Y gwir a geir mewn eira
Gair am farddoniaeth Gymraeg y 2010au

(Llun: Mark Power/Magnum Photos)
Gellir dweud cymaint â hyn am feirdd y degawd diwethaf. Maent yn onest, yn garedig wrth eu darllenwyr, yn rhesymol, yn nodedig o barod i rannu – ac nid ydynt yn petruso galw rhaw yn rhaw.
Pan gofia Dafydd John Pritchard, ‘heddiw yn Nhyddewi’, flas ‘Llaeth Enwyn’ yn Y Lôn Fain (2013), er enghraifft, noda’n gymwynasgar mai 8 Rhagfyr 2011 oedd yr heddiw hwnnw. Ymwelodd Iestyn Tyne â ‘Llanddwyn’ yn ar adain (2018) ar 3 Ionawr yn y flwyddyn honno: yn yr un mis ag y gwyliodd Emyr Lewis ‘eira’n ddawns drwy’r wybren ddu’ yn twt lol (2018). ‘Seiclon Idai’ Casia Wiliam yn Eiliad ac Einioes (2020) wedyn. Gwaith munud ar Google yw dysgu mai ym Mawrth 2019 y trawodd Mozambique. Prin fod lansiad nac agoriad na dathliad heb fod bardd wrth law i’w roi ar gof a chadw, ac mae mynd o hyd ar deyrngedau a marwnadau, pob un â’i ddyddiad a’i gyd-destun ar glawr. A hyd yn oed os nad oes achlysuroldeb penodol, ceir digonedd o gyfoesedd i glymu cyfansoddiad wrth gyfnod. Rhwng ymateb i ystadegau iaith Cyfrifiad 2011 ac Ewro 2016, y Gymru amlhiliol a Tinder, cynhesu byd-eang a Brexit, aeth beirdd y Gadair a’r Goron yn ddyddiadurwyr.
Does dim byd newydd yma, wrth gwrs. Gallwn ddefnyddio cyfesurynnau ffaith hanesyddol geni Gwyn Thomas yn 1936 a thystiolaeth destunol – mai 2 Medi oedd y dyddiad, diwrnod ei ben-blwydd yn un a deugain – i greu GPS yr un mor fanwl ar gyfer ‘Croesi Traeth’, er enghraifft. Eto, mae byd o eironi yn y sylw mai dyna’r dyddiad ‘fel yr oedd hi’n digwydd’, chwedl Gwyn Thomas. Mewn gwirionedd, mae’n gwbl ganolog. Dyfais ddwysaol yw nawr-rwydd ‘Croesi Traeth’. Saif moment y gerdd ar wahân i foment yr union gronoleg. Anghenraid rhethregol yw’r naill; cyd-ddigwyddiad cyfleus yw’r llall. A’i rhoi ar ei mwyaf amrwd, ni fyddai Gwyn Thomas wedi meddwl cofnodi’r dyddiad petai wedi profi ei ennyd ddirfodol bythefnos ar ôl ei ben-blwydd, dyweder, neu dri mis ar ei ôl. A’r tro unig hyd y traeth yn yr un modd. Gwnaethai lleoliad arall y tro.
Nid felly 8 Rhagfyr 2011 Dafydd John Pritchard na Llanddwyn Iestyn Tyne. Plethir y presennol a’r penodol i wead cerddi’r 2010au mewn ffordd od o wahanol. Dyddiadau ‘fel yr oedd hi’n digwydd’ ydynt – a dim mwy. Diflannodd yr hollt rhwng nawr-rwydd ffaith a nawr-rwydd rhethreg, rhwng cyfleustra lle ac angenrheidrwydd lle. Cymerwyd tro llythrenolaidd.
Hyd yn oed os nad yw beirdd diweddar eraill yn crybwyll dyddiad wrth sôn am eira, felly, fel y gwna Emyr Lewis uchod, cwympa eu heira hwythau hefyd yn yr un byd go iawn ar adeg yr un mor benodol. Pan ddisgrifia Karen Owen ‘eira, eira, eira, / yn dawel o dew ... yn dafodau tew’ yn Siarad trwy’i Het (2011), pan sylwa Robert Lacey ar fyd ‘dan dwmpathau disgleirwyn’ yn Sut i Fod yn Hapus (2015), pan sonia Frank Olding am deimlo ‘llwch yr eira’n gyllyll yn y gwynt’ yn Mynydd Du (2012), pan ranna Morgan Owen hanes ei daith drwy’r ‘manod gwichlyd ... A’r gwynt yn rhuo’ yn Bedwen ar y lloer (2019), a phan ddarlunia Llŷr Gwyn Lewis ‘[yr] eira’n cuddio’r llwybrau’ yn rhwng dwy lein drên (2021), nid yw’r nawr na’r tywydd yn ddyfais. Maent yn rhannu’r hyn sydd o flaen eu llygaid.
Ac nid eira yn unig, wrth gwrs. Arferir yr un ffyddlondeb mimetig – yr un ddibyniaeth ar brofiad y synhwyrau – gan Aneirin Karadog yn Bylchau (2016), er enghraifft, lle mae sylwi ar ei ferch ei hun a chofio am ei dad ei hun yn sbarduno myfyrdodau ar gaffaeliad iaith. Deillia meddyliau Iwan Huws am gyn-breswylwyr ei gartref yn ‘Papur wal’, yn ei gyfrol Gadael Rhywbeth (2019), o fod wedi symud yn gorfforol rhwng yr ystafelloedd lle y buont yn byw. Bu Llŷr Gwyn Lewis ar drên rhwng Caerfaddon a Chasnewydd yn ‘hedfan nôl i’r hydref’. Gwyliodd rywun yn ‘sgriblo’ mewn llyfr nodiadau. Eisteddai’n ddigon agos ato i fod yn ‘siŵr’ mai cerdd oedd y sgriblo, ac mae’r gerdd o’n blaenau’n warant am fodolaeth y gerdd yn y llyfr nodiadau na chawn byth mo’i gweld.
A gonest hefyd. Nid amheuwn fod ‘Gwledd’ Sian Owen yn Darn o’r Haul (2015) yn cofnodi cymun mewn addoldy neilltuol ar adeg neilltuol, na bod y rhai a wahoddodd Aled Lewis Evans i fwynhau ‘Te Bach’ yn Llinynnau (2016) nid yn unig yn bobl go iawn ond eu bod wedi darparu te a brechdanau eog gyda bara brown; ac os oedd y bara’n wyn, cof gwallus ac nid penrhyddid artistig sydd i gyfrif am hynny.
Ac os bydd galw, gallant ddarparu tystiolaeth. Troer at Sky Atlantic ac fe welir yr hysbyseb a gymhellodd Derec Llwyd Morgan yn ‘Volvo’, yn Bardd Cwsg Arall (2021), i wenu uwchben yr anghydrywedd rhwng lleoliadau soffistigedig y cyfresi teledu y mae’r hysbyseb yn eu hatalnodi a thaith y car drwy’r canolbarth. A phrin fod cyfrol fwy llafar am yr ymlyniad wrth ddiffuantrwydd na Siarad trwy’i Het Karen Owen. Bu ar Bont Trefechan; bu ar lan Argae Tryweryn. Gosododd ei het yno i brofi hynny a thynnu ei llun. Nid yw cerdd, mwy na chamera, yn dweud celwydd.
A’r cyfan oll mewn iaith hygyrch a chystrawen ddiffwdan – heb fathiadau nac ailadrodd. Dim amwysedd o ran agwedd nac ystyr gair. Mae hyd yn oed siâp y geiriau ar y ddalen yn cyhoeddi callineb, cymedroldeb. Y cyfan a ofynnir gennym yw ymddiried.
Nid cwestiwn o ansawdd yw hyn. Ceir cerddi o hyd sy’n cipio’r anadl. Nid yw’n ffenomen Gymraeg chwaith. Noda Marjorie Perloff dwf ‘new citational and often constraint-bound poetry’ yn yr Unol Daleithiau oddi ar droad y mileniwm yn ei chyfrol Unoriginal Genius (2010). Ac nid yw’r gogwyddo at y penodol gyfoes yn gyfyngedig i farddoniaeth. Yn Ras Olaf Harri Selwyn (2012), gofala Tony Bianchi gynnwys manylion fforensig am y presennol y gosodir y nofel ynddo: ‘Dydd Gwener, 21 Mai 2011, 3.50 y prynhawn’, er enghraifft, a darpara ddigon o gliwiau ar ddechrau Sol a Lara (2016) – ‘Nos Fawrth oedd hi ... Trodd Michael Chopra ar ei droed chwith a tharo’r bêl yn erbyn y postyn’ – inni ganfod mai 31 Mawrth 2009 sydd yma, Crystal Palace yn erbyn Caerdydd, a bod chwe munud o’r gêm yn weddill.
Ond yn achos barddoniaeth Gymraeg bu’r cyfnewidiad nid yn unig yn gyffredinol ond yn annisgwyl. Yn sgil cynnwrf dychmygus 1990–2010, gallem yn rhesymol fod wedi edrych ymlaen at rywbeth llai rhesymol. Gyda rhai eithriadau nodedig – Gwyneth Lewis yn Treiglo (2017) – anodd canfod dilyniant. Ni fu estyniad o swrealaeth Twm Morys na’r cydbwyso rhwng hurtrwydd a thynerwch a welwyd gan Ifor ap Glyn, dim camprwydd yn null Mihangel Morgan, dim o’r hyn a ragwelwyd gan Daniel G Williams a Kirsti Bohata pan sonient am ‘postnationality’ ac ‘a place without boundaries’. Yr hyn sydd wedi goroesi o droad y mileniwm i’r presennol, yn hytrach, yw dulliau mynegiant sy’n caniatáu bachu creadigrwydd ar brofiad uniongyrchol. Nid oes prinder canu lle (am Gaerdydd, gan Catrin Dafydd, Dyfan Lewis, Llŷr Gwyn Lewis, Gruffudd Eifion Owen, Osian Rhys Jones, Rhys Iorwerth, Gwennan Evans a Beth Celyn), canu ecffrastig Christine James, Mererid Hopwood, a Frank Olding, a chanu taith Eurig Salisbury ac Elan Grug Muse. Digonedd o ganu am y domestig. Ac i’r graddau y gellir galw’r peth yn arloesi – yn y twf nodedig diweddar iawn mewn canu natur gan Morwen Brosschot, Geraint Roberts ac Elin ap Hywel, er enghraifft, neu yn y chwarae â ffurfiau yn Trydar mewn Trawiadau (2012) Llion Jones neu Cardiau Post (2018) Gerwyn Wiliams – ni bu syflyd ar y paradeim. Profi’n uniongyrchol. Cofnodi’n eirwir. Rhannu’n ddiffuant.
Eto i gyd, efallai fod rhyw anocheledd yn hyn oll. Daw dyddiad arall i’r meddwl wrth gloi: 28 Mai 2010. Ymgorfforai gyrfa Iwan Llwyd newydd-deb bythol gyfnewidiol barddoniaeth troad y mileniwm. Creodd ac adlewyrchodd (i raddau go gyfartal) yr ymateb i bob datblygiad yn y cyfnod: y ffoli ar Waldo, dadrithiad a dicter yr adwaith i Thatcheriaeth a chanlyniad Refferendwm 1979, dadrithiad mwy creadigol â thraddodiad a hunaniaeth dorfol etifeddol, y dygymod euog ond diolchgar â chyfalafiaeth. Ailddychmygodd y mesurau caeth. Mynychodd stomps a slams ac ymchwiliodd i’r tensiwn creadigol rhwng barddoniaeth a roc a chyfieithu, celf weledol a ffotograffiaeth. Teithiodd yn ymwybodol gynhwysol i Sycharth a Far Rockaway. Ni phetrusodd ddyddio’i gerddi – ond gwnaeth hynny gyda’r ymwybyddiaeth mai camau oeddynt ar daith. Deuai digwyddiad arall i greu cyd-destun newydd y byddai’n dyst iddo yn ei dro. Rhwng y marwnadau iddo – gan Dafydd Pritchard ac Emyr Lewis, Karen Owen a Llŷr Gwyn Lewis ac eraill – dyfarnu Het Goffa Iwan yn 2011, yr ysgrifau yn Iwan ar Daith Myrddin ap Dafydd ac Awen Iwan Twm Morys 2014, dadorchuddio Sedd Goffa Iwan ar dir Tŷ Newydd yn 2016, a Llwydffest 2020, gweodd Iwan ei absenoldeb am y degawd. Pan dawodd yr arloesi, ‘this sense of unrest and of constant movement’ fel y’i disgrifir gan Llŷr Gwyn Lewis, a oedd wedi ‘dal teimlad y cyfnod a’i genhedlaeth’, yng ngeiriau Manon Wynn Davies, roedd yn anochel y symudai’r beirdd a adawyd ar ôl, a dyfynnu Iwan ei hun, i ganol ‘y dyfnder ar ymyl yr eiliad’. Y cyfoesedd a’r achlysuroldeb sy’n canu drwy’r 2010au yw’r presennol na chafodd Iwan mo’i brofi a’i gofnodi. Yr unig beth a erys yw’r foment ddeoledig. Â bywyd yn ei flaen – a barddoniaeth gydag ef. Yng ngeiriau Dafydd John Pritchard yn ‘Iwan (er cof am Iwan Llwyd)’, ac nid oes amau mai profiad diffuant sydd yma a chofnod dilys amdano: ‘Ond heno mae rhyw gar yn sgrialu heibio, / mae’r coedydd yn ddu a’r neon yn dew’.
Cyfrol ddiweddaraf T Robin Chapman yw Writing in Welsh, 1740-2010: A Troubled Heritage (OUP, 2020).