Cyfweld

Dyfodol Hedd Wyn

Trawsfynydd 2117

Stephen McNeff

2117/Hedd Wyn

Tŷ Cerdd, Awst 2022

Gruff Rhys

Amser darllen: 15 munud

20·07·2022

Gruff Rhys (Llun: Ryan Eddleston)

Adeg yr Eisteddfod eleni mi fydd prosiect epig ei naws yn cael ei ryddhau gan Tŷ Cerdd, sef opera am Hedd Wyn. Pe bawn i ddim yn gwybod dy fod ti’n rhan greiddiol o’r weledigaeth artistig mi fyddwn i wedi ei chael yn anodd rhoi fy rhagfarn o’r neilltu; mi fyddwn i wedi cymryd mai prosiect ystrydebol yn ei hanfod fyddai hwn, ymgais arall i ddyrchafu’r genedl ar sail stori orgyfarwydd, yn arbennig gan ei fod yn cael ei ryddhau adeg wythnos yr Eisteddfod. Ond wrth gofio sut mae’r epig a’r banâl yn tynnu yn erbyn ei gilydd yn dy waith fel cerddor a sgwennwr caneuon, mi ro’n i â diddordeb yn syth mewn gwybod mwy. Beth wnaeth d’argyhoeddi y dylset dderbyn y gwahoddiad i sgwennu’r libreto?

Daethpwyd ata i’n wreiddiol efo syniad am opera ar gyfer ffilm. Roedd yn hollol amlwg i mi nad oedd angen drama gyfnod arall am Hedd Wyn yn y Gymraeg. Mae un yn ddigon – yn wir, mi fuasai’n warthus gwneud y fath beth – ac yn y cyfarfod cyntaf mi wnes i holi, er enghraifft, ynghylch y posibilrwydd o leoli’r stori yn y gofod. Roedd yn addawol nad oedd y cyfansoddwr, Stephen McNeff a’r cynhyrchydd, Marc Evans wedi gwingo wrth glywed y syniad hwn gen i. Dwi’n meddwl fod opera yn gyfrwng heriol a gwirioneddol ryfedd ar adegau. Ac i rywun fel McNeff sy’n gyfarwydd â Ring Wagner, er enghraifft, roedd o’n gallu bod yn ddigon eangfrydig i drafod pob math o syniadau. Mae’n debyg mai’r ysgogiad pennaf i mi oedd y cyfle i gael dysgu am gyfrwng newydd. Roedd hynny’n ffordd i mi ddatblygu’r hyn dwi’n ei wneud fel sgwennwr caneuon, ac yn addysg hefyd ynddo’i hun. Ro’n i’n hollol agored ynghylch y ffaith nad oedd gen i ddim profiad o’r cyfrwng ac ro’n i’n barod i gael cyngor a chael fy addysgu gan Stephen McNeff. 

Wyt ti’n gwerthfawrogi’r gwendid dynol sydd yna wrth wraidd pob myth? Ai dyna sy’n d’atynnu at straeon tebyg i hanes Hedd Wyn – a hefyd hanes John Evans yn mynd i America i chwilota am lwyth chwedlonol y Magodwys, sydd wrth galon dy brosiect amlgyfryngol a’r gyfrol, American Interior (2015)?

Yn bendant. Ond yn yr oes sydd ohoni, mae Trump a Johnson wedi gwneud y peth mor amlwg nes nad oes llwybrau diddorol i’w dilyn mwyach wrth drafod y pwnc. Mae angen symud ymlaen o’r cyfnod digalon yma! Mae American Interior yn delio â’r dinistr real y gall fake news ei greu. Ond doedd y term ddim yn bodoli yn yr un ffordd, wrth gwrs, tan ddyfodiad Trump. Mi fuasai’r gwaith wedi bod yn llawer haws ei esbonio petawn i wedi ei ryddhau gwpl o flynyddoedd yn ddiweddarach. Ysgrifennwyd yr opera cyn cyfnod Trump a Boris Johnson.
 


Mi ysgrifennaist y libreto a’r synopsis yn 2015/16, yn do? Beth oedd y rheswm am yr oedi cyn ei rhyddhau?

Roedd yn hollol ynfyd. Fe baratowyd a recordiwyd yr opera er mwyn iddi fod yn barod erbyn canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn yn 2017. Y syniad oedd edrych i’r dyfodol a dathlu yn Nhrawsfynydd achlysur deucanfed pen-blwydd ei farwolaeth. Felly 2117 oedd teitl y libreto. Fe recordiwyd yr opera ymhell o flaen llaw. Roedd yr opera i fod yn drac sain y ffilm a’r prif leisiau wedi eu hailganu a’u hychwanegu’n fyw yn y tirlun. Felly fel rhyw fath o ffilm Bollywood. Ta waeth, mi adawodd pwy bynnag a gomisiynodd yr opera yn S4C, ac fe gafodd yr opera, fel pwerdy Magnox, ei dadgomisiynu. Roedd yn hollol ynfyd, o fy safbwynt i, fod opera a oedd wedi ei chomisiynu, ei hysgrifennu a’i recordio gan 180 o gerddorion a chantorion wedi cael ei gadael ar silff i bydru! Ac roedd y ffilm yn barod i’w saethu. Roedd yn brofiad rhwystredig iawn i Stephen McNeff ar ôl yr holl waith cyfansoddi, dwi’n siŵr, a dwi’n falch iawn ei fod wedi llwyddo i ryddhau ei opera o’r diwedd gyda chymorth Tŷ Cerdd ac Opera Genedlaethol Cymru.

Un o’r elfennau sydd wedi fy nharo am dy waith fel cerddor a sgwennwr caneuon ydi’r berthynas arbennig rwyt ti’n ei chynnal rhwng pethau synthetig ac elfennau naturiol. Mae hynny i’w weld yn dy gynhyrchiad diweddaraf, Seeking New Gods (2021), efo’r mynydd yna sy’n codi ynddo fo, yn gwyro’n feddwol, rywsut, rhwng y materol a’r arallfydol, ac mi ro’n i’n teimlo’r tensiwn hwn ar waith yn yr opera hefyd. A dweud y gwir, anaml y byddaf yn chwerthin wrth wrando ar gerddoriaeth ond mi wnes i chwerthin wrth wrando ac edrych ar Seeking New Gods a 2117/Hedd Wyn. Ai’r defnydd o eironi ynddynt sy’n gyfrifol am hynny, wyt ti’n meddwl?

I mi pan mae yna chwerthin yn y stiwdio mae’n arwydd fod pethau yn mynd yn dda. Weithiau, gall defnyddio sŵn sydd yn gyfan gwbl allan o le mewn cân, neu yn hollol anffasiynol, fod yn drawsnewidiol ac mae hynny’n peri chwerthin, hyd yn oed pan fo’r bwriad yn bwrpasol a difrifol. Gall eironi fynd â chelfyddyd i diroedd tramgwyddus sydd tu hwnt i furiau digalon y chwaethus, ac yn y fan honno, ar y tu allan i gysyniadau ceidwadol neu werinol mae’r cyfleoedd gorau i wneud gwaith gwreiddiol, dwi’n meddwl. Gall y defnydd o eironi fod yn wael hefyd, wrth gwrs, os nad ydi o’n ddigon eithafol. Wedi dweud hynny, dwi’n sgwennu caneuon digon confensiynol yn reddfol, felly mae yna ryw fath o densiwn yn fy ngwaith rhwng bod yn driw i’r gân yn ei diniweidrwydd a’i thanseilio yn llwyr. 

Ac mae’r un un tensiwn yn bodoli rhwng dau begwn purdeb cerddoriaeth fyw acwstig a dyfodoliaeth uchelgeisiol cerddoriaeth synthetig. Neu rhwng caneuon confensiynol a chaneuon arbrofol. Dwi’n meddwl fod prydferthwch ac arswyd yn gallu bodoli yn y ddau begwn hyn. Mae gen i obsesiwn, ers i’r cynhyrchydd Gorwel Owen fy nghyflwyno i’w waith, ynghylch sut y bu i’r cyfansoddwr modern Cornelius Cardew gefnu ar yr avant-garde a dechrau cyfansoddi caneuon comiwnyddol melodig i’r gweithwyr. Fallai i hyn gychwyn yn rhannol ar ôl iddo fo berfformio darn arbrofol gyda’r Scratch Orchestra ym Mryngwran, Ynys Môn yn 1970. Lluchiodd plant lleol gerrig atynt, a bu raid i’r sacsoffonydd ddechrau chwarae cerddoriaeth felodig er mwyn iddynt roi’r gorau iddi. 

Mae eironi yn bosib mewn cerddoriaeth ‘bur’ hefyd yn tydi? Mae digon o esiamplau mewn cerddoriaeth glasurol, yng ngwaith Mozart, Mahler, Stravinsky. Ac mewn opera, gall cerddoriaeth fod yn sylwebaeth eironig ar y geiriau, neu fel arall rownd. I ba raddau roedd y geiriau a’r gerddoriaeth yn pwyso’n erbyn ei gilydd wrth i chi ddatblygu 2117/Hedd Wyn? Ambell dro, mi ro’n i’n cael yr argraff fod y testun yn dweud un peth a’r gerddoriaeth yn dweud y gwrthwyneb. Mi o’n i’n licio hynny. Ro’n i’n meddwl ei fod o’n arwydd o ryddid meddwl, sydd ddim yn hawdd mewn prosiect dau ben lle mae cyfansoddwr a libretwr yn gorfod cydweithio’n gyson.

Roeddwn i fel disgybl i McNeff, mewn ffordd. Roedd yn brofiad diddorol tu hwnt, ro’n i’n ei holi faint yn union o ddarnau, o eiriau oedd arno ei angen i greu opera ac roedd o’n fy nghynghori wedyn, a’u hailwampio weithiau. Ro’n i wedi dod ar draws operâu gan John Adams, er enghraifft Nixon in China, ac Einstein on the Beach gan Philip Glass, dros y blynyddoedd – darnau sydd ag un droed mewn diwylliant cyfoes pop – ond ychydig iawn oeddwn i’n ei wybod am y cyfrwng yn gyffredinol. Wedi dweud hynny, dwi o hyd yn ceisio gwrthgyferbynnu’r gerddoriaeth a’r geiriau. Os ydi’r gerddoriaeth yn dlws neu’n felys mi fydda i wastad yn ceisio tanseilio hynny drwy gyfrwng y geiriau. Ac i’r gwrthwyneb. Yn achos yr opera hon, mi ges i’r rhyddid i ysgrifennu’r geiriau a’r stori gyntaf ac roedd hynny’n brofiad newydd o ryddid i mi achos fel arfer dwi’n sgwennu cerddoriaeth a geiriau yr un pryd. Ond y tro hwn, roedd dwy rôl bendant gen i a Stephen McNeff ac mi ro’n i’n parchu mai ei opera o oedd hi ac mai ef ddylsai gael y gair olaf nid yn unig fel cyfansoddwr ond hefyd fel rhywun sy’n deall y cyfrwng.
 

(Llun: Ryan Eddleston)
 

Beth am y berthynas rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth? Rydan ni’n dueddol o gymryd bod y ddwy gelfyddyd yn mynd law yn llaw, a llenyddiaeth ar ei gorau yn codi i entrychion cerddoriaeth, yn ysbryd Walter Pater (‘All art constantly aspires towards the condition of music’), cerddoriaeth fel y gelfyddyd buraf, felly, fel y byddai’r cynganeddwyr yn prysuro i gytuno, mae’n siŵr. Ond ai camsyniad ydi hynny, mewn gwirionedd, ac onid yr hyn sy’n arbennig am lenyddiaeth ydi’r ffaith ei bod yn digwydd mewn distawrwydd, ac mai dim ond mewn distawrwydd y mae ei rhythm a’i thonau i’w clywed yn iawn? Rhywbeth sydd wedi mynd ar goll yn ein diwylliant cyfoes a’i bwyslais ar berfformio. Tybed ai dim ond mewn distawrwydd y medrwn glywed llenyddiaeth yn iawn?

Mi ddangosais glawr record Y Pelydrau i McNeff, yr un lle maen nhw’n sefyll o flaen yr atomfa yn eu dillad grŵp gwerin, oherwydd ro’n i’n eiddgar i ddefnyddio elfennau amrywiol o hanes Trawsfynydd gan fod amser yn toddi yn raddol yn ystod yr opera. Mi wnaeth McNeff annog y cysyniad o ddefnyddio’r grŵp Pelydrau fel elfen ganolog yn y stori wedyn, efallai oherwydd ei fod yn deall fod sgwennu caneuon ‘pop’ yn faes oedd yn gyfarwydd i mi ac felly ro’n i’n gallu sgwennu’r rheiny yn gyflym a dechrau rhoi siâp ar y peth yn syth. 

Dwi ddim o’r farn fod caneuon pop yn llenyddiaeth neu farddoniaeth. Maen nhw’n bwysig ond maen nhw mewn categori unigryw! Mae’n faes anffurfiol iawn – gall unrhyw un gymryd rhan – a does dim rhaid defnyddio gramadeg cywir na hyd yn oed ddilyn rheolau sillafu. Beth oedd yn drawiadol i mi oedd hyn: drwy addasu elfennau o awdl Hedd Wyn ar ffurf caneuon tuag at ddiwedd yr opera, roedd gwir lenyddiaeth yn serennu. Mae’r gynghanedd yn canu, heb os. Darnau mwyaf emosiynol lwyddiannus yr opera ydi llif geiriol y darn – trac 11: ‘Trigais yng nghanol golud’ – felly dwi’n meddwl fod llenyddiaeth Hedd Wyn yn gweithio’n odidog fel caneuon, er enghraifft pan maen nhw’n ynganu ‘A haenau llosg yn fy llais’, dwi’n toddi tu fewn. Fy hoff sgwennwr caneuon ers yn ifanc ydi Lou Reed, gyda llaw. Roedd o’n swnio’n street ac anffurfiol iawn ond yn amlwg mi gafodd o addysg ffurfiol lenyddol felly roedd o â mantais fawr dros ei gyfoedion. 

Faset ti’n cytuno nad oes lle mewn celfyddyd i fynegi barn? Ai dyna sy’n dy atynnu ato?

I’r gwrthwyneb, mae’n gyfrwng gwych ar gyfer mynegi barn a dw innau’n aneffeithiol iawn fel ymgyrchydd. Mae’n hawdd mynegi barn ‘boeth’ ar Twitter a chael cannoedd o aildrydariadau ond wedyn gall hynny dyfu’n waith llawn amser, tu hwnt i gerddoriaeth. Dwi wedi ymbellhau oddi wrth y cyfryngau cymdeithasol achos, a bod yn gryno, mae’n ‘gwneud fy mhen i mewn’ a hefyd mae yna genhedlaeth o newyddiadurwyr digidol, proffesiynol sydd yn llawer mwy effeithiol. Mae bod ar y cyfryngau cymdeithasol fel nofio mewn llaid. Mae’n llawer gwell gen i fynegi barn drwy’r caneuon achos mae o’n gofnod mwy hir dymor a phellgyrhaeddol, yn y pen draw, a dwi’n medru cnoi cil ychydig bach mwy. O safbwynt gwarchod fy hun rhag mynd o fy nghof, dyna’r ffordd hawsa i mi gynilo gwybodaeth, ac ymgyrchu ambell dro. Ond dwi’n mwynhau caneuon haniaethol hefyd. Dwi ddim yn perthyn i’r traddodiad canu protest, yn amlwg, ond mae yna le i ganeuon sy’n mynegi barn bendant. Ac wrth gwrs, mae celfyddyd yn medru adlewyrchu cymdeithas o’r tu hwnt i’r ffiniau gwleidyddol arferol. O safbwynt yr opera, dwi’n meddwl ei fod o’n waith sylfaenol wleidyddol, a dwi’n meddwl mai hanfod cerdd ‘Yr Arwr’, sef thema yr opera, ydi ecoleg. Neges ecolegol oedd wrth graidd gwaith Hedd Wyn, yn fy marn i. Roedd o’n hanu o baradwys wledig Meirionydd, felly sgwn i sut y byddai wedi ymateb i’r bygythiad i leoli’r fyddin yno ac wedi hynny adeiladu’r atomfa? Mae parodrwydd gwleidyddion Cymru i blygu i bwysau’r lobi niwclear yn jôc wael. Dyna fan gwan pennaf Plaid Cymru i mi. Mae’r diwydiant niwclear yn dorcalonnus ar sawl lefel, gan gynnwys y dimensiwn militaraidd, y difaterwch amgylcheddol a’r dyledion tymor hir. Pa mor gaeth fyddai Cymru dan warchae cenhedlaeth newydd o atomfeydd anghynaladwy? 

Mae’n anghredadwy sut mae’r chwith yng Nghymru i’w gweld yn derbyn y bygythiad yn ddi-gŵyn. Dwi’n deall fod yna ddadl fod llosgi carbon yn waeth i’r amgylchfyd ond dydi Cymru ddim angen yr egni trydan yma i gyd ac mae’r atomfeydd wedi eu lleoli mewn ardaloedd lle mae’r iaith Gymraeg yn gynhenid, heb sôn am yr amgylchfyd naturiol yn gyffredinol. Pe bai unrhyw ddamwain yn yr ardaloedd hyn byddai’r effaith ar yr iaith, sy’n ddigon bregus yn y lle cyntaf, yn andwyol. Bydd y gwastraff yn achosi problemau am filoedd o flynyddoedd. Tydi hynny ddim yn wir am sgileffeithiau egni’r gwynt, neu egni morglawdd, neu egni dŵr. Pam na wireddwyd morglawdd Abertawe, er enghraifft, pan oedd yn opsiwn realistig? Gallai Llywodraeth Cymru fod wedi benthyg yr arian hwnnw petai’r weledigaeth wedi bod ganddi. 

Hiwmor tywyll yr opera hon ydi mai efallai ar ddamwain y caiff yr iaith ei hachub, fel y tro hwnnw pan gyfieithwyd y Beibl i’r Gymraeg er mwyn cryfhau Eglwys Loegr a’r frenhiniaeth yng Nghymru yn erbyn y Pab (dwi ddim yn ddiwinydd, felly mae’n bosib fod fy namcaniaeth yn gwbl anghywir). Efallai mai trwy drychineb ddiwydiannol erchyll y caiff yr iaith ei dinistrio – neu ei hachub. Er, mi fyddwn i’n dychmygu mai airbnb ydi’r peryg mwyaf i’r iaith ar hyn o bryd. 

Mae trawsnewid yn thema gyson yn yr opera, ar nifer o lefelau – fedri di sôn mwy am hynny a’r ffordd mae’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn toddi’n un yng ngwres yr atomfa? Ai dyna hefyd – trawsnewid – ydi’r hyn rwyt ti’n ei ddeisyfu pan fyddi di’n mynd ati i greu darn o gelfyddyd? Y profiad o deimlo dy weledigaeth wreiddiol yn cael ei thrawsffurfio mewn ffordd na fyddet ti’n medru ei rhagweld? Sut oedd hynny’n wahanol wrth orfod cyfyngu dy hun i’r geiriau a rhoi rhwydd hynt i’r cyfansoddwr, Stephen McNeff?

Mae gan y cysyniad o drawsnewid enw drwg ar lawr gwlad: mae ‘Ti di altro’ yn cael ei ystyried yn beth drwg a ‘Tydi o ddim wedi newid dim’ yn rhywbeth da. I Americanes fel Susan Sontag roedd trawsnewid yn gyson, fel person, yn hanfodol bwysig. Er, efallai mai cysyniad Americanaidd ydi hynny, rhan o gwlt yr unigolyn, wedi meddwl. Ond roedd Sontag yn un y gwnes i ymddiddori yn ei gwaith ryw ychydig ar un adeg. O safbwynt cerddorol – ac o roi o’r neilltu drawsnewidiaeth steilistig amlwg cerddor fel David Bowie, rhwng un record a’r llall, oherwydd ei fod yn enghraifft rhy amlwg – mae’n hynod gyffrous gweithio efo pobl i greu rhywbeth annisgwyl. Dyna ydi hanfod bod mewn grŵp roc: mae’r gwaith y tu hwnt i reolaeth unigolyn. Ar ei orau gall gyrraedd rhywle cwbl annisgwyl a thu hwnt i ddychymyg un aelod. Sy’n berffaith tra bo popeth yn gadarnhaol. Roedd yn brofiad arallfydol gweld fy ngwaith yn cael ei ‘ailbwrpasu’ gan Stephen McNeff. Mae ei allu cerddorol ymhell tu hwnt i’r hyn sy’n bosib i mi, felly roedd hynny’n beth cadarnhaol dros ben. Ac roedd ein ffiniau creadigol yn hollol eglur, felly roedd yn brofiad gwych.

O safbwynt hunanol mae’n haws, weithiau, recordio rhywbeth yn union fel dwi wedi dychmygu’r peth. Ond dwi wastad yn gadael gofod i newid cyfeiriad, neu i ddamweiniau. O safbwynt trawsnewid yn y libreto, mae’r prif gymeriadau yn trawsnewid yn gymeriadau eraill yn gyson drwy’r darn, wrth i amser doddi, felly maen nhw’n mynd o fod yn fyfyrwyr coleg yn 2117 i fod yn Hedd Wyn, i fod yn Arthur, i fod yn Fabinogi, i fod yn Rhufeiniaid, ac ati. Mae hanes Trawsfynydd mor gyfoethog, roedd o’n gyfle gwych i chwarae â hyn. Ond yn eu dychymyg mae hyn yn digwydd, wrth gwrs, tra’n dioddef o effeithiau ymbelydrol! 

Roedd gen ti berthynas deuluol oedd yn y maes efo Hedd Wyn. Beth oedd cysylltiad y teulu â’r Rhyfel Byd Cyntaf?

Lle bach ydi Cymru. Ar ochr fy mam, fy nain oedd yr hynaf o naw o blant a magwyd hi gan ei nain a thaid, mewn cartref arall gae i ffwrdd, er mwyn rhoi mwy o le i bawb ac o ran hwylustod i’w rhieni a’r plant eraill. Roedd ei hewyrth, Simon Jones, fel brawd iddi, i bob pwrpas. Roedd o’n ymladd wrth ochr Hedd Wyn yn y frwydr. Fe glywais un stori fod bwled wedi mynd drwy ei geg ac allan o’i foch ond does wybod am hynny. O Gwm Cynllwyd roedd fy nain, ond roedd ei nain hithau o Blas Capten, fferm nid nepell o’r Ysgwrn yn Nhrawsfynydd. Mae yna gyfweliadau efo ‘Wncwl Sim’ am y rhyfel yn archif Sain Ffagan. Roedd fy nhaid Aurfryn (ganwyd fy nhad pan oedd fy nhaid yn gymharol hen) hefyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn y Somme. Bu mewn ffrwydriad a chasglwyd y meirw yn bentwr. Credwyd ei fod wedi marw ond ar ôl archwilio’r cyrff sylwodd meddyg o Ganada ei fod yn gwingo. Tynnwyd un o’i ysgyfaint (a oedd wedi ei niweidio â shrapnel) allan yn y maes, gyda brandi i leddfu’r boen. Roedd hyn ar ôl bod yn trigo mewn mwd ar y maes am flynyddoedd eisoes. Profiad erchyll. Mynnodd fywyd cymharol ddistaw yn Nolgellau wedi hynny. 

Sut oeddet ti’n mynd ati i addasu o gyd-destun sgwennu caneuon i gyd-destun sgwennu ar raddfa operatig? Oedd yna shifft i’w deimlo, neu fyddet ti’n dweud bod yna ddimensiwn operatig i’th waith yn gyffredinol? Wnes di ddarllen a gwrando ar operâu wrth fynd ati i lunio’r libreto?

Antur oedd o, mewn ffordd. Ond ro’n i hefyd newydd orffen sgrifennu llyfr American Interior ac albwms bywgraffiadol am Giangiacomo Feltrinelli a John Delorean efo Neon Neon, felly er nad oedd gen i fawr o brofiad operatig – a tydi fy ngherddoriaeth i yn bendant ddim yn arbennig o operatig – ro’n i mewn man eitha hyderus o safbwynt dweud stori, a hynny, gobeithio, mewn ffordd ddiddorol. 

Beth ydi dy berthynas efo cerddoriaeth glasurol? A – cyn i mi anghofio – y mynyddoedd? Os ydi pobl yn rhamantu Hedd Wyn, mi fyddaf i yn rhamantu gwaith dy dad, Ioan Bowen Rees, a’i ysgrifau am fynydda. Tydi’r mynyddoedd byth i’w gweld ymhell o’th waith, boed hynny’n ddiriaethol neu’n drosiadol.

Roedd fy nhad yn gwrando ar gerddoriaeth glasurol dywyll a thrawiadol, drwy system sain bwerus, a’r sain wedi ei throi i fyny yn uchel iawn hefyd. Gallai hynny fod yn arswydus. Roedd yn fynyddwr brwd. Bob Sadwrn a Sul a gwyliau roedd o yn y mynyddoedd, a ni’r plant felly hefyd, os oeddem yn rhydd. Dwi’n meddwl iddo deimlo fod angen i’r Cymry ailafael yn eu mynyddoedd eu hunain, rhag agweddau trefedigaethol pobl oedd yn dechrau newid eu henwau, ac ati. Gan fy mod i wedi cael fy magu felly, dwi’n cymryd sylw o unrhyw beth sydd a wnelo ag obsesiwn mynyddig. Mae ffilmiau fel Close Encounters of the Third Kind gan Spielberg, a The Holy Mountain gan Alejandro Jodorowsky, yn rhai trawiadol iawn a doniol i mi, felly! Ac mae hynny’n dylanwadu arnaf. Yn ogystal â gweithiau fel y ddrama Mountain Language gan Harold Pinter. Dwi ddim yn mynydda rhyw lawer ond ro’n i’n ffodus iawn fy mod i wedi cael dod i ’nabod llawer o fynyddoedd Eryri yn blentyn. Ond fy mam oedd bardd pennaf y tŷ. Mae hi’n fwy o ddylanwad arna i, debyg. Mae hi’n berson brwdfrydig iawn o safbwynt diwylliannol. Hi drefnodd gig y Cyrff yng nghanolfan gymdeithasol Rachub yn 1984. 

Beth am y cysyniad o iwtopia? Mae hynny ar gynnydd ar hyn o bryd yn tydi, mewn ymateb i’r amrywiol argyfyngau rydym yn eu wynebu fel dynoliaeth, efo mwy a mwy o gymunedau newydd yn ymffurfio ar y tu allan i gymdeithas. Mae yna ddimensiwn iwtopig i’r stori rwyt ti wedi ei chreu ar gyfer yr opera hon hefyd, er gwaetha presenoldeb cyson dystopia yn yr ‘uffern clyd’, ‘yng nghysgod yr atomfa’ sy’n ‘lloches rhag y byd’, lle ‘tywynnu wna’r pelydrau yn wenwyn ar ein croen’. Mae fel petai’n amhosib gwahanu dystopia ac iwtopia. Ai dyna sy’n d’atynnu at hanes yr Undeb Sofietaidd? Mae gen ti ffilm fer iawn yn does, The History of Nails (2016), sy’n trafod hanes Gweriniaeth y Dwyrain Pell lle roedd artistiaid o’r mudiad dyfodolaidd yn arwain, ar y cyd â’r sosialwyr, lywodraeth glymblaid, un flaengar, yn ei ffordd ei hun, tan iddi gael ei chyfeddiannu gan yr Undeb Sofietaidd.

Roedd cyfnod Stalin yn drychineb o safbwynt celfyddyd. Mi fuasai’r Comiwnyddion wedi gallu cefnogi celfyddyd fentrus a haniaethol, fel y gwnaeth llywodraeth America yn y cyfnod hwnnw, ond carcharwyd pawb yn lle hynny! Fel strategaeth, roedd yn gam gwag, ac mi lwyddodd y byd cyfalafol i gyfleu’r syniad fod celf yn rhywbeth i’r unigolyn dewr, mai dim ond yn y Gorllewin roedd y ‘rhyddid’ yma ar gael. Roedd yna symudiadau digon diddorol ac addawol yn Rwsia hefyd, er enghraifft y dyfodolwyr (na ddylid eu cymysgu efo dyfodolwyr asgell dde yr Eidal), y lluniadaethwyr (constructivists), artistiaid fel Malefits, Rodtsienco, ac ati, a dwi’n siŵr y byddai llywodraeth sosialaidd lai llym wedi gallu cyflwyno syniad o ryddid celfyddydol oedd yn antidot i’r syniad Americanaidd o gelfyddyd gyfalafol yr unigolyn, sef yn y pen draw, y cysyniad o ‘Roc a Rôl’ anghymdeithasol a rhyddid yr unigolyn ar draul cymdeithas. 

Ta waeth, dyna oedd yn addawol am Weriniaeth y Dwyrain Pell, fod yna weledigaeth eangfrydig, rhwng anarchwyr, dyfodolwyr a chomiwnyddion, fyddai wedi arwain at awyrgylch fwy mentrus yn gelfyddydol, o bosib. Pan o’n i’n ymchwilio i fywyd Feltrinelli mi es i lyfrgell y Fondazione Giangiacomo Feltrinelli, un o lyfrgelloedd sosialaidd a llyfrau protest pennaf Ewrop ym Milan. Mi fyddwn i’n argymell i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mudiadau protest ymweld â’r lle. Mi ges i fodio copi gwreiddiol o Utopia gan Thomas Moore a A Vindication of the Rights of Woman: With Strictures on Political and Moral Subjects Mary Wollstonecraft (1792) a phob math o lyfrau diddorol, fanzines gwleidyddol a cherddorol hefyd o’r 1970au a’r 1980au gan sawl mudiad amgen, felly dwi’n meddwl fod y profiad yma wedi cael cryn ddylanwad arna i o safbwynt cyflwyno syniadau o gymdeithasau amgenach. Hefyd gwladwriaethau ffug fel gwladwriaeth yr NSK o Slofenia sy’n cynnig pasbort i’w gwladwriaeth gelfyddydol, sy’n wladwriaeth ddi-ffîn.

Roedd yna sawl cwlt neu gymuned annibynnol yn ardal Bethesda pan oeddwn i’n blentyn hefyd, er enghraifft y gymuned Rajneesh fawr oedd yn boblogaidd gyda hipis mewn ardaloedd fel Bethesda a Thregaron (fel y gwelwyd yn y gyfres Netflix, Wild Wild Wild Country) – a mudiadau fel The Teachers oedd yn gymuned amgen yn Nhregarth. Roedd i’w weld yn rhywbeth digon cyffredin i mi yn blentyn yn y 1970au fod yna gymdeithasau amgen o fewn cymdeithas, ro’n i’n dod ar draws eu plant yn yr ysgol neu wrth fynd at y deintydd ... 

Dwi wedi canu dipyn yn reservations yr UDA hefyd, a heb geisio esgusodi eu bodolaeth, maen nhw’n gymunedau neu wladwriaethau bychain ysbrydoledig, democrataidd ac eangfrydig iawn, yn aml, yn bodoli o fewn taleithiau asgell dde gweriniaethol. Wrth i’r broses o geisio dychmygu Cymru ‘Rydd’ ddwysáu yn wleidyddol, mae’n anochel y byddwn yn gorfod estyn i sawl poced am syniadau all uno cymunedau Cymru. 

Mae gen i un cwestiwn arall. Ddim yn annhebyg i American Interior mae yna elfennau o collage yn yr opera hon, yn does? Ddim jyst yn y ffordd y mae geiriau Hedd Wyn o’i awdl ‘Yr Arwr’, a enillodd iddo’r Gadair Ddu yn Eisteddfod Birkenhead, wedi eu hymgorffori ynddi ochr yn ochr â’r ddeialog a’r caneuon pop rwyt ti wedi eu hysgrifennu ar ran y grŵp Pelydrau. Mae dehongliad Stephen McNeff a’i ddefnydd o alawon gwerin hefyd yn gwneud i mi feddwl am Mahler a’r ffordd roedd o’n defnyddio pob math o ddeunydd sain yn ei waith symffonig, rhywbeth anarferol yn ei gyfnod. Ac wedyn mi wnaeth hynny wneud i mi feddwl am waith Proust, À la recherche du temps perdu, a’r ffordd mae o hefyd yn defnyddio pob math o ddeunydd yn ei nofel fawr, hir, saith cyfrol – tydi o ddim yn ffyslyd ynghylch beth sy’n cael ei drin fel deunydd – gan gynnwys sgyrsiau hurt pobl sydd â’u bryd ar fod yn ffasiynol ac yn boblogaidd, sy’n treulio eu hamser yn hel straeon ac yn bod yn ffuantus. Ond yn y nofel mae’r profiad o wrando ar y straeon hyn yn arwain, serch hynny, at greu celfyddyd. Mae Proust fel petai’n cydnabod bod celfyddyd ar ei orau yn medru bod yn ffrwyth siarad gwag rhagfarnllyd, yn ffrwyth deunydd anniddorol, di-lun (a bod celfyddyd yn commodity hefyd, yn nwydd i’w gyfnewid, efo gwerth sy’n mynd i fyny ac i lawr yn ôl hwyliau’r farchnad). Fel petai’r deunydd mwyaf anapelgar a fflat yn medru cael ei droi i felin celfyddyd. Ond, yn nofel Proust, mae crefftwyr yn sefyll tu allan i hyn, i gelfyddyd; dim ond y nhw sydd fel petaent yn llwyddo i ddianc rhag ei beryglon aruchel. Beth ydi dy ddelfryd di? Delfryd y crefftwr neu’r artist?

Dwi’n meddwl fod collage yn anochel ym mhob cyfrwng ond mae yna ffyrdd o’i guddio neu o’i fradychu a’i wneud yn amlwg. Dwi ddim wedi darllen llawer ar Proust. Ond yn y byd cerddoriaeth bop neu amhop, neu beth bynnag ydi’r term am gerddoriaeth bop amhoblogaidd, sef y maes dwi’n ei ddilyn yn bennaf, fe sgrifennodd y cerddor anhygoel Jonathan Richman (a oedd yn brif ffan y Velvet Underground yn y 1960au pan oedden nhw’n wirioneddol amhoblogaidd) erthygl sydd ddim yn annhebyg, efallai, ynglŷn â statws y Velvet Underground fel gwir artistiaid. Roedd yn eu cymharu â’r grŵp Cream, a oedd yn hynod boblogaidd ar y pryd, ac yn honni mai crefftwyr yn unig oedd Cream, pobl oedd yn eithaf da am chwarae eu hofferynnau, tra byddai syniadau’r Velvet Underground yn medru cael eu defnyddio mewn unrhyw ffurf ar gelfyddyd, dim ond eu bod wedi dewis cerddoriaeth ar gyfer eu mynegiant creadigol. Roedd o’n rhagweld y byddai’r Velvet Underground yn llawer mwy pellgyrhaeddol na Cream yn y pen draw, sy’n eitha gwir. Mae’r erthygl yn cyflwyno syniad pendant o’r gwahaniaeth rhwng bod yn grefftus a gwneud darn o gelfyddyd (mewn unrhyw gyfrwng). 

Er mai prin y bydda i’n ystyried unrhyw beth ymlaen llaw ac mai gweithio yn reddfol y bydda i gan fwyaf, dwi’n troi at syniadaeth yr erthygl yma weithiau os dwi angen penderfynu ar rywbeth. Ydw i’n gwneud penderfyniad crefftus (neu artisanal, os leciwch chi) neu ydw i’n gwneud penderfyniad dewr, celfyddydol? (Roedd o’n cyfri’r Beatles yn artistiaid hefyd, gyda llaw.) 

Dwi ddim yn dweud fod fy ngwaith o unrhyw werth celfyddydol a dwi ddim yn dweud fod crefftwyr y tu hwnt i gelfyddyd – mae’n bwysig cadw gofod i’r amwys hefyd. Dim ond rhoi enghraifft o beth sydd yn fy ysgogi i wneud ambell benderfyniad ydw i. Mae’n help nad ydw i’n gerddor anhygoel o grefftus. Ond o feddwl am enghraifft wirion: a ddylswn i wneud deuawd efo rhywun am fod ganddynt lais da neu a ddylswn i ymgeisio am rywbeth mwy uchelgeisiol, fel deuawd gyda chymeriad cartŵn arth wen neu rywbeth mwy arbrofol? Delfryd yr artist, neu’r crefftwr, dyna ydi’r tensiwn. Ond os mai Eric Clapton o Cream sy’n cynrychioli’r crefftwr, mi fyddwn i’n dueddol o ddewis delfryd gelfyddydol. [Cyfweliad gan Sioned Puw Rowlands]

Neges ecolegol oedd wrth graidd gwaith Hedd Wyn, yn fy marn i

Pynciau:

#Gruff Rhys
#Rhifyn 19
#Hedd Wyn
#Cerddoriaeth
#Ioan Bowen Rees
#Mynydda
#Sioned Puw Rowlands