Cyfansoddi

2090

Rhagflas o’r nofel Cymru Fydd

Wiliam Owen Roberts

Cymru Fydd

O’r Pedwar Gwynt, £14.99, Tachwedd 2022

Wiliam Owen Roberts

Amser darllen: 12 munud

24·07·2022

Llun: Josef Koudelka/Magnum Photos

Newydd droi i mewn i’r U oedd Koi pan diwniodd i’w sŵn siarad hi. Hogan gringoch oedd wrthi, yn sbydu geiriau i bob man. Roedd hi’n gwisgo plisgwisg las golau, un sipiog rad o’i gafl i’w gwddw, â gwregys melyn am ei chanol, a’i gwallt oren wedi ei glymu’n ôl. 

Er bod dipyn go lew o fynd a dŵad ar hyd y lle, daeth Koi i stop a chogio syllu ar y stribyn hir o sgrin Xovega i weld hanes mwy o chwalu yn nhaleithiau gwaedlyd  America An-Unedig. Roedd dau gant a mwy wedi eu mwrdro mewn bedlam afreolus o saethu, wrth i resiad o gerbydau rasio trwy gil-strydoedd McAllen, lle roedd y maer yn wardio yng nghanol chwilod mawrion o ddynion wedi eu gwisgo’n ddu, yn crefu’n  ddolefus ar i rywun yn rhywle achub ei bobol.

Saith oedd wedi hel yn gwmni iddi, er nad oedd Koi yn ’nabod yr un ohonyn nhw. Ceisiodd beidio sbecian, ond ei chael hi’n anodd ei atal ei hun. Fyth ers i ganser gael ei drechu, roedd pawb yn smocio fel lladd nadroedd: pob myfyriwr yn mwytho mwgyn ar ei wefus ym mhob man. Sylwodd  ar ryw hogyn penlas yn gorweddian ar wastad ei gefn, ei ben yng nghôl yr hogan, yn syllu i fyny arni yn berlesmeiriol wrth ollwng rhyw ochenaid fechan bob yn hyn a hyn. 

Ista ar seilos oedd tri, tra oedd y pedwar arall yn goesgroes ar y llawr: un wedi mynd i gysgu a’i fraich yn lled ar draws ei dalcen. Hawdd oedd gweld fod y cwerylu wedi bod yn powlio ymlaen ers sbel go lew gan fod rhyw olwg wedi dechrau nogio arnyn nhw i gyd. 

Mor fain oedd hi: ei chroen mor glaerwyn, oni bai am rhyw fân frychni yn britho pont ei thrwyn a’i bochau. Clustfeiniodd Koi arni yn mynd trwy’i phetha – y geiriau yn clecian ohoni, er bod ei breichiau yn bolion llonydd o boptu ei chorff. Siarad ddigon dili-dwla oedd o — y math o druth roedd o wedi ei glywed ganwaith o’r blaen — lle roedd hi’n mynnu mai dim ond rhyw grafu’r wyneb roedd Cytundeb Heddwch Mwmbai wedi ei wneud. Sylweddolodd Koi ei bod hi wedi ei ddal o’n syllu arni ac am chwincyn sydyn fe aeth i’w gilydd i gyd. 

‘Ko, Koi...’

‘Ko, Cay...’

Newydd droi allan o’r iOptik oedd
ei ffrind. Aeth Cayden ati i sôn am adra trwy adrodd rhyw fân hanesion. Y prif newyddion oedd fod eu hen athro Darri Hughes wedi mynd a’i draed yn rhydd ar ôl ei achos llys. 

‘What? You kidding me?’

‘Nope.’

‘That’s amazing.’

‘They’re all celebrating in the Seg right now. Even Mum thought of going over...’

‘Your mum?’

‘As a gesture of solidarity, yeah. Didn’t in the end, though. Poor cow.’ Doedd Darla heb fentro allan oddi ar ei haelwyd ers blynyddoedd lawer. ‘I don’t know. Maybe she should have tried for Darri’s sake...’

Prin roedd Koi yn coelio’i glustiau. Roedd hyn yn anhygoel ac yn rheswm ’tebol tros ddathlu. Dychmygodd ei fam ei hun yn eu canol nhw, yn trochi yn yr hwyl a’r miri, yn ymhyfrydu fod yr athro bychan a’i draed yn rhydd. Fel arfer, roedd y llysoedd yn cosbi llosgi baner y Ddraig Goch yn llym. 

Pwniodd Cayden o’n ysgafn yn ei asennau. ‘Oi!’

‘Mmmm?’

Roedd Koi yn ei chael hi’n anodd ei atal ei hun rhag dal i syllu. O dipyn i beth dechreuodd sylweddoli mai eu herio nhw er mwyn gwneud i’r criw feddwl yn gliriach oedd y ferch orenwallt. Roedd hi’n rhyfeddol o orhyderus, ond wedyn, roedd bron pawb a oedd o ddifri ynglŷn â’u sefyllfa yn union yr un fath. Doedd neb yn mynd i ddal hynny yn ei herbyn hi. Wedi’r cwbwl, roedd gan Koi ei farn ei hun, fel roedd gan Cayden a phawb arall o’i gyfoedion. 

‘Earth to Koi... you still with me?’ 

Gogwyddodd ei dalcen at y gochan tan gau ei fys a’i fawd mewn ystum pig aderyn. Perodd hyn i Cayden droi ei lygaid draw, ond ar ôl cwta ennyd, dywedodd braidd yn goeglyd, ‘Oh, her... yeah.’

‘You know who she is?’

‘Heard about her. She’s called Xennie. A gobby PFLW type.’

Merwinodd ias o genfigen groen ei war: roedd yn casáu’r ffaith fod Cayden yn gwybod cymaint â hyn amdani. Plwciodd hwnnw daflen o’i boced, rhyw hysbyslen fechan bincliw hefo rhyw batrymwaith geometrig mawreddog ar y brig. 

‘She was arrested on the first day of term. Only relased yesterday.’ Pasiodd y ddalen i’w ffrind. ‘For handing these out. It’s nothing you haven’t read before.’ 

Llithrodd Koi ei lygaid tros ddatganiad: ‘For nearly five decades Gwladwriaeth Cymru has forced itself further eastwards, increasing their Cymric-speaking settlements. Year in, year out, they occupy more and more of our land. They desecrate our ancient place names. They displace our people – local people. The settlers are all alien, armed and dangerous. Under international law, what they do is illegal. Yet they continue to oppress us with impunity...’

Xennie ei hun oedd wedi dodi’r daflen yn llaw Cayden wrth droed y cerflun efydd enwog, sef Pyramid yr Anghenion Sylfaenol, a gafodd ei godi ar y campws fel sumbol gweledol i gyferbynnu hefo’r Pyramid arall, yr un a oedd yn torsythu fel rhyw deyrn trahaus tros ardaloedd gorllewinol y ddinas. 

Pocedodd Koi y ddalen wrth dynnu chwiban. Herfeiddiol iawn. Dewr iawn. Ffôl iawn hefyd. Mae’n rhaid ei bod hi’n gwybod fod aelodau Rhys Ddwfn yn monitro pob gwedd a gwefus ar y campws.

Ychwanegodd Cayden yn ddidaro fod Xennie yn byw yn Neuadd Winston. Ar yr ail lawr yn Neuadd Breswyl Hailsham roedd o a Koi yn rhannu stafell.  

Doedd o ddim yn adeilad addas i gartrefu neb, gan fod yr hyn a godwyd o ludw yr hen un, yn fuan ar ôl y Gyflafan yng Nghroesoswallt yn 2069, wedi dechrau dangos ei oed, y lloriau a’r muriau yn araf fadru, a’r to yn prysur fynd a’i ben iddo, a’r stafelloedd a godwyd ers blynyddoedd lawer i letya un yn cartrefu dau ac, yn amlach na heb, dri. 

Doedd oerwr aer yr un stafell yn gweithio yn iawn. A doedd rhai heb weithio erioed. Tu hwnt i blastig y ffenestri doedd dim byd ond  wal dal o frics. Doedd fiw agor y ffenest gan fod surni drewllyd rhyw lysnafedd afiach yn codi yn drwch o’r cowt concrit islaw. Fel ogla hen gŵn. Roedd y cowt ei hun yn ferw draphlith o nialwch wedi ei luchio dros fudreddi o bob math, lle roedd llygod yn nythu a magu. Roedd Koi yn amal yn eu clywed nhw gefn nos, yn sgrialu hwnt ac yma ac ymhellach draw, roedd twrw’r Dwyrain yn ddwndwr di-daw o glepian aflafar, gwahanol groch-nadu, clatsio, sgrechian — ac o dro i dro, sŵn rhywrai’n saethu. 

Kowloon a Kolkata oedd enwau’r ddwy ardal agosaf at gampws Dwyrain Croesoswallt. Tu hwnt i flerwch rhacsiog rheiny roedd siantis budron y maestrefi hefo’u cefnffyrdd llychlyd a’u cil-lwybrau llai, a gafodd eu galw ers rhai blynyddoedd yn Kalahari I a Kalahari II. Prinder dŵr croyw oedd diffyg pennaf y ddau le. Chwalwyd y rhan fwyaf o Kalahari III yn sgil y Stormydd Tywod, bum mlynedd ynghynt,  y stormydd gwaethaf ers cyn cof, a chafodd yr erwau o lanast eu prynu a’u datblygu yn fuan wedi hynny gan gwmni adeiladu preifat. 

Daeth hi’n hysbys o fewn dim fod y cwmni yn atebol i fuddiannau llawer mwy. Doedd dim rhaid bod yn athrylith i ddyfalu pwy oedd rheiny – dynion o Ddinas Cantre’r Môr, fel Gareth Procuna a Ronw J Icahaan. Doedd neb tebyg iddyn nhw am wasgu ar eu gweithwyr trwy dalu’r nesa peth i ddim o gyflog er mwyn chwyddo gwerth eu cyfranddaliadau. Roedd hi’n syndod cym-aint o elw y gallai dyn ei dynnu o dlodi.

Fel y rhan fwyaf o adeiladau’r Dwyrain, ni chafwyd caniatâd i godi Neuadd Hailsham yn uwch na dau lawr gan y gallai hynny annog sneipars i wardio ar ei do, er mwyn saethu draw tuag at ardaloedd gorllewinol y ddinas lle roedd baneri dirifedi y Ddraig Goch yn dynodi strydoedd o anhedd-dai a sgwariau a oedd bellach dan Awdurdod Suful Gwladwriaeth Cymru ers 2069.

*

Daeth Koi wyneb yn wyneb â Xennie mewn coridor rhwng dwy ddarlith drannoeth. Dywedodd ar ei hunion, ‘I saw you checking me out yesterday, you cheeky fuck,’ cyn gwenu.

Poethodd blys o waed ei fochau hyd at fôn ei glustiau. Be’n y byd oedd yn bod arno fo? Fel petai o’n bagio i seler ei blentyndod, yn teimlo fel hogyn ifanc ar ei brifiant yn gwrido ar y nesa peth i ddim. 

Dododd Xennie ei bys ar flaen ei drwyn. ‘Are you blushing?’

‘No.’

‘You are. I can see it. Ah. So sweet...’

Roedd Koi wedi ei rwydo gan ryw  ddyhead na theimlodd mo’i debyg erioed o’r blaen — ddim hyd yn oed at ei gariad cyntaf, Yoyo. Mor sydyn roedd o wedi syrthio amdani, a hynny heb hyd yn oed dorri gair hefo hi.

‘You going to tell me your name then?’

‘Koi.’

‘I’m Xennie.’

‘I know.’

Teimlodd ei hun yn cochi yn waeth. Dadblygodd y daflen binc o boced din ei jogyrs a dechrau trafod y cynnwys. Doedd o’n gwneud dim byd ond siarad er mwyn ei chlywed hi yn siarad a doedd dim rhaid i Koi boeni dim am gynnal sylw Xennie: roedd ganddi fwy na digon i’w ddweud.

Toc, dywedodd hi, ‘I’ve got to go. I’ve got a twelve o’clock tutorial with Chad Allen,’ cyn ychwanegu, ‘But you’re welcome to come along tonight if you like.’

‘Come along where?’

‘Winston Hall. My room. 143.’

‘Ok. What time?’

‘Nine o’clock.’

*

Roedd Cayden yn gorweddian ar y gwely yn sugno ar ganji-ji. Sefyll yn ei drôns oedd Koi, yn teimlo yn annifyr i gyd gan nad oedd modd cael trochiad oherwydd fod llif y dŵr wedi ei atal eto fyth. Doedd byth reswm tros y diffyg: roedd pawb yn derbyn y cwbwl fel rhan o drefn naturiol bywyd. 

Llwyddodd Koi i dywallt digon o wahanol boteli mewn basin er mwyn
golchi ei wyneb a’i geseiliau. Tynnodd fys y tu ôl i’w glust ac ogleuo’r drewdod melys gludiog cyn claddu ei ben o dan y dŵr. Sychodd ei wyneb nes poethodd ei groen a theimlodd  binnau bychan o boen. 

‘Where you going to take her then?’

‘Dunno.’

‘You got to think of something. You can’t just turn up...’

‘Depends what she wants to do. I don’t mind...’

‘What about the Nice’n’Sleazy? I might head there later on myself. If I can get my coding done. The Gizmodos are playing.’

‘Maybe...’

Derbyniodd Koi y mwgyn a sugno’r ganji-ji yn dyner gan flasu ei felyster lond ei geg wrth syllu – ond heb wir edrych – ar y graffeg digidol ar y mur. Yr un graffeg a oedd ar furiau stafelloedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr Prifysgol Dwyrain Croesoswallt, sef llun o Gadeirydd y Wales Liberation Movement, Gregory Goffin. Cafodd y ddelwedd wreiddiol  ei recordio mewn rali enwog yng Nghas-gwent yn 2077. 

‘Like it?’ holodd Cayden.

‘Mmmm.’ Sugnodd Koi yn hirach y tro yma. ‘Yeah. Good. East Greenland ganji-ji is the best. Way better than Sami flake...’

‘If you fancy taking Xennie a little present, I’ve got some zippity.’

‘Nah, I’m good.’

‘You don’t know what you’re missing.’

‘I think you should go steady on the zips, Cay. Anyway, how can you afford so much of it?’

Tapiodd ochor ei drwyn. ‘That’s my business.’

Doedd Cayden erioed wedi gweld Koi yn cymryd cymaint o drafferth i wisgo a chribo ei wallt glasolau, a oedd yn ffasiynol iawn ar y campws. Yn y man, safodd Koi yn ei grys coch a’i drowsus llydan – y ddau o ddeunydd plastig wedi ei ailgylchu — a’i esgidiau lledr, ei unig bâr, sef hen rai ei dad o oes yr arth a’r blaidd. Doedd dim byd byth yn cael ei daflu gan mai byw cyfyng oedd byw yn dlawd. 

I lygaid Koi yn y drych roedd o’n edrych yn swel. Doedd Cayden ddim yn dallt pam oedd o hyd yn oed yn trafferthu. Unedau bychan o ddillad oedd ganddo fo ar gyfer pob achlysur – hen grys, hen drowsus ysgafn a sandalau lelo. Roedd o’n gwisgo yr un fath ar gyfer pawb.                                              

*

Roedd Koi a Cayden yn nabod ei gilydd ers pan oeddan nhw yn yr ysgol fach. Ers pan symudodd Koi a Minna a Tilian (ei fam a’i dad) o Wersyll Pontrilas i fyw yng Ngwersyll Chirbury yn 2079. 

Ar ei ddiwrnod cyntaf yn ei ysgol newydd cafodd Koi ei osod i ista nesa ato fo. Siarsiodd yr athro Cayden i edrych ar ôl y newydd-ddyfodiad ac fe wnaeth o hynny o’r eiliad gyntaf un, a buan y tyfodd y ddau yn ffrindiau mynwesol, nes o fewn dim o dro, roedd y ddau yn gwneud bron bob dim hefo’i gilydd.

Ar y ffordd adra o’r ysgol un pnawn roeddan nhw yn ling-di-longian ar Sgwâr Archewell pan ddywedodd Cayden, ‘We could be two brothers. Look.’

Sefyll o flaen y drych hirsgwar yn ffenest Laura’s Brik’n’Brak oeddan nhw: siop yn gwerthu rhyw nic-nacs o bob math oedd hi, ac er mai enw dynes oedd ar y talcan, cawr o ddyn hefo mwng melyn o wallt hyd at ei ysgwydd a barf o’r un trwch oedd wastad yn prowla y tu ôl i’r cownter. Y fo hefyd oedd berchen y busnes ac roedd o’n enwog am brynu ei stoc yn rhad, a hynny gan bobol a oedd gan amlaf mewn rhyw fath o drybini ac yn fodlon gwerthu am ba bynnag bris roedd Kimball Eddo yn fodlon ei gynnig iddyn nhw. Dyn sarrug, unig ac annymunol oedd o, a oedd wedi pechu cymaint dros y blynyddoedd fel fod si yn mynd ar led bob yn hyn a hyn fod hwn a hon yn saff o’i setlo fo unwaith ac am byth.   

Safodd Cayden wrth ysgwydd Koi, eu gwalltiau wedi eu torri yr un mor gwta â’i gilydd, eu llygaid yr un mor lasolau, eu bochau yr un mor gochlyd ar ôl iddyn nhw fod yn cicio pêl, er bod trwyn Cayden yn lletach na thrwyn main Koi, ei geg o hefyd yn llai, y gwefusau yn deneuach. Roedd gan Koi fan geni bychan ar ei arlais (fel un Minna, ei fam) tra oedd croen Cayden yn glir o bob brycheuyn. Roedd y ddau’n union yr un taldra, yn bwyta llawn cystal â’i gilydd gan eu bod nhw ar eu prifiant ac wastad ar lwgu. Ar wahân i hynny roedd un gwahaniaeth mawr rhyngddyn nhw, sef fod gan Cayden ryw ffordd od o ynganu oherwydd rhyw nam ar ei leferydd, a oedd yn ei gwneud hi ar dro yn anodd ei ddallt o ar y cynnig cyntaf. Buan y daeth Koi i’w ddallt o i’r dim. 

Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach — ym mis hydref 2090 — ar ôl i’r ddau dreulio’r amser yn ddisgyblion yn Chirbury High School No 2, penderfynodd Koi a Cayden nad oeddan nhw am fynd yn rhy bell o adra wrth ddewis cyrsiau coleg. Roedd hyn am un rheswm syml: y sefyllfa wleidyddol. 

Gwnaeth Tilian ei orau i ddwyn perswâd ar ei fab i wneud cais am rywle yn un o’r amrywiol golegau yn un o’r Pedwar Rhanbarth tros y Ffin – yn Rhanbarth y Gogledd-ddwyrain, o bosib — mewn lle fel Prifysgol Sellafield. Ni thyciodd  hynny  ddim ar Koi a oedd yr un mor benderfynol â Cayden nad oeddan nhw’n mynd i gefnu ar yr Achos ar adeg mor dyngedfennol yn hanes y frwydr. Oherwydd natur eu magwraeth roedd y ddau wedi dysgu yn gynnar iawn mai gwarth o beth oedd byw yn ddifater. 

‘Come on, son. At least think about it...’

‘I have, Dad.’

‘You’d love it. You really would. You’re young. And I want you to have a good time...’ Syllodd ar ei fab yn llawn tosturi. 

‘What?’ holodd Koi, braidd yn flin. 

Yr oll a wnaeth Tilian oedd gollwng rhyw bluen o ochenaid. Ar wahân i hynny, chafodd dim byd arall ei ddweud am y mater. Roedd llygaid Minna yn pefrio oherwydd ei bod hi yn ymhyfrydu yn y ffaith fod ei fab mor driw i’r Achos, ac mor benderfynol o ddal ati i frwydro dros hawliau ei bobol. 

Doedd ei fam heb fod yn rhan o fywyd Koi ers amser. Dim ond newydd ei gollwng yn rhydd o’r carchar ym mis Mehefin 2090 oedd hi ar ôl bod o dan glo am chwe blynedd am gynllwynio i smyglo arfau i wersylloedd Whitchurch, Chirbury a Phontrilas. Rhyw gyswllt o Tennessee, a oedd yn rhan o rwydwaith y Klu Klux Klan werthodd y cwbwl iddi. Rhywsut neu’i gilydd, cafodd ei chynllwyn ei fradychu. Gan bwy yn union, doedd neb yn hollol siŵr, ond roedd Minna yn grediniol y byddai’r sawl a wnaeth yn talu’r pris rhyw ddydd. 

Mater arall oedd arian. Peth prin iawn oedd hwnnw ar aelwyd Tilian, Minna a Koi yn Marshall Lane. Daliwr Gwlith oedd galwedigaeth y tad, a oedd yn siwtio Tilian i’r dim gan nad oedd yr orchwyl yn ormod o draul. Roedd llu o ddynion eraill yn gwneud yn union yr un gwaith, trwy godi allan ar lasiad y dydd er mwyn cadw golwg ar eu rhwydi mwslin a daenwyd rai oriau ynghynt ym mherfeddion gwinllannoedd a pherllannau’r cyffiniau. Doedd dim dal faint o ddiferion gwlith y gellid eu hel rhwng y coed, gan fod y cwbwl ar drugaredd y tymhorau. Peth digon prin oedd gwlithlaw; peth prinnach fyth oedd niwl, ond roedd amryw o drigolion Chirbury yn fodlon talu am y dŵr oherwydd  fod ei burder o’r safon uchaf.

Bydd y nofel Cymru Fydd gan Wiliam Owen Roberts yn dod o’r wasg gan O’r Pedwar Gwynt fis Tachwedd. Cyfieithwyd ei waith i dros ddeg o ieithoedd a hon fydd ei chweched nofel, yn dilyn cyhoeddi Paris yn 2013, a Petrograd yn 2008 a enillodd iddo Wobr Llyfr y Flwyddyn.

Fel y rhan fwyaf o adeiladau’r Dwyrain, ni chafwyd caniatâd i godi Neuadd Hailsham yn uwch na dau lawr gan y gallai hynny annog sneipars i wardio ar ei do

Pynciau:

#Rhifyn 19
#Wiliam Owen Roberts
#Yr argyfwng hinsawdd
#Cymru Fydd
#Gwleidyddiaeth