Cyfansoddi

Ar ôl yr angladd frenhinol

Cerdd yn lythyr

Robert Lacey
08·04·2023

Annwyl Olygydd,

Diddorol iawn oedd darllen erthygl Llion Wigley, ‘Egwyddor gobaith’ yn rhifyn gaeaf 2022 O’r Pedwar Gwynt. Gwnaeth yr erthygl a’r sôn ynddi am ‘Yr Angladd’ imi feddwl am y gerdd fach hon a ysgrifennais:

Dydd Gŵyl San Mihangel 2022
(ar ôl yr angladd frenhinol)

O’r diwedd, talsyth borcyn a balch
yw’r polyn baner ar y ffordd i’r gwaith,
yn ymestyn i’r glesni hafaidd
(sydd yn ôl Parry-Williams yn gelwydd i gyd)
heb angen yr un pilyn i’w ddadgywilyddio.
Clywaf gân iwtopaidd, ddwl 
yn llanw fy hwyliau, ‘Dim deddf; dim eiddo’.
Anwybyddwch ôl tywydd mawr ar y paent llai gwyn nag y bu
ac anadlwch y gwacter ffrwythlon 
sy’n chwifio o’i gwmpas o bob cyfeiriad.
Dychmygwch, os mynnwch, eich carthen gysur eich hunan
yn bochio o bosibiliadau
ond does dim rhaid iddi fod mor hirsgwar.

Yn gywir,

Robert Lacey
Aberystwyth

Nodyn gan y golygydd: Cywirwyd 'R Williams Parry' yn 'Parry-Williams' ar 20 Ebrill 2023.

Pynciau:

#Rhifyn 21
#Braddoniaeth
#Brenhiniaeth