Mwy nag un
Y Cofnod

Golygfa o’r ffilm Nostalghia gan Tarcofsci
Ddoe, wrth groesi mynwent Montparnasse, mi wnaeth fy nharo nad ydi Paris yn ddinas sy’n ei chael yn hawdd croesawu’r nwydau. Er gwaethaf myth melodaidd ‘Paris in the spring-time’, chwedl Cole Porter, sef tymor y deffroad mewn llefydd eraill – dinasoedd hefyd – prin ydi llifeiriant Natur yma. Y peth agosaf a gawn i ‘ryferthwy mawr yn cyfodi o ystlysoedd y ddaear’ ydi’r stormydd mellt a tharanau y mae rhaid aros tan fis Mehefin amdanynt. Does dim hyd yn oed goed orennau yn gollwng eu swyn fin nos o’u blodau, fel yn Athen fis Ebrill pan nofia’r persawr yn araf drwy’r anialwch concrid; nac ychwaith, o aros tan ddiwedd haf, goed mêl yn dirgrynu’n flêr mewn corneli, fel yng Nghymru yn awel rynllyd diwedd Awst.
Ym Mharis noethlwm, yn absenoldeb llystyfiant, mae cynnal y nwydau yn gofyn ymrwymiad a dyfeisgarwch, meddyliais ddoe, fel ag yr oedd sefydlu’r tai galar a godid ar un adeg ar ben y beddi ym Montparnasse, yn ymgeledd cyfyng i weddi. Oni bai am yr ynysoedd tal gwneuthuredig hyn – sydd wedi eu haddurno’n gain ambell dro gan ddal y golau ym mhatrymau eu ffenestri lliw, celloedd lle mae modd, wrth synfyfyrio’n ddistaw ynddynt, weld pasiwn rhwng llawr daear a seler – trefn foel sydd i’r fynwent, a braidd rhy ychydig o ramant. Caiff arwyddion eu gosod yn ddestlus i rybuddio ynghylch amseroedd gorymdeithio lindys, sy’n crwydro rhwng f’esgidiau a’r beddi am ran o’r flwyddyn, mewn llinellau syth, y naill yn bwyllog y tu ôl i’r llall, gan ollwng eu gwallt gwenwynig yn ddiniwed, fel coed pinwydd eu nodwyddau sychion i’r gwynt; a ddiwedd dydd, bydd swyddogion mewn lifrai, weithiau ar ben beic, yn chwilota’r cefnau, rhag ofn bod rhywun wedi mentro gosod ei wely rhwng y cerrig. Mae’r fynwent yn barod ym mhob tymor: ar gyfer claddfa, i gael ei channu gan yr haul, neu i’w chwipio’n noeth gan y glaw. Pan ragwelir storm, hyd yn oed un dila, mae’r drysau’n cau.
Ond yn ddiweddar, deddfodd awdurdodau claddfeydd y ddinas y dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio plaladdwyr i ddifa tyfiant. Erbyn hyn, am ddiwrnod neu ddau yn unig mewn blwyddyn, ar ôl cawod dda a chyn i’r gwres mawr lethu breuddwydion, mae’r chwyn hyd y migwrn, a bron hyd y pen-glin ar ambell rodfa; mae’n ddigon i alluogi gweld cae o wair rhos yn symud yn yr awel, sy’n libart preifat pensyndod am funud. Ar ddiwrnod felly, ar ddiwrnod fel ddoe, caiff y meddwl fynd i grwydro, i loetran a dyheu yn ystlysau agored y fynwent, a warchodir gan bedwar clawdd, ac mae’r dyfodol wedyn yn lledu i’r gorffennol nes cael eu dal hefo’i gilydd yn llif y chwyn.
Yr wythnos flaenorol, pan oeddwn yn croesi’r fynwent ar berwyl arall, plygais i lacio fy sandalau. Oedodd dyn digon hen wrth f’ymyl a gofyn: ‘Chwilio am fedd yr ydych?’ ‘Na, cau f’esgidiau,’ meddwn a gwenu’n ôl. Yna, gan newid ei dôn a phwyntio am y de, ‘Fforcw mae o,’ meddai. ‘Pwy, felly?’ holais. ‘Baudelaire,’ atebodd, a mynd yn ei flaen. Dyna ddigri. Oedd o’n f’adnabod heb fod wedi fy ngweld erioed o’r blaen? Neu ai wedi colli ei bwyll yr oedd o? Achos pe bai rhaid dewis dim ond un o blith holl ddynion y fynwent hon, fel dwi’n dueddol o ailadrodd ond byth yn diflasu fy hun wrth wneud, mi fyddai’n anodd gen i roi’r gorau i Charles Baudelaire, fallai am resymau sentimental. Mae Samuel Beckett yn temtio hefyd, dyn bonheddig, mae’n debyg, sy’n ateb llythyrau gan hen ffrindiau hyd yn oed ar ôl magu croen enwogrwydd; a phe gwyddwn i sicrwydd na ddisgwylid i mi ddarllen pob gair ganddo, Sainte-Beuve yn ogystal – beirniad a fu’n llym ar Baudelaire ac sy’n sibrwd, ‘Trugaredd!’, bob tro y byddaf yn ei basio – yn fwy na dim oherwydd y ffordd y’i hanfarwolwyd gan wep y cerflun Mona Lisaidd ar ei fedd. Ildio y byddwn iddo yntau petai Baudelaire eisoes wedi mynd.
Cefais f’atgoffa gan y sgwrs yn y fynwent o ddyn arall y byddaf yn ei weld yn rheolaidd, mewn stryd gyfagos, dyn nad wyf erioed wedi torri gair ag o, dim ond nodio pen a gwenu wrth basio. Rhyw deirgwaith yr wythnos, mewn trowsus cwta yn aml, sgrepan ledr ar ei ysgwydd, mae’n pwyso am fwy nag awr ar y tro yn erbyn wal pencadlys y Société de psychanalyse freudienne yn craffu trwy sbectol ddarllen ar ddarn o bapur neu lyfr, â phensel yn ei law. Gwneud pos y mae o? Ai wedi dod allan o gyfarfod i gael hoe? Neu dramp? Mae ei wallt wedi ei lapio o gwmpas ei ben a’i ên, yn wrych o wlân dafad mewn drain, fel bandais cartref am ddolur mawr. Weithiau, dwi’n meddwl mai aros am apwyntiad y mae, dro arall, ei fod wedi dod yno am newid, am ysbrydoliaeth fallai, neu ei fod ar goll mewn ffantasi o’i wneuthuriad o’i hun a neb arall. Pan dwi’n pasio, mae’n sbio arnaf, a byddaf yn teimlo fy mod yn ei ’nabod yn iawn, a’i fod yntau yn gweld trwof. Ymhlyg yn ei fwng a’i ddillad aflêr, heb eu golchi, ei goesau cyhyrog wedi melynu yn yr haul, mae’n edrych yn beryg o gyfarwydd, fel petai adnabyddiaeth gywir rhyngom eisoes. Ai fersiwn esblygedig o rywun arall ydi o? Wedi’r cyfan, does dim rheswm fy mod yn ei ’nabod; a does dim byd, mae’n hawdd anghofio, sy’n bodoli ddim ond unwaith, dwi’m yn meddwl. Does dim sy’n absoliwt ym myd natur, meddai Baudelaire yntau, dim nad oes gofyn ei ailadrodd ar ryw ffurf; does unpeth yma sy’n gyflawn ynddo’i hun – fyddai hynny’n gwneud dim synnwyr. Dipyn bach yn debyg fallai i syniadau a chyfansoddiadau nad oes perchnogaeth lawn i fod arnynt. Mae symud rhwng y dyfodol a’r gorffennol yn ddigon tebyg hefyd i chwilio am frawddeg goll mewn llyfr, fu’n troi a throsi’n amddifad yn y meddwl, a sylwi, wedi dod o hyd iddi o’r diwedd, nad cweit yr un frawddeg mohoni wedi’r cyfan. Mae’n help gweld yn gam wrth gofio, dwi’n siŵr, er mwyn cael syniadau newydd, er mwyn mynd ymlaen.
Wrth i mi gerdded yn fy mlaen felly drwy’r fynwent ar y diwrnod perlesmeiriol dan sylw, sef ddoe, medrwn glywed arogldarth gwneud Baudelaire, y pêr ystor a’r thus sy’n ‘canu llesmair yr ysbryd a’r synhwyrau’, yn ymestyn fel pethau tragwyddol yn nheml Natur, a dechreuais gofio sut y mae paratoi i fynd i weld cariad yn debyg i baratoi at weddi, fel petai rhywun yn gwybod, waeth am y pedwar clawdd, nad oes modd caru go iawn a chuddio yr un pryd; bod wynebu cariad, boed hen neu newydd, yn debyg yn ei ffordd ei hun i wynebu’r anfeidrol. Drychau wedi pylu ydi llygaid dyn yn ‘Bendith’ Baudelaire, nid ffenestri tua gwyll y golau eithaf, ond hyd yn oed yn eu meidroldeb llethol, mae cyfarfod trem ambell un, yr ysblander galarus, sy’n perthyn nid yn unig i’r gorffennol ond hefyd i’r amser a ddaw, yn ddigon i beri i mi droi; er mai aros yr hoffwn ei wneud mewn gwirionedd.
*
Gweddi o ryw fath, er cof y cynllunydd am ei fam, oedd sioe ffasiwn y bûm ynddi y noson o’r blaen. Sioe heb lwyfan, heb gerddoriaeth na ffotograffwyr ydi Moda Povera V, sioe ffasiwn lle does yr un dilledyn ar werth. Â thechnegau haute couture, datododd Olivier Saillard ddillad ei fam, y degawdau o sgertiau a chotiau o siopau cadwyn a adawodd ar ei hôl, a’u trawsffurfio yn wisgoedd nobl. Daw hen hancesi poced Renée – gyrwraig tacsi yn ei dydd oedd yn ofalus o’i dillad ac yn hoff o steil – yn bâr o fenyg gwynion, a chynfas deuluol yn flows laes, crysau synthetig yn ffrog hir urddasol efo cyffyrddiadau o hiwmor; a chôt nos ddigon rhwysgfawr, wedi i’w mab ei phinio’n dusw, yn rhosyn Saron am ei hysgwyddau, gan ddod â lliw i’r gorffennol a’r dyfodol a chreu darlun cynhyrfus o einioes mewn cwpwrdd. Meddai’r llais drwy’r meicroffon wrth i ymgnawdoliad syber Renée gerdded tuag ataf ar draws y llawr, gan beri i mi blygu pen ac edrych ar fy ngliniau, ‘Mawl i ’chydig: Ei chôt nos a’r llenni ynghau, wedi ei thrawsffurfio yn siaced nos, â leining, gan roi argraff o flodau – heb y sent.’
Mae rhywbeth nodweddiadol o Baris am wniadwaith Saillard, am y steil y mae’n ei greu, y brodwaith, o ddarnau sylfaenol – rhywbeth y sylwais ei fod yn wir am ffasiwn ar strydoedd dwy Baris dwyrain Ewrop yn ogystal, ym Mwcarest a Bwdapest; mor nodweddiadol hefyd ydi torsythu’r wraig geinwych gwallt gwyn sy’n ymgorffori Renée a’i dillad. Mae hi’n gwneud anghenraid bob dydd, megis gwisgo a cherdded, yn fater o farn Prydferthwch. Wrth ei chynorthwyo i wisgo a dadwisgo rhwng pob dangosiad, ambell dro mae Saillard yn cymryd ei amser i sythu ei gwallt yn ofalus, a thro arall i wenu’n ddidwyll arni. Digon posib eu bod wedi perffeithio’r perfformiad, ond mae pasiwn rhyngddynt. ‘Gwawl angof, coch llosg yr haf, inc du yn disgyn yn bletiau llaes,’ yn gorwedd fel pais fregus madarchen y maes, meddyliaf, ‘tri chrys-t disylw, trowsus wedi colli ei liw, wedi eu cymodi a’u cysoni’ meddai’r llais yn y meicroffon. Fel petai creu, celfyddyd, yn fath ar mnēmonikos, yn gofair gogoniant; ac er mai ‘o ran’ yn unig y gellir gweld yr hyn sydd wych – wedi’r cyfan, mi fyddai dynwarediad rhy berffaith yn difetha’r goffawdwriaeth – wrth ei gnawdoli mewn perfformiad, mewn darlun, mae bron â dod allan amdanom o’r myrtwydd.

‘Madonna'r Esgoriad’ gan Piero della Francesca (Wikimedia Commons)
Wrth i Saillard ddadlennu bywyd Renée o’r newydd fel hyn a chymryd y dillad bob yn dipyn o gwpwrdd blodau-einioes ei fam, fel petalau yn cael eu tynnu’n ofalus, un wrth un, oddi wrth eu pistil, fel cŵn bach oddi wrth eu mam, a’u gwasgu a’u sawru cyn eu gollwng i’r gwynt, fel fersiwn mwy llonydd o’r adar yn Nostalghia Tarcofsci, a ddaw allan yn un stŵr wrth rwygo bol y Forwyn Mair – model maint llawn a wnaethpwyd gan ferched sy’n dyheu am feichiogi ac a gludir yn offrwm gerbron allor yng nghysgod ffresgo Madonna’r Esgoriad Piero della Francesca, Madonna sydd â dau angel yn agor llenni o bomgranadau bob tu iddi, yn symbol o basiwn Crist – mae’n gwneud i mi feddwl am Rimbaud, a ystyriai Baudelaire yn frenin y beirdd, a’i osodiad, ‘Je est un autre’, mai arall yw fi.
Somathèque o fath ydi’r ‘fi’, fallai, corff synhwyrus nad ydi’r gwyddorau, y gynneddf i astudio trefn pethau, wedi ei lwyr ynysu rhag clywed adlais diangor, boed mewn llygaid neu mewn delw; corff sy’n llestr i fasnach lifo trwyddo, ei raison d’être, a gaiff ei ddal mewn amser gan ddrychiolaethau sy’n dwysáu’r dychymyg, ac yn ei wnïo’n un darn o ddinas fawr ddihenydd. Dyma lle mae rhyfeddodau yn llifo’n ddistaw fel sug yn y gwythiennau cul, sy’n codi i’r wyneb ambell dro yn chwyddedig las ar goesau lluniaidd, fel rhaffau ar wynder iasol y Matterhorn, a dro arall mewn gwedd drugarog. Rhoi bod i broses esthetig y mae dyheu, y nwydau, yn gymaint â bodloni hiwmor y cnawd; ffordd o ddychwelyd at ‘fi’ estynedig trwy gyfrwng ffuglen rhwng dau, gwaith sy’n medru ymestyn ambell dro, fel yn achos Baudelaire a Tarcofsci fel ei gilydd, yn gynfas fawr rhwng geni a marw.
Does ryfedd fod Paris yn dal i roi bod i gymaint o bethau cain. Mae absenoldeb Natur yn ysgogiad i greu yn ei lle. Ond tydi’r holl sôn am ail ddangosiad a’r cyflyrau lluosog ddim i olygu nad oes dim yn y byd hwn sy’n unigryw ychwaith. Mi roedd y dyn yn ei ôl o flaen y Société de psychanalyse freudienne pan oeddwn ar fy ffordd adre gynnau. Mae’n gwisgo crys cyfarwydd heddiw – mae gen i un fy hun – o sgwariau glas a du. Wrth i mi ddynesu ato, mae’n dechrau symud yn araf, fel crwban mawr yn deffro, braidd yn hwyr, o’i dwll gaeafu i oleuni’r gwanwyn, yn ymestyn ei wddf yn bwyllog o’i gragen; gŵyr fod ganddo ddigonedd o amser, oherwydd mi fydd fyw yn hwy o lawer na phawb o’i gwmpas. Mae’n dechrau ymlusgo i’r cyfeiriad arall, i’r Boulevard du Montparnasse, heibio cartrefi dros dro yr enwogion tlawd o’r byd celf sydd wedi hen fynd bellach, ar hyd y stryd goncrid boeth, a’r asffalt y tro hwn fel mwd wedi sychu yn hollti’n agennau o dan ei bwysau. Os aiff yn ddigon buan, mi fydd yn pasio dau arall o eiconau’r hwyrddydd. Mi fyddant hwy yn fy mhasio ar nos Fawrth, eu llygaid wedi eu gosod ar y gorwel, does ots am fwstwr heddiw, yn cerdded fraich ym mraich i’w rhythm eu hunain; maent fel dwy facrell ddisglair yn ufuddhau i batrwm haig anweledig, yn nofio trwy lyn y Closerie des Lilas – bwyty a chaffi a bar hanesyddol sy’n gorlifo i’r palmant ac yn tywyllu pen y Boulevard, nad oes modd edrych i mewn arno oherwydd trwch y planhigion gwneud sy’n cau o’i gwmpas a’i gleientél, fel petai’r perchnogion wedi hen sylweddoli bod golud oes aur Montparnasse wedi breuo, a bod rhaid gwarchod pob diferyn sy’n weddill mewn tanc. Gwn fod y pâr ar eu ffordd i gaffi bach cyfagos lle byddant yn eistedd ochr yn ochr wrth fwrdd fformica coch, yn parhau i syllu’n syth o’u blaenau, a drych o’u holau, megis darlun arall o law Toulouse-Lautrec. Mae het Wsbecaidd o gôt gyrliog oen am ben y dyn. A phan edrychaf ar y ddynes, nid wyf yn siŵr pwy a welaf: ai hi, neu ai fy nghyn-gymdoges anghenus a gosgeiddig o Brasil, a fyddai’n byw mewn mochyndra uwch fy mhen ond yn ymddangos ar y stryd yn ei sidan, fel chwiler yn torri allan o’i wain drosodd a throsodd i agor ei adenydd gloyw i’r byd; ei chorff erbyn hyn – a hebryngwyd gan ddau fardd dienw, angylion ar gost y wlad sy’n gwasanaethu’r diymgeledd yn ddiwahân o oerdy’r ysbyty i’r bedd – yn llonydd, yn gorwedd ym mynwent Thiais, fel Paul Celan. Neu ai rhywbeth arall sydd yna, rhyw greadur bywiol ansefydlog sy’n llusgo, yn hel ei draed mewn mwy nag un cyfnod, a’r ddynes, os felly, yn ddim llai na chynghanedd mewn emyn mawl, yn cario rhywbeth mwy na hi ei hun rhwng gorffennol a dyfodol – i’w dychwelyd maes o law, yn ôl Baudelaire, gan frwsh paent, neu siswrn a nodwydd, i’w gwirionedd gwynias, ei chynghanedd gynhenid a neilltuol ei hun, ‘l’éclatante vérité de son harmonie native’?
Er yn rhamantaidd, ac er nad wyf erioed wedi bod mor wirion â dyrchafu’r beirdd, mae hyn i gyd yn wir. Cynfas ydi’r cysgodion, preswylfa bodau diflanedig â’u trem gyfarwydd, sy’n llamu yn eu miloedd o lygaid obsesiynol yr artist. Wedi dweud hynny, pan es i gynnau yn ôl i’r fynwent, roedd y gwair rhos wedi ei dorri’n galed, yn ôl y disgwyl, ond mi roedd persawr blodau tilleul yn felys drwy’r aer, yn ogoneddus. Dyma’r tro cyntaf erioed i mi sylwi ar y coed pisgwydd ym Mharis. Dwi’n rhyfeddu. Mae’r arogl ym mhob man ac mae’n feddwol. Rhaid mai dyna’r rheswm i mi droi’n ôl at Baudelaire a’i linell gysur: ‘I’r hwn a ddarganfu lesmair gorawen aneirif mewn un eiliad, pa ots am dragwyddoldeb damnedigaeth.’ A dechrau meddwl am ddyheu.