Ysbaid
Lloffion y llenor
Ac eithrio rhestrau siopa ac ambell ebost i’r ferch a’r wyres yng Nghaerdydd, dyma’r geiriau cyntaf i mi eu hysgrifennu ers bron i dri mis. Cedwais yn driw i’r llw a dyngais yn dilyn trychineb fy nghyflwyniad i Ferched y Wawr ac ni chyffyrddais yn fy nofel byth ers hynny. Mae Hyll Ffyrnbyrth bellach yn gorwedd ymysg yr hen filiau – a chatalogau am daclau i hwyluso trafferthion y geriatrig – wrth bwys y peiriant rhwygo papur. Does gen i mo’r cythraul i’w dinistrio.
Synnais mor fuan y pasiodd fy ffyrnigrwydd hunandosturiol. Cefais gais am anerchiad gan Gymdeithas Lenyddol a brathais yn ôl: ‘Tydw i ddim yn llenydda mwyach!’ gan dybio y byddai hynna’n wers iddyn nhw a’r genedl gyfan. Yn dilyn y tangnefedd o gael hynna allan o’m system, sylweddolais nad oeddwn i fy hun, hyd yn oed, yn hiraethu am seicodramâu diddiwedd Ditectif Insbector ‘Myrff’ Murphy. Yn yr un modd a thua’r un pryd, peidiodd Garmon Cwellyn ag aflonyddu ar fy mreuddwydion â’i nonsens canoloesol. Mae’n amlwg mai fy mhrif ddawn fel llenor yw creu cymeriadau annymunol a blinderus. Ond fel cymeriadau syrffedus, cysuraf fy hun nad oeddynt yn gwbl anargyhoeddiadol ychwaith, o ystyried eu heffaith arnaf.
Hebddynt, mae fy mywyd yn syml a heulog. Codaf gyda’r wawr ac af i ’ngwely’n syth ar ôl y tuchan cyntaf a ddaw o’m genau wrth glywed penawdau Newsnight. Mae gennyf fwy o amser i siarad â phobl eraill, ac o ostwng lefel fy sgwrs ryw hicyn neu ddau, rhaid cydnabod y gall mân siarad brofi’n ddymunol a defnyddiol.
Daeth trigolion y tŷ haf drws nesaf i ddechrau fy nghydnabod, er braidd yn sbeitlyd. Fydd Mat byth yn fy mhasio ar ei feic heb godi’i fawd a’m cyfarch gyda, ‘Twll tin pob Sais, eh, Derve?’ Daeth i’r drws y diwrnod o’r blaen i’m gwahodd i barti ar gyfer y penwythnos canlynol. Cofiais arwyddocâd y dyddiad ac, wrth synhwyro fy chwithdod, esboniodd Mat nad oedd gan y parti ddim i’w wneud â’r Jiwbilî. Dim fflagiau Jac yr Undeb, dim treiffls: ‘Just a bit of banter and a few drinks...’ Yna rhoddodd wên lydan a argoelai ffraethineb mawr – ‘Twll tin y cwîn!’ Roedd hynny’n galw am godi dau fawd. Ac yntau wrth ei fodd â’m gwep syn, llanciodd i ffwrdd.
Heb nofel i’m blino na dim amgenach i’w wneud, ar ôl hir bendilio mentrais draw i dŷ Mat a Nat y Sadwrn canlynol, a chwarae teg, doedd dim coch, glas na gwyn i’w weld yn unman, dim ond wynebau cyfarwydd yn sgwrsio ac yfed. Braf oedd gweld Mr a Mrs Williams druan wedi mentro allan gyda’r mab, eu gor-wyres fach yn chwarae hefo Dakota ac yn mwytho’r ci rhech.
‘Sut ydach chi’ch dau?’ gofynnais i’r pâr oedrannus.
‘Waeth i chi heb â gofyn, Mr Clarke – mae o’n fyddar fel pentan!’
‘How-di-dw?’ meddai Mr Williams, gan godi gwydriad o win heb falio dim am hwnnw na’i fyddardod.
Es yn syth at Heulwen wedyn. Sylwais arni’n gweini byrbrydau hefo Nat wrth i mi gyrraedd a nodais eu cyfeillgarwch. ‘Mae Nat yn hen ’ogan iawn,’ meddai Heulwen. ‘Ti’n dod i nabod rhywun yn dda pan ti’n torri eu gwallt, wyddost ti.’
‘Mae Nat yn dod i’r salon?’
‘Paid â sbio arna’i fel ’na, Derfel. Pam lai? Mae hi’n dweud mod i’n trin gwallt cystal â neb ac mae ’mhrisia i ddeugain punt yn rhatach na Didsbury.’ Druan, annwyl. O’m gweld yn closio at Heulwen, bu rhaid i Sel roi ei big i mewn ac ychwanegu at foliant y pâr o Didsbury, eu hepil a’u hanwesyn drycsawr. Chwarae teg iddynt, meddai, am ymorol cael gwin a bwyd o’r Waitrose lleol a chratiau o gwrw Derfel Gadarn o garej Gruff. Ymddengys mai Gruff sy’n gyfrifol am gyflwyno ymadroddion sgatolegol ein hiaith i Mat. Rowliais fy llygaid, ac meddai Sel: ‘Betia i fod Gruff wedi llwyddo i ddysgu mwy o Gymraeg iddo na chdi!’ Ac fel roeddwn i’n palfalu am ymateb brathog, dechreuodd Gruff a Mat forio canu ‘Yma o Hyd’, a Sel yn fy mhwnio – ‘Cymraeg Dafydd Iwan hefyd – paid â bod gymaint o grinc, wnei di?’
Cafodd y ddeuawd gymeradwyaeth orawenus gan bawb, gan gynnwys Mr Williams na chlywodd ddim. Finnau’n clapio’n gwrtais, gan ferwi bod fy nghymdogion a’m cyd-Gymry mor wasaidd eu hymateb i ymdrechion lleiaf y sawl sy’n eu hamddifadu dan eu trwynau. A hynny ar benwythnos y Jiwbilî felltith.
Gwn nad oes diben gwylltio: rhaid pwyllo er mwyn dadansoddi a miniogi fy meddyliau. Cydiaf yn f’ysgrifbin drachefn, lluniaf erthygl ddeifiol ar gyflwr y Gymru gyfoes ar gyfer O’r Pedwar Gwynt. Dichon y bydd hynny’n caniatáu ysbaid ddymunol yng nghanol tudalennau llawn llên y cyfandir, ffug-sosialaeth a’r obsesiwn diweddaraf â’r menopos.
Mae Derfel Clarke wedi penderfynu rhoi gorau i'w nofel anorffenedig Hyll Ffyrnbyrth.