Croesair Rhifyn 1
Amserol

Mae dyfyniad, wedi’i ddilyn gan lythrennau cyntaf enw’r awdur, yn mynd o amgylch y croesair, gyda'r cloc, gan ddechrau yn y sgwâr uchaf ar y chwith. Gallai'r 14 llythyren nad ydynt yn rhan o unrhyw ateb ffurfio ‘Atgno od; poen pwy?’, a allai fod yn gliw bach ychwanegol i’ch helpu chi i ddod o hyd i enw’r awdur.
Ar Draws
8 Mae stumog un yn troi oherwydd difwyno (7)
10 Talwn yn afresymol am laswellt yn yr ardd (5)
11 Dowch i ddechrau lampŵnio yn gas, a hel clecs (6)
12 Byddaf yn mynd i mewn i 29 os yw'n braf a chynnes fel hyn (6)
13 Cynnes yn Strathclyde? (4)
15 Brwydr enbyd Suez - diwedd Syr Anthony Eden, nid ei gychwyn (6)
18 Pentref yn Sir y Fflint gydag eglwys â safon angylaidd yn bennaf (6)
19 Teitl hen ŵr (3)
21 Aros am y dêt cyntaf? (4)
23 Blaguryn megis cantorion o Borthmadog (8)
26 Ydi o'n dechrau reslo yn flêr a hitio fel y byddai Ali'n gwneud? (6)
28 Fuoch chi 'rioed yn datrys anagram anodd? Atebwch yn negyddol (4)
30 Cardota wedi amser cneifio? (6)
32 Pryderu ynghylch dinistr y mae'r frenhines (6)
33 Ymbiliad wedi ei arwyddo gan Dafydd bach a'r Coe bach fu'n rhedeg (6)
34 Fel cae wedi’i aredig am yn ôl o Langollen i Llano Estacado! (7)
35 Perthynas a ddaw i frecwast cynnar yn olaf? (3)
I Lawr
1 Merch wyllt o Iâl (4)
2 Yn awr yn troi’n ogleddol (5)
3 Defaid bychain yr Arglwydd yn wylo wrth geisio bwyta'r llysieuyn hwn? (8)
4 Ynys ger Harlech lle gwelir tyrchod trwyth yn cael cystadleuaeth gyflymdra (6)
5 Enw amharchus ar ddynes flêr sy'n gadael taclau i grogi wyneb i waered (4)
6 Malu awyr am wrach (6)
7 Cefnogwyr yr ŵyl yn dechrau cynddeiriogi (8)
8 Darn o lofft, ond nid y siambr yn bennaf (5)
9 Byw yn anymwybodol (3)
14 Dilys yn dinistrio dwy arcêd! (8)
16 Planhigyn addas i geffyl ei fwyta? (8)
17 Cyrraedd canolbwynt undodau (3)
20 Merch Tolstoy nad yw'n newid er gwaethaf ei throi â'i phen i waered (4)
22 Cymodwr y gellir achosi newid drwyddi (6)
24 Taith i Baradwys yn gyntaf, debyg iawn (6)
25 Canol Gomer? (5)
27 Llwybrau sy'n arwain at y gyfrol o'r lle y daw'r dyfyniad (5)
29 Daw Cadi Ha i ddawnsio rhywfaint i ddathlu'r cnwd hwn (4)
31 Bachgen Tegla, Mr Kelly Awstralia a Phantycelyn (4)
32 Wel, rhyfedd yw ennill! (3)