Y bywyd dwbl
Deugain mlynedd yn die Fassbundesrepublik
Ian Penman
Fassbinder Thousands of Mirrors
Fitzcarraldo, 200tt, £12.99, 2023
Rainer Werner Fassbinder
Die Ehe der Maria Braun
120 munud, 1978

Emyr Glyn Williams
Fis Tachwedd y llynedd, pan glywais fod llyfr newydd am Rainer Werner Fassbinder ar ei ffordd gan Ian Penman, cysylltais ar f’union â’r cyhoeddwyr i ofyn am gopi adolygu. (Cewch weld, this is personal!) Roedd llyfr blaenorol Penman, It Gets Me Home, this Curving Track (2019), yn gasgliad gwreiddiol o bortreadau treiddgar a dadansoddiadau gwych o ddylanwad artistig rhai o arwyr yr awdur (Sinatra, Presley, James Brown, Charlie Parker, Prince). I mi, roedd yn ddatguddiad personol o ran sut i ysgrifennu fel dyn canol oed am teen crushes – yr unigolion arallfydol yna y gwirionir arnyn nhw yn yr arddegau ac sydd byth wedyn yn ein gadael.
Yn ei ragymadrodd i’r casgliad honnodd Penman, ‘Mae cadair wag wrth galon y llyfr hwn’, cadair a gadwai ar gyfer rhywun sy’n ddylanwad hanfodol arno na allai ddychmygu ei grynhoi mewn print. Bryd hynny, hawliodd y lle hwnnw ar gyfer Billie Holiday, ond roedd yn amlwg fod ganddo gadair wag arall mewn ystafell gefn dywyll, cadair y mae bellach yn ceisio ei llenwi â bywyd a hanes chwedlonol yr eiconoclast ffilmiau o’r Almaen, Rainer Werner Fassbinder.
Ond tydi’r awdur ddim yn hyderus y bydd y llyfr diweddaraf hwn yn gweithio. Tydi o ddim yn sicr a yw esbonio apêl ei destun – yr hanner canrif a dreuliodd yn edmygu Fassbinder a’i ffilmiau – yn dasg werth chweil, hyd yn oed. ‘Let the ruin attract its own spectres’, dyna ydi ei ffordd eitha hands-off o fynd ati i sgwennu’r gyfrol. Gŵyr hefyd fod trwch cymdeithas y cinéastes yn 2023 yn byw a beirniadu ar draws y cyfryngau cymdeithasol; mae’n ofni y byddant yn gweld ac yn barnu diffygion niferus Fassbinder ar unwaith, ac yn ei ddiystyru a’i feirniadu’n hallt cyn darllen gair o’i lyfr. Er bod yr agwedd negyddol hon yn ddirgelwch iddo, mae’n synhwyro bod yr oes fodern wedi cefnu ar yr athrylith o Bad Wörishofen.
Ond wedyn, yn y gymdeithas heddiw, sy’n llawn camweithredu diamwys a phobl sydd wedi arfer strancio ar y cyfryngau cymdeithasol, pam nad ydi Fassbinder, i’r gwrthwyneb, yn cael ei barchu fel brenin? Gyda’i ‘gynddaredd anhygoel’, meddai Penman, ei ymwrthod ag iwtopiaeth, ei ragrith, ei dymer flin, safonau dwbl, gemau emosiynol, deurywioldeb, hoffter o cocaine a wisgi, a chreulondeb, oni fyddai yn unben naturiol, yn ddigon eironig, ar y deyrnas ar-lein wyllt a brawychus hon? Pam lai, yn wir? Wedi blino gweld eu hwynebau yn ei ddrych sinematig y mae pobl, debyg iawn, a balch, hyd heddiw, o gael gwared arno. Fallai mai blynyddoedd o dorri’n deilchion y rhagrith bourgeois a welai o’i gwmpas yn yr 1970au sydd wedi alltudio Fassbinder i’r cyrion. Ond mae ei edmygwyr, a finnau yn eu plith, o’r farn bod ei ffilmiau yn rhan greiddiol o unrhyw drafodaeth gyfoes am ddiwylliant, hanes neu wleidyddiaeth.
Mae Penman yn pendroni, ar y llaw arall, tybed a ellir ymddiried ym marn dyn sy’n ‘arbenigo mewn gwenwyn ond heb ddiddordeb mewn iachâd’. Mae o hyd yn oed yn ystyried a ddylai fod ‘wedi cymryd rhywun arall fel role-model – rhywun sydd am fod yma i’r hir dymor, nid plentyn gormesol’. Gwir, mae popeth, bob amser, yn bersonol i Fassbinder: teimladau, blydi teimladau! Emosiynau dynol sy’n cael ei sylw mewn ffilm ar ôl ffilm, sy’n ymledu’n flêr ar draws dychymyg byw ei gynulleidfa ac ar draws ei fywyd personol ef ei hun hefyd, tan ei farwolaeth yn 37 oed. Adnabod ei destun yn rhy dda y mae Penman, o bosib. Ond fel petai’n gymeriad mewn ffilm gan Fassbinder ei hun – dyma un o themâu mawr cymaint o ffilmiau mwyaf arwyddocaol Rainer, wedi’r cyfan, er enghraifft The Bitter Tears of Petra von Kant (Die bitteren Tränen der Petra von Kant, 1972), Fear Eats The Soul (Angst essen Seele auf, 1974), Fox and His Friends (Faustrecht der Freiheit, 1975), In a Year of 13 Moons (In einem Jahr mit 13 Monden, 1978) – mae yna obsesiwn rhamantaidd ar waith ganddo, does dim dwywaith.
Aiff Penman yn ei flaen i geisio pwyso a mesur gwerth y berthynas hon. A ydi Fassbinder yn un o’r dolenni coll hanesyddol hynny sy’n mynd â rhywun o fod yn enaid ynghwsg i fod yn enaid effro i weledigaeth? Ai pont ydi Fassbinder? Grym sy’n ein llusgo ymlaen, y bardd a’r gweledydd olaf cyn i bopeth newid – cyn AIDS, cyfrifiaduron, cyllid byd-eang, ailuno’r Almaen – rhywun sy’n gweld y dyfodol yn gyntaf? A oedd ei wirionedd mawr, syml – ‘Mewn bywyd go iawn y mae lle chwyldro ac nid ar y sgrin’ – yn rhy syml ac yn rhy anodd yn yr un gwynt i bobl ei dderbyn? Fallai ein bod wedi ‘dadesblygu’ yn rhy bell fel cymdeithas i weld gwir werth ei waith: ydi’r ‘sioe fawr’ sydd bellach wrth y llyw (la société du spectacle, chwedl Guy Debord yn 1967), ein caethiwed mewn bywyd ar-lein, yr ysfa am ddiweddglo hapus a’r sentimentalrwydd plentynnaidd sy’n rhemp drwy’r celfyddydau y dyddiau hyn, yn drech? Yn sicr, mae’r cyfle i fyw bywyd geirwir, diffuant ar ddarfod, fallai nid am y tro cyntaf – a gadewch i ni fod yn onest, bywyd ‘personol’ yng ngwir ystyr y gair (does neb yn berffaith) – fel y gwnaeth Rainer, i’r eithaf. Dim ond ‘rolau’ neu’r ‘hunaniaethau’ taclus y gellir eu rheoli sydd ar gael erbyn hyn i artistiaid ‘llwyddiannus’, sy’n bihafio er mwyn cadw gafael ar eu nawdd a’u cynulleidfa biwritanaidd.
Yn groes i’r graen hwn, mae ffilmiau Fassbinder yn dweud wrthym yn glir fod popeth yn dechrau gyda’r unigolyn yn ysgwyddo cyfrifoldeb drosto’i hun: does dim modd diosg eich croen a cherdded i ffwrdd; mae Fassbinder yn mynnu gonestrwydd. Rywsut, rhaid aros yn driw. Ond yn eironig, er mwyn goroesi, penderfyna Maria Braun, ei gymeriad mwyaf adnabyddus, ‘aros yn driw’ trwy droi’n workaholic diemosiwn sy’n anwybyddu gwleidyddiaeth a hanes. (Beth amdanoch chi? Beth ydi eich dewis chi?)
A beth am Fassbinder? ‘Yr unig beth y gallwn ei ddiystyru yw llofruddiaeth,’ meddai’r awdurdodau adeg ei farwolaeth. Daethpwyd o hyd iddo wedi ei amgylchynu gan gyffuriau, wisgi a phentwr o ddoleri, wedi iddo weithio ei hun i farwolaeth yn ei fflat yng nghanol dinas München. Ceir yr argraff nad oedd Rainer, a holl cinéphiles y byd, yn ôl pob tebyg, yn ystyried ei farwolaeth yn ddigwyddiad mor annisgwyl â hynny – roedden nhw’n ei gweld yn farwolaeth werth chweil hyd yn oed, yn bris teg am y rhyddid i groniclo ei wlad a’i phobl ar y sgrin mewn cyfres o gampweithiau diflewyn-ar-dafod.
Ni fyddai dadansoddiad rhesymegol ond yn mynd â chi gam o’r ffordd wrth geisio deall apêl y dyn hwn. Fel y dywedais eisoes, mae hyn yn fater personol i mi ac i Penman a’i lyfr: ‘I can still recall the feelings of shock and disbelief, and what else? Something like exaltation on encountering Fassbinder and his work. His films good or bad – I am still utterly magnetized by them,’ meddai.
*
Mae hunaniaeth yn thema fawr yng ngwaith Fassbinder. Diffiniodd hyn fel ‘dod o hyd i’ch hunan gwirioneddol a dod yn un ag ef’. Ond er mwyn datblygu’n berson cyflawn roedd yn credu bod angen nid yn gymaint crebachu’r hunan yn graidd rheoledig ond ei ddyblu. Dyma adleisio anogaeth enwog y bardd Arthur Rimbaud, ‘Je est un autre’ – byddwch fwy na chi eich hun, byddwch yn berson amgenach hefyd, a rhyddhau eich creadigrwydd. Cydnabyddai Fassbinder fod grym anhysbys, isymwybodol ynom sy’n rheoli ein gweithredoedd a’n hysgogiadau ac, yn ysbryd Goethe, mai fel organau eu canrif y gellir deall y mwyafrif o bobl. Yr un pryd, gonestrwydd ydi cydnabod ein bod yn fwy na ni ein hunain. (Ac onid y geiriau ‘Dwed wrthyf, Awen, am y dyn amrywiol ei ffyrdd’ sy’n agor Odyseia Homer?) Mae dyblu hefyd yn therapiwtig, yn rhyddhau’r hunan o’i ‘fersiwn swyddogol’, ac yn gyfle i ddianc rhag caethiwed hen arferion a niwrosis. Aeth Freud i’r afael â hyn gyda’i ddamcaniaethau am ryw – gwelodd fod angen i ni ddyblu ein hunain oherwydd bod yr ego wedi ei ddal mewn brwydr dragwyddol rhwng yr uwch-ego, sy’n gyfrifol am gyfraith a threfn, a’r id, sef lle’r chwantau a’r breuddwydion.

Rainer Werner Fassbinder a Hanna Schygulla (Llun: Archiv)
Mae yna ddyblu sinematig amlwg yn ffilmiau Fassbinder mewn sgriniau a drychau, a realiti’n cael ei ffilmio fel pe bai’n freuddwyd, ac i’r gwrthwyneb. Mae’r dyblu amlycaf oll, wrth gwrs, yn rhywiol, y ‘benyw’ yn dyblu ar gyfer y ‘gwryw’, ac fel arall. Roedd Fassbinder yn obsesiynol yn ei driniaeth o’r grymoedd anymwybodol hyn a byth yn diflasu ar ddatgelu ac archwilio’r ‘fi’ arall hwnnw sy’n perthyn i ni i gyd.
Fel teyrnged i’r ymchwil Fassbinderaidd hwn, bydd yr ysgrif hon – a’r awdur ei hun – yn dyblu o hyn allan. Dyma dechneg sy’n fy ngalluogi i hollti a chwilio am wirionedd amgen, un sydd yn dal ynghudd, fallai. Yng nghanol cyfnod ansicr i mi (mwy am hyn yn nes ymlaen), rydw i’n ymddiried yn noethineb Rainer. Gwaith pwysig ydi’r hollti a’r chwilio hwn, sydd yn cael ei ddiffinio gan Fassbinder fel ‘llafur gwrthwynebiad’.
*
Ar ddechrau’r erthygl hon soniais mai mater personol ydi fy mhenderfyniad i sgwennu am y llyfr hwn gan Penman. Gadewch i mi egluro. Mae’r cyfan yn dechrau gyda marwolaeth Fassbinder yn 1982 a gydag ysgrif goffa gandryll Ian Penman ei hun a ymddangosodd yng nghylchgrawn cerddoriaeth wythnosol yr NME. Darllenais hon yn fachgen pymtheg mlwydd oed. Efallai na wnaeth darllen yr ysgrif goffa hon sbarduno hollt yn fy mhersonoliaeth ond roedd yn bendant yn cynnig addewid o fodolaeth ddeuol i mi wrth i Fassbinder, a’i gymeriad enwocaf, Maria Braun, gamu i fy mywyd a fy nghodi fry gan fynd â fi am y tro cyntaf – ddeugain mlynedd yn ôl – i’r ‘Safe European Home’ chwedlonol yna (The Clash, 1978). Yn 1982, ro’n i’n teimlo’n rhydd, i raddau, o ansicrwydd fy llencyndod ac yn laslanc llawn golau a gwres, yn unigolyn a oedd yn cael ei yrru ymlaen gan bwrpas a chenhadaeth glir i fyw bywyd wedi ei bennu i mi gan gerddoriaeth, sinema a llenyddiaeth.
Wnaeth gwers syml Fassbinder – mai mewn bywyd go iawn y mae’r chwyldro angen digwydd, nid mewn celfyddyd – erioed fy ngadael; a geiriau ysgrif goffa Penman ydi dechrau hynny. Daw dylanwad celfyddydol Fassbinder i reoli fy nymuniadau a f’ysfa greadigol yn ystod y blynyddoedd i ddod: mae’n f’ysbrydoli i fyw bywyd creadigol annibynnol, off grid, fel petai. Mae fy ‘nwbl’ cyhoeddus, Emyr Ankst, yn medru dychmygu ei hun y tu allan i’r drefn gymdeithasol. Trwy gyfnod Recordiau Ankst, a’r prosiectau eraill y bûm ynghlwm â nhw, mae’r ymdeimlad o ryddid i beidio â dilyn y dorf yn tyfu – a hynny o wreiddiau dwfn a blannwyd gan y cysylltiad cychwynnol rhyngof i a’r Almaenwr, diolch i ysgrif Penman.
Ac yn ôl at y ‘dyblu’: wrth gwrs, ro’n i wedi fy ‘nyblu’ cyn dechrau (fel pob un o ddarllenwyr selog eraill O’r Pedwar Gwynt!). Cyn gwybod am Freud, Fassbinder neu unrhyw un o’r lleill, roedd y Gymraeg wedi fy nyblu yn y modd mwyaf sylfaenol, mewn modd sy’n ddyfnach na’r esboniadau seicolegol neu seiciatryddol y gallwn eu darganfod yng ngwerslyfrau Fienna. Mae’r bywyd Cymraeg gen i ac mae’r bywyd arall gen i – Saesneg, Eingl-Americanaidd, Ewropeaidd... Roedd yna rywbeth bwriadol hefyd am y dyblu cyntefig yma. Mi es ati i drwytho fy hun ym mhair diwylliant amgen Cymraeg. Y ffordd symlaf o esbonio’r broses hon ydi cyfaddef i mi wrando’n obsesiynol ar rediad o chwech o albyms Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr o 1976 hyd at 1982, gan ddrachtio’r cyfanwaith yn ddwfn a sylweddoli bod diwylliant modern yn bodoli yn yr iaith Gymraeg wedi’r cyfan. Tydi’r profiad erioed wedi fy ngadael (ac mae Ankst heddiw yn dal i ymfalchïo mewn rhyddhau albyms gan Jarman). Yn ychwanegol at gampweithiau Jarman, ro’n i’n nofio yn oes aur wych canu pop Prydeinig y cyfnod. Dwi’n meddwl yn syth am oddballs fel The Associates a’r record Sulk, a New Order yn ffrwydro popeth gyda ‘Temptation’, sy’n gyfuniad campus o emosiynau cynnes a synau electronig oeraidd.
Yn y 12 mis nesaf byddwn yn gadael fy swydd wyliau yn siop sglodion Copper Kettle ym Mhorthmadog ac yn mynd i fyd gwaith go iawn yn chwarel Maenofferen. Deuthum yn fachgen cyflawn gyda’i sach deithio a phecyn bwyd, ar ei ffordd i’r caban chwarel olaf. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’r safle hwn yn adfail, wedi ei reibio, ac olion diwydiant wedi hen ddiflannu; mae heb gariad ac yn gleisiau i gyd, ar ben tomen sbwriel, yn syllu i lawr ar y dref orau yn y byd. Ond eto, i mi, dyma’r unig safle yng Nghymru gyfan y gallwn ei alw’n dir cysegredig. (Bydd fy lludw yn chwythu i mewn ac allan o’r trawstiau a’r colofnau llechi hyn cyn hir.)
*
Wrth edrych yn ôl, dwi’n meddwl bod a wnelo fy mharodrwydd i ddilyn Fassbinder, a’r obsesiwn personol yma efo’i fywyd a’i waith, â fy naïfrwydd gwleidyddol – a diffyg pesimistiaeth asgell chwith (dyma ochr arall y geiniog ddiwylliannol Gymraeg, y cwyno a’r digalonni, a’r gweld bai ar bawb a phopeth a ystyrir yn wrth- neu ddi-Gymraeg). Mae fy natur bositif yn rheoli: haws i mi ydi byw bywyd sydd yn pro Art yn hytrach na bod yn wleidyddol negyddol! Ni allaf fynd i’r drafferth o ailadrodd unrhyw un o’r ‘siomedigaethau’ diwylliannol a gwleidyddol sy’n ofynion bod yn Gymro da – dwi i fod i ddigio a heb anghofio byth, ond alla i ddim, can’t be bothered, sori. Weithiau, mi fydda i’n pendroni a ydi diwylliant Cymraeg hyd yn oed yn bod yn ei rinwedd ei hun i’r bobl yma sydd byth a beunydd yn cwyno am feirniadaeth gan Saeson ar y Gymraeg. Mae fel petai’r byd Cymraeg yn ddibynnol ar y cwyno a’r sylw negyddol dros y ffin ac nad ydi o’n bodoli hebddo. Fy nghyngor i ydi: anwybyddwch nhw, bobl! Digon gwir fy mod yn clywed am y pethau hyn yng ngherddoriaeth Geraint Jarman yn gymaint ag yn unrhyw le arall ond mae gen i lawer mwy o ddiddordeb mewn dyfalu i ba wlad y gallwn i ymfudo yn hytrach na gweithio ar ryddhau’r un sy’n perthyn i mi. (Pwy sydd isio byw mewn gwlad rydd llawn cwynwyr diflas? Ddim fi, x.)
Mewn geiriau eraill, ni welais (na cheisio) myth yn fy ieuenctid – ac eto dyma fo’n dod i’m cwrdd, yn farw, ac yn holl-bwerus, i ddweud wrtha i fy mod i, fel ei holl gymeriadau, wedi fy nieithrio oddi wrth realiti a hunaniaeth driw, ac mewn perygl o gael fy nhrin a fy rheoli gan rethreg a chenedlaetholdeb sentimentalaidd fy nghynefin, os nad ydw i’n ofalus. (Ydi rhagolygon tymor hir Rainer wedi eu profi’n gywir?)
Cyn hir, mae ei ffilmiau’n siarad yn uniongyrchol efo FI. Mae a wnelo hynny â’u didwylledd – datgelodd ei gamera ysbryd marwol y bywyd bourgeois ac roeddwn yn gwybod ar unwaith, rywsut, wrth eu gweld ei fod o a’i waith am ddod yn rhan o fy mywyd. Mae’r effaith yn gysurus a heriol yr un pryd, a byth yn ddiflas.
Ac mae Penman yno ar enedigaeth fy obsesiwn. Mewn gwirionedd gellid dweud ei fod yn rhannol gyfrifol amdano. Torraf yr erthygl o’r cylchgrawn cerddoriaeth a’i rhoi yn syth yn un o fy llyfrau lloffion. Mae’n stori dywyll sy’n fy swyno – y cyfarwyddwr ffilmiau dadleuol a blêr hwn. Dwi isio treiddio ymhellach i’r bywyd a’r gwaith ac felly am ddeugain mlynedd mae o yno, yn y cefndir, yn cadw cwmni i mi. Rydw i’n gweithio fy ffordd yn araf trwy ei restr enfawr o ffilmiau ac yn ei fabwysiadu fel ffigwr Mozartaidd, Shakespearaidd – fy nghwmpawd diwylliannol.
(Rydw i’n pendroni, fel Penman, tybed ai camgymeriad ydi’r ymarfer hwn. A oes y fath beth â ffordd gyfforddus, neu hyd yn oed diogel, o edrych yn ôl ac adennill fy annibyniaeth, a’m bywyd, rhag cyhuddiad Rainer ein bod yn byw bywyd afreal, cyfyng? Dwi’n dechrau poeni – faint o Emyr(s) sydd allan yna?)
*
Yn ddiweddar rydw i wedi cael rheswm i archwilio fy mywyd a’i lwybrau ar fyrder gan i mi dderbyn diagnosis meddygol o gancr y coluddyn a’r iau sydd eisoes wedi lledu. Fe ddaeth y newyddion am fodolaeth llyfr Penman i’m sylw yng nghanol cyfnod gwaethaf fy mywyd ac roedd yn gyfle i mi gamu y tu allan i fy hunllef iechyd ac archwilio’r bywydau dwbl rydw i wedi bod yn eu byw ers dyddiau heulog 1982. A gofyn: Pa Emyr sydd ar fin diflannu?
Ac os oedd Fassbinder yn iawn am gelf a’r natur ddynol, pwy ydi fy nwbl innau? Penman, Rainer ei hun, neu Maria Braun tybed, cymeriad mwyaf adnabyddus ffilmiau Fassbinder, yr arbenigwraig workaholic sy’n ymddiddori yn y busnes hollbwysig yma o greu y dyfodol? Gallwn yn hawdd fod yn ddwbl i Penman, a theithio gydag o a’i obsesiynau, meddyliaf. Digon tebygol, ond diflas a rhagweladwy, fyddai hynny. Gallaf freuddwydio hefyd am fod yn ddwbl i Fassbinder, y gwneuthurwr ffilmiau athrylithgar (dream on Em! x), ond go brin fod hyn yn gredadwy.
Gadewch i ni deithio yn ôl unwaith eto, felly. Yn 1982 dwi heb weld yr un ffilm gan Fassbinder ac mae copi VHS o The Marriage of Maria Braun (Die Ehe Der Maria Braun, 1978) yn glanio ar silff yn y siop fideo leol. Hon ydi ffilm fwyaf adnabyddus a llwyddiannus Rainer a dyna pam ei bod hi’n llwyddo, debyg gen i, i gyrraedd trigolion Blaenau Ffestiniog. Dyma fi’n dechrau ar ddefod o wylio ac ailwylio’r ffilm hynod hon ddwsinau o weithiau dros y degawdau nesaf.
O’r dechrau, mae’n amlwg fy mod mewn cariad â Hanna Schygulla, sy’n chwarae rhan Maria Braun, a thros y blynyddoedd rydw i’n plethu fy hun yn naws, gwleidyddiaeth a phŵer y ffilm hon. Tybed ai Maria ydi fy nwbl ‘benywaidd’, ochr waharddedig fy ‘ngwrywdod’? Ai ‘priodas’ Maria yw’r trosiad ar gyfer my life’s work? A ydi blynyddoedd o hyrwyddo diwylliant cerddoriaeth amgen Gymraeg yn cyfateb i waith obsesiynol Maria yn creu priodas lwyddiannus? Meddai ‘Same Old Scene’ Roxy Munich (Music): ‘It’s all that heavy weather / We’re going through / When I turn the corner / I can’t believe / It’s the same old movie / That’s haunting me [...]’
Mae The Marriage of Maria Braun yn ffilm sy’n dechrau ac yn gorffen gyda ffrwydradau. Yn y rwbel, ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn yr Almaen, yr ydan ni’n cyfarfod â’r Maria hon, gwraig ifanc annibynnol, wrth iddi briodi Herman Braun, ei gŵr am noson, ar ganol cyrch awyr. Yn fuan, mae Herman ar goll, a chymerir ei fod wedi marw ar y ffrynt yn Rwsia. Mae Maria yn gwrthod anobeithio ynghylch ei gŵr a’i phriodas. Goroesa teyrngarwch dall Maria i’r briodas y blynyddoedd y mae Herman yn eu treulio yn y carchar am lofruddio GI Americanaidd (er mai Maria sydd yn euog). Mae ei theyrngarwch hefyd yn goroesi gofynion ei bywyd newydd fel gwraig fusnes lwyddiannus sy’n gweithio, ac yn rhannu gwely, gyda dyn busnes cyfoethog yng nghyfnod ‘gwyrth economaidd’ yr Almaen ar ddechrau’r 1950au. I Maria, pragmatiaeth yw hyn – mae hi’n trysori ei ‘chariad mawr’ ac yn ei feithrin wrth iddi ddod yn ‘arbenigwr ar y dyfodol’. Wedi iddo gael ei ryddhau o’r carchar mae Herman yn diflannu gan honni bod yn rhaid iddo ddysgu sut i fod yn ddyn cyn y gallant fyw gyda’i gilydd fel pâr priod. Dechreua Maria ymddatod gan ymddieithrio oddi wrth ei bywyd a’i hemosiynau wrth i waith ddod yn lloches, a’r gwaith hwnnw’n gwneud iawn am yr Herman absennol ac am hapusrwydd gohiriedig delfryd eu priodas.
Mae’r ffilm yn mynd â ni, felly, drwy wyrth economaidd y cyfnod ar ôl y rhyfel, pan ailadeiladwyd economi’r Almaen o dan feddiannaeth America, ochr yn ochr â thaith Maria i ddod yn ‘Mata Hari y system gyfalafol’. Mae hi’n annibynnol, yn gyfoethog a phwerus wrth iddi ohirio ei hapusrwydd er mwyn ei phriodas. Ar yr wyneb, mae Maria yn llwyddiant mawr. Ond ar y tu mewn mae hi’n byw bywyd gwag gan fod ei ‘chariad anhunanol’ wrth wraidd pob symudiad a phenderfyniad pwysig. Mae hi’n symud ymlaen law yn llaw â hanes ei gwlad, yn gymeriad hyderus, hyd at yr eiliadau olaf ofnadwy hynny yn y ffilm pan sylweddola ei bod wedi cael ei thwyllo gan y dynion yn ei bywyd ac mai rhith oedd ei breuddwydion am ei phriodas o’r cychwyn cyntaf. Mae ei buddugoliaethau yn wag, mor wag â’r digwyddiadau hanesyddol o’i chwmpas, wrth i’r ffilm orffen gyda ffrwydrad arall sy’n dangos i ni mai ffug oedd annibyniaeth a rhyddid Maria ar hyd yr amser.
Mi fydd y gwyliwr yn cael ei swyno gan y Maria hon o’r cychwyn cyntaf a gall hyn ei ddallu, ond mae dydd y farn yn prysur ddod, ac mae hon yn ffilm galed sy’n mynnu eich bod yn wynebu gwirioneddau anghyfforddus. Mae’n ffantasi, fel pob gwaith sinematig. Ac er bod Fassbinder wedi creu ffilm sy’n adloniant gwych, diolch i’w arddull felodramatig arbennig, mae’n dal i ddangos byd o newyn, o anobaith a thrais i ni, ar strydoedd llawn sbwriel cymdeithas sydd wedi ei llorio, ac yn y gymdeithas honno sigarét ydi’r peth mwyaf gwerthfawr yn y byd.
Ond mae hon hefyd yn ffilm gomedi ddifrifol. Mae’r sinigiaeth ynddi yn glir: edrychwch, bobl, mor hanfodol i’ch bywyd yw pethau syml fel coed, bara, sigaréts... dyma’r camau bychan cyntaf ar y daith i adennill gwareiddiad. Ac mae’r ffilm yn alegori. Mae Maria yn alegori – hi yw’r Almaen. Mae hi’n ymgorffori’r syniad o ‘weithio’n galed’, mae hi hefyd yn medru ‘anghofio’ y gorffennol ac anwybyddu unrhyw ‘nostalgia’ am yr hen ddyddiau. Mae hi’n byw, nid myfyrio. Gall eraill boeni am fyfyrio. Mae hi’n byw er mwyn ‘syniad’, ei phriodas, dyna’r cyfan sy’n ei chadw i fynd (sydd yn ei dinistrio yn y pen draw). Wrth iddi fynd yn fwyfwy llwyddiannus, mae Maria’n mynd yn ddiarth iddi hi ei hun. Yn y diwedd, pan ymddengys ei gŵr, does dim byd ystyrlon ar ôl. Mae’r berthynas yn ddiflas ac yn ddifywyd.
Creadigaeth sinematig hynod ydi ‘Priodas Maria Braun’. O ran symbolaeth hanesyddol nid oes modd gwella ar waith Fassbinder. Pa ffordd bynnag y mentrir i mewn i’r ffilm deuir wyneb yn wyneb â grymoedd hanes. ‘Nid oes ennill yn erbyn hanes’ yw’r hyn a ddywed pob ffrâm o’r ffilm hon. Mae pob ystum, delwedd a sain yn ategu hynny, y ffordd y mae teulu Maria yn newid, yn anghofio, yn diogi a derbyn y bywyd newydd bwrgais, yr economi newydd, heb feddwl am eiliad y bydd angen pwyso a mesur effaith y rhyfel ryw ddydd.
Athrylith oedd Fassbinder a oedd yn creu ffilmiau gonest, cymhleth, a grymus. Roedd yn mynnu bod y gynulleidfa yn cymryd rhan weithredol yn ei waith – yn emosiynol, yn feirniadol ac yn greadigol. Mae llwyddiant y ffilm i’w briodoli yn rhannol hefyd i symlrwydd ac apêl y seren hon, Hanna Schygulla, sy’n chwarae rhan Maria, a’r ffaith bod y ffilm, ar lefel naratif sylfaenol, yn adlewyrchu tynged gwlad gyfan yn stori un ferch – fformiwla Hollywoodaidd glasurol.
Mae stori Maria yn ysbrydoliaeth ac yn wers bywyd yr un pryd, a phob tro y bydda i yn gwylio’r ffilm mi fydda i’n edmygu ac yn caru Maria, ac yn teimlo’n drist hefyd dros ei thranc.
Ai hanes Maria yw fy hanes i? Ai ffeirio bywyd rhydd er mwyn gwasanaethu syniad neu nod ydi fy hanes? Yn sicr mae Maria yn role model deniadol iawn ar un olwg. Ac mae’n bosib, wrth gwrs, fy mod yn byw fy nwbl trwy’r ffilm hon. Ond hoffwn gredu yng ngwirionedd Fassbinder y dylid chwilio am y chwyldro yn y bywyd cyffredin. Os caf fentro pwyso a mesur fy mywyd ar y sail hwnnw, gwn i chwyldro ddigwydd yn niwylliant a cherddoriaeth y byd Cymraeg dros y pedwar degawd diwethaf (mae’n dal i ddigwydd). Fel Maria, dwi wedi gweithio’n galed, i gyfrannu at y llwyddiant chwyldroadol cyffredin hwn. Dyna i gyd. Ond mi fydda i’n cofio hefyd neges arall gan Rainer Werner Fassbinder: ‘Cyhyd â bod y ffilmiau yn adrodd storïau trist, mi fydd bywyd yn medru bod yn llawn hwyl.’
 thristwch yr ydym yn nodi marwolaeth annhymig Emyr Glyn Williams ar 17 Ionawr 2024. Mae O'r Pedwar Gwynt yn ddyledus iawn iddo, nid yn unig am ei gyfraniadau unigryw fel awdur ond hefyd am ei gefnogaeth gyson i'r cylchgrawn a'i ysbryd agored, hael. Hon oedd yr erthygl olaf ganddo a gyhoeddwyd gennym, fel rhan o rifyn haf 2023. Gellir darllen ei erthyglau eraill yn ein harchif.