Talacharn
Ysgrif

Tŷ cwch Dylan Thomas, Talacharn (Llun: Kevin Latham/Flickr)
Rhwng llefydd eraill a mas o’r ffordd, braidd, y mae Talacharn. Os yw hi’n hysbys o gwbl, bydd hynny yn amlach na pheidio oherwydd cysylltiad Dylan Thomas â’r dref (ac yno y cafodd ei gladdu, wrth gwrs, gan sicrhau am byth y cysylltiad hwnnw). Amhosib osgoi cysgod ac ysbryd Dylan Thomas ar hyd ei strydoedd troellog hamddenol, ac felly prin ar y cyfan yw’r ymwelydd sy’n dod at y dref â llygaid glân: fel finnau, bydd llaweroedd ohonynt eisoes wedi ‘gweld’ y dref trwy ryw gerdd neu lythyr neu fywgraffiad Dylanaidd. Yn anad dim, bydd Under Milk Wood yn pwyso’n drwm fel ffantom plwm ar bopeth. Gall yr ymweliad droi o’r herwydd yn atodiad llenyddol, yn ategiad beirniadol; aiff y crwydro’n drafodaeth ac yn sylwebaeth ar Dylan Thomas a’i waith. Aiff rhai yno i weld rhyw Lareggub go iawn. Nid wyf yn amau buddioldeb menter o’r fath, ond es innau i Dalacharn mor lân fy llygaid ag y gallwn, ac eithrio yng nghyswllt un manylyn diriaethol: gwyddwn fod yr arfordir yno’n lleidiog ac yn araf, a bod iddo natur ac egni sy’n wfftio ffiniau.
*
Mae Talacharn ar ffin adnabyddus, sef y Landsker. Yn ôl y chwedl, pe byddech yn Nhalacharn ac yn moeli eich clustiau, byddech yn clywed y Gymraeg i’r gogledd a Saesneg i'r dwyrain – neu, o adael i’r map wamalu fel y gwnânt mor aml wrth ffiniau, gallech eich cael eich hunan ag untroed y naill ochr a’r llall i’r Landsker yn y dref hon. O’m rhan i, nid oeddwn yn gallu dirnad ffin ieithyddol amlwg. Clywais y Gymraeg a’r Saesneg, ac roedd naws Sir Gâr yn amlwg ar hyd y lle. Os oedd cymysgu i’w gael, cafwyd hynny yn yr elfennau daearyddol a oedd yn dwyn i gof Sir Benfro, a hithau’n llechu ychydig i’r gorllewin, sydd gystal â dweud bod i arfordir de-orllewin Cymru ryw ymdeimlad arbennig sy’n ei ddatgan ei hun yn groch. Nid yw’r arfordir hwn yn wyllt fel y traethau hynny sy’n wynebu’r môr agored (neu fwy agored, o leiaf), ac nid oes iddo yr un caledrwydd prydferth â thraethau creigiog Gwynedd, er enghraifft. Mae’r dyfroedd yn gallu bod yr un mor gyfrwys, ond nid ydynt yn rhuo nac yn cynddeiriogi yn yr un modd. Ceir aberoedd a chilfannau a morfeydd araf, a llif lleidiog, dyrys ei ffyrdd.
Gellid yn rhwydd ymwisgo ag amhenodolrwydd y dyfroedd hyn a thin-droi heb ddweud dim. Ond mae amser yn Nhalacharn yn debyg i’w dyfroedd – rywle yn y canol rhwng llif a thrai. Mae ei hamser a’i dŵr yn gallu mynd â’r teithiwr ar hyd pellteroedd ond yn y pen draw yn ei ollwng eto lle’r oedd gynt, heb drywydd eglur, heb resymeg.
*
Mae’r bryniau sy’n amgylchynu Talacharn yn gynllwyn o gwlwm am y dref. Mae’r tir yn gwyro i lawr tua’r môr fel casgliad neu ddiweddglo penagored. Ond eto, mae’r bae yn un cysgodol, gwarchodol, a rhyw forfa wrth ei ymylon. Dyna’r môr a’i lwybrau aneirif, ond mae hefyd yn cadw draw ryw fymryn, os wyt ti’n mynnu ei weld felly. Yn y strydoedd gweli di dai lliwgar hirgul nad ydynt yn nodweddiadol o bentrefi glan môr Cymru, rywsut. Mae iddynt awyrgylch lled fonheddig, ond mewn modd lled siabi a llychlyd, heb fod yn hynafol nac yn lletchwith. Yr argraff a gefais oedd bod yma bydru araf a llawen, ac nad oedd y dref yn becso dim; ac eto fyth, nid oedd hi’n teimlo fel petai’r dadelfennu ysgafn yn wir fygythiad iddi chwaith. Nid oes yma bwysau disgwyliadau na pharchusrwydd, ac mae popeth yn teimlo’n fyrfyfyr; ond eto, mae’r nodau hŷn yng ngwedd y dref yn peri bod elfen seremonïol iddi, er nad oes dim rhwysg na’r un pwysigyn yn mynnu gwrogaeth. Dyna felly daro ar fy mhrif argraff: di-amseredd.
Ystrydebol ddigon yw sôn am ddiffyg traul amser, neu amser sy’n symud mewn cylch, neu hirbarhad yr hyn sydd uwchlaw amser. Mae’r holl osodiadau hyn yn ffuantus yn eu hamryw arlliwiau. Yn Nhalacharn, roedd y di-amseredd a brofais yn deillio, yn hytrach, o’r teimlad bod y dref yn bod yn ei hamser ei hun, ei hynys fach o amser sy’n mynd rhagddi’n annibynnol ar weddill y byd. Roedd atynfa’r amser hwn yn gryf, fel disgyrchiant cryfach na’r cyffredin neu swyngan Sirenaidd yng nghreigiau’r môr.
*
Aethom i weld bedd Dylan Thomas, sydd ychydig y tu fas i’r dref, ac yn groes i’r disgwyl, nid oes golygfa glir tua’r môr yn y fan honno. Rwyf wedi edmygu ei waith ers peth amser, ac mae’r llinell ‘And the town below lay leaved with October blood’ o’i gerdd ‘Poem in October’ wedi glynu’n gwbl styfnig yn fy nghof er pan ddarllenais hi yn fyfyriwr llenyddiaeth Saesneg israddedig yng Nghaerdydd yn hydref 2012. Efallai am taw’r ddelwedd a ddaw i’m meddwl yw marw cain y flwyddyn, a’r marw’n gyrru’r tymhorau yn eu blaenau tua’r aileni anochel. Mae’r llinell honno’n dwyn dwy o’i linellau enwocaf i’m meddwl, sef dwy linell olaf ‘Fern Hill’ – ‘Time held me green and dying / Though I sang in my chains like the sea’. Ar ben hynny, mae Under Milk Wood, a chyfieithiad Cymraeg hudolus T James Jones, Dan y Wenallt, wedi gafael yn dynn yn fy nychymyg. Rwy’n credu bod y cerddi uchod, a cherddi diwedd gyrfa Dylan Thomas yn fwy cyffredinol, yn dal ac yn mynegi croeseb sy’n esbonio i mi apêl ryfedd Talacharn, a’r teimladau rhyfedd mae’r dref yn eu corddi ynof. Ynddynt ceir sylwi neilltuol ar ddychwelyd amser, ar droad y rhod ac ymdaith y tymhorau: y wefr las sy’n tanio ym mhob dim. Mae dwy ffordd o ymagweddu at y rhod hon: ar un llaw, dyma dragwyddoldeb cylchol, rhyw ailgylchu cosmig sy’n dychwelyd yn ddi-baid i’r unman; ar y llaw arall, mae’r symud hwn o un tymor i’r llall yn fynegiant o ddi-ben-drawdod bod, o barhad y byd a bywyd.
Yn y cyswllt hwn, caf fy atgoffa o’r cwpled trawiadol hwnnw yn ‘Mawl i’r Haf’ Dafydd ap Gwilym, ‘I ochel awel aeaf / I Annwfn o ddwfn ydd af’, lle dyfelir yr haf ar ymdaith i’r isfyd, Annwn, neu efallai ar daith i gyflwr marwolaeth ei hun, er mwyn gochel rhag y gaeaf. Fe ddaw yn ôl wedyn – neu yn ieithwedd y bardd ei hun, fe ddêl yn ôl, a’r modd dibynnol yn gwefru’r olygfa ag ansicrwydd sagrafennol:
Deyrn byddin, dioer ni byddy
Yn gyfuwch, fron wybrluwch fry,
Oni ddêl, digel degardd,
Eilwaith yr haf a’i lethr hardd.
Pan oeddwn yn Nhalacharn, cefais fy nal yn y meddwl mawr hwn felly rhwng y ddwy rod: y rhod sy’n dychwelyd yn ddi-baid i’r unman, a’r rhod sy’n ein symud ymlaen. Dyma ddwy weledigaeth – y naill yn hunllef a’r llall yn rhyddhad. Beth yw’r teimlad rhyfedd hwn a gaf yn y dref hon – fy mod yn froc môr mewn llif oriog, neu ddarn bach glas o fyd nad yw’n darfod?
*
Pan aethom yn ôl i’n llety wedi noswaith yn crwydro strydoedd Talacharn yng ngwres dechrau’r haf, troesom yn ôl i edrych ar yr aber, y bae a’r dref, a’r cyfan yn rhwyllo i’w gilydd fel gwiail, yn blethwaith mor naturiol. Mae’r môr yn y fan hon yn lleidiog, a’r cychod bach yn ddelfryd o fywyd ffwrdd-â-hi ac annibynnol styfnig trefi glan môr. Yr un noswaith, gwelais degeirian coch y gwanwyn – hwyr – am y tro cyntaf erioed. Efallai un o’r rhai olaf yn y tir wrth i’r haf estyn ei lamau hir drosom yn ffresh o’i wyliau yn Annwn. Ar lwyfan y llaid ac yng nghoflaid y bryncyn, nid oedd angen i mi holi ynghylch amser. Lle sy’n wfftio ffiniau yw hwn, mae’n wir: peth ansylweddol yw’r bwlch rhwng ‘sydd’ a ‘bu’ yn Nhalacharn, fel rhyw deid yn dod mewn a mynd mas.
Mae Morgan Owen yn fardd ac ysgrifwr, ac mae'n byw yng Nghaerdydd. Enillodd gystadleuaeth yr ysgrif yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.