Bendigeidlys
Natur heddiw

Bendigeidlys, Chwefror 2024 (Llun: Siân Melangell Dafydd)
Ar waelod yr ardd mae tylwyth teg yn byw, yn ôl sawl stori. Mewn pant anghofiedig y tu hwnt i’r cwt coed, er enghraifft. Ond ar waelod fy ngardd i mae car Ford, model T4, wedi ei gladdu yn y pridd a mwy o ddarnau toredig platiau a chwpanau te nag a welais erioed mewn unrhyw ardd datws. Bydd twmpath o frigau yno: pawb yn ychwanegu tipyn wrth dipyn ar ôl gwynt. Cwningod sy’n teyrnasu; maen nhw yma yn eu dwsinau. Pan ddaw eira, mae mwy o olion traed hirion y cwningod nag sydd o eira glân. Mae digon o amrywiaeth i mi wybod i sicrwydd nad fi, nac unrhyw dylwyth arall, sy’n rheoli pethau yma. Mae’r gorffennol a’r gwyllt yn gryfach.
A’r planhigion? Daw amser y tyfiant trwchus yn ei dro, pan fydd y byd yn wyrdd ac yn bigog at fy mogail. Heddiw, mae fy nhraed ar dir moel a’r pridd yn feddal ar ôl glaw storm ac wedi iddo gael ei lacio gan bawennau cwningod. Tenau a sathredig yr olwg yw unrhyw dyfiant, ond mae un ddeilen werdd yn gryfach na’r lleill. Dyma’r bendigeidlys, y mabgoll, neu lysiau f’anwylyd. Anodd yw meddwl am deulu hyfrytach o enwau ar unrhyw blanhigyn.
Yma mae’n tyfu yng nghysgod sycamorwydden enfawr, ond mewn gwirionedd prin y bydd coedwig neu wrych yng Nghymru heb rywfaint o fendigeidlys oddi tano. Mae’r dail yn debyg i ddail mefus yn tyfu mewn rhosedi, ond o deulu’r rhosod y daw bendigeidlys. Un o’i nodweddion – yr un fath â mefus – yw bod iddo ddeilen flaen sydd â thri llabed; ond mae gan y bendigeidlys hefyd ddail sengl, ymhellach i lawr y coesyn, un gyferbyn â’r llall, sawl tro, gan ddibynnu ar hyd y coesyn. Tynnwch eich menig: melfedaidd yw’r dail. Os oes digon ohonynt, rhowch eich bysedd yn y pridd llaith a chydio yn y rhan o’r planhigyn sydd yn y pridd. Er ei fod yn gwlwm cryf o wreiddiau mân, ar ôl tywydd llaith mae’n rhyddhau ei afael yn hawdd. Bydd oglau ganddo, un cyfarwydd o bosib. Persawr y gegin ar ddydd Nadolig, i rai. Christingles. Canhwyllau. Sbeis clof. Rhyw awgrym o de chai? Heb os, oglau gwres, oglau sy’n llacio’r ystumog o’r foment mae’n cyrraedd y trwyn.
Ac felly, gyda gwreiddiau eraill llesol, fel y danadl poethion a dant y llew, yn ddwfn yn y pridd mae’r bendigeidlys yr amser yma o’r flwyddyn. Er mai’r oerfel a deimlir gan ein traed ar y ddaear, yno mae’r gwres, y grym a’r gwaith – yn fylbiau, yn wreiddiau. Sylwch ar y cyllyll cennin Pedr yn codi o’r pridd. Weithiau mae’r saffrwm yn codi cyn yr eirlys, a’r briallu yn pipian drwy’r eira cyntaf. Daw dyrnau’r rhiwbob allan, yn binc. Ond os byddwn yn oedi a phenderfynu peidio â brysio’r gwanwyn na dychmygu’r dyddiau brafiach, lliwgar – er mor hyfryd fydd hynny – gwelwn fod daioni hefyd yn nhawelwch olion olaf y gaeaf. Pe baech yn cydio’n dynn mewn tusw o wreiddiau bendigeidlys, a chledrau’ch dwylo’n bridd i gyd; pe baech yn ymdrechu i’w golchi wedyn, yna byddai talpau o sbeis cynhenid tebyg i’r clof yn eich llaw (a’ch cegin). Mae adegau pan fyddwn angen ein cynhesu o’r tu mewn, pan fydd dyddiau’r gaeaf fel petaent yn ymestyn ymhellach nag erioed o’r blaen. Ac ar ddyddiau felly nid tatws yn unig oedd gan ein cyndadau ond pethau eraill, pethau bendigedig, wir.