Fukushima
( Mawrth 2016 )
Am groesi llinell yr hanner cant, fy ngwobr gysur
ar wyliau yn Fiena – catalog arddangosfa Fukushima.
Ond nid delweddau’r apocalyps: anadliadau’r wlad,
ei rhythmau beunyddiol, goddefol dros ddegawd
a ddaliwyd ar lens ffotograffydd bum mlynedd ynghynt
a chyn lansio’r enw diarffordd yn frand rhyngwladol.
Y capsiynau mor elfennol â phenillion haicw
– ‘Enfys ym Mehefin’, ‘Gwynt yr hydref’, ‘Dyfodiad y gaeaf’ –
a thudalennau’r darluniau wedi eu gwisgo mor finimalaidd
o gelfydd, mor lân yn nillad gorau’r fframiau gwyn.
Ar ben blwydd y swnami’n bump, gohebydd a’i gamera’n ailymweld
â phentref mor llonydd â set ffilm a ratlo’r peiriant wrth ei draed
fel sioncyn y gwair ar steroids yn mesur yr ymbelydredd.
Yng ngweithdy’r crochenydd, cwpanau a phlatiau anorffen
a’r ffwrnais, dan rym y ddaeargryn, ynghanol y llawr.
A’r cartref a gyfanheddwyd gan ddeunaw cenhedlaeth,
y presennol a ddolennai’n ôl dri chan mlynedd,
mewn cwta hanner degawd a halogwyd gan y baeddod,
a draflyncwyd yn ôl gan natur wyllt pan welodd honno ei chyfle.
Pan oeddwn laslanc darllenais ddameg yr Albanwr
am ddychweliad y ceffylau triw ar ôl y rhyfel naw niwrnod:
er eu ffeirio am gerbydau cynnydd, drwyddyn nhw
yr ailgodwyd tai gwareiddiad. Tybed nad oedd
ein beirdd ni’n nes ati? Gadawyd i’r moch
ruthro’r winllan, ni chadwyd mo’r bwystfil rhag y mur.
Mae Gerwyn Williams yn Athro a Phennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Ei gyfrol ddiweddaraf o gerddi yw Rhwng Gwibdaith a Coldplay (Gwasg y Bwthyn, 2011).