Croesair Rhifyn 5
Gweithiwr Wedi Gwynt Amserol

Mae 1 ar draws 31 yr hyn a awgrymir gan y lluniau. Mae deg o lythrennau ym mhob llun yn dweud wrthych beth ydynt. Rhaid i chi weithio allan beth yw'r llythrennau yn y pedwar sgwâr nad ydynt yn rhan o unrhyw ateb.
Ar Draws
1 Swyddog mewn parc yn gwneud gwaith athro ben bore (6)
5 Trydydd cynllun y Sais, sef ystyllen (5)
11 Un o'r chwiorydd Brontë yn dychwelyd mewn diwrnod o'r rhewlifau hyn? (7)
12 Yn ôl y sôn, Prif Weinidog anniben (4)
13 Lowri rywsut o gwmpas North Carolina – un sy'n rhedeg yn gymharol araf? (7)
14 Sŵn tryc am dorri i lawr (4)
15 Dyfarnwr sy'n troi ei gefn ar ddim un o'r taclau hyn (4)
17 Mi daflodd Morus Venti hwn i ganol y baw yn Acapulco (3)
18 Stêc wedi ei choginio ar gyfer cast ... (4)
22 ... yn y wlad hon lle mae gwartheg yn gysegredig? (5)
24 Pi-pi bwystfil o'r Mabinogi? (5)
25 Craig Arthur yn bennaf mewn cert (4)
28 Helwyr cwningod o dwll o amgylch man geni Abraham ac Edward (7)
30 Llwybr Pantycelyn ger ardal boblog (4)
31 Fel, er enghraifft y Sais a'r Rhufeiniwr, ym Medi? (5)
32 Tanwydd neu fuwch fach, fach wedi ei malu? (5)
35 Rhywun a gysyllta ddyn gydag unigolyn (4)
38 Gwedd anfoddog – sylwch y ddwy gyntaf a'r olaf (3)
41 Afon yn Lloegr ac yng nghanol Baruni (4)
42 Byddwn wedi mynd i Norwy'n gyntaf, wedi ennill (4)
43 Lled awgrymu peth nonsens yn Iorddonen (7)
44 Bu ddeor wrth ddychwel (4)
45 25 cyllell gam gaf heno (7)
46 Awdur a drafododd uffern mewn cerdd dant Eidaleg (5)
47 Rhan fechan fach o bla, ond bron digon i ddinistrio clustog (6)
I Lawr
1 Mae'n odli'n gymhleth: yn gyntaf ‘luosogrwydd’ gyda ‘symlrwydd’ (5)
2 Llywodraethwyr newydd ers gwasgariad (8)
3 Adnabod un ac un arall fu ger un o gyrion Uruguay (7)
4 Bys mynach, ond nid pen y gogr (4)
6 Cylch metel sy'n clincian (4)
7 Roedd wedi mynd â'i bethau – y rhan helaeth ohonynt – yn fyrbwyll (5)
8 Bri ynghylch un o Rufain, ond byddai'n cael ei garcharu (5)
9 Tyrd i'r Sowth am reu diddiwedd! (4)
10 Megis yr Eifl gyda drain yn datblygu rhwng gwaelodion dau bant (7)
16 Caws o gwmpas hen ddinas y Caldeaid wrth hela gyda 28 (6)
19 Llyfr ardal gydag arabedd neilltuol yn gyntaf (5)
20 Tanbaid eu dadlau (5)
21 Gallai hwn rywsut droi'n gerflunydd (5)
23 Diben nifer o 17 ar ôl un o'r clwydi hyn (6)
26 Amhosib yw anagramu ‘ffurelau’ (8)
27 Ceir mwd wedi ei daflu yn y dyffryn dychmygol hwn (7; dau air)
29 Gorchuddio gyda wig Amos druan (7)
33 Effaith tric dewin drwg (5)
34 Tarddiad ymddangosiad cleddyf Glyndŵr efallai (5)
36 Byddent yn brathu dynes mewn mantell ddigalon (5)
37 Rhaid cludo arch ar hon. Dyna i chi reol ryfedd (4)
39 Gorchesta yn od. Dyna ardderchog! (4)
40 Tro pedol a ffordd yn dringo ar y cyd (4)