Croesair

Croesair Rhifyn 8

Carte Blanche

Morus Venti
30·11·2018

Mae’r cliwiau yn eu trefn arferol. Rhaid i chi benderfynu lle maen nhw’n mynd a rhoi’r bariau yn eu lle. Bydd patrwm y bariau yn y darlun gorffenedig yn edrych yr un fath â’i wyneb i waered ac o’i droi drwy 90 gradd y naill ffordd neu’r llall. Does dim angen i chi nodi rhifau’r atebion.

Ar Draws

Megis iaith glir Ystwyth a De Llydaw?   
Un o ddwsin Ystrad Fflur ym Mogra Badshahpur 
Anaf erchyll. Cychwyn drwg, drwg dros ben 
Fe gewch frecwast caled iawn os defnyddiwch hwn i amseru wy â’r dŵr yn berwi!
Llyncu pilsen rhag ychwanegu at y boblogaeth mae geneth yn gyntaf yn ymyl ’nheledu newydd, yn yfed gwin yn bennaf
Gwnaiff Mam hyn ar ben camfa tra bo’i gŵr yn cymryd Pantycelyn i mewn 
Ew! Andante swynol roeddent yn ei adnabod
Cyn dydd Mercher y Lludw gall yr hyn a fwytewch fod yn wenith
Clepian clecs er gwneud argraff yn bennaf 
Efallai y gwelwch un mewn Chevrolet wrth iddo facio mewn cynhebrwng 
Datganiad am ddiwedd Cymru’n achosi sibrydion 
Cwrtais yw dweud ‘Helô, Gorolla’ wrth Doyota
Mae clorian yn dangos a yw’r cerbyd hwn yn rhy drwm 
Iaith newydd aer yn Ystwyth a’i paratôdd ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar frenin? 
’Dyw Iran ddim yn y _______, ond fe’i sefydlwyd yn y _______ Canol 
Caledrwydd creulon, ond heb awydd defnyddio’r rhan hon o’r llaw 
Cewch weld hanes y coroni hwn ym mhapur ddoe
Agor llygaid i’r ffeithiau, a dychwelyd o’i hardal at Tada

I Lawr

Lluosog hon ddaw o’ch llygaid os cewch eich trywanu gan un
Sectyddol? Aelodwn yn llawen
Llymder gwrywaidd fory ar ôl newid 
Mesur byr yn y diwedd, ond disglair 
Mi ddaru ddod ag etholiad digalon a thrychinebus 
Dylai wisgo’i dillad gorau i gapel yr enwad hwn. Er hyn, ffrog yn rhacs yfflon a welwn (tri gair)
Ydy’r gangen hon o feddyginiaeth yn gofyn am gamddefnyddio gwaed ieir? Byth!
Pump cant o Rufain yn ymuno mewn cân yn y diwedd
Yn anffodus, darfu dŵr gwerthfawr
Caeth i dy bin? Truenus yw hynny, a rŵan mae gen ti’r gorddrafft hwn
Ymagor man tywyll
Dadleuai yn wyllt mai codi sydd ei angen
Gwanc fysa’n anweddus 
Rhywbeth i ddal arian ei gwlad ryfelgar
Rhan o daith dramor wreiddiol Madog efallai 
Gadael gafr fach gyda defaid i ddechrau
Efallai enw merch wen fach ar y cei yn Rio 
Dysgwr a ddaw gydag amser

Pynciau:

#Rhifyn 8