Cyfansoddi

Radio

Qing Niao

Amser darllen: 3 munud

26·06·2019

Prif sgwâr Xining, prifddinas talaith Qinghai, ger llwyfandir Tibet, Awst 2014. Llun: Qing Niao.

Yn Tsieina, mae gennym ddiwylliant y sgwâr: Sgwâr Tiananmen, Sgwâr y Weriniaeth, sgwariau bychain mewn trefi, a’r gerddi, a ddefnyddir ar gyfer ymgynulliadau mawr. Mae’r gofod hwn ar gyfer pawb; yn ystod y bore, maent yn aml wedi eu llenwi gan bensiynwyr, o bump tan naw. Fe’u gwelir yn dawnsio o gwmpas uchelseinydd. Ceir amrywiol ffyrdd o ddawnsio ar y sgwâr: ceir un arddull ar gyfer y bobl hŷn, sy’n golygu cydbwyso’r breichiau, symud y coesau, y cluniau, ond yn ysgafn; dibyna arddull y cylchoedd dawnsio eraill ar symudiadau egnïol, mwy amlwg, yn unol â galluoedd y corff. Ceir hefyd y gyfres sy’n perthyn i’r arddull gymnasteg genedlaethol: ers dechrau’r pumdegau, unwaith y dydd, mae hen gymnast yn dawnsio'n foreol wyth cyfres wahanol, ac ers 1997, yr wythfed yw’r un y mae'r mwyaf o fynd arni. Yn nhrefi'r gogledd-orllewin, fodd bynnag, y ddawns Dibetaidd yw’r un fwyaf poblogaidd, sef dawns o aberth i’r duwiau, lle byddai cylch o bobl ar un adeg yn dawnsio o gwmpas tân, neu’r man addoli, ond heddiw dawnsio o gwmpas yr uchelseinydd a wnânt. Mae gan bob cylch o ddawnswyr uchelseinydd mawr. Weithiau mae dau gylch dawnsio sydd ochr yn ochr â’i gilydd yn dechrau cystadlu, nid o safbwynt gwreiddioldeb y ddawns, ond ar sail cryfder y sain. Y gerddoriaeth uchaf ei chloch fydd yn ennill y gêm.

Nid yw’r dawnswyr ar eu pennau eu hunain. Rhwng y coed mae grwpiau o gantorion yn canu i gyfeiliant cerddorion annibynnol. Ond does yr un gynghanedd i’w chanfod rhyngddynt. Gwelir gwŷr yn cerdded yn gyflym o gwmpas y sgwâr, yn gwylio’r lleill, un law yn rowlio rhwng y bysedd ddwy neu dair o beli dur, carreg, neu arenfaen, a’r llall yn dal waled fawr sy’n cynnwys fflasg, papurau newydd, ac yn bwysicach na dim, radio fechan. Nid ydynt yn cymryd rhan yn y gemau creadigol; ânt o gwmpas eu pethau ar eu pennau eu hunain, bob tro. Ond diolch i'w radio, maent yn rhan anorfod o’r sain hwn, yn rhan o’r ormes glywedol. Diolch i’w radio, maent yn gyfrwng cyfleu Newyddion i’r bobl ar y sgwâr. Mae’r radio fechan felly’n newid ei chyflwr: mae’n wrthrych cyhoeddus, ac mae’r gwŷr hyn – fe’u galwaf yn hysbysebwyr radio – yn plannu Newyddion cyhoeddus yn ein bywydau preifat. 

Bu Roland Barthes yn Tsieina yn 1972, adeg y Chwyldro Diwylliannol, lle ysgrifennodd ei ddyddiadur taith, Le carnet du voyage en Chine. Mae’n ddyddiadur taith di-hwyl, sy’n mynegi safbwyntiau gwleidyddol cryf; teimla’n ddiymadferth wyneb yn wyneb â’r sefyllfa yno. Adrodd hynt ei ddyddiau yn Tsieina a wna yn y llyfr hwn: yr hyn a wnaeth o un awr i’r llall, gyda phwy, ymhle, ac ati. Mae’n llyfr bychan sy’n ein hanesmwytho. Un rheswm am hyn yw'r corn lôn Tsieineaidd. Ymadrodd trosiadol ydi'r corn erbyn heddiw, sy’n cyfeirio at bethau sy’n cynhyrchu sŵn. Er enghraifft: dywedwn am wraig sy’n siarad llawer ac ar dop ei llais ei bod â cheg – neu gorn – sy’n twyllo. 

Sefydlwyd y corn lôn yng nghefn gwlad a threfi Tsieina ddechrau’r pumdegau, ar y polion trydan, gyda thri i chwe phen i bob polyn… Byddai cegau niferus y polion hyn wedi eu gwyro i bob cyfeiriad. Y Newyddion, gwleidyddiaeth, roedd rhaid i’r bobl wrando (boed iddynt ddymuno gwneud ai peidio) – amsugnir popeth o gegau’r polion trydan. Flynyddoedd wedyn, dipyn wrth dipyn, trawsffurfia’r corn yn addurn. 

Gyda datblygiadau mewn Technoleg Newydd gostyngir lefel sain gwrthrychau, maent yn dod yn fwy deallus, yn fwy cynnil, er budd bywyd haws, mwy chwim. Gyda hynny, mae bywyd torfol yn lleihau’n gylchoedd bychain, nes crebachu’n fywyd preifat. 

Crëwyd y gwrthrych hwn, y radio, yn yr amgylchfyd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol oedd ohoni ar y pryd, ac fe’i haddasir yn gynyddol ar gyfer bywyd bod bydd, preifat, ond nid yw’r rhan fwyaf o'r Tsieinëaid wedi newid eu meddylfryd cyfunol. Nid yw hynny’n golygu bod gwell ganddynt rannu, dim ond mai dyma a ofynnir ganddynt gan fywyd cyhoeddus, y bywyd torfol: rhannu eu bywydau personol, er budd eraill. Mae pawb yn chwarae rôl ym mywydau eraill, ar hap, ac o raid.

Mae’r radio fechan yn newid ei chyflwr: mae’n wrthrych cyhoeddus, ac mae’r gwŷr hyn – fe’u galwaf yn hysbysebwyr radio – yn plannu Newyddion cyhoeddus yn ein bywydau preifat

Pynciau:

#Tsieina
#Qing Niao
#Radio
#Cyfryngau