Croesair

Croesair Rhifyn 4

’Stiniog

Morus Venti
20·07·2017

Croesair OPG4

Mae ambell gysylltiad efo ’Stiniog yma, gan gyfrif 1–8. Mae 31 yn hen ffurf, gyda’r diffiniad i'w weld yng Ngeiriadur y Brifysgol.
 

Ar Draws

1 Arogl sy’n rhaid ei gael (5)

6 Oddi yma, broblem ’stumog! (6)

11 Nid yn gyntaf wrth chwarae efo Lego yn anystywallt y mae dysgu astudiaeth hen adeiladau (9)

12 Yn perthyn i genedl Gethin? Mae hynny’n amheus (5)

13 Hylif sy’n siarp ar wefus (6)

15 Mae’r sylweddau anhryloyw hyn yn gwneud i Elen amau’n arw (8)

16 Tarw sy’n hyrddio ar yr heol hon (4)

17 Fel Tebot yn dychwelyd i ’Stiniog, neu fŵs o Port? (4)

19 Yn moesoli yn ddwys ac affeithiol (9)

23 Mae dŵr yn llifo mewn sied simsan cyn dechrau gwaith sydd wedi ei reoli (9)

26 Nid yw Mr Picton wedi gorffen cega (4)

28 Awdures o ’Stiniog heb orffen Merch Amlawdd Wledig (4)

30 Gweithiwr mewn lledr gan mwyaf, castiog ddyn (8)

33 Yn peri ei bod yn ddrwg gan rywun am osod cantores yng nghrafangau’r Frenhines (6)

34 Gwelwch fod hanner dros yr iaith yn y wlad hon (5)

35 Ifanc yw collen sy’n datblygu gyda choed lelog yn bennaf (9) …

36 …fel hwn, tipyn o wir Lancashire lad (6)

37 Rhyfedd un sy’n rhyfeddu (5)

 

I Lawr

1 Pentref ym Môn efo, yn bennaf, Wagner yn chwarae yn y caffi (7)

2 Trwyth meddwol yn d’ymyl (5)

3 Diben ysbryd mewn blwyddyn fel y llynedd (4)

4 Llymaid poeth yr wyt yn gallu ei wneud efo'r rhain (6)

5 Hyhi, yr un na allaf ddianc rhagddi? ‘Nage’ yn ôl y Saesnes (5)

7 Yn chwarae Mimi gyda thenor bob yn ail ond dim ond yn esgus canu (6)

8 Rhan o casus belli cyfnod o ryfel? (4)

9 Cyfrol gan 1-8 sy’n rhan o'r cwricwlwm: Gawain (6)

10 Myfi yw’r 1 ar draws (5)

13 Mae acw yn drofannol (5)

14 Bydd toreth yn llifo wedi i chi yfed toreth (5)

18 Gwlad i’w thrafod ymysg ffrindiau (5)

20 Yr wyf yn feddw ar ôl bod yn un o’r rhain (5)

21 Bwrw’r Sul gyda’i gar yn mynd fel cath i gythraul (7)

22 Siarad fel adar efo pawb wnaiff wrando neu ddarllen (6)

24 Dw i’n adnabod boi o’r Bala sy’n byw mewn tref yn Yemen (6)

25 Chwiorydd efallai sy’n cymryd rhan mewn gêm sy’n ffefryn gan Walter ap Lydia (6)

26 Llawer o dir gyda Meuryn y Talwrn? (5)

27 Cwmni difyr bachgen bach drygionus (5) …

29 … hwn efallai; mae o mewn diod (5)

31 Cymer y cwpan hwn i foli’n daer (4)

32 I safle uwch – yn anfynych (4)

Pynciau:

#Rhifyn 4