Cyfansoddi

Cyhoeddi enillydd Her Gyfieithu 2021

Yr Her: cerddi gan Samira Negrouche

Buddugol: Robin Farrar

Amser darllen: 5 munud

29·09·2021

Ar noswyl Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu, cyhoeddir mai Robin Farrar yw enillydd Her Gyfieithu 2021.

Yr her eleni oedd cyfieithu cyfres o dair cerdd gan y bardd Samira Negrouche o’r Ffrangeg  i'r Gymraeg. Mae Samira Negrouche yn fardd ac yn gyfieithydd o Algeria, sy’n byw yn Algiers. Fe’i magwyd mewn teulu Tamazight ac mae’n ystyried yr iaith honno, ynghyd â’r Ffrangeg ac Arabeg, yn famieithoedd iddi. Hyfforddodd fel meddyg ond mae hi bellach wedi ymroi’n llwyr i ysgrifennu, cyfieithu a phrosiectau creadigol. Yn llais pwysig yn ei gwlad, mae ei barddoniaeth wedi ei chyfieithu i dros ugain o ieithoedd.

Mewn cystadleuaeth gref, disgrifiodd y beirniad, Siân Melangell Dafydd, yr enillydd fel '[c]yfieithydd gofalus, sydd wedi mentro ac wedi canfod cymalau syml, gwefreiddiol i adael i lais Samira deithio i’r Gymraeg, ac i’r ddau lais fodoli hefo’i gilydd.'

Mae'r enillydd Robin Farrar yn diwtor iaith llawrydd sydd ar hyn o bryd yn byw yn Rambouillet ger Paris. Fe'i magwyd ar aelwyd ddwyieithog ym Mynydd Llandygái ger Bangor. Astudiodd radd mewn Mathemateg, a bu’n ymddiddori hefyd mewn materion amgylcheddol, cyn troi fwyfwy at faes ieithoedd. Bu’n ymgyrchydd gweithgar gyda Chymdeithas yr Iaith, gyda chyfnod fel Cadeirydd ac yna fel Ysgrifennydd y mudiad. Wedi symud i fyw yn Ffrainc yn 2018, mae’r diddordeb mewn ieithoedd yn parhau, ond fel athro a chyfieithydd erbyn hyn. Yn hytrach na dilyn gwersi traddodiadol, bu’n hogi ei sgiliau Ffrangeg wrth fyw, gweithio a gwneud gwahanol weithgareddau, megis gwersi drama, trwy gyfrwng yr iaith. Yn ogystal â siarad Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg, mae’n siarad rywfaint o Bwyleg ac wrthi’n dysgu Basgeg.

Mae Robin Farrar yn derbyn Ffon yr Her Gyfieithu a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ynghyd â gwobr ariannol o £200 gan Brifysgol Abertawe. Enillwyr yr Her Gyfieithu dros y pum mlynedd diwethaf oedd: Grug Muse (2020), Morgan Owen (2019), Llewelyn Hopwood (2018), Siân Cleaver (2017) a Glenys M Roberts (2016).

Trefnwyd y gystadleuaeth ar y cyd rhwng Wales PEN Cymru, Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, gyda chefnogaeth Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac O’r Pedwar Gwynt.

Beirniadaeth Siân Melangell Dafydd

Y gerdd gyntaf i mi ei darllen gan Samira Negrouche oedd, ‘Qui Parle,’ – hynny yw, ‘Pwy sy’n Siarad,’ ond i mi ei darllen drwy gyfrwng cyfieithiad gwych Marilyn Hacker yn gyntaf, ac felly, roedd mwy nag un llais yn siarad: roedd Ffrangeg Algiers y bardd a Saesneg y cyfieithydd, yn ogystal â’r ‘gerddoriaeth danddaearol’ mae hi’n honni sydd yn nyfnder barddoniaeth. Yn ‘Qui Parle,’ gofynnir ac atebir fel hyn:

‘Qui es-tu ? Une structure complexe de silences’
(‘Pwy wyt ti? Strwythur cymhleth o dawelwch’)

Her y beirniad yn y gystadleuaeth hon oedd mynd ar drywydd swyn, sain, safle geiriau, drama geiriau, a throad y seibiau tawelwch yn y gwaith Cymraeg. Rhaid dweud ein bod wedi dewis tair cerdd oedd yn sialens aruthrol. O gyfres 'Six arbres de fortune' gofynnwyd am gyfieithiad o’r tair cerdd gyntaf. Mae'r tair yn manteisio ar y gofod rhwng geiriau ar y dudalen. Os erys y cyfieithydd yn gaeth i'r un patrwm gofodol ag yn y gwreiddiol, mae'n anorfod na all y cerddi lifo â’r un byrdwn deallusol a cherddorol. 

Cawsom bum cyfieithiad cryf – gallaf ddweud hynny â balchder. Eu ffugenwau oedd: Ardwyniad, Beryl, Cath y Nos, Tarroau a Tempo. Ar ddechrau’r gyfres o gerddi, dyfynnir o L’Homme approximatif Tristan Tzara gan Samira Negrouche fel hyn: 'homme un peu animal un peu fleur un peu métal un peu homme'. Fel yna, â’i lafarganu, â’i ddiffyg atalnodi. I roi syniad o’r ystod eang o leisiau a gyflwynwyd gan ein cyfieithwyr ar gyfer yr ‘un peu animal’ (syml) yna, cafwyd ‘gronyn anifail’, ‘lled anifail’, ‘dipyn o anifail’ a dau ‘rhannol anifail’. Cafwyd amrywiaeth yr un mor eang i deitl y gyfres o gerddi, yn ogystal. Ac yno rydym yn dechrau’r sgwrs, fel petai, am ddewisiadau ynghylch ‘sut’ yn hytrach na ‘phwy’ sy’n siarad yn y cerddi. Yn y drydedd gerdd ceir pob cywair lleisiol fel ateb i’r her – o’r ffurfiol-feiblaidd i’r cyfarwydd.

Daw mwynhad y beirniadu o’r llefydd lle nad oes tebygrwydd o gwbl rhwng y cyfieithiadau, gan fy ngorfodi i glosio at fy iaith fy hun yn ogystal â byw ac ailadrodd y gwaith gwreiddiol – yn fras, i holi cwestiynau. Yn y gerdd gyntaf, daw enghraifft o hyn yn y geiriau, ‘un solfège sans bruit’. Ceir traddodiad o ddysgu’r sol-ffa yng Nghymru (i’m cof i!) sy’n cydseinio’n hyfryd efo’r defnydd o solfège wrth drin cerddoriaeth yn yr iaith Ffrangeg hefyd. Dyma le cymharol saff rhwng ein ieithoedd. Ond cawn: ‘sol-ffa mud’ (Ardwyniad), ‘sol-ffa heb yr un smic’ (Beryl), ‘solffegio di-sain’ (Cath y nos) ‘sol-ffa mud’ (Tarroau) a ‘cerddoriaeth ddi-sain’ (Tempo). 

Wrth droi at yr ail gerdd, roeddwn yn disgwyl gweld hon yn brawf litmws, gyda’i rhestr o ailadrodd, fel petai’r siaradwr yn poeri geiriau;

y a-t-il des yeux en ce monde
des oreilles en ce monde
qui soient nés 
pour accueillir 
en leurs âmes 
l’obscénité 
l’obscénité
l’obscénité
l’obscénité 
l’obscénité 

Pa air fydd yn cario byrdwn y gerdd yn Gymraeg? Pa air all ddal perfformiad, y cwestiynu a’r ymosodiad geiriol? Ceir ‘anweddustra’ (Tempo), ‘(yr) anlladrwydd’ (Cath y Nos ac Ardwyniad), ffieidd-dra (Tarroau) – hynny’n dod â hi’n agosach at fwriad y gwreiddiol, er bod Tarroau yn achosi oediad yn y gair ei hun. Yna darllenais fersiwn Beryl, a dyma glywed iaith syml yn pefrio: 

a oes llygaid yn y byd hwn 
clustiau yn y byd hwn
a aned
a’u heneidiau’n agored
i dderbyn pethau 
ffiaidd
ffiaidd
ffiaidd
ffiaidd
ffiaidd

Aeth Beryl am ansoddair yn lle’r ferf, ond eto fyth, at wirionedd clo’r gerdd. Hefyd, torrodd y llinell gyntaf yn y dyfyniad yn ddau, gan fod angen saib naturiol yn y Gymraeg ond byddai atalnod wedi tarfu ar sylwedd a rhesymeg y gwreiddiol. Torrir rheolau er mwyn cadw at reolau!

Dim ond cipolwg sydd yma o’r mwynhad dadansoddol a gefais wrth feirniadu eleni, ond gallwch weld eisoes fod un cyfieithydd yn serennu. Down yn ôl at deitl y casgliad: ‘Six arbes de fortune autour de ma baignoire’. Y gair ‘fortune’ a achosodd y nifer fwyaf o gwestiynau wrth gyfieithu'r teitl. ‘Dros dro’ oedd coed Ardwyniad a Tempo, coeden ffawd oedd gan Cath y Nos, coeden ‘na wna’r tro’ gan Tarroau. Mae’r holl ystyron yma yn 'fortune' y teitl – fel y mae 'radeau de fortune' yn rafft dros dro (makeshift, yn Saesneg), yn rhywbeth wedi ei wneud ar frys, na fydd yn para ond yn gwneud y tro, gobeithio. Ond y mae hefyd yn wrthrych wedi ei daflu at ei gilydd â lwc, gan adael popeth yn nwylo ffawd. Mae'r cyfieithiad mwyaf heriol a hyderus o’r teitl yn rhoi ‘Chwe choeden unnos’ i ni, a hynny’n mynd dan groen holl ystyron gwreiddiol 'fortune'. Ceir yma ddatrysiad sydd rywsut yn hynod Gymreig hefyd.

Balch iawn ydw i, eleni, yn cael y cyfle a’r fraint o roi gwobr yr Her Gyfieithu i awdur y geiriau hynny. Dyma gyfieithydd gofalus, sydd wedi mentro ac wedi canfod cymalau syml, gwefreiddiol i adael i lais Samira Negrouche deithio i’r Gymraeg, ac i’r ddau lais fodoli hefo’i gilydd. Llongyfarchiadau, Beryl.

✒︎

Gwybodaeth am y beirniad, Siân Melangell Dafydd

Mae Siân Melangell Dafydd yn awdur, yn fardd, yn olygydd ac yn gyfieithydd. Enillodd ei nofel gyntaf, Y Trydydd Peth (2009), Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009. Roedd yn gyd-olygydd olaf y cylchgrawn llenyddol eiconig, Taliesin. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Filò, yn 2019 ac fe’i dewiswyd gan Gyfnewidfa Lên Cymru i’w hyrwyddo ar eu Silff Lyfrau flynyddol. Mae hi’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn cydweithio’n aml gydag awduron a beirdd rhyngwladol i gyfieithu, i gyd-ysgrifennu ac i berfformio. Fel rhan o’r prosiect Cysylltiadau Barddoniaeth India-Cymru, bu’n cydweithio gyda’r bardd Malayali, Anitha Thampi, ac arweiniodd hynny at gyhoeddi’r casgliad Dŵr Arall / A Different Water (2019). Bu’n byw ym Mharis am ddegawd cyn dychwelyd i Gymru, ac mae hi’n gweithio fel darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor ac ym Mhrifysgol Americanaidd Paris. 

✒︎

Y cyfieithiad buddugol

chwe choeden unnos o gylch fy nhwb ymolchi
gan Samira Negrouche (cyfieithiad Robin Farrar)

dyn sy’n dipyn o anifail dipyn o flodyn dipyn o fetel dipyn o ddyn
(L’Homme approximatif, Tristan Tzara)
 

*

ar ein pennau              mae cysgod fertigol         sy'n dirgrynu
cysgod sy’n clecian ar ein pennau
chwibanu dirgel
ar y gwastatir cras       ar ein pennau
                                                                           trymlwythog

ac wrth iddo chwibanu           heb fod disgwyl iddo chwibanu
a'n pennau'n grwnan
to concrid sy'n rhoi lloches i’n hwyliau
ein hochrau byrbwyll              ar y platfform unnos
                                                       cysawd wedi’i ollwng
yn niwloedd y synhwyrau

dwyt ti ddim wedi gadael y llongddrylliad llychlyd

mae'r cysgodion fertigol yn rhedeg        ar ymylon y twyni
dy lygaid wedi’u lapio y tu ôl i'r drych crwm
amddiffyniad                ansicr rhag golau uwch-fioled

nodau du ar ymylon y twyni
sol-ffa heb yr un smic

dwyt ti ddim wedi gadael y llongddrylliad llychlyd

cysgod fertigol             wedi’i blannu yn y gwastatir cras
wyt ti'n ei ddyfrio ag addewidion
yr organ fetel sy’n dirgrynu         ar ymylon yr ysgyfaint
ar y platfform concrid
lle mae'r alawon yn atseinio’n groes

amddiffyniad                ansicr 
ar gyfer totem                            unnos


**


yn yr ardd gerrig
mae dyn mud yn dawnsio
marwnad anhysbys

bydd dyn byddar yn ôl y sôn
yn hau camau digonedd
a chylchoedd fel yr haul

chafodd o mo’i eni
i glywed y byd yn mynd ar dân

a oes lle a ddaeth i’r lan
ar gopa anghofiedig
lle na all y newyddion mo’i gyrraedd
lle na ellid rhagdybio’r newyddion
lle na ellid synhwyro’r newyddion
a oes adwy mewn amser
nad yw'n disgwyl
hoelio’r golwg
ar sgriniau'r mygu?

a oes llygaid yn y byd hwn
clustiau yn y byd hwn
a aned
a'u heneidiau'n agored
i dderbyn pethau
ffiaidd
ffiaidd
ffiaidd
ffiaidd
ffiaidd
a throi ymaith
a pheidio â throi ymaith?


***


yr hyn rwy’n ei hoffi am yr Iesu
yw ei draed dyfrlliw
a rhai ei gymdeithion
– tri eurgylch ar ddeg –
ar eiconau anghofiedig
y mynydd Athos bach Bwlgaraidd
ddywedaf i ddim am y ffigysbren
– y ffigysbren mae’r Iesu'n ei oleuo –
na chwaith am y cerrig yn rhaeadru
– mae’r rheini’n debycach i'r Grand Canyon
nag i Galilea –
mae traed dyfrlliw cain yr Iesu
yn gwneud i mi feddwl
am arlunwaith creigiau Tassili
does yr un droed mor gain ei lluniad
ar fynyddoedd Hoggar
amlinellau hirfain ydynt
ynghrog
yn union fel Crist
ynghrog yn rhewedig ac eto'n egnïol
fflachiad mellten ydyw
cyfeiriadaeth heb resymeg iddo
mae’n ymddangos
canfyddwn yr hyn a ganfyddwn
yn enwedig wrth arsylwi rhywbeth arall
yr hyn rwy’n ei hoffi am yr astroffisegydd
yw ei ragargoelion
pan ddywed efallai
pan ddywed bod ystadegaeth
wedi newid ffiseg
ei rhewi
ei gwagio
ei dadgnawdoli
pan ddywed nad sylwedd
yw sylwedd
mai heresi
yw amser a gofod
ein bod ni – bodau dynol –
yn cymryd ein hunain ormod o ddifrif
wrth gredu ein bod yn fregus
wrth ddyfeisio ein hunain yn rymus
ein bod yn dyfeisio cyfeirnodau
ein bod yn anghofio i ni eu dyfeisio
bod yn rhaid llacio gafael
pan ddywed efallai
ildio’r enaid i dy amheuaeth


Y cerddi gwreiddiol

Six arbres de fortune autour de ma baignoire

homme un peu animal un peu fleur un peu métal un peu homme 
(L’Homme approximatif, Tristan Tzara)


*

il y a sur nos têtes         une ombre verticale         qui vibre
une ombre qui claque sur nos têtes
un sifflement clandestin
dans la plaine aride      sur nos têtes
                                                                     encombrées

et pendant que ça siffle        que rien ne prévoit que ça siffle
que nos crânes bourdonnent
c’est un toit en béton qui accueille nos humeurs
nos flancs téméraires                     sur la plate-forme de fortune
                                                       la constellation larguée
dans le brouillard des sens

tu n’as pas abandonné l’épave poussiéreuse

des ombres verticales courent        à lisière de dunes
tes yeux emmaillotés derrière la glace concave
protection anti UV              non garantie

des touches noires            à lisiére de dunes
un solfège sans bruit

tu n’as pas abandonné l’épave poussiéreuse

une ombre verticale             plantée dans la plaine aride
que tu irrigues de promesses
l’organe métallique qui vibre         à lisiére de poumon
sur la plate-forme de béton
où les musiques s’entrechoquent 
protection                   non garantie
pour un totem                                         de fortune.
 

***


dans le jardin de rocaille
un homme muet danse
on ne sait l’oraison funèbre

un homme sourd dit-ton
sème des pas d’abondance 
et des cercles solaires

il n’est pas né pour entendre 
la déflagration du monde

y a-t-il un lieu échoué
sur une crête oubliée
où les nouvelles ne parviendraient pas
où les nouvelles ne se supposeraient pas
où les nouvelles ne se sentiraient pas
y a-t-il une brèche de temps
qui n’attende pas
de figer nos regards
sur les écrans asphyxiés ?

y a-t-il des yeux en ce monde
des oreilles en ce monde
qui soient nés
pour accueillir
en leurs âmes 
l’obscénité
l’obscénité
l’obscénité
l’obscénité
l’obscénité
et s’en détourner
et ne pas s’en détourner ?


***


ce que j’aime de Jésus
ce sont ses pieds délavés
et ceux de ses compagnons
– treize auréoles –
sur les icones abandonnées
du petit mont Athos bulgare
je ne parle pas du figuier
– le figuier que Jésus illumine –
ni de la roche en cascade
– ça ressemble plus au grand Canyon
qu’à la Galilée –
ces pieds finement délavés de Jésus
me font penser aux peintures rupestres
du Tassili
il n’y a aucun pied aussi finement
tracé sur les roches du Hoggar
ce sont des silhouettes longilignes
suspendues
exactement comme le Christ
suspendues figées et dynamiques à la fois 
c’est un éclair
une allusion dénuée de logique
en apparence
on trouve ce qu’on trouve
surtout si c’est autre chose qu’on observe
ce que j’aime de l’astrophysicien
ce sont ses pressentiments
quand il dit peut-être
quand il dit que la statistique
a altéré la physique
l’a figée
vidée
désincarnée
quand il dit que la matière
n’est pas matière
que le temps et l’espace
sont hérésie
que nous autres humains
nous prenons trop au sérieux
à nous croire fragiles
à nous inventer puissants
que nous inventons des repères
que nous oublions les avoir inventés
qu’il faut lever le contrôle
quand il dit peut-être
rendre son âme à ton doute

Pynciau:

#Yr Her Gyfieithu
#Cyfieithu
#Algeria
#Siân Melangell Dafydd