Colofnau

Y Farddanhadlen wen

Natur heddiw

Siân Melangell Dafydd

Amser darllen: 3 munud

19·06·2026

Mae rhai planhigion yn anweledig hyd nes i rywun eu henwi, ac yna maen nhw i’w gweld ym mhobman fel petai’r byd yn datgelu ei hun ar ôl cael ei alw. 

Daw llaethysgallen yn amlwg mewn llefydd fel teils y draen yn y llyfrgell. Deilen arian yn lledaenu ar y traeth. Gwenith y gwylanod yn troi tir caregog yn sêr. 

Marddanhadlen yw un o’r enwau hyfryd yna sy’n bedwar tymor o lond ceg, yn ddŵr nant dros gerrig mân o sŵn.  A gore oll – all neb ddweud yr enw ar frys. Mae’n gofyn pwyll. 

Ar lan y Seine gwrddais i â’r planhigyn mewn gwirionedd. Mae’n rhaid fy mod wedi cerdded heibio iddi mewn sawl lle arall gannoedd o weithiau. Ond un diwrnod ar fore o Ebrill, roedd fel petai awyr oer o’r afon yn crynu dail y farddanhadlen wen – a thonnau o’r planhigyn yn sydyn yn amlwg i mi. Ei chlychau o flodau yn fud. A heb yn wybod i mi ar y pryd, ‘mud’ yw un o’i henwau hefyd. O’r dydd hwnnw ymlaen, mae wedi ymddangos wrth ymylon fy myd o Ebrill hyd ddechrau Rhagfyr ac mi fydda i’n meddwl amdani fel clychau Cantre’r Gwaelod neu blasty Tegid Foel – i’w chlywed neu ei phrofi ddim ond gan y dethol. 

Mae’n blanhigyn digon cyffredin o deulu’r mintys ac yn debyg iawn i ddanadl poethion ond fod ganddo flodau gwyn neu hufennog yn cydio’n glòs wrth y coesyn. Daw’r enw o ‘mar' – marw – a ‘danhadlen’ – fel danadl (poethion). Nid marw ei natur ond marw ei losg. ‘Mud’ a ‘dall’ yw hi yn ôl rhai o’i henwau eraill. Ceir un goch hefyd, sy’n hoff iawn o dyfu o gwmpas llysiau’r ardd, ac un felen sy’n ffafrio coetiroedd collddail llaith neu odre gwrychoedd cysgodol. Ond y farddanhadlen wen sy’n ymddangos lle nad ydw i’n ei disgwyl yn ddiweddar.

Un o hoff driciau’r mab yw twyllo cerddwyr ei fod yn mentro cyffwrdd danadl poethion. Bydd yn swatio wrth wely o’r farddanhadlen wen a’i anwesu nes i gerddwr hygoelus basio a dweud, mewn sioc, ‘tydi hynna ddim yn llosgi?’ Mae wrth ei fodd.

Ga’ i fynd â chi yn ôl i Ffrainc? Ryw dro yn 1920, dychmygwch yr artist Gwen John yn cydio mewn dyrnaid o’r farddanhadlen wen, ddiniwed, ddi-losg a’u gosod mewn jwg, a rhyw ddiwrnod arall mewn fas neu botyn syml. Credwn fy mod yn adnabod ei gwaith yn dda, a threuliais oriau bwygilydd yn darllen ei gohebiaeth gyda’r artist Auguste Rodin. Ond o weld arddangosfa o’i gwaith yn ddiweddar, sylwais fy mod i’n gweld yn wahanol bellach. Dyma sut y bu i’r farddanhadlen wen ymddangos eto, a hynny ar dri chynfas, yn ddigamsyniol. Mae siâp cyfarwydd y farddanhadlen wen, pigau ei dail, meddalwch ei blodau, yn fanwl ac yn amlwg.

Dychmygwch Gwen John, dro ar ôl tro, efallai dros gyfnod o ddeng mlynedd, yn troi at bwnc syml y planhigyn diniwed ochr ffordd. Mewn un astudiaeth, mae gwrthrychau bob dydd ei bywyd – llyfr gweddi, siôl, potyn inc, a’r farddanhadlen wen. Dyma astudiaeth o ddiwylliant materol yr artist, y pethau oedd yn ‘digwydd bod’ ganddi, yn cynrychioli cartref. Blodau am ddim yw ei dewis, a rhai fyddai wedi bod yn ei chwmni o’r gwanwyn hyd at ddechrau’r gaeaf – model ffyddlon. Mae rhyw burdeb i’r clychau bach hufennog o’r coesyn, yn gochel rhag y glaw o dan y dail. Yn gweddu hefyd i symlrwydd darluniau Gwen John. 

Mae ambell i beintiad gan Gwen hefyd yn ail-greu sut le oedd ei rue Terre Neuve hi ym Meudon, nid nepell o Baris. Mae’n dangos lôn goediog, gyfoethog o wyrdd, a’r lôn yn dawel ac yn saff i ambell gerddwr. Mae’n lle delfrydol i blanhigion sy’n hoff o dir ymylol wedi’i aflonyddu a’i sathru fel ochr ffordd. Yno y byddai’r farddanhadlen yn fodlon, ac ar riniog Gwen John, fwy neu lai.

Casglodd Gwen John y blodyn bob dydd i harddu ei hystafell, heb ffwdanu hefo dim byd mwy ffansi. Tybed a wyddai ei enw? Tybed a wyddai fod Culpeper yn disgrifio’r planhigyn fel moddion i’r galon a’r ysbryd: yn llonni’r pen, erlid melancoli a bywiogi’r ysbryd? 

Feddyliais i ddim am Gwen John fel artist y planhigion o’r blaen ond yn hytrach y merched, y lleianod, y cathod a’r dwylo manwl. Ond bellach, mae’r farddanhadlen wen yn bresennol, yn amlwg, ac yn mynnu sylw. 

Y lluniau a fewnosodwyd: Bywyd llonydd gyda llyfr gweddi, siôl, fas flodau a photyn inc gan Gwen John c.1930; Blodau gan Gwen John, c.1920.

Dychmygwch Gwen John, dro ar ôl tro, efallai dros gyfnod o ddeng mlynedd, yn troi at bwnc syml y planhigyn diniwed ochr ffordd

Pynciau:

#Siân Melangell Dafydd
#Natur heddiw
#Gwen John