Cyfansoddi

Fel na fydd y tatws yn rhewi

Grug Muse
04·12·2019

Spring Waters (Maestoso), 1910 gan Vilhelms Purvītis (yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol Latfia, yn Riga) /Wikipedia

Bu Grug Muse yn cydweithio â beirdd o Latfia, Syria, Croatia, Gwlad Belg a Gwlad Pwyl fis Medi, ar wahoddiad Latvian Literature i weithdy cyfieithu yn Riga. Trefnwyd y gweithdy mewn partneriaeth â Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Creative Europe. Cyhoeddwn yn y lle cyntaf gyfieithiadau ganddi o waith bardd sy'n ysgrifennu yn yr iaith Latgaleg. Edrychwn ymlaen at gael cyhoeddi mwy o'i chyfieithiadau maes o law.




✒︎

t6

gan ymddangos mewn gofod diamser
dechreuais siarad trwy fy nghlustiau
yn y pnawn
roeddwn eisiau diffodd y golau
ond wyddwn i ddim 
pryd yn union
roedd y golau am orffen
canu
roedd fy mreichiau wedi blino
arwain
yr unig beth y dois o hyd iddo  
o blith atgofion gorffennaf
oedd yr offeiriad
yn chwydu wedi’r priodasau

Raibīs (Oskars Orlovs)

 

t10

cerddais am amser maith
i’r gogledd
tua thre
gan rydio corsydd
a chrwydro coedwigoedd
ffosydd llawn llyfanog yn blodeuo’n llaethog
yng nghyffiniau plwyf Nagli
sathrais ar bysgod a mwydod gwynion
ac fe gofiais ei bod hi’n aeaf ddoe
gallwn i fod wedi bwydo 
bleidd-ddynion a’r eirth dof
efo pysgod o’m dwylo
fel arferem ei wneud 
i’n gilydd
a rŵan
gyda sgrech uchel
greulon
mae’n rhaid i mi ymladd
y lloer ar fy mhen fy hun
a fydd heddwch fyth 
yn gadael cartref eto
rwy’n cymryd stôl
i sefyll arni
er mwyn diffodd y dŵr yn y pibellau
fel na fydd y tatws
yn rhewi yn eu cwysi

Raibīs (Oskars Orlovs)

 

 

p6

Atsarūnūt bezlaika telpā 
suoču runuot ar ausim
piecpušdinē
gribieju atslēgt gaisu
viņ nazynuoju 
precizi cikūs
gaisma beidzēs 
dzīsmi dzīžūt
rūkys dakusa tū 
meļdeņu viļkt 
vīneiguos atminis izkosu 
nu juļa 
kod bazneickungs 
nu kuozu vēme

Raibīs (Oskars Orlovs)

 

p10

Ilgi guoju kuojom
nazkur nu zīmeļu
da sātai
izbrydu pūrus
izblūdobu mežus
kanavys ar zīdūšom pīneigom aļģem
nazkur pi Nagļu
samynu zivs I vogulus boltus
guoduoju ite vakar vēļ zīma beja
varēja nu rūkys
ar zivim pabaruot
pīradynuotūs vylkačus I luočus
jau kai ba bejom daroduši vīns pi ūtra
a niule
nažieleigā bolsā
byus juokauc
pret mienesneicu vīnam
naizīt mīrs 
vaira uorā nu sātys
pajiemu tabureti 
pakuopu 
aiztaisu trubuos iudini 
lai voguos 
naapsaļ buļbys

Raibīs (Oskars Orlovs)

 

Bardd sy'n ysgrifennu yn yr iaith Latgaleg ydi Raibīs (Oskars Orlovs, 1983). Mae'n awdur dwy ddrama hefyd: Vystu klāvs (2008) a Shortcut (2014). Daw'r ddwy gerdd a gyhoeddir yn y fan hon o'i gyfrol Pistacejis (Kukuži, 2017).

Rwy’n cymryd stôl i sefyll arni er mwyn diffodd y dŵr yn y pibellau fel na fydd y tatws yn rhewi yn eu cwysi

Pynciau:

#Grug Muse
#Barddoniaeth
#Cyfieithu