Rhyddid mewn carchar
Adolygu The Life Inside gan Andy West
Andy West
The Life Inside
Picador, 352tt, £16.99, Chwefror 2022
Fues i erioed yn y carchar, ond ugain mlynedd yn ôl treuliais noson yn y ddalfa ar ôl cymryd rhan mewn protest yn erbyn rhaglen arfau niwclear Trident. Hyd heddiw gallaf glywed arogl y gell (cachu, yn bennaf) a blas y stroganoff madarch (blas tebyg i chwd). Dw i wedi cyfweld sawl ymgyrchydd am eu profiadau yn y carchar, yn ogystal â phobl ifanc yng ngogledd-orllewin Cymru a oedd wedi eu carcharu am eu bod yn dwyn er mwyn prynu heroin. Yr hyn wnaeth fy nharo ydi natur gwbl annynol ac anniben y drefn: y trais, cyffuriau, llygredigaeth, cam-drin rhywiol, a’r ystadegau hunanladdiad, yn ogystal â chreulondeb gwahanu mamau oddi wrth eu plant am droseddau pitw a symud carcharorion ymhell oddi wrth eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae’r raddfa aildroseddu yn sgandal ac yn drasiedi, nad oes digon o drafod arni, fallai am ei bod yn haws peidio â thrafod pwnc mor anghyfforddus. Fallai bod yr ofn o gael ein dwyn i’r ddalfa yn llechu, i raddau, yn isymwybod pob un ohonom, yn deillio o’r dyddiau pan oedd ein rhieni a’n hathrawon yn ein cau yn yr ystafell wely neu’r ystafell ddosbarth am fod yn ‘ddrwg’. Haws, felly, peidio wynebu’r broblem gymdeithasol enbyd hon.
Un awdur sy’n gwrthod troi cefn ar garcharorion ydi Andy West. Mae ei gyfrol, The Life Inside: A Memoir of Prison, Family and Philosophy, yn taflu goleuni nid yn unig ar y celloedd drewllyd a’r bywydau cymhleth oddi mewn i furiau’r carchar ond hefyd ar gorneli tywyll ei feddwl ei hun. Mae ei frawd wedi bod yn y carchar 12 gwaith, a’i dad a’i ewythr hefyd wedi bod yn garcharorion. Mae West yn cario baich trwm ar ei ysgwyddau, rhyw fath o ‘survivor’s guilt’, am nad ydi o erioed wedi gorfod dioddef caethiwed. Cyfeirir at waith Primo Levi a’r euogrwydd yr oedd yntau yn ei deimlo am oroesi’r Holocost. Yr un pryd, mae’n llwyr ddisgwyl y bydd yn cael ei arestio ryw ddiwrnod (fallai y bydd yn camweddu yn ddamweiniol) ac yn cael ei daflu i gell: dyma ei ffawd oherwydd dyma sy’n digwydd i’r dynion yn ei deulu (‘I have this paranoia that the sins of my father will be handed down to me’). Mae wedi ei gondemnio i bydru mewn carchar. Mae ei feddyliau am hyn yn obsesiynol, a darllenwn am ei ymdrechion i dawelu’r ‘dienyddydd’ yn ei ben trwy ymgymryd â defodau penodol. Cyfrol bersonol iawn am Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) ydi hon, yn ogystal â chywilydd a thrawma sy’n cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall, a’r modd y mae carchar yn medru newid dyn – ei fywyd a’i feddwl.
Ond cyfrol am bwysigrwydd bywyd deallusol ydi The Life Inside hefyd, a sut y gall ymhel â syniadau haniaethol ein dyrchafu hyd yn oed wrth i ni golli ein rhyddid a’n hurddas: mae meddwl a thrafod ac ymgysylltu â meddyliau eraill yn rhan greiddiol o’n bodolaeth. Yng ngeiriau un carcharor, waeth beth ydi ein hamgylchiadau, ‘you can still be free in your mind’. Fel athronydd, caiff West ei wahodd i gynnal gwersi mewn carchardai, ac mae’r gyfrol yn dogfennu’r sgyrsiau sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth mewn gwahanol sefydliadau dros gyfnod o bedair blynedd. Cyfres o ddeialogau Socratig yw’r rhain ar gysyniadau athronyddol megis Rhyddid, Caredigrwydd ac Amser, gan dynnu ar y chwedlau clasurol. Cawn ystyried, er enghraifft, pa mor berthnasol ydi myth Sisyffos a’r graig yng nghyd-destun carchar a chosb. Mae’r sgyrsiau hyn yn rhyfeddol: maent yn ddefnyddiol nid yn unig i ddarllenydd sydd â diddordeb mewn athroniaeth ond hefyd oherwydd y cawn ddysgu cymaint am bobl o gig a gwaed sydd, trwy ddamwain a hap (neu ffawd? Trafodwch!), wedi glanio mewn sefydliad lle cânt eu dad-ddynoli yn gyfan gwbl. Dyma sgyrsiau llawn pathos a bathos, sy’n cynnig doethinebau, jôcs tywyll a hanesion ingol. Ar adegau mae’r testun yn darllen fel drama gan Samuel Beckett, fel darn o theatr yr absẃrd. (Teimla’n gwbl addas eu bod yn astudio Waiting for Godot.) Ond cawn ein hatgoffa hefyd na ddylid cwestiynu deallusrwydd unrhywun sy’n gaeth i gell, fel y dealla West ar ei ddiwrnod cyntaf pan mae un o’i ddisgyblion yn cywiro ei ddadansoddiad o John Locke a disgybl arall yn trafod pam y byddai Rousseau yn anghytuno â Locke, ac mae West yn darganfod nad oes ganddo ddigon o ddeunydd dysgu i fodloni’r dosbarth.
Yng nghanol yr holl greulondeb a budreddi a’r gorchwylion beunyddiol Ilethol, mae gwers athroniaeth, yng ngeiriau un carcharor, fel ‘two-hour holiday’. Yn ôl carcharor arall o’r enw Nick: ‘Philosophy is alright. It reminds me that I have a mind.’ Meddai’r awdur, ‘[Nick] told me that sometimes he’d wake up in the middle of the night and feel a profound emotional and mental numbness that made him think he was not actually real. I’ve heard many people in prison express a similar anguish; they fear they are disappearing, not only from society but from themselves.’ Pwysleisia West bwysigrwydd rôl yr athro mewn amgylchedd mor llym: ‘Nick reminded
me that as a teacher, I can do more than bear witness to the vanished. I can help people keep sight of themselves.’ Mewn sgwrs â disgybl arall, mae’n dyfynnu cyn-garcharor adnabyddus: ‘Oscar Wilde said that the most frightening thing about prison “is not that it breaks one’s heart – hearts are made to be broken – but that it turns one’s heart to stone”.’
Mae disgrifiadau West o’r broses o ymweld â charchar, yr arogleuon a’r seiniau a’r rhwystredigaethau o fod yn athro yn y fath amgylchedd – lle caiff gwersi eu canslo ar y funud olaf am resymau ‘diogelwch’ – yn effeithio ar y darllenydd ar lefel gorfforol. Mae’r ysgrifennu yn gynnil a hardd. Diddorol, a thrist iawn, oedd darllen am y gwahaniaeth rhwng carchardai ar gyfer dynion a merched, a brawychus oedd cael gwybod mwy am effeithiau Covid-19 ar garcharorion, gyda’r gyfradd farwolaeth dair gwaith yn uwch o fewn muriau’r carchar nag ar y tu allan, a phobl yn gaeth i’w celloedd am 23 awr y dydd. Mae gwrandawiadau wedi eu gohirio a neb yn siŵr pryd y byddant yn digwydd: artaith seicolegol. Yn ogystal â dathlu gwerth athroniaeth a chynnig cipolwg ar drawma un teulu, mae The Life Inside yn ddogfen werthfawr tu hwnt o realiti materol bywyd carcharor yn ‘England and Wales’ yn 2022. Mewn ffordd sensitif a thyner, mae’n cyflwyno achos arbennig o gryf dros chwyldroi ein system ‘cyfiawnder’.
Enillodd Here We Stand: Women Changing the World (Honno, Left Book Club; 2014) gan Angharad Penrhyn Jones a Helena Earnshaw (goln) y Bread and Roses Award for Radical Publishing 2015.