadol y cynhyrchydd Elwyn Evans, ‘behind the apparently casual and spontaneous flow of words there often lurks a calculated and meticulously constructed text’, yn rhannu rhai o nodweddion ysgrif lenyddol, ond eto’n wahanol. Ac roedd personoliaeth a llais ac emosiwn yn rhan o’r peth: cofiai Caerwyn Williams y cyngor a gafodd gan Ifor cyn darlledu am y tro cyntaf: ‘Siarada fel petait ti’n siarad â chyfaill — un cyfaill — ar yr aelwyd gartref.’ Trueni mawr fod cyn lleied o recordiadau cynnar wedi goroesi, ond o leiaf mae sgriptiau’r BBC wedi’u cadw: mae mil a mwy o focseidiau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mantais ar y pryd oedd bod deunydd yn lled barod i’w gyhoeddi, fel cyfres boblogaidd Amaethyddiaeth Cymru gan Moses Gruffydd yn 1946, neu Y Bardd yn ei Weithdy, a Crefft y Stori Fer

Enwau lleoedd oedd testun y sgwrs gyntaf honno gan Ifor yn 1931. Gormod o bwdin oedd y trwbl fel yr eglurodd wrth ei gyfaill, Henry Lewis: ‘Wedi bod yn Manchester yn chwalu ... gwaith enbyd’. A hanner yr amser ar ben, nid oedd ond wedi cyrraedd tudalen 3. ‘Dychryn drwof,’ meddai, ‘cyflymu, a ... berwi adrannau i lawr. Baglu ar draws geiriau. Colli fy anadl. Wedyn ymwregysu a sdowtio ati ... Ni wyddwn sut i ddiweddu, ond stryffaglio rywsut i gau fy ngheg ... profiad chwyslyd oedd o’. Fel arall, roedd yn ddigon derbyniol. Defnyddiodd un o’i hoff driciau wrth drafod enwau llefydd, sef dangos y dyn cyffredin yn mynd i’r gors cyn i’r arbenigwr o ieithgi roi’r ateb ‘cywir’: ‘Hen frawd o Gae Athro ger Caernarfon dro yn ôl yn egluro’r enw i mi. “Pobol yn rwdlian”, meddai, “mai Cae rhyw titchar neu Athraw ydi hwn: dim o’r fath beth. Cae a thro ynddo fo, dyna’r cwbl”.’ Wedi cael ei draed dano, aeth Ifor o nerth i nerth fel darlledwr, a barnu wrth y llythyrau canmol a dderbyniai gan res o gydnabod a phobl ddiarth. Ond oherwydd y darlledu byw, ni chlywodd ei lais radio ei hun tan 1945. Os do fe: ‘Ow. Ow. Trwm a thruan, fflat a di effaith, gwan a gwannach ... Truenus ... Mewn trymder ysbryd es yn syth i’m gwely i alaru yno yn y twllwch.’ Ond nid dyna farn Alun Talfan Davies a welai botensial cyfrol i wasg Llyfrau’r Dryw. Am y sgyrsiau, meddai, ‘Nid oes eu cyffelyb yn yr iaith.’ Ac ymlaen ag ef i argraffu 7,000 copi i ddechrau, a rhagor eto; bu croeso cyffelyb i’r ail a’r trydydd detholiad, a gyhoeddwyd gan Lyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd.

*

Pa werth sydd yn y sgyrsiau heddiw, a ninnau ar donfedd mor wahanol? Fe gewch chi sgyrsiau fel ‘Munud i Feddwl’, mae’n wir, sy’n siarad yn uniongyrchol â ni — am ryw ddwy funud efallai — a darllediadau lletchwith gan y Frenhines neu wleidyddion, ond clywed pobl yn cael eu cyfweld yn weddol impromptu yw’r norm ers blynyddoedd, ar raglen nos Sul Dei Tomos, er enghraifft. Ond sylwch fod sgyrsiau Ifor Williams yn corffori llawer o sôn am bobl eraill, eu hanes a’u hunion eiriau — sgyrsiau am sgyrsiau ydynt, yn aml, yn null From our own correspondent ar Radio 4. Ac mae amrywiaeth amheuthun ym mhob sgwrs, fel Yr Ardd a’r Nico a ddarlledwyd adeg rhyfel pan oedd ‘Dig for Victory’ yn anogaeth i’r bobl. Sôn y mae yma am y ‘mymryn o ardd’ gorsiog sydd ganddo ym Mhontllyfni, y pinwydd a blannodd i gysgodi’r tŷ, a’r gwern i lyncu’r dŵr. Dyma’r winllan, y plantation. Darlunio’i slafdod wedyn, a chyngor gwahanol bobl ar sut i wella’r tir a sut mae rhyfela yn erbyn y trychfilod sy’n difa ei datws a’i gabaits. A dyna ddrama’r sgarmes fawr â’r ffwlbart: ‘Daeth allan o’r coed yn f’erbyn, â’i ben i fyny, gan lamu’n hoyw i’r frwydr. Cleddais ef yn barchus dan garnedd o gerrig — yn ei got frown hardd o ffyr drud, — am na wyddwn sut i ddatod y botymau.’ Dyma enghraifft o’r hyn sy’n ymylu ar quirky, y sylw annisgwyl sy’n bywiogi’r dweud mor aml yn ei sgyrsiau. Yna, mae’n llonni drwyddo o weld haid o’r eurbinc yn disgyn, ond yn fflato wrth ddarllen mai ‘gardd wedi ei hesgeuluso’ yw hoff le’r adar hynny. Ofni wedyn y byddai ‘chwynnu’r lle’n lân’ yn golygu ‘ffarwelio am byth â’r Nico’. Oes yna ryw gysgod
fan hyn, tybed, o’r Nico bach a anfonodd Cynan i ardd Glan Dŵr o faes y gad ym Macedonia? 

Er mor ddifyr yw darn personol fel hwn, y darnau am ei blentyndod yw’r edau aur i’r cofiannydd, fel y sôn am y ddau daid, a Nain hefyd o ran hynny. Ac fel y taniwyd ei ddychymyg wrth wag-swmera yn yr hen fryngaer yn ymyl ei gartref, Pendinas, ac wrth olion cytiau’r Gwyddelod. Cyfeiria’n gynnil at y salwch ar ei feingefn a’i cadwai ar wastad ei gefn mewn plastar drwy flynyddoedd ei lencyndod, ac fel y clywai’r newydd yn cael ei dorri i’w fam weddw ‘nad oedd neb byth yn gwella o’r helynt oedd arnaf i’. Dywedodd unwaith fod sgwrs radio fel ffenestr i’r galon, ond ‘fel rheol’, meddai, ‘gofalwn am roi cyrten arni’.
 

Gwrando ar sgyrsiau yn yr ysgol (Llun: George Rodger/Magnum Photos)


Mae’r sgyrsiau’n bwysig mewn ffordd arall, fel y dywedodd John Llywelyn Williams, am eu bod yn ‘creu gwerthfawrogiad o fod yn perthyn i fro a chymdeithas bur arbennig’. Mae Ifor yn ategu’r darlun cyfarwydd, delfrydol i gryn raddau: y stori am hen flaenor o chwarelwr yn esbonio termau chwarel i’r prentis newydd, gan droi at dermau diwinydd-iaeth yn ystod yr awr ginio. Pan holodd y tad beth oedd y crwt wedi’i ddysgu ar ei ddiwrnod cyntaf — ‘Dysgu sut i bileru, a bedi cyfiawnhad trwy ffydd!’ ‘Dyna i chi chwarel iawn’, meddai Ifor. Ni welodd oedfaon mawr cynhyrfus ei hunan, ond fe glywai sôn amdanynt gan ei fam a’i nain, am hen wraig yn ‘neidio’n uwch na’r sêt’. Cofiai sut y byddai Hugh Derfel, fel ambell sant arall, yn sefyll ar ei draed ‘fel colofn’ er mwyn cadw ar ddi-hun yn ystod pregeth hir. Mae cyd-ddyheu, a hefyd cyd-dynnu fel yr hanes am Helfa’r Braich: dringo Carnedd Llywelyn liw nos gydag ewythr Richard Cilfodan a’r bugeiliaid eraill yn barod i yrru holl ddefaid y myn-ydd — rhwng tair a phedair mil ohonynt — a’u corlannu’n barod at y cnaif. Mae llawer o’r sgyrsiau fel hyn, yn cynnwys rhyw daith neu’i gilydd, a hanes pobl go-iawn mewn man a lle penodol. Dim syndod fod rhan o’r sgwrs atmosfferig hon wedi’i chodi i gasgliad Ioan Bowen Rees, The Mountains of Wales (1987). Roedd ffraethineb gwŷr y chwareli hefyd yn destun rhes o straeon, rhai braidd yn ddiniwed: rhyw benbwl o’r Felinheli yn holi ble mae Rhostryfan. Oes yna fôr yno? ‘Nag oes ... Ond rydan ni yn hel i gael un.’ 

Cawn yr argraff fod teulu Ifor yn dod i ben rywsut er i John ei dad farw’n ifanc. Mae sôn am ddarllen Cymru Coch O M Edwards, a Trysorfa’r Plant, am offerynnau fel chwisl dun, telyn fach Wyddelig, a fiolin fenthyg, heb sôn am lyfrau lledr niferus Hugh Derfel. Pan fu ef farw yn 1890, roedd modd gan y teulu i ailgodi rhan o’r hen gartre, a’i ymestyn, ac yn y man i sicrhau fod dwy o leiaf o chwiorydd Ifor yn cael coleg. Cafodd Ifor ei gip cyntaf ar John Morris Jones yng Nghlynnog yn 1902 — ei ‘wallt du llaes yn cyrraedd bron at ei goler’ — ‘yn olwyno’n hamddenol’ ar gefn ei feic i gyfeiriad Pwllheli i weld Gwenogvryn Evans. Mae’r sgwrs ‘Morwyn Bach o Lŷn’ yn hanes llafar pur a gafwyd o enau Mary o Langwnnadl (75 oed), amdani’n cario post i ffermydd yn wyth oed cyn mynd yn forwyn bach am bunt y flwyddyn, a godro defaid allan ar y caeau. Felly hefyd y sgwrs am ‘Ffair y Borth’ sy’n cyfleu’r awyrgylch, y nwyddau gwlân a lledr, a’r ceffylau a gwrhydri’r llanciau. Bu’n holi Mr Owen Hughes y Bonc (85 oed) am ffeiriau slawer dydd — a hwnnw’n cofio nôl i chwedegau’r ganrif cynt — y baledwyr Dic Dywyll a’r Bardd Crwst a Shôn Consartina, dynion yn chwythu tân, a sioe fwystfilod, a llewod. Bydd archaeolegwyr heddiw’n gegrwth o glywed am Ifor yn prysuro o’i gartref ym Mhontllyfni i fferm Eithinog-wen, a’i drywel yn ei law i archwilio llestr claddu pridd — a’r cyfan yn cwympo’n deilchion — yn 80 darn, meddai, wrth iddo gloddio. Mae rhywbeth bron yn ganol-oesol yn y ffordd y mae Ifor yn amseru’r llestr ‘adeg dinistr Jericho’, tua 1300 CC, a siambr gladdu Bryn Celli Ddu ym Môn, ‘cyn i feibion Israel ffoi o’r Aifft’. Heb os, mae deunydd yn y sgyrsiau i’r ieithgi: sgrifennai ar lechen â ‘phensel garreg neu garreg nawdd’, nid nadd, sylwer. Sonia am Joci, gêm o guddio, chwistrell i pwtsio dŵr, a chwrnas ‘whizzer’. Mae ‘stori’ yn strytyn. Mae Polly’r forwyn mor falch â’r sinco, brawd i’r Jingo, mae’n rhaid. 

*

Roedd y radio’n bwysig drwy’r rhyfel i daenu gwybodaeth ac i gynnal ysbryd y bobl. Ac yn wir, fe anogwyd Ifor i efelychu sesiynau chwarter awr J B Priestley, a drefnwyd i dynnu sylw oddi wrth William Joyce, Lord Haw-Haw, a ddarlledai o Hamburg bob nos Sul. Ddau fis ar ôl cyhoeddi rhyfel, storïau rhyngwladol oedd dewis bwnc Ifor — fel y Morgrugyn Cloff o Culhwch ac Olwen, a stori Llwyn y Ne yng Nghlynnog am gân yr aderyn yn para am 300 mlynedd. Dyma stori a oedd ar gael ar y Cyfandir hefyd, a thybed nad oedd hyn yn ffordd gynnil o bwysleisio’r hen etifeddiaeth a rennid gan wledydd Ewrop. Yn Lloegr, anogwyd y bobl i ymladd dros eu gwlad, eu llên a’u gwareiddiad — ‘the land of Chaucer and Shakespeare.’  Mewn sgwrs yn 1940, ail wythnos y Battle of Britain, mae Ifor yntau’n darlledu mewn cywair tebyg, yn crwydro’r glannau, ardal Dylan Ail Ton a Chaer Arianrhod, gan feddwl am y pethau oesol, y mynyddoedd, dŵr bas afon Llyfni a fydd yn dal i redeg ar ôl i ‘awyrlongau’r gelyn’ gilio o’r fro. Mae’n dyfynnu llinellau Tryfanwy, y bardd dall o Rostryfan, a Hugh Jones Maesglasau a fu’n canu ar adeg debyg o ryfel ac ofn. Tebyg yw cywair y sgwrs ‘Nant Ffrancon’ lle mae’n cofio taith feic ‘rownd y Pass’ pan oedd ‘Llyn Ogwen ... wedi rhewi’n dew yn ei donnau ac yn edrych fel haearn gwrymiog’. Caiff y gelyn ei gyffelybu i’r cudyll coch yn taro’r adar mân yn fud. Ond fe ddaeth cân nôl i’r Nant, ac fe ddaw haul eto ar fryn. Geiriau emyn Ann Griffiths sy’n cloi: ‘Yn wyneb pob caledi/ Y sydd, neu eto ddaw,/ Dod gadarn gymorth imi/ I lechu yn dy law.’ Soniodd Idris Foster — ac yntau yn Lerpwl a’r bomiau’n disgyn — fel roedd y darllediadau hyn yn ‘gysur a swcwr ... yn falm i ysbryd dyn’, a thebyg oedd ymateb sawl un arall. Ar ddiwedd y rhyfel mae Ifor fel pawb arall yn ymsionci: drannoeth rhyddhau Belsen, mae’n edrych mlaen at ‘greu byd newydd’, at droi’r ddalen. Mae hyd yn oed yn mentro ambell sylw ar y newid yn ffasiwn merched — ‘ysgwyddau llydain nerthol sgwâr’ yn rhan o’r corff a esgeuluswyd yn llwyr gan yr hen feirdd. 

Ceir sgyrsiau difyr sy’n tynnu ar ei arbenigedd fel canoloeswr, a rhai sy’n egluro beth yn gywir yw gwaith adrannau Cymraeg y brifysgol. Teimlai’n gyfrifoldeb arno i egluro geirfa anodd mewn emyn ac adnod. Gyda’i holl wybodaeth, gallai wneud i hanes a tharddiad pob gair sboncio — fel Ifor ap Glyn, a dynnodd dipyn ar y gwaddol hwnnw yn Hanes yr Iaith mewn 50 Gair dro yn ôl, neu David Crystal, a Michael Rosen ar Radio 4. Yn y sgyrsiau am eiriau ac enwau lleoedd i blant y mae’r ‘iforyddiaeth’ quirky honno ar ei gorau: ‘Ni raid i chi fy nghoelio’, meddai wrth ei gynulleidfa anweledig, ‘dim ond peidio â siarad ar fy nhraws.’ 

Fel un a fagwyd yng nghlyw ‘Cymraeg dydd Sul’ graenus, roedd yn ffyddiog y gallai pawb godi eu hiaith lafar ryw fymryn yn nes i iaith lyfr, er mwyn cael iaith gyhoeddus addas — boed ar lwyfan neu mewn pulpud. Ond taranai yn erbyn unrhyw ‘rodres mursennaidd’, gan fynnu fod ‘yr iaith sathredig gomon gyffredin yn well ganwaith na’r iaith lenyddol ddysgedig’. Yn y llafar gwlad y mae’r bywyd a’r creadigrwydd, meddai, nid yn ‘iaith farw, annifyr, poenus’ Cymraeg llyfr. Mewn rhaglen drafod yn 1951 clywyd Ambrose Bebb yn taranu fod pobl ym Mangor, a hynny ‘o fewn golwg i bump o Golegau’ yn dweud ‘yr wyf i yn’, ‘roi’r gole ar’, ‘mi wnes i neud’. Ond nid Ifor. Roedd enghreifftiau tebyg wastad wedi bod, meddai. Tebyg yw’r pwyslais yn ei ddarlith radio olaf, Cymraeg Byw, yn 1960, ac yntau’n tynnu am ei bedwar ugain oed. Yn ei sgriptiau, a drosglwyddwyd verbatim i brint, mae’n llacio gryn dipyn ar y staes: wrthach; ogla petrol; ces nid cefais; ydech; hefo; chadal yr hen bobl; deudodd; twllu; edrach. Calondid yw gweld yr hen ffrind amdan yma. Dyw e ddim yn petruso iwso gair Saesneg: heicars, dreifar, trampar (crwydryn), mecanig, sbelio; cwmpeini, pw-pwio syniad; nac ymadroddion dodgy fel i symio i fyny

Roedd cymryd rhan yng nghyfres Bathu Geiriau yn 1947 yn gyfle iddo ddisgleirio. Yn ei eiriau ef, roedd pethau newydd y byd mawr yn debyg i ‘orymdaith yr anifeiliaid estalwm o flaen Adda yn cerdded heibio i ni’n ddi-baid, a phob un wrth basio yn gofyn i ni, “Beth di’r enw Cymraeg arna’i, os gwelwch yn dda?”’ Roedd dysgedigion y paneli hyn yn poeni am gyfieithu atom bomb a radioactivity. A oedd hi’n iawn sôn am piano, yn hytrach na’r cist-dannau? Ac os piano, beth oedd y lluosog, holodd Ifor — pianos, pianoffortïau, pieni? Bathiad ysbrydoledig ganddo oedd y dafarn datws (mae un yn Aberystwyth), ond un sy’n dangos nad oedd wedi craffu ar gerdd wrthun Saunders Lewis, ‘Y Dilyw 1939’ a gyhoeddwyd yn Y Byd a’r Betws yn 1941, lle mae’r ‘dylif proletaraidd’ eisoes yn cripio ‘Yn seimllyd waraidd i’r tefyrn tatws.’ Mae’n ddoniol gweld Henry Lewis, yr Athro Cymraeg sidêt, yn mentro i’r ‘beauty parlour’, y parlwr pincio, ac Ifor yn gofyn tybed a fyddai hen derm Ellis Wynne, glendid gosod, yn dderbyniol am ‘make-up’. Uchafbwynt y math yma o beth oedd cystadleuaeth enwog 1952 i fathu gair am TV; mae’r cynigion i’w gweld heddiw yn y Llyfrgell Genedlaethol, o’r diniwed Llygad trydan i’r Teletotal eithafol. Mae nifer o fathiadau’r cyfnod wedi cydio, wrth gwrs: awyren, llongau tanfor, unben, diweithdra, ysgolion preswyl a meithrin, tarw dur (gair Eic Davies), dognau. Ond mae eraill heb gydio: dillad unsut (uniform); glaswasg (silage); ac ysbytyau. Ddaeth dim o gynnig Ifor am bus-stop, sef bys-saf, lluosog bys-safau; nac ychwaith llywydd (referee). Mi fyddai wedi dwlu o glywed pawen lawen a’r co bach. 

Dilynwyd hyn gan gyfresi ar y tafod-ieithoedd, Gair yn ei Le, a Ffordd o Siarad, gydag Ifor, Stephen J Williams a Thomas Jones, Aberystwyth, ar yr heol. Bu tipyn o ymbalfalu yn y Rhigos, Aberdâr gyda glowty, cyn dod at yr esboniad cywir gwaelawd + ; bu trafod hefyd ar clo llyffant, ‘padlock’. Yng Nghlunderwen, roedd Waldo ei hun yn bresennol, yn mofyn goleuni ar yr ymadrodd rhint y bwrgej a’r feidir. Fe fuont hefyd ym Mancffosfelen, a’r Bala, a Thregaron lle roedd holi am ystyr ambor, ‘porfa’, fel yn enw’r ffarm Bryn Ambor, Ystrad-ffin. Fe gafwyd deuddeg rhaglen i gyd, ac er bod Ifor yn cael ei ddreifio rownd gan y cynhyrchydd Nan Davies yn ei Austin Êt, roedd y paratoi a’r teithio yn ormod o dreth arno a’i galon wan, a rhoes y gorau iddi. Trist gweld mewn llythyr at Henry Lewis: ‘Wedi cael breakdown: brain fag yw enw’r doctor ... wedi methu cael geiriau. Fforcio’r ymennydd i weithio, ac o’r diwedd, aeth ar streic.’ Ond diolch fod cymaint o’i waddol wedi goroesi, a hynny’n dal yn ei flas hyd heddiw.

Mae Marged Haycock yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd hi’n bwysig sicrhau siaradwyr a allai ddelio â’r ‘double-artifice’

Pynciau:

#Rhifyn 18
#Marged Haycock
#Cyfryngau
#Radio