Cyfansoddi

Helyglys hardd

Natur heddiw

Siân Melangell Dafydd

Amser darllen: 8 munud

13·10·2021

Llun: Helyglys © Alan Fryer (cc-by-sa/2.0)

 

Doedd hi erioed yn ffordd gyhoeddus. Lôn bost fydda i’n ei galw, er y caf drefn am ddweud hynny – tydw i ddim yn gywir wrth honni’r fath beth. Ond i’m cof plentyn i, dim ond y postman ddefnyddiai’r ffordd, a lwybrai hefo afon Hirnant dros Garth Goch. Bydd postman yn canfod pob un ffordd gwta, wrth gwrs. Petai ambell i ffarmwr wedi cau eu cegau (nid fy ngeiriau i!) ryw dro yn y pumdegau pan oedd sôn am roi concrid ar lonydd cefn gwlad, ffordd fyddai hi bellach, efallai. Mae’n debyg mai milwyr Americanaidd ryw dro cyn D-Day grëodd y ffordd. Dim ond yn ddiweddar y gwyddwn i hynny, ac yna dychmygais pa dyfiant yn union y bu rhaid iddyn nhw ei glirio er mwyn torri llinell syth, bwrpasol o bont y Ceunant i’r fferm tu hwnt. Ai’r un planhigion welaf i heddiw? Ie, siawns mai’r un lliwiau a’r un blasau oedd yma, ond eu bod yn dal eu tir yn wahanol. 

Un haf yn y nawdegau, cyrhaeddodd miloedd o deithwyr ardal y Bala, a chynnal rave ar gaeau cyfagos. Bu ffermwyr yr ardal yn gosod rhwystrau o flaen eu giatiau: hen gerbydau, cerrig maen. Unrhyw beth amhosib ei symud neu amhosib gwasgu heibio iddo wrth i bebyll a charafanau ymddangos ar unrhyw sgrap o dir posib. Ar ddau ben y lôn fach hon (nad oedd hi erioed go iawn yn lôn bost!) ymddangosodd meini. Fel yr oedd hi, yr amser hynny, roedd dant y llew yn cosi gwaelodion ceir a feiddiai yrru arni. Erbyn heddiw, gwelaf un pant yn siâp y tir, a gwyddaf fod hwnnw, un tro, wedi bod yn ymyl ffordd. Ym mhobman arall, mae’r llwyni mafon yn f’anfon i igamogamu yn lle cerdded llinell weddol syth yr hen ffordd. Daw canghennau cerddinen yn isel mewn llefydd eraill a chau’r llwybr yn ddim byd ond twnnel. Gwyliaf fur o flodau helygys hardd yn yr awel, gan feddwl, sut ac yn lle’n union alla' i dwrio drwy hwn y flwyddyn yma, at yr afon? Ers rhai blynyddoedd bellach, does dim defaid yn pori ar y Garth ac felly does dim llwybrau, oni bai fy mod innau ac ambell i un arall yn cofio trywydd y defaid erstalwm ac yn mynnu cadw at bob un. Yma, dim ond meindyrau pinc wela’ i, a’u symudiadau tonnog yn ddigon i swyno rhywun nes anghofio unrhyw fwriad o ffeindio llwybr. 

Os bu rhaid i’r Americanwyr rwygo rhain o’u lle, dyna beth oedd straffîg, yn siŵr. Gwreiddiau ystyfnig sydd ganddyn nhw. Fel bambŵ, mae eu gwreiddiau’n ymledu’n llorweddol o dan y ddaear, yn fintai gref yn cydio’n dynn yn ei gilydd. Yna’n symud yn un yn y gwynt, bob planhigyn yn y rheng rhwng pedair neu chwe troedfedd o daldra. 

Yr hyn sy’n mynd â fy mryd ydi’r ffordd mae pethau’n newid. Tirwedd, ie, yn un peth. Mae’r helyglys hardd yn nodweddiadol am ei fod yn ymddangos ar diroedd lle bu tân. Tanchwyn neu Tanllys yw’r enwau eraill amdano yn Gymraeg. Does yr un flwyddyn yn pasio heb sôn am danau peryglus rywle yn y byd: Groeg eleni. Y blodyn hwn yw’r ffenics o’r lludw. Bu tanau yma, rydw i’n cofio. Ond tybed a fydd Tanllys yn ymddangos yng Ngroeg wedi’r tân neu a ydi hi'n rhy boeth? Gwyliaf danau bach y blodau pinc ac anfonaf fy meddyliau’n bell o’r lôn nad yw’n lôn i lefydd eraill dan ddinistr y foment hon. 

Dros y misoedd dwethaf, mae’r blodyn hwn wedi tyfu o fod yn egin blasus fel asbaragws yn gyrff tal o ’mlaen. Bydd hwn yn blodeuo’n raddol o’r gwaelod i’r brig gyda blodau pedwar petal sydd ond yn para deuddydd bob un, cyn gwywo a gadael lle i’r cannoedd eraill i ddod yn ystod y tymor. Ac yna’r gwallt gwyn! Bydd blew ysgafn yn ymddangos i gludo’r hadau ar gerrynt gwynt, i fagu gwreiddiau mewn llefydd pell, tir â dim byd ond olion tân arno neu mewn coedwig wedi’i thorri. 

Wrth fyfyrio ar dreigl amser, meddyliaf hefyd mor werthfawr oedd y planhigyn hwn, un tro. Mwy gwerthfawr, yn ôl rhai, nag aur neu ffwr. Gwnaethpwyd te ohono, ei flas yn fwy poblogaidd ym Mhrydain na the du yn y 19g: Ifan Tsai oedd ei enw, neu de Koporsci – te o Rwsia â blas dyfnach iddo na’r te du y gwyddom amdano heddiw. Diflannodd y te cyffredin hwn o’r silffoedd, rywsut – bydd rhai yn beio ymgyrch farchnata East India Company i ddisodli’r te poblogaidd, eraill yn sôn am gwymp cynhyrchu masnachol yn Rwsia yn sgil y Chwyldro. Ond wrth wylio’r suo nôl a blaen, gallaf goelio fod hwn yn gwneud te sy'n tawelu rhywun yn hytrach na the sy’n llenwi’r corff â chyffro caffein. Planhigyn ymlaciol, er ei enw tanllyd. Planhigyn sy’n adnewyddu’r corff fel y mae’n adnewyddu’r pridd ar ôl tân. Yn anfon maeth yn ôl i’r pridd a chreu’r amodau i blanhigion eraill ffynnu eto. Yn llenwi corff dynol â fitaminau A a C. Yn un tlws i minnau, yn un deniadol i’r gwenyn sy’n cuddio yn eu mysg. Bydd ffasiwn am un planhigyn yn gwywo a phlanhigyn arall yn cymryd ei le. Bydd ffyrdd yn troi’n goedwigoedd. Llwybrau defaid yn troi’n fôr o helyglys hardd. Dim ond un peth a wn i, i sicrwydd, a hynny yw bod popeth yn siŵr o newid. Ac wedi bod yn gorweddian, syllaf ar gymylau’n pasio: gwelaf yr helyglys hardd yn anfon llond y gwynt o hadau blewog gwyn, yn gyflymach na thaith y cymylau uwchben. 

Mae Siân Melangell Dafydd yn gweithio fel darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor ac ym Mhrifysgol Americanaidd Paris. 

Fel bambŵ, mae eu gwreiddiau’n ymledu’n llorweddol o dan y ddaear, yn fintai gref yn cydio’n dynn yn ei gilydd

Pynciau:

#Natur heddiw
#Siân Melangell Dafydd
#Byd natur