Ysbrydoliaeth
Stori Fer Iawn Iawn
Yr oedd yr enwau gennyf yn barod (yr enwau a ddaw gyntaf, wrth gwrs): Alwyn a Clên Hope-Hughes.
Yr oedd rhyw lun ar sefyllfa.
Yr oedd un frawddeg hyd yn oed: Clustfeiniai’r naill a’r llall drwy’r parwydydd ar ddistawrwydd ei gilydd.
Yna daeth cnoc ar y drws.
Euthum i lawr y grisiau i’w ateb.
Yno roedd y Dyn o Lanllyfni.
Bydd cyfrol o straeon byrion iawn Aled Jones Williams – Tynnu – yn cael ei chyhoeddi ddiwedd Medi (2021) gan wasg Carreg Gwalch.
Darllenwch ddwy arall yn y fan hon: Crisialu a Domino.
Darllenwch adolygiad Hannah Sams o Y Wraig ar Lan yr Afon gan Aled Jones Williams yn y fan hon ac adolygiad Bethan Mair o Nostos gan Aled Jones Williams yn y fan hon.