Cyfansoddi

Y Propagandist

Cynog Dafis
25·07·2019

Y Propagandist

Galwai am waed, a’i fron ei hun dan glo.
O’i sedd felfedaidd, gyrrai â’i sgrifell hael
Yr wyn I’r lladdfa. Hwn, ag efydd-ael,
Liw dydd, a heuodd efrau lond ein bro
Yng nghochl cymydog. Troes ein gwlatgar fryd
Yn drwyth anghymod a gelyniaeth ddall.
'Lluniais,' eb ef, 'eurgadwyn geiriau call
I’ch tywys, nychlyn dorf, i’ch priod fyd.'
Ymbesgodd ar ein swrth gysgadrwydd ni,
Ac ymfrasáu ar ofn ein llegach fron.
Rhag dwyn ei wg, o amau’n 'proffwyd llon',
Ninnau a’i haddolasom megis Rhi.
Llyfasom oll, yn ŵyl, hualau heyrn:
A gwnaethom bropaganda’n Hapus Deyrn.

                                   Gwilym Ceri Jones

 

Roedd Gwilym Ceri Jones (1897-1993) yn perthyn i genhedlaeth o weinidogion anghydffurfiol y radicaleiddiwyd llawer ohonynt yn sgil lladdfa 1914-18 ac yna gan y Dirwasgiad Mawr. Digon posib iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod yng Ngholeg Aberystwyth ddechrau’r 1920au pan heclwyd Tywysog Cymru oddi ar y llwyfan gan y myfyrwyr, llawer ohonynt yn ddarpar-weinidogion. Tueddodd llawer o’r genhedlaeth hon tuag at sosialaeth a heddychiaeth ac at genedlaetholdeb Cymreig.

Yng nghefn gwlad godre Ceredigion, yn Rhydlewis, y magwyd Gwilym Ceri ond yn y De diwydiannol y treuliodd y rhan fwyaf o flynyddoedd ei weinidogaeth. Bardd-bregethwr a Christion o argyhoeddiad ydoedd. Fe’i magwyd yn y traddodiad eisteddfodol a chafodd lwyddiant mawr, gan ennill 55 o goronau a chadeiriau, gan gynnwys y Gadair genedlaethol ym Mhwllheli yn 1955 am ei awdl ‘Gwrtheyrn’ am ddyfodiad y Saeson i Brydain.

Cyhoeddwyd ei gyfrol Diliau’r Dolydd yn 1964, flwyddyn wedi ei farw. Ar hyn o bryd mae ei fab Hywel Ceri Jones, a fu’n bennaeth Polisi Addysg a Hyfforddiant ac yna Cyflogaeth a Pholisi Cymdeithasol y Comisiwn Ewropeaidd, yn paratoi at gyhoeddi cyfrol o waith anghyhoeddiedig Gwilym Ceri, gan gynnwys ‘Y Propagandist’.

Mae’n debygol i’r soned hon gael ei chyfansoddi yn 1944 pan oedd Ffasgaeth yr Almaen a’r Eidal yn wynebu gwewyr eu hangau. Mae’n amserol ei chyhoeddi ar hyn o bryd wrth i werinoedd ledled y byd gael eu denu gan negeseuon ffug-arweinyddion poblyddol. Fe ddywedir nad yw hanes byth yn ailadrodd ei hun, ond ei fod o bryd i’w gilydd yn odli.  Cynog Dafis

Pynciau:

#Cynog Dafis
#Barddoniaeth
#Gwleidyddiaeth