Llygaid doli
Natur heddiw
Mae hoffter, yn y Gymraeg, at ddychmygu ein blodau gwyllt fel llygaid sy’n edrych yn ôl atom. Byddaf yn cael ‘saib llygaid y dydd’ ar ddiwrnod prysur. Blodau sy’n ysgogi gwên, yn ddi-ffael. Daw atgofion creu cadwyni hefo ffrindiau, dotio arnynt yn agor gyda’r dydd a chau gyda’r nos.
Rai wythnosau, os nad misoedd cyn diwrnod cyntaf Ebrill mewn rhannau o Gymru, sylwaf ar lygaid Ebrill yn wincio’n llachar felyn. Ac ymhell cyn i’r blodau ymddangos, mae eu dail yn creu llawr glos o galonnau mân. Llygaid llawenydd ydynt, fel llygaid y dydd.

Bellach, tro’r llygad doli yw hi. Veronica yn Lladin: dychmygaf hi fel dawnswraig fechan ar ymylon ein byd. Mae Veronica angen lle i ddawnsio. Wnaiff y lawnt mo’r tro. Ond yn y darnau sydd fymryn yn fwy gwyllt – cysgod y wal, o dan y coed afalau – yno y bydd hi a’i choesau hir. Mae dwy ddeilen gymesur bob yn hyn a hyn ar ei choesyn – dyma ei thraed i ddychymyg plentyn. A chan fod profiadau cyntaf rhywun o unrhyw blanhigyn yn gwreiddio’n ddwfn yn y cof a’r galon, llygad doli fydd blodyn picnics plentyndod i mi am byth. Mae’n blodeuo i gyfeiliant cân adar ar ddiwrnod braf.
Ym Mhrydain, mae tua dau gant a hanner math gwahanol o Veronica. Glas yw eu blodau, nid annhebyg i na-wna-fi’n-angof (Myosotis sylvatica) ond fod llygaid doli’n bob-math-o-las mewn gwreichion o’r canol, fel iris llygad, a na-wna-fi’n-angof yn las neu biws neu binc gyda fflach felen yn y canol. Mae’r gwahaniaethau rhyngddynt, unwaith y bydd rhywun yn segura dros bicnic, yn amlwg. Un â phedwar petal a’r llall â phump, Veronica yn fwy swil, y coesyn yn clymu am bob tyfiant arall. Er hynny, mae’n debyg fod y ddau flodyn wedi eu cymysgu â’i gilydd, wedi rhannu a chyfnewid eu henwau a’u hystyron yn Ewrop y canol oesoedd. Defnyddiol yw’r Lladin pan fydd dadl ynghylch pa blanhigyn rydym mewn gwirionedd yn sôn amdano, ac un enw yn cael ei ddefnyddio ar lafar ar gyfer dau beth! Yn y Gymraeg mae dryswch yn aml wrth ddefnyddio’r enw hoffus ‘cacimwci’ hefyd, sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llau’r offeiriad (cleavers yn Saesneg, Gallum aparine yn Lladin) yn ogystal â’r cyngaf mawr neu fach (burdock yn Saesneg, Arctium yn Lladin).
Teimlaf fod llygedyn bach y llygad doli wedi cadw golwg arnaf yr holl flynyddoedd, wedi bod yn dyst i’m hamdden a’m chwarae. Oherwydd ei hyfrydwch a’r ffaith fod rhaid craffu arno i weld holl fanylder llewyrch ei lygad bach, byddwn yn taeru ei fod wedi cyfrannu at fwynhad prynhawniau gwyliau haf drwy wneud i mi arafu. Mae wastad wedi bod yno, yn saib, nid annhebyg i’r llygad y dydd o ran ei le yn fy nghalon, felly. Mae’r gofal yma amdanaf a synhwyraf ganddo i’w weld hefyd yn ei enw Saesneg: speedwell (‘speed the well’ fel yn The Winter’s Tale, Shakespeare). Yn nhermau meddyginiaethau ein planhigion gwyllt cynhenid, mae llygad doli yn gydymaith o safon, yn ‘dymuno’n dda’, fel petai, i’r ysgyfaint, yn clirio mwcws, yn gwared dŵr, yn fath o donic i’r corff cyfan. Ac os oes unrhyw amheuaeth wedyn mai blodyn i ofalu amdanom o blentyndod hyd at hen oed yw hwn, dylem sylwi ar godennau ei hadau. Os yw llygad Ebrill yn darparu lôn o galonnau i ni ddechrau’r gwanwyn, mae’r llygad doli yn ymadael â’i thymor, yn galonnau pitw gwyrdd o hadau, os down â’n llygaid yn ddigon agos i sylwi.
*
Ôl-nodyn: Canolbwyntiaf ar y ffordd mae’r Veronica yn fy ngwarchod. Er hynny, mae iddi lygad llai gofalus hefyd. O bigo’r planhigyn, buan iawn y bydd y blodyn yn disgyn, ac yn ôl cred gwerin, bydd hynny’n dod ag adar i ddial ar y sawl a wnaeth hynny, gan bigo eu llygaid hwythau! Gallai hynny achosi mellt a tharanau hefyd. Efallai mai dweud mwy am natur anwadal ein hafau mae’r gred honno. Doed a ddelo, daw taranau ar ôl heulwen. Rheol bywyd. Chwedl y blodyn doeth, llygad doli.