Cerddi wedi'u hysbrydoli gan ardal yr Eisteddfod a'r henebion sydd yn dyst i hanes Sir Fynwy a'r cyffiniau. Wrth ymateb i'r henebion hyn, ceisir dod i delerau â cholled bersonol trwy fyfyrio ar "farwolaeth" yr iaith a'n cyfeiriad fel Cymry hefyd.
(o'r casgliad Chwerwder yn y Ffynhonnau, 1962) Cloër fi mewn cell o lyfrau A'i llythrennau a'i geiriau yn furiau, Ac ynddi un ddôr tuag Aber Henfelen. Pen a dorrwyd, a gwaed a gollwyd, Da a ddifawyd, dwy ynys a yswyd: ...
Am groesi llinell yr hanner cant, fy ngwobr gysur ar wyliau yn Fiena – catalog arddangosfa Fukushima. Ond nid delweddau’r apocalyps: anadliadau’r wlad, ei rhythmau beunyddiol, goddefol dros ddegawd a ddaliwyd ar lens ffotograffydd bum mlynedd…
Bûm i’r lleuad ganwaith mewn roced fain â’i henw “Dychymyg”. Ni welodd neb mohonof yn mynd. Ni ŵyr neb pa bryd y deuthum yn ôl. Ond mi fûm. Mi wn i hynny. Beth a welais i yno? Dim ond beth a ddywed y gwyddonwyr sydd yno. Trwy wydrau telisgop yr…
Eich copi o Orgraff yr Iaith Gymraeg Un naw dau wyth, clawr papur brown. Llyfr sych ond, hyd yn oed yma Rwy’n darllen fy ngholled. Chi, Er enghraifft, yw’r anadliad caled (Fy nhelyn, neu rhyfedd) Neu ‘Fy nhad,’ o, Ochenaid.
Y Blaned Lonydd, dyna sut byddai Ed yn meddwl am y lle. Roedd amser wedi aros yn stond yno. Deuai rhyw syrthni drosto gwta bum munud wedi iddo eistedd wrth fwrdd y gegin. '… Dawal yma, Dad.' 'Dyna'r aflwydd pennaf.' Doedd yna ddim yn digwydd yno,…
Roedd dydd Mawrth, 21 Hydref 1919 yn ddiwrnod llwyd o smwclaw ym Mhennal. Yn llofft gefn rhif pedwar, Rhes Rhosfarch, ganed Goronwy George James am dri munud i naw y bore, fel roedd cloch yr ysgol bentref yn canu. Hwn oedd pumed plentyn Ann, ac…
Tudalen 20 o 20
Tanysgrifio