# Ysgrifau

# Ysgrifau


Morgan Owen

Daw hyn o eiriau o’r hollt yn wyneb y nos: anhunedd. Ohoni mae effrogarwch amgen yn ffrydio; yr un byd sydd tu hwnt i’m ffenest o hyd ond â’i ben i waered; hysbys ond anghyfarwydd, fel petawn yn ymbalfalu drwy stafell dywyll ond bod popeth…

# Ysgrifau


Llŷr Gwyn Lewis

Ni fûm i erioed yn Oerddwr, er dyheu lawer tro am gael mynd. Mi es cyn belled, unwaith, â throi trwyn y car i lawr o Feddgelert at Bont Aberglaslyn, gan ddal i fynd am chydig cyn arafu wrth ambell dro i fyny tua’r dde drwy’r…

# Ysgrifau


Qing Niao

Y diwrnod hwnnw, mi es i fy hen ysgol uwchradd. Dilynais yr un llwybr ag yr arferwn droedio’n ystod fy nhair blynedd yn ddisgybl yno. Bob haf, mae’r sefydliad hwn yn agored am fis ychwanegol ar gyfer y disgyblion sydd ar fin dechrau ar eu…

# Ysgrifau


Simone Weil

Cafodd yr ysgrif hon ei darganfod ymhlith papurau un o feddylwyr mawr yr ugeinfed ganrif, Simone Weil (1909–43). Yn gyfoeswraig i Simone de Beauvoir a Hannah Arendt, roedd y rhan helaeth o’i hysgrifau heb eu cyhoeddi pan fu farw yn annhymig yn 34 oed.…

# Ysgrifau


Grug Muse

Marian terfynol rhewlifol ydi Cape Cod, a rhoi ei deitl daearyddol iddo. Mae’n ymestyn am 65 milltir i’r Iwerydd ac, ar ei uchaf, yn codi i oddeutu 96 metr. Rhyw 16,000–20,000 mlwydd oed ydi’r marian hwn, sy’n gymharol ifanc mewn termau rhewlifol, ond mae’n dynesu…

# Ysgrifau


Alun Llywelyn-Williams

Yr oeddwn yn wyth oed cyn dechrau mynd i’r ysgol yn gyson, ond ni allaf gofio adeg pan na fedrwn Saesneg. Mae gennyf rith gof amdanaf yn hogyn bach yn chwarae ar fy mhen fy hun yn Gymraeg, ond rhaid bod…

# Ysgrifau


Qing Niao

Mae'r Tsieineaid yn hoff o ddilyn ffasiwn ac wrth eu boddau yn trwytho eu hunain mewn moethusrwydd, lliwiau a phatrymau. Yn bwysicach na dim i'r Tsieineaid y mae gwneud yr argraff iawn: mae'r awydd i dynnu sylw yn gryf ond hefyd yr awydd i…

# Ysgrifau


Morgan Owen

Buasai gerddi yn fy meddwl ers misoedd yn lluosogi: gerddi’r dychymyg effro yn gymysg â gerddi breuddwydion. Un ar ôl y llall yn llathru’n las, yn wahoddiad imi eu cribino am ryw ystyr neu’i gilydd. Yn fy mrwdfrydedd, palaf weithiau i’w trefnusrwydd a’u diwylliant a…

# Ysgrifau


Sioned Puw Rowlands

‘Nid dim ond gwylio ffilmiau yr ydan ni, mae ffilmiau yn ein gwylio ninnau hefyd,’ meddai’r cyfarwyddwr o Rwsia, Andrey Zvyagintsev. Yn ei ffilm ddiweddaraf, Loveless, bob yn hyn a hyn, yn batrwm trwyddi, mae pobl yn gwirio eu ffonau bach neu’n tynnu lluniau ohonyn nhw eu…

# Ysgrifau


T H Parry-Williams

Dywedir bod mochyn yn gallu gweld y gwynt. – Pwy a ŵyr amgen? Yr oedd fy nain wedi gweld ysbryd a thylwyth teg, ac wedi clywed canu yn yr awyr. Nis gwelais ac nis clywais i, hyd y gwn. Eto rhaid imi roddi…

# Ysgrifau


Morgan Owen

Yr adeilad mwyaf sefydlog yw hwnnw a godir o ddistawrwydd yn hytrach na meini. Nid aiff hwnnw’n adfail byth am ei fod eisoes yn adfail anferthol, di-ffin sy’n rhychwantu eithafion gallu dyn i greu a datod. Gwagle yw ei nod amgen, ac…

# Ysgrifau


Sioned Puw Rowlands

Hen ysfa ddigon afiach ydi mynwenta, meddai T H Parry-Williams yn un o'i ysgrifau. Aeth yn ei flaen i ddweud: 'ond y mae rhyw swyn arbennig yn yr arfer, er hynny.' Mi fydda i'n ei chael hi'n anodd mynd heibio i fedd Kostas Axelos…

# Ysgrifau


Manon Steffan Ros

Bu farw fy mam yn yr oriau mân un bore crasboeth ym mis Gorffennaf. O’r ystafell ar Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, roeddwn i’n gallu gweld goleuadau ein pentref ni fel llygaid wedi cau ar lethrau’r foel.

# Ysgrifau


Angharad Price

Bob blwyddyn, mae dwy filiwn o deithwyr yn mynd trwy Gaergybi, porthladd fferi prysuraf-ond-un y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn rhan allweddol o briffordd fawr Ewropeaidd yr E22 sy’n ymestyn o Ddulyn i Fosgo a thu hwnt. Flina’ i byth ar y wefr o ddod yma.

# Ysgrifau


Sioned Puw Rowlands

Fedra i ddim cofio pryd wnes i ddyheu ddwythaf am wyliau. Ond medraf gofio'n iawn yr olwg od ar wyneb pobl wrth i mi ddychwelyd bob hydref a mynegi llawenhad o fod yn ôl yn rhigolau bywyd ... 

# Ysgrifau


Mererid Puw Davies

Mae gen i un gwpan ac un soser o tsieina gwyn, mor fain nes eu bod nhw fel pe baent yn goleuo oddi mewn, fel sêr. Arnynt, mewn glas disglair, mae enw Capel Bethesda, Corwen. Mae gan fy chwaer gwpan a…