Croesair Rhifyn 6

Ar Draws
1 Esgeulus gamgymeriad cyn dechrau torri, megis Rapunzel (8)
11 Hyblyg Nesta ydyw, y gellir ei helaethu (9)
12 Pisyn yn dioddef gwawd sy’n dan din (7)
13 Coed sy’n mynychu y glannau’n bennaf (5)
14 Tynnu llaeth o’r ci, chwedl y Sais wrth fynd wysg ei gefn (5)
15 Ffedog i’r Bart direidus (4)
16 Gwywo mae’r Dewin Dwl i ddim (6)
17 Penderfyniad sy’n dda yn ôl maint safonol (6)
19 Fel teledu bychan cul simsan y gwelwch riant gyda’i frecwast arno (8)
22 Merch a allai fod yn soled wedi gorchwyl galed (8)
25 Gorsaf ynni niwclear a luchia fom ata’? (6)
28 Tŷ ydyw, un wedi ei adeiladu o gerrig (6)
30 Eich gwreiddiau a’ch aur (4)
31 Brathwn sawl ci sy’n dwyn ein cinio o’r diwedd (5)
32 Lladdfa yng Nghaerfaddon (5)
33 Anystywallt, hyn ydan, ac anodd ein trin (7)
34 Gallai newyddwr go arw fod â llawer o sôn amdano (9)
35 Seiniau’r coed yn Ystrad Fflur, neu hen dref gyda wal yn rhan o Wynedd (8)
I Lawr
1 Mae hedeg syth allan yn bosib i swyddogion sy’n trafod materion gwledydd tramor (12)
2 Coes, er enghraifft, a blew talcen rhyfedd (5)
3 Edrycha ar adar y nefoedd. Dere gyda hwy; mae’r potensial yno (7)
4 Sant gwyn yn creu hapusrwydd o’i amgylch e’ (7)
5 Cyfrifol tua chyw ceffyl (6)
6 Mae trychfilod bychain yn bwyta coed Peris a Phadarn er enghraifft (6)
7 Anghytuno am etifedd mewn ardal (5)
8 Oherwydd prinder bara ailsefydlant, ond nid yn gyfan gwbl, gadlas ... (5)
9 ... Ymborthwch i gael byw yn hynod, ac yna caewch eich cegau! (7)
10 Tarddiad dŵr – un sy’n ddibynadwy? (12; tri gair)
18 Os basent hwy yn creu creadur mewn ffilm, byddai’n rhaid rhoi colur amdano (7)
20 Ysgrifennu cerdd arbennig ‘Wyau Nedd’ (7)
21 Fe ddengys ddyn ar ôl un arall rhyfedd (7)
23 Claddu ganol gaeaf yn rhan o Gerrig-y-drudion (6)
24 Plygwch er mwyn Pantycelyn (6)
26 Un sy’n cefnogi rhai o foch Rwritania (5)
27 Mwyar cochion sydd i’w gweld ym mhen draw Cwm Rheidol efallai (5)
29 Gweithwyr dur yn dechrau crio (5)
Anfonwch eich atebion i’r cyfeiriad canlynol erbyn 1 Mai 2018, os gwelwch yn dda: O’r Pedwar Gwynt, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG. Bydd tocyn llyfr gwerth £25 i’r datrysiad cywir cyntaf a ddaw allan o’r het.