Cyfansoddi

Dalen Newydd

Myrddin ap Dafydd
17·05·2017

Dalen Newydd

Roedd honno'n dref a dalodd y pris
Pan ddaeth y bomiau o'r awyr las.
 
Penodau o'r llyfrgell chwilfriw a roed
Dan gyrff ar y stryd i arafu gwaed.
 
Darnau o deulu a heliodd eu pac:
Tai weiren bigog a lloches cefn tryc,
 
Nes baglu yma i'n breichiau gwyn
Ac estyn eu cais ar y ffurflen wen,
 
Cyn gweld yn y papur mai eu tynged o hyd
Ydi'r print sy'n arfogi'r gang ar y stryd.
 

Enillodd Myrddin ap Dafydd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith, ym 1990 a 2002.

Pynciau:

#Myrddin ap Dafydd
#Barddoniaeth