Egroes
Natur heddiw
Egroesen sydd yn fy llaw. Boch goch Rosa rugosa dew. Rhuddem gron llawn hadau. Trymder a siâp sy’n ffitio i’r dim lle mae hi, fel petai wedi ei gwneud i ildio ei phwysau yng nghwpan fy llaw. Melyn-oren ei thu mewn yn creu llusern ohoni.
Bob mis Mai, byddaf yn cael fy nhemtio i dynnu llun petal un o’r rhosod yma, neu rosyn gwyllt, yn fy llaw. Mae eu gwythiennau yn gweddu i’r gledr, a chalon fach siâp un petal yn gwneud i mi oedi. Bob mis Hydref, casglu egroes y ddau rosyn fydda i a’r mab. Mae yntau’n casglu’r rhai isel a minnau’n ymestyn yn uwch. Fy ngarddwrn sy’n cael draenen, yn amlach na pheidio, neu benelin côt. Ffon gerdded fy hen daid sy’n dod gyda ni. Defnyddiodd gangen collen a dyfodd yn dalsyth o hen wrych wedi plygu, gan ei marcio â phatrwm troellog cyn ei thorri. Gwrthrych addurniadol yn hytrach na defnyddiol oedd hi iddo fo, ond dyma yw fy nheclyn i.
Gyda phob cwymp eira yn y gaeaf, edrych am yr egroes wna i gyntaf. Mae rhyw ddarlun o fy mhlentyndod wedi bachu yn fy nghof. Arddull Elsa Beskow o Sweden: tylwyth teg tebyg i’w rhai hi, egroesen fach i bob un fel llusern drwy’r storm, plu eira yn hetiau bach gwynion ar yr egroes. Y coch ym mochau’r tylwyth teg hefyd. Mae’n rhaid fy mod i wedi gwirioni hefo llyfr Nadoligaidd gyda darlun tebyg, a hwnnw wedi disgyn yn ddarnau neu fynd i gefnder erbyn hyn. Chwilio am egroes yr eira fydda i. Fi, y mab a’r ffon fugail ym mhob tywydd. Erbyn i’r dyddiau rhewllyd gyrraedd, eira neu beidio, bydd unrhyw egroesen sydd ar ôl, heb ei bwyta gan aderyn neu greadur arall, wedi troi’n felysach fyth.
Ar hyn o bryd, mae’r llwyni yn orlawn. Awn at lwyn rhosyn gwyllt, fy ffefryn. Mae rhai’n dyllog lle bu cacwn yn gloddesta. Rhai’n wyrddfelyn, eraill yn goch ac yna’n ddu. Mae un rhosyn eiddil yma, hyd yn oed. Mewn un man, cynrychiolir bron bob tymor. Dim ond bygythio mae’r gaeaf hyd yma. Miri tri glöyn byw sydd wrth swmp arall o egroes, un yn dal yn dynn wrth egroesen fel petai’n ei marchogaeth neu’n gwrthod ei gollwng i’n dwylo ni.
Meddyliaf am gannoedd o blant wrthi’n casglu fel hyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y papurau lleol yn llawn negeseuon yn annog y boblogaeth i lenwi eu cyrff â surop o’r egroes, un o’r ffynonellau mwyaf gwerthfawr o fitamin C oedd ar gael. Yno yn y papurau lleol hefyd, roedd cyngor i roi gwyrddni amrwd ym mhob brechdan – berwr o’r afon, er enghraifft. Tips er mwyn gwneud yn siŵr fod cenhedlaeth ifanc, newydd o filwyr cryf ac abl ar gael, efallai, ond eto mae llawer iawn o synnwyr yn yr ‘hen’ gyngor yma. Yn 1943, casglwyd 500 tunnell o egroes, gan blant y rhan fwyaf: 2.5 miliwn potelaid o surop egroes i arbed allforio 25 miliwn oren. Sawl draenen mewn garddwrn oedd hynny, tybed?
Wrth gasglu’r rhain ar gyfer sosbennaid lawer, lawer llai o surop i ni, mae un yn troi’n slwtsh yng nghyffyrddiad fy mys a bawd. Llithrig yw’r ffrwyth hwnnw, yn wahanol i bob un arall hyd yma – teimlad fel marblen rhwng fy mysedd yw egroes rhosyn gwyllt, fel arfer. A minnau, fel y pili-palod, fel y cacwn, yn ei lyfu i ffwrdd. Daw popeth yn stond. Nid ei flasu oedd fy mwriad, ond mae’n syfrdandod pur. Er ei fwyta ar ffurf surop drwy’r flwyddyn, er ei yfed mewn te, er y cyfarwydd yma, mae iriad o gnawd hwn ar fy nhafod yn gwneud i mi feddwl: os oes dim ond un peth perffaith yn y byd, dyma fo.
Nofel ddiweddaraf Siân Melangell Dafydd yw Filò (Gomer, 2020). Mae hi’n dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
Llun: Egroes (Hawlfraint: Siân Melangell Dafydd).